Diolch i Syniadau am dynnu ein sylw at y ffaith rhyfeddol bod Dafydd Elis Thomas yn ystyried canmoliaeth gan Gwilym Owen yn ystod un o'i rants gwrth genedlaetholgar fel rheswm i bleidleisio trosto fel arweinydd newydd i'r Blaid.
Am unwaith yn fy mywyd 'dydw ddim yn gwybod beth i'w ddweud.
Am unwaith yn fy mywyd 'dydw ddim yn gwybod beth i'w ddweud.
Dwi ddim y ffan mwyaf o Leanne Wood, ond dwi'n gynyddol sicr y byddai yn ddisastyr i'r Blaid pe byddai unrhyw un o'r tri arall yn mynd a hi. Di'r Arg na Seimon ddim yn cytuno gyda raison d'etre'r Blaid, ac mae apel Elin - er yn wleidydd galluog a diffuant - yn gyfyng dros ben.
ReplyDeleteMae gennym fel aelodau "traddodiadol" y Blaid yn y Gogledd Orllewin ddau ddewis:
- cymryd risg "calculated" a chefnogi ymgeisydd sydd o gefndir ac o ardal wahanol i ni ond sydd a'r gallu i ysbrydoli cenhedlaeth newydd a denu cefnogwyr newydd
- dewis degawd arall o dindroi a chrebachu o dan arweinyddiaeth ddi- fflach a chyfyngedig ar y gorau a dinistriol ar y gwaethaf.
Cytuno gyda Dienw. Mae'r arweinyddiaeth yma yn dibynnu ar Gwynedd a Môn.
ReplyDeleteMae gen i ofn y bydddant yn dewis DET. Dydw i chwaith ddim yn ffan fawr o Leanne ond wedi penderfynnu ei chefnogi gan y byddai dewis un o'r tri arall yn arwain at fwy o golli tir, tindroi, negeseuon gwan a chymysglyd, ac smherthnasedd. Rydym mewn twll fel Plaid a dydy mwy o'r un hen beth ddim am weithio.
Os etholir DET yna dwi'n credu bydd y Blaid yn rhwygo neu ar ei gorau yn marw ar ei thraed. Er cystal yw Elin, mewn 12 mlynedd dyw heb ddangos sbarc na amcan o beth yw stori neu ymgyrch populist genedlaetholaidd. Mwy o'r un peth fydd hi s cawn ni ein hanwybyddu gan y wasg a'r etholwyr.
Mae Leanne Wood yn risg ... ond dim hanner cymaint o risg â pheidio ei dewis.
Pleidiwr Oes
Fe fydda i a chynifer eraill o aelodau yn gadael y Blaid os ydy DET yn enill. Dim dyfodol iddi of gwbwl.
ReplyDeleteLeanne yw'r unig un gall arwain y Blaid i ddarogan yr SNP drwy enill seddau Llafur yn y cymoedd, a dyna'r unig obaith sydd gennym i sicrhau ein anibyniaeth.
Cytuno a'r sylwadau uchod.Ystyriaeth arall bwysig ydi ein bod ni i bob pwrpas yn dewis person fydd yn arwain gwrthblaid am y blynyddoedd nesaf.Mae isio person o fath arbennig i wneud hyn yn llwyddiannus. Rhywun sy'n rhoi pwys ar genhadu,addysgu, tanio ac ysbrydoli pobol Cymru mewn modd eofn a di-flewyn ar dafod.Dan ni wedi dioddef blynyddoedd o "managerialism" neis-neis gan Plaid Cymru sydd wedi creu drifft syniadol enbyd. Mi fyddwn i'n dadlau y byddai dewis Leanne yn dychwelyd PC i'w gwreiddiau cenhadol a'r math o genedlaetholdeb gweithredol sy'n newid cymdeithas. Fel ambell un arall, dydw i ddim yn rhannu ei holl syniadau sosialaidd, ond dwi'n grediniol mai ei syniadau cenedlaetholgar gaiff y prif sylw ganddi os caiff hi ei dewis.
ReplyDeleteBydd angen meddwl yn ddwys ynglyn a fotio tactegol er mwyn osgoi beth ddigwyddodd i'r Blaid Lafur efo Ed Milliband. Mae DET eisoes wedi datgan mai ei strategaeth yw enill drwy'r drws cefn drwy sicrhau digon o bleidleisiau "2il ddewis".
ReplyDeleteMae Stv yn gwneud pleidleisio tactegol yn hynod anodd ac o bosibl yn ddi angen.
ReplyDeleteRhaid gwneud yn hysbys i bobol nag oes rhaid pleidleiso dros fwy nag un ymgeisyd.
