Mae blogiad Vaughan ynglyn a chymhlethdod diwynyddol bron strwythurau mewnol y Blaid Doriaidd yn ddiddorol ynddo'i hun.
Ond mae un peth yn mynd a fy sylw i'n bersonol mwy na pwy yn union ydi arweinydd y Toriaid Cymreig - sef y ffaith bod Andrew RT Davies yn aelod o Fwrdd Rheoli y Toriaid Cymreig. Dyma'r corff mae'n debyg a benderfynodd na ddylai aelodau cyffredin y Blaid Doriaidd yng Nghymru gael dewis eu prif ymgeisyddion rhanbarthol, ac mai pobl oedd eisoes wedi yn aelodau - pobl fel Oscar ac R T Davies ei hun - ddylai gael sefyll.
Byddai'n ddiddorol gwybod os oedd unrhyw aelodau cynulliad ar y Bwrdd pan ddaethwyd i'r penderfyniad, ac os oeddynt wedi pleidleisio i enwebu nhw eu hunain tra'n gwrthod rhoi unrhyw ran i aelodau cyffredin y blaid yn y penderfyniad.
Tuesday, January 31, 2012
Monday, January 30, 2012
Llafur ac anghyfartaledd
Hmm - felly prif ddadl Ed Milliband yn erbyn annibyniaeth i'r Alban ydi y dylai holl wledydd y DU aros efo'i gilydd i ymladd yn erbyn anghyfartaledd.
Mae'n anodd gwybod os i chwerthin 'ta chrio. Mi gafodd Llafur dair blynedd ar ddeg rhwng 1997 a 2010 i fynd i'r afael ag anghyfartaledd cymdeithasol ac aethant ati i gynyddu'r anghyfartaledd hwnnw'n sylweddol.
Mae tri prif ffordd o fesur anghyfartaledd - cyfoeth, incwm a iechyd. Yn ystod y tair blynedd ar ddeg o lywodraeth Lafur cynyddodd cyfoeth, incwm a iechyd cyfartalog yn yr etholaethau hynny sy'n dychwelyd Toriaid (hy rhai Seisnig yn bennaf) gan aros yn yr un lle fwy neu lai mewn etholaethau Llafur (hy y rhan fwyaf o rai'r Alban a Chymru). Erbyn i'r llywodraeth Lafur gael ei chicio allan yn 2010 roedd anghyfartaledd yn y DU yn waeth na phob gwlad namyn pedair o 25 gwlad fwyaf cefnog y Byd.
Os ydych eisiau darlun cyflawn o fethiant llwyr Llafur i wella ansawdd bywyd eu cefnogwyr yng Nghymru, yr Alban a Lloegr gweler yma.

Sunday, January 29, 2012
Ffiniau etholiadol - y pledio arbennig -rhan 1
Mae Blogmenai wedi mynegi cefnogaeth yn y gorffennol i gynlluniau llywodraeth y DU i leihau'r nifer o aelodau seneddol Cymreig o 40 i 30. 'Does yna ddim cyfiawnhad o unrhyw fath tros barhau a threfn sy'n gor gynrychioli Cymru i raddau sylweddol, iawn mewn oes lle mae pawb yn y wlad hefyd yn cael ei gynrychioli gan bump aelod Cynulliad - pedwar o rai rhanbarthol ac un etholaethol.
Yn anffodus 'does yna ddim ffordd dwt o wneud y gyfundrefn yn fwy teg, ac felly mae'n rhaid derbyn bod rhai o'r etholaethau am fod yn anghyfarwydd ac anhylaw. Mae'r blog hefyd wedi darogan y bydd yna cryn dipyn o chwarae ar hyn gyda gwleidyddion a phleidiau yn gwneud rhyw achos neu'i gilydd i amddiffyn eu buddiannau eu hunain.
Glyn Davies sydd wrthi y tro hwn yn awgrymu y dylai Canolbarth Cymru gael ystyriaeth arbennig. Trwy gyd ddigwyddiad mae etholaeth Glyn Davies yng Nghanolbarth Cymru.

Friday, January 27, 2012
Wales Today a blaenoriaethau'r Bib
Difyr gweld bod prif long newyddiadurol y Bib, Wales Today wedi cynhyrfu'n lan oherwydd bod gwraig Mitt Romney - sy'n rhywbeth i'w wneud efo gwleidyddiaeth yr US of A - efo rhyw gysylltiad neu'i gilydd efo Maesteg. Doedd y ffaith i un o bleidiau Cymru ychwanegu 1,500 at ei haelodaeth ddim werth ei riportio.
Dweud pob dim sydd angen ei ddweud am natur y Bib yng Nghymru mae gen i ofn.

Aelodaeth y Blaid wedi cynyddu'n sylweddol
'Dydi o ddim yn syndod o gwbl i mi i aelodaeth y Blaid gynyddu o 1,500 tros y pedwar mis diwethaf.
Mae wedi bod yn amlwg ers wythnosau bod yr etholiad am yr arweinyddiaeth wedi esgor ar gynnydd sylweddol mewn diddordeb yn y Blaid ac mae'n naturiol felly bod mwy o bobl o lawer wedi gwneud cais i ymaelodi. Mae yna le i gredu hefyd bod llawer o'r aelodau newydd yn bobl nad ydynt wedi bod yn aelodau yn y gorffennol, ac yn aml maent yn bobl cymharol ifanc.
Fedra i ddim cofio unrhyw etholiad o'r blaen yn creu y fath ddiddordeb, ac mae yna reswm am hynny. Y tro hwn mae yna wahaniaeth go iawn rhwng rhai o'r ymgeiswyr - mae cyfle i adael y gorffennol ar ol. 'Dydi pobl heb fod yn ymuno efo'r Blaid yn eu canoedd er mwyn amddiffyn y status quo, a'r argraff 'dwi yn ei chael o siarad efo pobl sydd wedi bod yn aelodau ers blynyddoedd ydi bod y rhan fwyaf o'r rheiny eisiau torri tir newydd hefyd.
Thursday, January 26, 2012
Mwy o gyfeithiadau o iaith ryfedd y Pleidwyr gwrth annibyniaeth
'Dydi'r Blaid erioed wedi dadlau o blaid annibyniaeth i Gymru. - Dydw i erioed wedi bod o blaid annibyniaeth i Gymru.
Mae yna joban fawr o adeiladu cenedl i'w gwneud yn gyntaf. - Mae hyn i gyd am gymryd amser hir, hir, hir.
Mae hon yn glasur o ran y grefft o siarad efo dwy gynulleidfa wahanol a defnyddio'r un geiriau i roi dwy neges wahanol. Y neges i'r sawl sydd o blaid annibyniaeth ydi 'Dwi'n gwneud fy ngorau i baratoi'r ffordd', ond y neges i bawb arall ydi 'Dydi Cymru ddim yn barod eto, a fydd hi ddim yn barod am hydoedd chwaith'. . Does yna ddim gwaith adeiladu i'w wneud ar y genedl - mae eisoes yn bodoli.
O ia - erbyn meddwl 'dwi o Blaid annibyniaeth i Gymru yn Ewrop. - 'Dydw i ddim o blaid annibyniaeth go iawn, ond mae amgylchiadau yn fy ngorfodi i gymryd arnaf fy mod.
Mae hon hefyd yn glasur. Mae pob copa walltog yn gwybod O'r gorau mai annibyniaeth a la Denmarc sydd dan sylw - nid fersiwn Gogledd Corea neu Iran. Mae smalio mai camddealltwriaeth anffodus ydi'r argraff flaenorol bod y siaradwr yn erbyn annibyniaeth yn sarhad ar ddeallusrwydd y gwrandawr.
Beth ydi annibyniaeth yn y Byd sydd ohoni, mae pawb yn rhyng ddibynol _ _ globaleiddio _ _ - bod yn neis efo'n gilydd _ _ _ Ail Ryfel Byd _ _ _Hitler _ _ _ y Byd yma yn rhy fach _ _ _ bywyd rhy fyr i ffraeo. - Fedra i ddim meddwl am rhywbeth call i'w ddweud, felly well i fi feddwl am rhywbeth cymhleth iawn i'w ddweud yada, yada, yada, yada, yada, yada ad naseum.

