Monday, March 12, 2012

Y ras frenhinol - pencampwriaeth Cymru - y sgor hyd yn hyn

Diolch i'r Western Mail am gymryd y drafferth i ddarganfod pa rannau o'r wlad sy'n mynd ati o ddifri i ddathlu jiwbili diamwnt Elizabeth Windsor.

Er ei bod yn ddyddiau cynnar, ymddengys bod trigolion Abertawe yn arwain y ffordd gyda cheisiadau am 11 parti stryd, tra bod trigolion Conwy yn gwneud ei orau i gadw i fyny efo pethau, gydag 8 cais.  Ar y pegwn arall 'dydi Ceredigion, Casnewydd, Gwynedd a Chaerfyrddin  heb gyflwyno cymaint ag un cais hyd yn hyn.

Yn y cyfamser ymddengys bod Tafarn y Victoria yn Nhreganna eisiau ailadrodd y jambori di chwaeth a baratowyd ganddi i ddathlu priodas William Windsor y llynedd. 

Mi fydd hi'n ddiddorol gweld pwy - yn ardal awdurdod lleol, ac yn dafarn o ran hynny - fydd yn ennill y ras  i ddangos y mwyaf o frwdfrydedd wrth ddathlu ein hymlyniad at sefydliad cyntefig, gwrth ddemocrataidd a theocrataidd sy'n ymgorfforiad cyfoes o hen draddodiad o anghyfartaledd ac elitiaeth. 

4 comments:

  1. Anonymous12:40 pm

    Tro diwethaf on i yn y Vic, oedd dynes o Lundain yn ei rhedeg.

    ReplyDelete
  2. Mae hi yno o hyd - ac mae'n rhaid i mi gyfaddef ei bod yn gwneud cinio dydd Sul da iawn am bris hynod resymol. Ond mi gei di well cwmni o lawer yn y Diwc.

    ReplyDelete
  3. Anonymous10:25 pm

    Chware teg mae cyngor tref Nefyn (Royal Charter 1355 ) am roi mwg arbennig er mwyn i blant yr ardal gael momento o'r achlysur.

    Shhh! Peidiwch a son wrth Robyn Lewis.

    ReplyDelete
  4. Oes yna golofn lythyrau yn Llanw Llyn?

    ReplyDelete