Sunday, March 25, 2012

Yr hyn sydd gan Andrew RT Davies i'w gynnig i Gymru mewn gwirionedd

Hmm, felly mae Andrew RT Davies am i gefnogwyr Plaid Cymru ystyried polisiau ei blaid o.

Mi fyddwch chi'n cofio i'r Toriaid Cymreig orfod canslo eu cynhadledd wanwyn yn Llandudno oherwydd nad oedd yna fawr neb eisiau mynd yno i wrando ar y rwdlan di ddiwedd. Beth bynnag, mae Andrew yn cymryd mantais o'r - ahem - 'rali' - a drefnwyd yn lle'r gynhadledd i ofyn i gefnogwyr y Blaid ystyried y rhyfeddodau sydd gan ei blaid o i'w cynnig.



Tybed am ba bolisiau mae o'n meddwl? - torri cyllid S4C a chyflwyno'r sianel i'r Bib o bosibl, neu'r polisi diddorol o dalu llai i weithwyr cyhoeddus yng Nghymru nag yn Lloegr efallai, neu hwyrach mai meddwl am dorri'r grant uniongyrchol i'r Cynulliad mae o, neu am ymosod ar drefniadau pensiwn canoedd o filoedd o weithwyr y wlad.

Y gwir ydi mai polisi creiddiol y Blaid Doriaidd ar gyfer Cymru ydi un o gynnal ei dibyniaeth ar drefniant cyfansoddiadol sydd wedi methu a methu, a methu, a methu. Methiant parhaol, di ddiwedd ydi'r unig beth sydd gan blaid Andrew RT i Gymru mae gen i ofn.

No comments:

Post a Comment