Carwyn Jones o blaid mwy o bres i'r Cynulliad, ond yn erbyn cael yr hawl i'w godi
Hmm - felly mae Carwyn Jones o'r farn bod y ffordd mae Cymru yn cael ei hariannu yn anheg, ac mae'n bendant nad ydyw am weld pwerau trethu arwyddocaol yn dod i Gaerdydd.
Mae'r blog yma wedi darogan sawl gwaith yn y gorffennol na fydd y Blaid Lafur Gymreig byth eisiau pwerau trethu arwyddocaol. Y rheswm am hynny ydyw mai unig uchelgais y blaid honno i Gymru ydi gofyn i San Steffan am fwy o arian cyhoeddus a dosbarthu'r arian hwnnw i'w chleantiaid Cymreig. Y peth diwethaf mae am ei weld ydi perthynas yn cael ei sefydlu rhwng gwariant cyhoeddus a threthu. Gwario heb drethu ydi prif genhadaeth y Blaid Lafur Gymreig - gwleidyddiaeth yr ysgol feithrin - yr unig fath o wleidyddiaeth mae Llafur yng Nghymru yn gyfforddus efo hi.
A beth bynnag - 'dydi Carwyn ddim yn credu bod Cymru'n cael ei hariannu yn anheg go iawn, neu mi fyddai wedi dweud rhywbeth pan roedd Llafur mewn grym yn San Steffan - ond wnaeth o ddim mentro agor ei big ynglyn a'r mater. Smalio ei fod yn meddwl bod yr ariannu yn amhriodol mae'r dyn mae gen i ofn - a gwneud hynny er mwyn cael chwaneg o wonga di gost (o ran ei hun) i'w ddosbarthu.

Wednesday, January 25, 2012
Dweud un peth sy'n golygu rhywbeth arall
Mae arweinyddiaeth y Blaid wedi bod yn amwys (a bod yn garedig) ynglyn ag annibyniaeth ers degawdau. Mae'r amwyster hwnnw wedi esgor ar ieithwedd arbennig sydd wedi ei gynllunio i gyfleu un ystyr i'r sawl sydd o blaid annibyniaeth (lled gydymdeimlad at y syniad) , ac un cwbl wahanol i bawb arall (gwrthwynebiad i'r syniad). I helpu darllenwyr Blogmenai fynd i'r afael a'r etholiad am yr arweinyddiaeth 'dwi wedi paratoi cyfieithiad bach o rhai o'r ymaddion rydym yn eu clywed yn aml sydd wedi tyfu o'r ieithwedd yma.
Rydw i'n credu yn Ewrop y rhanbarthau. - 'Dydw i ddim yn credu mewn annibyniaeth neu Rydw i'n coelio mewn tylwyth teg ac ysbrydion a phob math o bethau dychmygol eraill.
'Dydi pwer yn yr Undeb Ewropeaidd ddim yn cael ei ymarfer ar lefel rhanbarthol, mae'n cael ei ymarfer ar lefel cenedlaethol a rhyng genedlaethol - felly y bu erioed, felly mae, ac felly y bydd yn y dyfodol. Dyna pam bod cyn ranbarthau o wledydd Dwyrain Ewrop yn ymuno fel gwledydd ac nid fel rhanbarthau.
'Dwi'n ol genedlaetholwr - 'Dwi ddim yn genedlaetholwr Cymreig , ac felly mae'n dilyn nad ydw i yn credu mewn annibyniaeth i Gymru.
Gweler yma.
Mae'r holl son yma am annibyniaeth yn tynnu sylw oddi wrth yr economi (neu greu swyddi neu beth bynnag) , ac mae hynny'n bwysig, bwysig, bwysig. - 'Dydw i ddim eisiau siarad am hyn, 'dydw i ddim yn ystyried annibyniaeth i Gymru yn bwysig a 'dydw i ddim eisiau gwneud unrhyw gysylltiad rhwng cyflwr economi Cymru a'i statws cyfansoddiadol.
Dylai statws cyfansoddiadol Cymru fod yng nghanol y ddadl economaidd, a dylai'r economi fod yng nghanol a ddadl ynglyn a statws cyfansoddiadol Cymru. Mae'r berthynas rhwng y naill a'r llall yn anatod.
Os ydych chi eisiau arweinydd sy'n siarad am annibyniaeth trwy'r amser peidiwch a phleidleisio i mi. - Os ydych eisiau arweinydd sydd byth yn son am annibyniaeth, fotiwch i fi.
Amcan tymor hir ydi annibyniaeth i'r Blaid - Mae annibyniaeth yn amcan mor hir dymor i'r Blaid fel nad oes angen i neb sy'n fyw heddiw boeni am y peth - byddwn i gyd wedi hen farw cyn i'r mater dderbyn sylw.
Os oes yna rhywun efo ymadroddion tebyg, mae croeso i chi eu gadael ar y dudalen sylwadau - ynghyd a chyfieithiad.

Monday, January 23, 2012
Yr her i Ian Jones
Pob lwc i Ian Jones, prif weithredwr newydd S4C. Ymddengys ei fod yn dechrau ar ei waith heddiw.. Mae yna joban go fawr o'i flaen, a gobeithio nad ydi ei alltudiaeth ar yr ochr arall i Gefnfor yr Iwerydd wedi amharu ar ei allu i wneud y joban honno.
Mae'r sylw i S4C golli cysylltiad efo'i chynulleidfa wedi ei wneud mor aml nes iddo fynd yn ystrydeb braidd, ac fel pob ystrydeb rhannol wir yn unig ydyw. Y gwir ydi i'r gynulleidfa hefyd golli cysylltiad efo S4C, a'r rheswm am hynny ydi i'r gynulleidfa botensial newid yn sylweddol ers sefydlu'r sianel. Mae'r Cymry Cymraeg yn y byd sydd ohoni yn fwy amrywiol, yn fwy trefol, yn ieuengach, yn llai llithrig eu Cymraeg ac wedi eu gwasgaru yn ehangach nag oeddynt pan sefydlwyd y sianel.
Methiant i addasu i amodau cymdeithasegol fel maent yn datblygu ydi rhan go lew o fethiant S4C. Dydi'r ffaith nad ydi prif weithredwr newydd y sianel heb dreulio llawer o amser yng Nghymru yn ddiweddar ddim yn golygu na all y sianel ymateb i'r newidiadau hynny - ond mae'n bwysig bod rhywun ar ddec S4C efo digon o ddiddordeb a dealltwriaeth o'r Gymru gyfoes i ganiatau i'r sianel ddatblygu mewn ffordd sy'n gydnaws ag anghenion ei chynulleidfa potensial.

Sunday, January 22, 2012
Twpdra o'r radd flaenaf
Diolch i Syniadau am dynnu ein sylw at y ffaith rhyfeddol bod Dafydd Elis Thomas yn ystyried canmoliaeth gan Gwilym Owen yn ystod un o'i rants gwrth genedlaetholgar fel rheswm i bleidleisio trosto fel arweinydd newydd i'r Blaid.
Am unwaith yn fy mywyd 'dydw ddim yn gwybod beth i'w ddweud.

