Mae'n ddiddorol bod yr eithafwyr hynny sy'n cuddio ar eithafion cenedlaetholdeb Cymreig, unwaith eto wedi rhoi eu galluoedd ymenyddol at ei gilydd ac wedi dod i'r casgliad mai dyma'r union amser i ffurfio nid un, nid dau ond tri phlaid newydd sydd o blaid annibyniaeth.
Mi fyddai rhywun wedi meddwl nad cyfnod pan ei bod bron yn sicr y bydd annibyniaeth yn symud i galon agenda Plaid Cymru fyddai'r amser gorau i ddechrau ffurfio pleidiau cenedlaetholgar rif y gwlith.
Ond na - ym Myd bach rhyfedd cenedlaetholwyr y cyrion dyma'r union eiliad i fynd ati. Nid bod rheswm i Bleidiwr boeni am y datblygiad. Bydd pleidiau cenedlaetholgar amgen yn ymddangos o bryd i'w gilydd, ac maent yn ddi eithriad yn methu. Mae yna reswm gweddol syml am hyn - nid oherwydd bod eu haelodau yn tueddu i fod braidd yn wirion a di niwed, nag oherwydd bod yr hyn maent yn ei gynnig yn amhoblogaidd. Y prif reswm ydi'r ffaith ddi gyfnewid eu bod yn apelio at y diog a'r di gic.
Doedd yna ddim golwg o'r cyfeillion yma yn ystod yr ymgyrch refferendwm flwyddyn yn ol, a does yna ddim golwg ohonyn nhw pan mae yna unrhyw ymdrech go iawn i symud Cymru yn ei blaen yn mynd rhagddi. Mae sicrhau cefnogaeth wleidyddol yn golygu mynd ati i dorchi llewys, ymgyrchu, canfasio, rhannu taflenni, trefnu. Prif weithgaredd arferol cenedaetholwyr y cyrion ydi sefyll ar y cyrion hynny yn beirniadu'r bobl sydd yn mynd ati i dorchi llewys a gwneud y gwaith caled.
Dydi hynny ddim yn eu paratoi, nag yn dod yn agos at eu paratoi, am y drafferth o fynd allan i'r strydoedd ac ennill cefnogaeth trostynt eu hunain.
Tri tan siafins bach yn llosgi efo'i gilydd.

At ba bleidiau newydd wyt ti'n son?
ReplyDeleteDilyn y linc.
ReplyDeleteIa sori am hynna, heb ddeffro mae'n rhaid
ReplyDeleteMethu deall dy chwerwder am hyn Blogmenai, onid angen mwy o fudiadau cenedlaetholgar sydd, hefo mwy o syniadau beiddgar yn cylchdroi, arwydd o gyffro yw lawnsio'r tri mudiad newydd yma yn fy marn i, rhywbeth iw groesawu nid ei ddirmygu
^Yn union, mae 'na wahanol fathau o Gymreictod ac felly mae angen mudiadau cenedlaetholgar gwahanol hefyd.
ReplyDeleteDyna'n union mae'r Muniad Cenedlaethol ei angen - cael ei hollti bedair ffordd.
ReplyDelete'Dwi ddim yn meddwl.
Ond fel oeddet ti'n son, nid pobol fyddai am gymyd rhan yng nghweithgaredd Plaid Cymru yw rhain, felly well eu bont yn gneud rhywbeth na gwneud dim
ReplyDeleteNid rhyw endyd unffurf yw'r mudiad cenedlaethol, mae'n cynnig rhywbeth i bob math o bobol, a does gan Y Blaid ddim monopoli ar fynegiant cenedlaethol chwaith