'Dwi'n deall bod Y Cynghorydd Gethin Williams, Bontddu bellach wedi ymddiswyddo o Lais Gwynedd. Bydd yn diweddu ei dymor fel cynghorydd yn aelod o'r grwp annibynnol, ac nid yw'n bwriadu sefyll yn etholiad Mis Mai.
Os ydi fy syms i yn gywir, etholwyd deuddeg o gynghorwyr Llais Gwynedd ym mis Mai 2008, ac etholwyd tri arall mewn is etholiadau yn dilyn hynny. Golyga hyn bod pymtheg o gynghorwyr wedi eu hethol yn enw'r grwp ers 2008. Mae pump, neu un o bob tri ohonynt bellach wedi ymddiswyddo. Mae hyn yn record rhyfeddol o ran colli aelodau. Go brin bod unrhyw grwp ar unrhyw gyngor yng Nghymru wedi llwyddo i golli traean o'u haelodau mewn cyfnod mor fyr mewn blynyddoedd diweddar.
Os ydi fy syms i yn gywir, etholwyd deuddeg o gynghorwyr Llais Gwynedd ym mis Mai 2008, ac etholwyd tri arall mewn is etholiadau yn dilyn hynny. Golyga hyn bod pymtheg o gynghorwyr wedi eu hethol yn enw'r grwp ers 2008. Mae pump, neu un o bob tri ohonynt bellach wedi ymddiswyddo. Mae hyn yn record rhyfeddol o ran colli aelodau. Go brin bod unrhyw grwp ar unrhyw gyngor yng Nghymru wedi llwyddo i golli traean o'u haelodau mewn cyfnod mor fyr mewn blynyddoedd diweddar.
Bob Wright 2/1
ReplyDeletePeter Read 5/2
Endaf Cook 3/1
Yr un anweledig o Nefyn 5/1
Louise Hughes 10/1
Seimon Glyn 20/1
Aeron Maldwyn 50/1
Anwen Davies 100/1
Brêns yr opyreishion 200/1
Owain Williams 500/1
Roedd rhywun yn dweud bod y Monster Raving Loony Party yn trio dwyn Aeron Jones oddi wrth Llais Gwynedd.
ReplyDeleteYdi o'n wir bod brawd yr un anwelEdig o Nefyn yn sefyll i Blaid Cymru yn rhywle arall?
ReplyDeleteLouise Hughes i sefydlu The Real Voice of Gwynedd 5/1
ReplyDeleteOwain Williams i sefydlu Continuity Llais Gwynedd 10/1
Aeron Maldwyn i sefydlu Llais yn fy Mhen Evens
Mae Gethin wedi bod yn gaffaeliad i Gyngor Gwynedd ac wedi bod yn gynghorydd didwyll dros ei etholwyr. Beth bynnag fo barn pobl am Lais Gwynedd fel plaid wleidyddol, bydd colli gŵr ifanc fel Gethin yn golled i’r Cyngor yn ei gyfanrwydd, yn arbennig o nodi'r niferoedd o gynghorwyr Cymru sydd yn eu penwynni . Newyddion trist iawn!
ReplyDeleteDwi'n cytuno efo Alwyn ap Huw. Mae Gethin Williams wedi bod yn gynghorydd dewr ac egwyddorol. Yn benodol fe wnaeth gyfraniad pwysig drwy arwain y ddadl o blaid datblygu adnoddau addysg modern i blant ei ward.
ReplyDeleteMae'n debyg mai'r ffaith fod Gethin Williams yn gwybod y byddai ei gyn gyd-aelodau Llais Gwynedd a'u cefnogwyr yn ei dargedu yn ddi-drugaredd am wneud y peth oedd yn iawn i blant ei gymuned yn hytrach na'r peth hawdd a phoblogaidd sydd wrth wraidd ei benderfyniad i sefyll i lawr o'r cyngor.
Fel mae Alwyn ap Huw yn ddweud, colled i Gyngor Gwynedd a newyddion trist i ddemocratiaeth.
Rhaid mynegi tristwch bod Gethin Williams wedi cyhoeddi na fydd yn sefyll ym Mai eleni. Dyma rywun sy'n meddwl am broblemau ein cymunedau gwledig - problemau does dim modd plesio pawb wrth eu datrys.
ReplyDeletePwrpas gwleidyddion yw arwain a gwneud penderfyniadau - mae angen pobl gall a dewr ar hyn o bryd.
Raid dweud bod Llais Gwynedd wedi bod yn effeithiol o ran eu bwriad penodol yn 2008. Hebddynt, a'u cefnogwyr, byddai degau o ysgolion wedi cau.
ReplyDeleteRoedd colli pobl 'sedd saff' fel Dafydd Iwan a Dic Penfras yn ergyd 'sgwytwaol i'r Blaid ac wedi gwneud iddynt edrych eto ar eu gwreiddiau a gwrando ar lais y bobl - o leiaf tan Mai 2012.
'Chydig iawn o ysgolion Gwynedd fydd bellach yn cau cyn o leiaf 2020 - os na ddaw 'steam roller' y cabinet newydd a pholisi 'cau yn unig' ar ol Mai - cawn weld - mae'n rhy ddistaw ar y funud, ac fel arfer mae hynny yn golygu cynllwyn!
Felly diolch Lais Gwynedd am wneud yr hyn addawoch.