Saturday, January 21, 2012
Cynlluniau Llais Gwynedd ar gyfer gweithwyr sector cyhoeddus yng Ngwynedd
Mae'r blog hwn wedi nodi ar sawl achlysur i 2011 fod yn flwyddyn wirioneddol erchyll i'r meicro grwp gwleidyddol o Wynedd - Llais Gwynedd.
Pan fydd y rhan fwyaf ohonom - yn unigol neu'n gorfforaethol - yn cael blwyddyn giami, byddwn (os ydym yn ddoeth) yn ymateb trwy ddysgu gwers neu ddwy o'r profiad, gweithredu ar y gwersi hynny a symud ymlaen. Nid felly Llais Gwynedd. Eu hymateb nhw ydi ceisio sicrhau bod rhywun arall yn cael blwyddyn erchyll yn 2012, neu a bod yn fanwl gywir bod 600 o deuluoedd yng Ngwynedd yn cael blwyddyn hynod anodd. Son ydw i wrth gwrs am eu cynlluniau cynhyrfus i sacio 600 o weithwyr Cyngor Gwynedd.
Rwan, mae sawl peth i'w ddweud am hyn. Yn gyntaf, mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi mynd trwy broses o raglennu toriadau am gyfnod o bedair blynedd. Mae rhywbeth yn wyrdroedig braidd am ganmol toriadau, ond mae'r broses wedi mynd rhagddi mewn modd cyfrifol, cynhwysol a threfnus. Canlyniad hynny ydi rhaglen fanwl sydd am sicrhau y bydd y toriadau anorfod yn digwydd mewn cyd fframwaith sydd wedi ei reoli a'i gynllunio. At ei gilydd mae aelodau Llais Gwynedd wedi chwarae rhan adeiladol yn hyn oll. Ar y pwynt yma efallai ei bod werth nodi i swyddi gael eu dileu ar gychwyn y broses rhai blynyddoedd yn ol pan aeth swydd cyfarwyddwr corfforaethol a phenaethiaid gwasanaeth.
Ag etholiadau ar y gorwel, fodd bynnag ymddengys bod Llais Gwynedd wedi penderfynu mai eu strategaeth orau ydi apelio at holl ddarllenwyr Daily Mail y sir. Bydd y sawl ohonoch sy'n dod ar draws y cyhoeddiad adain dde o bryd i'w gilydd yn ymwybodol mai un o'i amrywiol obsesiynau ydi 'biwrocratiaid'. Ym myd bach y Mail mae'r rheiny yn bobl hynod ddrwg a diwerth y dylid eu sacio mewn niferoedd mor fawr phosibl, cyn gynted a phosibl. Felly - os ydw i'n deall pethau yn iawn, mae'r rhaglen strythuredig wedi ei gollwng, ac mae Llais Gwynedd wedi neidio ar wagen bopiwlistaidd - os niwrotig - y Mail.
Mae'n bosibl wrth gwrs bod yna swyddi na ellir eu cyfiawnhau yn y cyngor - mae hynny'n wir am pob endid corfforaethol mawr, ond mae'n rhyfeddol o hawdd edrych ar swydd rhywun arall o hirbell ac amau ei gwerth. Fel 'dwi'n 'sgwennu y pwt yma 'dwi'n edrych ar farbwr mewn siop dorri gwallt tros y ffordd - mae o wedi treulio tri chwarter awr yn eistedd yn ei siop wag yn edrych ar y teledu. Ond 'dydi hynny ddim yr un peth a dod i gasgliadau gwrthrychol ynglyn ag effeithlionrwydd darpariaeth cyngor, a lle a phwrpas swyddi unigol o fewn y ddarpariaeth yna.
Gan fod Llais Gwynedd mor fanwl ynglyn a faint o swyddi maent am eu dileu, byddai dyn yn cymryd eu bod wedi gwneud ymchwil go fanwl i effeithlionrwydd Cyngor Gwynedd, a lle swyddi unigol o fewn y ddarpariaeth. Mae ganddynt gyfle i ddod a'u cynlluniau ger bron y Cyngor yn mis Mawrth a chyflwyno unrhyw waith ymchwil maent wedi ei wneud bryd hynny. Gallant wedyn egluro pa swyddi fydd yn cael eu dileu a pham, a gwneud cynnig yn unol a hynny. Ond fydd hynny ddim yn digwydd wrth gwrs - dydi popiwlistiaeth hysteraidd y tabloids adain dde Seisnig ag ymchwil gwrthrychol ddim yn cyd fyw yn rhwydd iawn.
Ac wrth gwrs mi fyddai yna gost sylweddol i Gyngor Gwynedd ac i'r economi ehangach o sacio'r 600. Mae 600 o swyddi yn nifer anferth yng nghyd destun Gwynedd. Byddai dod o hyd i'r arian diswyddo yn glec o £14m i'r sir. Byddai £16m a mwy yn cael ei dynnu allan o'r economi yn flynyddol. A bod yn blwyfol am funud, byddai hyn yn farwol i'r sector breifat yn nhref Caernarfon a'r pentrefi o'i chwmpas - ardal boblog sydd yn Gymreiciach o ran iaith na'r unman arall yng Nghymru. Byddai llai - llawer llai - yn cael ei wario ym mhob siop, tafarn, ty bwyta ac yn wir siop sglodion yn yr ardal. Mae'r un peth yn wir i raddau llai am ganolfannau gweinyddol eraill y sir, sydd wedi eu lleoli yn rhai o'r prif drefi. Mae unrhyw ymysodiad ar y sector cyhoeddus hefyd yn ymysodiad ar y sector preifat mewn ardal lle mae canran uchel o'r boblogaeth yn ddibynol ar wariant cyhoeddus am eu bywoliaeth.
Mae gweithwyr sector cyhoeddus o dan warchae yng nghyd destun y Deyrnas Unedig - ystyriaethau syniadaethol clymblaid adain dde yn Llundain dy'n rhannol gyfrifol am hynny. Mae Llais Gwynedd eisiau cefnogi'r agenda honno yn lleol, tra bod y Blaid Lafur yn llugoer o ran eu cefnogaeth i'r undebau. Dim ond un plaid yng Nghymru sydd wedi bod yn ddi amwys o ran ei chefnogaeth i weithwyr sector cyhoeddus a'u teuluoedd, a Phlaid Cymru ydi'r blaid honno. Mae'n bwysig i'r Blaid wneud hynny yn gwbl glir yn ystod y misoedd nesaf.

Thursday, January 19, 2012
Syrpreis, syrpreis _ _ _
_ _ _ mae'r llywodraeth yng Nghaerdydd wedi penderfynu peidio a chyhoeddi'r bwlch rhwng gwariant ar addysg yng Nghymru a Lloegr.
Mae'r blog yma wedi dangos yn y gorffennol bod y bwlch enwog wedi datblygu tros gyfnod o bedair blynedd- 2003 - 2007 - y cyfnod trychinebus hwnnw hanes Cymru pan roedd Llafur mewn grym ar ei ben ei hun. Roedd y cyfnod wedi ei nodweddu gan raglenni cau ysbytai, cyfyngu ar wariant ar addysg, a diffyg crebwyll cyffredinol.
A barnu o dystiolaeth y misoedd diwethaf a newyddion heddiw, gallwn ddisgwyl yr un math o beth y tro hwn hefyd.

Argyfwng ariannol y Toriaid Cymreig
Heb amheuaeth bydd darllenwyr blogmenai yn hynod drist a dryslyd o ddeall na fydd yn bosibl i'r Toriaid Cymreig gynnal eu Cynhadledd Wanwyn yn Llandudno eleni oherwydd tlodi. Ymddengys bod y digwyddiad deuddydd wedi ei ganslo, a bod rali ar gyfer ymgyrchwyr yn etholiadau'r cynghorau i'w gynnal yn ei le.
'Dwi ddim eisiau gwthio'r cwch i'r dwr am eiliad - mae pob amser yn beth perygl bysnesu mewn anghydfod deuluol, yn arbennig pan mai pres ydi asgwrn y gynnen. Ond fedra i ddim atal fy hun rhag nodi i'r Toriaid Prydeinig dderbyn £12.2m o bunnoedd o gyfraniadau preifat yn y flwyddyn hyd at Fehefin y llynedd gan eu cyfnogwyr hoffus - miliwn y mis. Rwan 'dwi'n gwybod bod y Feniw ar yr ochr ddrud, ond wir Dduw mi fyddai dyn yn disgwyl y byddai'r Toriaid Seisnig yn gallu cynnig rhyw fymryn o gymorth i'w cefndryd llywaeth a di geiniog yng Nghymru, gan eu bod wedi eu claddu gan y ffasiwn gyfoeth. Naill ai eu bod yn rhyfeddol o grintachlyd, neu does yna uffern o neb ymhlith y Toriaid Cymreig eisiau mynd i Landudno i falu cachu am ddeuddydd.
Gyda llaw mae'n ddifyr nodi bod tros i hanner y wonga wedi dod o gyfeiriad sefydliadau ariannol yn ninas Llundain - sefydliadau sydd wedi'n cael yn y smonach ariannol rydym yn cael ein hunain ynddi ar hyn o bryd - a sefydliadau nad ydi'r Toriaid eisiau gwneud unrhyw beth o gwbl i'w hypsetio.