ReplyDeleteRhaid cofio fe ddaeth Hariet Harperson yn 7ed yn y rownd gyntaf i fod yn ddirpwy arwienydd Llafur, ac aeth ymlaen i enill. Brawychus!
Ahem Sionyn - dwi'n meddwl (os nad ydi fy nghof yn methu) i Ms Hatty Harperson ddod yn ail ar ol y rownd gyntaf, a system AV a ddefnyddwyd.
ReplyDeleteYn wir ond i ategu beth mae eraill wedi ei ddweud, byddwn i'n sicr yn gadael y blaid pe etholir DET, Pe edrychir am enghraifft gwych o 'out of touch politician' wel dyma i chi un o'r radd flaenaf!
ReplyDeleteEto ategaf yr unig obaith sydd gennym yn fy marn i yw Leanne Wood. Ond yn wahanol i nifer o'r sylwadau uchod odd hi bendant yn ffefryn i mi.
Oes mae'n rhaid iddi dawelu ychydig parthed bod yn rhy ffeministaidd yn fy marn i, yn wir mae'n gallu bod ymhell i'r chwith i rai o bleidleiswyr (nid i fi) ond beth yw'r dewis arall?
Yn sicr mae Elin Jones yn ddawnus ac yn fenyw cyfeillgar tu hwnt, ond dwi ddim yn credu bod ynddi arweinydd chwaith.
'Dwy i'n cytuno y bydd rhaid i Leanne yndaweli rhywfaint ynglin a'i ffeminisiaeth, ac hefyd, yn drist, am ei gwerinaethiaeth, ond 'dw i'n sicr ei bod yn deall hyny.
ReplyDelete'Rwy hefyd yn cytuno am rhinweddau Elin, ond pe bae hi yn cael ei hethol, mwy o'r un peth y gawn, a 10 mlynedd o ddiffaethwch o'n blaen.
Dwi wedi clywed sawl un yn sôn am y posibilrwydd o bleidleisio'n dactegol. Fel mae Blogmenai'n nodi yn ei sylw uchod, wela i ddim sut y gallai rhywun bleidleisio'n datcegol yn y system bleidleisio hon.
ReplyDeleteOs mai eich dewis cyntaf yw A a'ch ail ddewis yw B, sut byddai'n helpu eich achos i wneud unrhyw beth heblaw am roi eich pleidlais gyntaf i ymgeisydd A a'ch ail bleidlais i ymgeisydd B? Wela i ddim un senario lle byddai pleisleisio'n wahanol yn helpu.
Iwan Rhys
Tueddaf i gefnogi Leanne Wood - dyw ei sosialaeth a'i gwrth-frenhiniaeth ddim yn broblem imi ond teimlwn yn fwy hapus pe dangosai fwy o barodrwydd i arddel y Gymraeg yn gyhoeddus, efallai trwy ei defnyddio rhywfaint yn y Senedd.
ReplyDeleteCAERDYDD
Beth mae'r Blaid eisiau - arweinydd sy'n apelio at yr aelodau gwasgaredig, neu arweinydd sy'n apelio at bobl Cymry? Ac oes modd symud o syllu ar y bogail i gynllunio gwleidydda credadwy? Dydwi ddim yn meddwl bod yr un ymgeisydd yn ateb y naill angen neu'r llall yn berffaith, ond rwyf yn chwilio am yr ail.
ReplyDeleteA fydd rhai yn pleidleisio i DET fel arweinydd dros dro hyd y daw y mab darogan yn ol ???
ReplyDelete"A fydd rhai yn pleidleisio i DET fel arweinydd dros dro hyd y daw y mab darogan yn ol ???"
ReplyDeleteEfallai, ond camgymeriad fyddai hynny, yn fy nhyb i. Os yw rhywun yn hoff o wleidyddiaeth Adam Price, wedyn Leanne Wood yw'r dewis amlwg. Mae Adam Price ei hun wedi bod yn galw ar bobl i bleidleisio i Leanne. Byddwn i wrth fy modd yn gweld Leanne wrth y llyw, ac Adam Price yn ymuno â'i thîm yn 2016.
Iwan Rhys
Leanne yw'r ffefryn yn ol Paddy Power bore 'ma!
ReplyDeleteFe fyddai ethol DET yn difa'r blaid, ac ni fyddai plaid ar ol i Adam arwain.
Mae Leanne yn gneud llwer dros y gymraeg - mae'n trydar ac yn'facebook'io yn gymraeg wiethiau, ond rhaid dweud fod y ffaith nad yw yn naturiol Gymraeg ei hiath yn mynd iw galliogi i argyheddi bobol y cymoed nad Plaid yr iaith yn unig ydym, ac mae hynny yn holl bwysig os ydym o ddifrif ynglin ag enill anibyniaeth.