Efallai nad oes hir oes i'r blaid rwan, ond mae wedi dod a nifer fawr o gynghorwyr da i'r amlwg, gobeithio y byddant yn sefyll eto.
"Os ydi fy syms i yn gywir, etholwyd deuddeg o gynghorwyr Llais Gwynedd ym mis Mai 2008...
ReplyDeleteGo brin bod unrhyw grwp ar unrhyw gyngor yng Nghymru wedi llwyddo i golli traean o'u haelodau mewn cyfnod mor fyr mewn blynyddoedd diweddar...."
Go brin bod na unrhyw grwp ar unrhyw gyngor yng Nghymru wedi llwyddo i golli cymaint o seddi a wnaeth Y Blaid yn 2008 'chwaith!
Beth bynnag am shambyls Llais Gwynedd a natur anghynes rhai o sylwadau eu haelodau etholedig mae'n bwysig i Blaid Cymru beidio a dawnsio ar fedd Llais Gwynedd ac anghofio'r pwyntiau canlynol:
ReplyDeletei.) beth bynnag am fethiant Llais Gwynedd rhaid cofio eu bod nhw wedi'i hethol yn ddemocrataidd
ii.) bod pwynt i. yn dangos fod Llais Gwynedd wedi cyffwrdd a rhywbeth oedd ym meddwl a chalonnau pobl Gwynedd - rhywbeth, am ba bynnag reswm, y collol y Blaid afael arno am ychydig.
iii.) methiant Plaid Cymru i gysylltu a chefnogwyr craidd/traddodiadol roes le i Llais Gwynedd fodoli yn y lle cyntaf
Wrth i Lais Gwynedd ddiflannu nawr mae'n bwysig i'r Blaid yng Nghwynedd ddysgu gwersi a pheidio mynd yn drahaus a jest mynd nol at i fowld "business as usual".
Rhys Llwyd said...
ReplyDeleteclywch clywch
Go brin bod na unrhyw grwp ar unrhyw gyngor yng Nghymru wedi llwyddo i golli cymaint o seddi a wnaeth Y Blaid yn 2008 'chwaith!
ReplyDelete10:36 AM
Mae hyn wrth gwrs yn ffeithiol anghywir.
Mae cyflafan ar ddwylo'r etholwyr yn rhywbeth gweddol gyffredin mewn etholiadau llywodraeth leol. Mae rhai o'r newidiadau hynny wedi bod yn llawer, llawer mwy na beth ddigwyddodd yng Ngwynedd yn 2008.
Y gwahaniaeth yn y sefyllfa sydd ohoni fodd bynnag ydi bod Llais Gwynedd yn crebachu oherwydd bod cynghorwyr y grwp yn ymddiswyddo.
anon 10.36am - beryg fod Llafur yn RCT yn reit agos.
ReplyDeleteOnd roedd canlyniad y Blaid yn 2008yng Ngwynedd yn newid sylweddol yn ardaloedd o Ddwyfor a Meirion ond bwysig cofio eu bod wedi ennill nifer dda o seddi yn ardal Arfon nad oedd wedi bod yn eu meddiant o'r blaen.
Difyr fydd gweld os ydi'r aelodau PC yma wedi gwneud joban ddigon da i sicrhau cefnogaeth etholwyr mis Mai.
Yn yr un modd mi fydd hi'n ddifyr gweld os ydi aelodau Llais wedi gwneud digon i sicrhau cael eu hail-ethol.
Amser a ddengys - ond rhaid cofio fod personoliaethau ac amgylchiadau lleol yn arbennig o allweddol mewn etholiadau llywodraeth leol.
Sylwadau diddorol ar fater ymddiswyddiad Gethin Williams. Yn sicr roedd yn taro rhywun fel gwr bonheddig a pherson oedd yn awyddus i wneud ei orau dros ei gymuned, heb unrhyw agenda arall. Ond mae rhai o'r sylwadau eraill ar y blog yma'n hyrwyddo ffeithiau anghywir. Yn gyntaf enillodd PC 35 o seddi yn yr etholiad diwethaf o Ben Llyn, ardaloedd o Feirionnydd i Ddyffryn Nantlle ac Arfon. Gan gynnwys cipio sedd gan Lais Gwynedd ym Mhen Llyn. Felly nid oes dadansoddiad syml o ran canlyniad yr ethloliad diwethaf. Ond yn sicr fe chwaraeodd y cynllun ysgolion ran amlwg gan greu sail ar gyfer nifer i lambastio'r Cyngor. Yn ail, er i Llais Gwynedd fynnu na fyddai ysgolion yn cau, mae nifer wedi a hynny gyda chefnogaeth ei haelodaeth. Ac mae'n ymddangos fod rhai o aelodau Llais nad sydd ag agenda yn erbyn y Blaid, ac sydd a dealltwriaeth o'r agenda yng Ngwynedd yn gadael y llong cyn iddi suddo. Y pwynt sylafaenol ydi bod Plaid Cymru wedi llwyddo i ehangu ei hapel a'i thir (cc 2008) tra bod Llais Gwynedd wedi crebachu. Tybiaf fod hynny oherwydd amharodrwydd y cyhoedd i gefnogi plaid sydd yn bennaf yn seilio ei chefnogaeth ar wrthwynebiad i blaid arall, a'r holl llid sydd wedi dod yn sgil hynny.
ReplyDelete