Tuesday, January 17, 2012
Argymhellion y Comisiwn Ffiniau - rhan 2
Reit, beth am gael cip ar y Gymru Gymraeg? – neu’r Gymru gymharol Gymraeg a bod yn fanwl gywir.
Yr etholaeth fwyaf hawdd i’w galw ydi Gwynedd. Mae’r Comisiwn wedi tynnu tua ugain mil o etholwyr o Ddwyrain Arfon a’u rhoi yn yr un etholaeth a Mon, tra’n cyfuno gweddill Arfon efo Meirion Dwyfor ynghyd a 4,000 o etholwyr o Ogledd Orllewin Powys a 5,500 o waelod Dyffryn Conwy. Mae’r sedd yma yn cynnwys nifer sylweddol o Gymry Cymraeg, ac mae’r rhan fwyaf o’r wardiau o Gonwy a Gwynedd efo hen hanes o bleidleisio i’r Blaid ar pob lefel. Mae hyd yn oed y wardiau o Bowys yn rhai eithaf Cymraeg o ran iaith, a gall y Blaid ddisgwyl gwneud yn dda yn y rhain – rwan eu bod mewn etholaeth enilladwy. Bydd y Blaid yn ennill yn hawdd yma.
Menai / Ynys Mon: Cyfunir Dwyrain Arfon, Ynys Mon ynghyd a dwy ward o ardal Llanfairfechan yng Nghonwy. ‘Dydi’r newidiadau ddim yn sylfaenol newid y cydbwysedd rhwng Llafur a’r Blaid yn Ynys Mon, ond mae’r bleidlais Doriaidd yn sylweddol is yn y wardiau tir mawr nag ydynt ar Ynys Mon – yn arbennig felly y tu allan i Fangor. O ganlyniad mae’r etholaeth newydd yn parhau i fod yn un ymylol rhwng Llafur a’r Blaid, gyda goruwchafiaeth bach i Lafur. Serch hynny mae unrhyw obaith oedd gan y Toriaid yn Ynys Mon yn cael ei ddiffodd i pob pwrpas. Yr her i’r Blaid fydd argyhoeddi’r bleidlais wrth Lafur ym Mon mai’r Blaid a’r Blaid yn unig sy’n gallu curo Llafur. Mae’r ffaith bod y canfyddiad yna’n digwydd bod yn wir yn gwneud yr her honno yn haws i’w gweithredu.
Ceredigion / Gogledd Penfro: Ychwanegir 1,700 o etholwyr o Gaerfyrddin a 17,000 o Ogledd Penfro at Ceredigion. Mae’r Lib Dems a’r Blaid yn gryf yng Ngheredigion, ond yn wanach yng Ngogledd Penfro. ‘Dydw i ddim yn meddwl bod yr ychwanegiadau yn newid y cydbwysedd llawer iawn. Cyn belled a bod y Blaid yn dod o hyd i ymgeisydd cryf byddant yn gwneud yn well nag y gwnaethant yn 2010 – ond bydd cael gwared o holl fwyafrif Mark Williams yn anodd mewn un etholiad. Serch hynny mae digon o le i fod yn obeithiol - llwyddwyd i wneud rhywbeth mwy anisgwyl o lawer yn ol yn 1992 ar ffiniau digon tebyg i’r rhain, pan ddaeth Cynog Dafis o’r pedwerydd safle i’r cyntaf.
Llanelli: Mae tua 19,000 o etholwyr yn dod at Lanelli o etholaeth Gwyr. Mae hyn yn gwneud etholaeth ymylol Llanelli yn llawer saffach i Lafur.
Caerfyrddin: Ffurfir yr etholaeth yma o Ddwyrain Caerfyrddin / Dinefwr a’r ardal o Gaerfyrddin oedd yn Ne Caerfyrddin / Dinefwr. Ar bapur mae’r newid yma yn creu sedd weddol ymylol rhwng y Blaid, Llafur a’r Toriaid gyda’r Blaid 1,000 – 1,500 ar y blaen. Byddwn yn disgwyl i’r oruwchafiaeth fod yn uwch na hynny pan ddaw’r etholiad fodd bynnag. Mae pleidlais y Blaid yn gyffredinol gryf yn rhan Dwyreiniol yr etholaeth newydd, ac mae hefyd yn uchel yng Ngorllewin Caerfyrddin ar pob lefel ag eithrio un San Steffan – ac mae’n debyg mai pleidleisio tactegol sy’n gyfrifol am y bleidlais is yn yr etholiadau hynny. Bydd yr etholaeth newydd yn cael gwared o’r angen i Bleidwyr bleidleisio yn dactegol, a byddwn yn disgwyl goruwchafiaeth o 3,000+ i’r Blaid.

Monday, January 16, 2012
Ymlaen tua'r gorffennol efo'r Blaid Doriaidd Gymreig
Mae dweud bod y Blaid Doriaidd Gymreig yn arwain y ffordd ar unrhyw fater o gwbl yn beth gogleisiol braidd i'w ddweud– wedi’r cwbl eu prif naratif yn y Cynulliad ar hyn o bryd ydi y dylid dilyn esiampl San Steffan ar pob achlysur. Ond ag ystyried ymddygiad diweddar Mohammed Asghar a Cheryl Gillan mae'r mater yn mabwysiadu gwedd mwy difrifol.
Byddwch yn cofio bod Oscar yn ystyried y gyfundrefn wleidyddol ddatganoledig yng Nghymru fel modd iddo fo a’i deulu ymgyfoethogi. Byddwch hefyd yn ymwybodol i Cheryl Gillan werthu ei thy yn fuan cyn iddi ddod yn hysbys y bydd trenau enfawr yn hyrddio i lawr y cledrau ar 220 mya tua 700m o’r dywydedig dy maes o law. Roedd y wybodaeth yma ar gael iddi hi cyn i’r datganiad swyddogol gael ei wneud, ond ‘doedd o ddim ar gael i’r prynwr anffodus wrth gwrs.
Mae bron fel petai’r Toriaid Cymreig yn ceisio arwain y ffordd yn ol i’r naw degau canol – cyfnod pan roedd storiau am sleaze gan wleidyddion Toriaidd yn ymddangos bron yn wythnosol yn y cyfryngau Prydeinig.

Sunday, January 15, 2012
Llongyfarchiadau _ _ _
_ _ _ i David Cameron am lwyddo i gynyddu aelodaeth yr SNP o tros i 800 mewn cyfnod o bump diwrnod. Mae aelodaeth y blaid genedlaetholgar bellach yn ymylu at gyrraedd 21,000.
Nid aelodaeth yr SNP yn unig sydd ar gynydd - mae aelodaeth Plaid Cymru wedi codi'n sylweddol tros y misoedd diwethaf hefyd - sgil effaith o bosibl i'r etholiad am yr arweinyddiaeth.

Friday, January 13, 2012
Gwerthoedd teuluol
Mae Blogmenai eisoes wedi cael y pleser o ganmol Mohammed Asghar am ei werthoedd teuluol cadarn. Chwi gofiwch i'r cyfaill wneud safiad cadarn tros werthoedd teuluol trwy adael Plaid Cymru pan wrthododd y blaid honno gyflogi ei ferch Natasha. Byddwch hefyd yn cofio iddo ddechrau gweithio i gael ei wraig, Firdaus wedi ei henwebu ar gyfer ymgeisyddiaeth Toriaidd ar Gyngor Casnewydd yn fuan wedi marwolaeth y Cynghorydd Les Knight - a gwneud hynny ymhell cyn i rigor mortis ddechrau cerdded corff Les druan.
Beth bynnag, daeth 'chwaneg o dystiolaeth i law heddiw o gadernid gwerthoedd teuluol Oscar pan ddaeth yn amlwg ei fod bellach yn cyflogi'r ferch a'r wraig yn y Cynulliad gydag arian y trethdalwr.
Fel y byddech yn disgwyl gan blaid sy'n arddel gwerthoedd teuluol (ers ymadawiad Rod Richards fel arweinydd o leiaf) megis y Blaid Geidwadol Gymreig, ni wastraffwyd amser cyn dod i'r adwy i amddiffyn Oscar rhag ymosodiadau gan bobl sydd ddim yn parchu'r uned deuluol yn ddigonol. Yn ol llefarydd ar eu rhan - Mae e wedi dilyn canllawiau llym y Cynulliad – sydd yn sicrhau bod yn agored ac yn dryloyw – ar bob achlysur.
Felly dyna hynna yn hollol glir - os oes yna ffordd o gwmpas hen reolau llym, gwrth deulu y Cynulliad mae Oscar am ddod o hyd iddi, ac mae'r Toriaid Cymreig am gydsynio a hynny a sefyll y tu ol i'w dyn a'i deulu bach pan mae'r cachu a'r ffan diarhebol yn yn dod i gysylltiad mynwesol.

Wednesday, January 11, 2012
Argymhellion y Comisiwn Ffiniau rhan 2 - ardal Caerdydd
Ar ol dweud na fyddwn yn crenshan unrhyw ffigyrau am sbel ‘dwi wedi dod o hyd i funud neu ddau ac wedi dechrau pethau trwy edrych ar ardal Caerdydd. Mae’n rhaid i mi ddweud bod yr hyn wnaeth y Comisiwn yn gwbl anisgwyl i mi. Y peth naturiol i’w wneud fyddai rhoi’r ardal o gwmpas Penarth efo Bro Morgannwg, a cherfio tair etholaeth allan o Gaerdydd ei hun. Mynd i’r Gogledd wnaeth y Comisiwn a chymryd lwmp o Ogledd y ddinas a’i osod efo Caerffili, a gadael Penarth efo Caerdydd. Mae’r penderfyniad yma’n debygol o fod yn arwyddocaol.
Mi wnawn ni ddechrau efo’r rhai hawdd.
Bro Morgannwg: Ychydig iawn o newid sydd yma gyda tua 3,500 o etholwyr (Ceidwadol yn bennaf)yn cael eu hychwanegu o Dde Caerdydd / Penarth. Go brin y bydd Mr Cairns yn colli llawer o gwsg.
Gorllewin Caerdydd: Ychydig o newid yma hefyd. 6,000 o etholwyr yn dod i mewn o ardal o Bontypridd sydd a hanes o fotio i’r Blaid mewn etholiadau lleol. Beth bynnag, fydd Kevin Brennan ddim yn poeni llawer iawn chwaith.
Caerffili Gogledd / Caerdydd: Daw ychydig tros hanner etholwyr yr etholaeth newydd o Ogledd Caerdydd tra bod y gweddill yn dod o Dde Caerffili. Mae’r mwyafrif Llafur yng Nghaerffili yn llawer uwch nag un y Toriaid yng Ngogledd Caerdydd, a nhw sy’n debygol o ennill. Ond dydan ni ddim yn son am un o fwyafrifoedd anferth traddodiadol y Cymoedd yma.
Canol Caerdydd / Penarth: Mae’r newid yma yn sylweddol iawn. Mae 28,000 o’r etholwyr yn cael eu symud i’r etholaeth newydd yn Nwyrain Caerdydd, tra bod tua 36,000 yn dod o Dde Caerdydd / Penarth i gymryd eu lle. Daw tua 18,000 o’r rhain o ardal Penarth. Pleidleiswyr Toriaidd ydi’r rhan fwyaf o’r rhain, tra bod mwyafrif y gweddill yn bleidleiswyr Llafur. Mae’r Lib Dems yn wan iawn yn yr ardal. Daw’r gweddill o ardaloedd Grange Town a Butetown yn Ne Caerdydd. Er bod y Lib Dems yn gryfach yma ‘does yna ddim yn agos digon o bleidleiswyr Lib Dem i’w digolledu am y colledion i Ddwyrain Caerdydd. Mi fyddai’r etholaeth yma yn weddol ymylol rhwng y tair plaid unoliaethol o dan amodau etholiad cyffredinol 2010, gyda Llafur yn dod yn gyntaf o drwch blewyn efo'r Lib Dems yn ail.. Yn yr amgylchiadau presenol byddwn yn disgwyl i Lafur ennill gyda’r Toriaid yn dod yn ail.
Dwyrain Caerdydd: Mae hon wedi ei naddu allan o Ogledd Caerdydd (16,000), Canol Caerdydd (29,000) a De Caerdydd (26,000). Mae'n un anodd – mae’r Lib Dems yn gryf iawn yn yr ardaloedd sydd wedi eu tynnu o Ganol Caerdydd, y Toriaid yn gryf yn yr ardaloedd o’r Gogledd a Llafur hwythau yn gryf yn y De. Mae'n debyg (ond ddim yn sicr) mai Llafur fyddai wedi ennill yn 2010 - gyda'r Lib Dems a'r Toriaid yn weddol agos atynt. O dan amgylchiadau presenol byddwn yn disgwyl i Lafur gymryd digon o bleidleisiau’r Lib Dems i roi’r oruwchafiaeth yn haws iddynt, ond mae hon am fod yn etholaeth ymylol iawn yn yr hir dymor.
Argymhellion y Comisiwn Ffiniau - rhan 1
CMae hi'n brysur iawn arna i ar hyn o bryd, felly wna i ddim ymateb yn fanwl i'r newidiadau posibl yn y ffiniau etholaethol a gyhoeddwyd ddoe - er y byddaf yn dychwelyd at y mater sawl gwaith maes o law. Mae yna gryn dipyn o grenshan ffigyrau i'w wneud cyn hynny. Un neu ddau o sylwadau brysiog serch hynny:
Yn gyntaf 'dwi'n croesawu'r newidiadau - mae Cymru wedi ei gor gynrychioli yn San Steffan a 'does yna ddim dadl tros barhau a hynny - yn arbennig felly ag ystyried ein bod i gyd wedi ein cynrychioli yn y Cynulliad beth bynnag.
Yn ail fyddwn i ddim yn cymryd mymryn o sylw o'r 'pledio arbennig' y byddwn yn sicr o'i glywed tros yr wythnosau nesaf. Mae'r elfen o degwch o ran niferoedd sy'n cael ei greu yn siwr o greu unedau anhylaw - 'does yna ddim ffordd o osgoi hynny. Nonsens ydi'r ddadl bod rhai o etholaethau Cymru yn fawr iawn. 'Dydyn nhw ond yn fawr wrth ymyl rhai Lloegr - gwlad sydd efo dwysedd poblogaeth gyda'r uchaf yn y Byd. Dau seneddwr sydd gan Alaska - mae arwynebedd y dalaith yn 663,268 milltir sgwar. Mae hyn tua 83 gwaith arwynebedd Cymru gyfan. Fyddwn i ddim yn poeni llawer am Ynys Mon chwaith - dydi hi ddim yn ynys yn yr un ystyr a Shetland neu'r Isle of Wight - gellir croesi iddi mewn ychydig funudau ar hyd pontydd ar yr A5 a'r A55. Yn wir mae Bangor yn cymryd ei le'n naturiol efo Ynys Mon - yn y ddinas honno mae llawer o drigolion yr ynys yn siopa a gweithio.
Yn drydydd - ag edrych yn frysiog ar bethau - gallai'r newidiadau fod yn llawer, llawer gwaeth i Blaid Cymru. Creir etholaeth cwbl ddiogel wedi ei chanoli ar Wynedd, ac un arall lle mae'r Blaid yn ffefryn clir yng Nghaerfyrddin. Mae yna gyfle da o gipio'r etholaeth Ynys Mon / Glannau'r Fenai, a 'dydi'r newidiadau yng Ngheredigion heb fod yn arbennig o niweidiol. Mae Llanelli'n fwy o dalcen caled bellach fodd bynnag.

Tuesday, January 10, 2012
Mwy o 'degwch' Toriaidd a Lib Demaidd
Mae yna rhywbeth nodweddiadol Doriaidd am y syniad o gyflwyno amodau cyflog 'rhanbarthol' yn y sector cyhoeddus.
Y syniad yn y bon ydi talu llai i weithwyr sector cyhoeddus mewn 'rhanbarthau' lle mae cyflogau sector preifat yn gymharol isel. Mae hyn - fe ymddengys - yn fwy teg efo'r sector preifat. Felly rydym unwaith eto yn gweld 'tegwch' Toriaidd ar waith. Os ydi cyflog sector preifat yn isel yna'r ateb ydi sicrhau bod cyflogau sector cyhoeddus hefyd yn isel, nid meddwl am ffyrdd o hybu cyflogau sector preifat. Mae'r sgil effaith y gallai llusgo cyflogau sector cyhoeddus i lawr yn hawdd hefyd lusgo cyflogau sector preifat i lawr, a thrwy hynny blesio cyflogwyr di egwyddor, yn gyd ddigwyddiad llwyr wrth gwrs.
Rydym eisoes wedi edrych ar union yr un rhesymeg yn cael ei arddel gan y Toriaid a'r Lib Dems yng nghyd destun yr ymosodiadau'r llywodraeth ar bensiynau sector cyhoeddus

Monday, January 09, 2012
Ydi manylion y ffiniau newydd ar fin cael eu rhyddhau?
Yn ol y wefan betio gwleidyddol politicalbetting.com mi fydd y newidiadau arfaethedig i'r ffiniau yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr ychydig ddyddiau nesaf. Er nad ydi'r wefan yn ddi eithriad yn gywir mewn materion fel hyn, mae'n gywir yn llawer amlach na mae'n anghywir.
Bydd unrhyw un sy'n gwybod unrhyw beth am wleidyddiaeth Cymru yn ymwybodol ei bod yn debygol y bydd y nifer o seddi Cymraeg yn cael eu torri'n fwy llym o lawer nag yn yr unman arall yn y DU. Yn wir mae'n debyg mai 30 aelod yn unig fydd gennym o gymharu a'r 40 presenol, ac y bydd nifer o'n aelodau mwyaf adnabyddus yn wynebu brwydrau chwyrn yn erbyn aelodau eraill o'u plaid am enwebiaethau i seddau cymharol ddiogel.
'Dwi'n siwr y bydd darllenwyr Blogmenai yn poeni eu hunain yn sal ynglyn a'r brwydrau posibl rhwng Aelodau Seneddol megis Simon Hart a Stephen Crabb, Huw Irranca Davies a Chris Bryant, Paul Murphy a Nick Smith, Guto Bebb a David Jones, Jessica Morden a Paul Flynn.

Sunday, January 08, 2012
Pam bod ymyraeth Cameron ym mhroses ddemocrataidd yr Alban yn gam gwag
Mae gen i ofn bod ymdrechion David Cameron i fwlio'r weinyddiaeth SNP yn yr Alban i gynnal y refferendwm ar annibyniaeth ar amser sydd yn fanteisiol i'r achos unoliaethol yn un sy'n debygol o wneud mwy o ddrwg nag o les i'r achos hwnnw.
Mae'n debyg bod Cameron yn gywir bod ateb cadarnhaol yn llai tebygol yn 2012 nag ydyw yn 2014 pan mae'r SNP eisiau cynnal y refferendwm. Ond y broblem iddo ydi bod canfyddiad o fwlio ar ran San Steffan yn debygol o fod yn wrth gynhyrchiol yn yr Alban.
Yn bwysicach o bosibl byddai gorfodi refferendwm cynnar yn rhoi cyfle i'r SNP droi cefn ar eu haddewid i beidio dychwelyd at fater annibyniaeth am gyfnod gweddol faith os bydd yr ateb yn negyddol. Byddai'n hawdd i'r blaid wrthod cydnabod refferendwm Cameron, awgrymu i'w cefnogwyr beidio a phleidleisio ynddo a galw eu refferendwm eu hunain ar adeg mwy ffafriol. Byddai'r canfyddiad bod y refferendwm cyntaf yn ymgais o Loegr i wyrdroi'r broses ddemocrataidd yn yr Alban yn rhoi gwynt yn eu hwyliau bryd hynny. Hyd yn oed os na fyddai'r ail refferendwm yn derbyn sel bendith San Steffan, na hyd yn oed statws swyddogol, byddai'n nesaf peth i amhosibl cadw'r Alban yn rhan o'r DU petai mwyafrif wedi pleidleisio yn erbyn hynny.

Thursday, January 05, 2012
Gwilym Owen - rhif 94
Mae'r blog yma wedi nodi ar sawl achlysur dueddiad anymunol Gwilym Owen i gyflwyno ei ragfarnau fel petaent yn ffeithiau, ac mi fydd yn gwneud hynny yn ei golofnau yn Golwg bron yn ddi ffael.
Er enghraifft yn ei erthygl olaf cyn y Nadolig (Rhag 15) aeth ati i nodi mor dila ac arwynebol ydi ein Cymreictod yn wyneb nifer o broblemau cyllidol sydd gan rai o'n sefydliadau cenedlaethol. Rwan mae'n wir bod hunaniaeth a diwylliant yn aml ar drugaredd grymoedd economaidd pwerus, ond mae'r awgrym bod hunaniaeth Gymreig yn rhywbeth sy'n gwbl ddibynol ar sefydliadau sy'n cael eu noddi o'r pwrs cyhoeddus yn un anarferol os nad unigryw. Ond 'dydi Gwilym ddim yn gweld unrhyw reswm yn y Byd i ddatblygu nag egluro ei ddamcaniaeth ryfedd - mae'n ei gosod ger ein bron fel petai'r weithred honno ynddi'i hun yn ei gwneud yn ffaith.
Mae truth heddiw yn ymestyn at binacl newydd fodd bynnag - hyd yn oed ag ystyried y safonau uchel mae Gwilym wedi eu cyrraedd yn y gorffennol. Ceir un syniad cynhenus ar ol y llall - dim ond Dafydd Elis Thomas sy'n ddigon deallus ac angerddol i arwain y Blaid, 'twpdra' ydi'r syniad o annibyniaeth i Gymru, sbarduno a chefnogi'r blaid Lafur ydi priod waith Plaid Cymru, rhagrith cywilyddus ydi o i blant 'cenedlaetholwyr' fynychu prifysgolion yn Lloegr - o ac mae yna feirniadaeth hynod brin o'r Blaid Lafur Gymreig - 'does yna neb ond Leighton Andrews efo tan yn ei fol.
'Rwan ar un olwg mae rhai o'r gosodiadau yma yn ddiddorol os yn rhyfedd- neu o leiaf gallant fod yn ddiddorol o gael eu datblygu. Byddai'n bosibl dadlau er enghraifft bod amodau economaidd anodd yn newid rol gwrthbleidiau a bod cefnogi yn bwysicach na gwrthwynebu ar hyn o bryd, neu gellid adeiladu achos i gefnogi'r gred bod yr Arglwydd Elis Thomas yn fwy deallus ac angerddol nag Elin Jones, Simon Thomas a Leanne Wood. Gellid mynd ati i egluro pam bod Cymru'n wlad mor anarferol nad yw'n addas iddi fod yn annibynnol, ac yn sicr gellid esbonio'r syniad rhyfeddol y gall un person fod yn gywilyddus o ragrithiol oherwydd penderfyniad neu wleidyddiaeth person arall.
Ond na, 'does yna ddim oll yn cael ei ddatblygu, dim yn cael ei egluro, dim yn cael ei gyfiawnhau. Dim, nada, zilch. Beth sydd gennym yn y bon ydi hen ddyn chwerw yn defnyddio'i golofn fel rhyw fath o machinegun i saethu i gyfeiriad cyffredinol y sawl nad ydyw'n hoff ohonynt.
Mae yna nifer o golofnwyr eraill llawer gwell yn 'sgwennu i Golwg - Angharad Mair er enghraifft. Rwan 'dwi'n derbyn bod Angharad yn dod o gyfeiriad gwleidyddol digon tebyg i fy un i - er nad ydw i'n cytuno efo hi pob tro o bell ffordd. Mae pawb yn dod o rhywle, ac o ganlyniad mae gan bawb ei ragdybiaethau, felly hefyd Angharad. Ond mae hi'n cymryd y drafferth i ddatblygu ei dadleuon, i gyfiawnhau ei safbwyntiau ac i roi cyd destun iddynt. Mae hi hefyd yn osgoi'r negyddiaeth sarhaus sy'n nodweddu pob dim mae Gwilym yn ei gynhyrchu.
'Dwi wedi dweud o'r blaen nad ydi cyflogi Gwilym Owen i daflu ei ragfarnau i bob cyfeiriad prin yn wahanol i gyflogi Billy Hughes neu Eric Howells i wneud yn union hynny. 'Does yna fawr ddim 'dwi wedi ei ddarllen gan Gwilym ers hynny wedi rhoi lle i mi newid fy meddwl. Mae'n ymdebygu fwyfwy i rhyw Alf Garnett Llafuraidd.

Wednesday, January 04, 2012
Y Bib a Chynghrair y Trethdalwyr
Felly mae'r Bib yn rhedeg stori arall sydd yn deillio o gyfeiriad Cynghrair y Trethdalwyr - y Taxpayer's Alliance.
Ymddengys bod y Gynghrair o'r farn y byddai'r trethdalwyr 'wedi dychryn' oherwydd i or daliadau Heddlu'r Gogledd gynyddu o £2.7m yn 2010 i £3.6m yn 2011. Yn bersonol '- fel trethdalwr - dydi'r ffigwr ddim yn peri llawer o ddychryn i mi ag ystyried bod caniatau gor amser yn aml yn ffordd effeithiol o wario arian.
Ond mae'n peri mwy o ddychryn i mi bod y Bib yn adrodd ar wahanol ddatganiadau'r Gynghrair mor ffyddlon a di feirniadaeth. Mudiad adain Dde sydd yn hanesyddol efo cysylltiadau agos a'r Blaid Doriaidd, ac yn arbennig adain Dde y blaid honno.
Mae gan pob un o sylfaenwyr y mudiad gysylltiadau efo'r Toriaid, ac mae'r rhan fwyaf o'u noddwyr hefyd yn ariannu'r Toriaid. Mae eu bwrdd cynghori yn llawn pobl sy'n cael eu cysylltu efo syniadaethau'r Dde - Eamonn Butler, Madsen Pirie o'r Adam Smith Institute, yr acamedyddion adain Dde, Patrick Minford a Kenneth Minogue, a chyn arweinydd policy yr Institute of Directors, Ruth Lea. Mae'r corff hefyd o blaid y dreth fflat - gosod yr un gyfradd treth ar bawb - y cyfoethog a'r tlawd fel ei gilydd.
Mae dyn yn rhyw ddisgwyl defnydd an feirniadol o rwdlan y gynghrair gan yr Express, ond Duw a wyr pam bod y Bib yn gwneud hynny - y Gorfforaeth ydi un o hoff dargedau'r Gynghrair.

Tuesday, January 03, 2012
Yr ymgyrch arlywyddol yn cychwyn
Blwyddyn newydd a dau e bost ymgyrchu yn fy aros yn y mewn flwch y bore 'ma - y cyntaf gan Elin Jones a'r llall gan Jonathan Edwards ar ran ymgyrch Leanne Wood. 'Dwi wedi dyfynnu'r ddau isod. Mae'n ddiddorol nodi bod y ddwy neges yn rhoi lle blaenllaw i'r ffaith bod Elin a Leanne yn gefnogol i annibyniaeth. Mi fydd y mater yma yn llawer pwysicach yn yr etholiad hwn nag a fu mewn unrhyw ymgyrch arlywyddol blaenorol.
Neges Elin ydi'r gyntaf:
Neges Elin ydi'r gyntaf:
Mi fydd hon yn flwyddyn bwysig i Blaid Cymru, wrth i ni ethol Arweinydd newydd ac ymladd etholiadau Cyngor. Gan fod enwebiadau swydd yr Arweinydd bellach wedi agor, ‘rwyf yn cadarnhau fy mod yn awyddus i gael fy enwebu a fy ethol yn Arweinydd i Blaid Cymru.
Bydd Plaid Cymru yn agor pennod newydd eleni, wrth i genhedlaeth newydd gymryd at yr awennau. Bydd angen gweledigaeth glir a dycnwch cymeriad i arwain y Blaid ac i ennill cefnogaeth helaethach i’n hachos ni. Nid ar chwarae bach mae cynnig enw i’r dasg yma. Mae angen ymrwymiad llwyr, hyder a’r gallu i gyflawni.
Drwy ennill pedwar etholiad i’r Blaid yng Ngheredigion, ac yn fy ngwaith ymgyrchu ar ysbytai ac yn fy rôl fel Gweinidog yn Llywodraeth Cymru’n Un, ‘rwyf wedi llwyddo i apelio at gynulleidfa eang a dangos arweinyddiaeth gryf. ‘Rwyf nawr yn barod i ddangos yr ymrwymiad ac uchelgais i’r swydd o arwain Plaid Cymru. Mae gennyf uchelgais glir i Gymru, sef i’w gweld hi yn wlad lwyddiannus, annibynnol yn yr Undeb Ewropeaidd.
Mae gennyf uchelgais glir i bobol Cymru, sef i’n gweld ni yn byw mewn cymdeithas gynaliadwy, deg lle mae pobol yn medru cyrraedd eu llawn potensial, gweithio i ennill cyflog, byw mewn cartrefi clud a sicrhau gofal i’r bregus a’r henoed. Dewch i ni weithio gyda’n gilydd i wireddu ein uchelgais dros Gymru.A neges Jonathan ar ran Leanne ydi'r ail.
Annwyl gyfaill,
Hoffwn ddymuno blwyddyn newydd dda i chi i gyd ar ran ymgyrch arweinyddiaeth Leanne.
Ers iddi gyhoeddi ei bod yn sefyll, rydym, yn y tîm ymgyrchu, wedi derbyn mwy o negeseuon nag y gallwn ymateb iddynt yn llawn. Felly, hoffwn gymryd y cyfle yma i ddiolch i bob un ohonoch sydd wedi cynnig help i'r ymgyrch: o'r cyfraniadau ariannol, y rheiny sydd wedi ail-ymaelodi neu ymaelodi â'r blaid am y tro cyntaf; i'r cyfansoddwyr a'r beirdd! Gellir gweld rhai o'r negeseuon o gefnogaeth yma.
Os hoffech ein cynorthwyo, dyma restr fer o'r ffyrdd y gallwch chi helpu:
(i) YMAELODWCH - Sicrhau eich bod chi'n aelod cyfredol o'r blaid, ac annog eich ffrindiau i ymuno trwy www.plaidcymru.org/ymuno – Ionawr 25 yw'r dyddiad cau i ymuno ar gyfer pleidleisio dros Leanne
(ii) ENWEBWCH Leanne fel arweinydd yn eich cyfarfod cangen neu etholaeth nesaf – cysylltwch â Thŷ Gwynfor os nad ydych yn gwybod dyddiad/lleoliad y cyfarfodydd hynny
(iii) LANSIAD - Allwch chi ymuno â fi yn lansiad ymgyrch Leanne am 7yh, Dydd Iau, Ionawr 5ed yn y Pick & Shovel Rhydaman? – manylion ymaneu ar WeplyfrMewn traethawd diweddar, amlinellodd Leanne ei gweledigaeth am “wir annibyniaeth”. Mae'r cysyniad yn un hollbwysig i'n llwybr fel cenedl at ryddid. Nid annibyniaeth er mwyn annibyniaeth, ond annibyniaeth er mwyn diogelu ac adeiladu ar y pethau sy'n werthfawr i ni i gyd. Tardda'r cysyniad o eiriau'r academydd Raymond Williams. Geiriau sy'n golygu brwydro dros annibyniaeth meddwl, yn ogystal â rhyddid cyfansoddiadol: annibyniaeth i'n galluogi i ddatblygu cydraddoldeb economaidd; i'n rhyddhau i ddadlau dros heddwch yn y byd yn lle rhyfel; i'n galluogi i adeiladu ar ein traddodiadau o ryngwladoldeb drwy gyfrannu at faterion y byd ar yr un pryd â sicrhau bod dyfodol iach i'n hiaith a'n diwylliant unigryw ni ein hunain. Gellir darllen ei herthygl lawn yma.
Rwy'n ffyddiog y bydd gweledigaeth Leanne a'i syniadau ymarferol yn uno'n plaid ac yn ysbrydoli'n cenedl.
Gan ddymuno blwyddyn newydd dda i chi gyd.
Ymlaen,
Jonathan Edwards AS
Rheolwr Ymgyrch, Leanne Wood fel Arweinydd
Monday, January 02, 2012
Y tirwedd etholiadol yng Ngwynedd ym mis Mai
Mae datganiad diweddar arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfed Edwards i'r Daily Post yn ddiddorol i'r graddau ei fod yn rhoi cip i ni ar y tirwedd y bydd etholiadau Cyngor Gwynedd eleni yn cael eu hymladd.
Yn 2008 ar un olwg roedd dau etholiad yn digwydd yng Ngwynedd, neu o leiaf roedd yna ddau gyd destun gwahanol i'r etholiad. Roedd yr hen gynllun ail strwythuro ysgolion yn dominyddu'r cyfryngau lleol tra bod llif cryf yn erbyn Llafur tros Gymru. Adlewyrchwyd y ddau batrwm yng Ngwynedd gyda Llais Gwynedd yn ennill tir yn ardaloedd gwledig y gorllewin a'r de, ond hefyd gyda Phlaid Cymru yn perfformio'n gryf ar draul Llafur yn y rhannau mwy trefol yn y gogledd a'r dwyrain.
Mi fydd yr etholiad yma'n wahanol - 'does yna ddim cynllun ail strwythuro cynhwysfawr sydd wedi dominyddu'r newyddion am fisoedd. Mae rhannau o'r sir yn agored i'r gogwydd cenedlaethol tuag at Lafur - ond 'does yna ddim arwydd wedi bod o'r gogwydd hwnnw yng Ngwynedd - cafodd Llafur gweir yn etholiadau'r Cynulliad yng Ngwynedd y llynedd, a chawsant gweir hefyd yn y ddau is etholiad cyngor maent wedi sefyll ynddynt.
Yr hyn ddylai fod yn bwysig yn yr hinsawdd sydd ohoni ydi llywodraethiant cyfrifol a chyson mewn amgylchiadau cyllidol anodd iawn. Adlewyrchiad o hyn a geir yn natganiad Dyfed. Yr her o safbwynt y Blaid fydd ceisio ymladd yr etholiad ar y tirwedd yma, a'r her i Lais Gwynedd yn benodol fydd ceisio dod o hyd i dir arall credadwy i ymladd yr etholiad arno.

Sunday, January 01, 2012
Anrhydeddau blynyddol y Frenhines a'r cysylltiad ymerodrol
'Mae'n debyg y dyliwn i longyfarch Carl Clowse, Martyn Williams, Dannie Abse, fy hen gyfaill Bob Owen o Gaergybi ac ati am gael eu hunain ar y rhestr anrhydeddau blwyddyn newydd. Beth bynnag am yr helynt ynglyn a'r Toriaid yn defnyddio'r broses i dalu'n ol i gefnogwyr am ffafrau ariannol, 'dwi'n eithaf siwr bod mwyafrif llethol y sawl a gafodd eu gwobreuo yng Nghymru yn haeddu cydnabyddiaeth o rhyw fath.
'Rwan mae'n llai tebygol hyd yn oed y bydd awdur Blogmenai yn cael cynnig gwobr frenhinol nag ydyw y bydd yn cael ei benodi yn llywydd anrhydeddus Llais Gwynedd. Ond - yn personol petai'r amhosibilrwydd hwnnw yn digwydd mi fyddai'n well gen i dagu ar fy llwnc na derbyn.
Y broblem i mi efo'r anrhydeddau hyn ydi bod cymaint ohonynt yn ymwneud mewn rhyw ffordd neu'i gilydd efo't Ymerodraeth Brydeinig. 'Dwi'n gwybod mai ymerodraeth ddychmygol ydi hi bellach, a'i bod yn gyflym gilio i'r gorffennol. Ond mae'n werth atgoffa ein hunain o'r hyn ydoedd. Pan roedd yn ei hanterth roedd yn dominyddu lwmp go helaeth o'r Byd. Adeiladir ymerodraethau fel rheol gan wledydd, gwladwriaethau neu endidau pwerus eraill er mwyn rheoli asedau (hy dwyn oddi wrth) endidau llai pwerus na nhw eu hunain. Mae'r dulliau sy'n rhaid eu hymarfer i wneud hyn yn achosi llawer iawn o dywallt gwaed a dioddefaint i'r sawl sy'n dod i gysylltiad a nhw, a 'doedd yr Ymerodraeth Brydeinig ddim yn eithriad yn hyn o beth - ddim o bell ffordd.
Mae yna lawer o gyhuddiadau y gellir eu taflu i gyfeiriad y sefydliad yma - rhestraf rhai ohonynt isod:

- Ymosod ar boblogaethau tua 25% o'r Byd.
- Difa niferoedd mawr o bobl brodorol yng nghyfandiroedd Awstrolasia ac America - pob enaid byw ar Ynys Tasmania er enghraifft.
- Methiant llwyr i ymyryd yn ddigonol i ddelio a newynau mawr ail hanner Oes Fictoria - methiant a arweiniodd at farwolaeth degau o filiynau o drigolion yr Ymerodraeth - yr holl ffordd o'r Iwerddon i India.
- Lladrata arteffactau - mae amgueddfeydd Prydeinig yn llawn o arteffactau sydd wedi eu dwyn o wledydd eraill.
- Y lefel uchel iawn o dywallt gwaed yn y gwahanol ryfeloedd - mae'n debyg i ddegau o filoedd gael eu lladd yn dilyn Gwrthryfel Indiaidd 1857 er enghraifft.
- Mynd i ryfeloedd efo China er mwyn gorfodi'r wlad honno i fewnforio opiwm.
- Methiant i reoli'n briodol a gadael yr ardal mewn ffordd ystyrlon sy'n gyfrifol am lawer o broblemau'r rhan hynod ymfflamychol yma o'r Byd heddiw
Gallwn fynd ymlaen ac ymlaen, ond wna i ddim.
Rwan dwi'n gwybod mai geiriau ydi geiriau, bod yr Ymerodraeth yn farw gelain, bod llawer o ddwr wedi llifo o dan y bont ac ati ac ati. Ond mewn difri calon fedra i ddim deall pam y byddai unrhyw un eisiau sefydlu cysylltiad rhyngddo'i hun a'r oll o'r isod - hyd yn oed os mai cysylltiad gwan sydd gan yr anrhydeddau efo'u gwreiddiau ymerodrol bellach.