CMae hi'n brysur iawn arna i ar hyn o bryd, felly wna i ddim ymateb yn fanwl i'r newidiadau posibl yn y ffiniau etholaethol a gyhoeddwyd ddoe - er y byddaf yn dychwelyd at y mater sawl gwaith maes o law. Mae yna gryn dipyn o grenshan ffigyrau i'w wneud cyn hynny. Un neu ddau o sylwadau brysiog serch hynny:
Yn gyntaf 'dwi'n croesawu'r newidiadau - mae Cymru wedi ei gor gynrychioli yn San Steffan a 'does yna ddim dadl tros barhau a hynny - yn arbennig felly ag ystyried ein bod i gyd wedi ein cynrychioli yn y Cynulliad beth bynnag.
Yn ail fyddwn i ddim yn cymryd mymryn o sylw o'r 'pledio arbennig' y byddwn yn sicr o'i glywed tros yr wythnosau nesaf. Mae'r elfen o degwch o ran niferoedd sy'n cael ei greu yn siwr o greu unedau anhylaw - 'does yna ddim ffordd o osgoi hynny. Nonsens ydi'r ddadl bod rhai o etholaethau Cymru yn fawr iawn. 'Dydyn nhw ond yn fawr wrth ymyl rhai Lloegr - gwlad sydd efo dwysedd poblogaeth gyda'r uchaf yn y Byd. Dau seneddwr sydd gan Alaska - mae arwynebedd y dalaith yn 663,268 milltir sgwar. Mae hyn tua 83 gwaith arwynebedd Cymru gyfan. Fyddwn i ddim yn poeni llawer am Ynys Mon chwaith - dydi hi ddim yn ynys yn yr un ystyr a Shetland neu'r Isle of Wight - gellir croesi iddi mewn ychydig funudau ar hyd pontydd ar yr A5 a'r A55. Yn wir mae Bangor yn cymryd ei le'n naturiol efo Ynys Mon - yn y ddinas honno mae llawer o drigolion yr ynys yn siopa a gweithio.
Yn drydydd - ag edrych yn frysiog ar bethau - gallai'r newidiadau fod yn llawer, llawer gwaeth i Blaid Cymru. Creir etholaeth cwbl ddiogel wedi ei chanoli ar Wynedd, ac un arall lle mae'r Blaid yn ffefryn clir yng Nghaerfyrddin. Mae yna gyfle da o gipio'r etholaeth Ynys Mon / Glannau'r Fenai, a 'dydi'r newidiadau yng Ngheredigion heb fod yn arbennig o niweidiol. Mae Llanelli'n fwy o dalcen caled bellach fodd bynnag.

Byddwn i'n dadlau bod Caerfyrddin os unrhyw beth yn ddiogelach na Gwynedd i blaid Cymru nawr, maent wedi cynnwys 10 ward ychwanegol at Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr gan golli un ward, mae'r 10 ward maent wedi ychwnaegu i gyd yn wardiau lle mae cynghorydd Plaid Cymru yn ei gynrychioli, yn wir dylai mwyfarif Jonathan Edwards godi'n aruthrol yn awr.
ReplyDeleteDiddorol nodi hefyd fod Castell Newydd Emlyn yn symud i Geredigion a Gogledd Penfro fydd yn fanteisiol iawn i Blaid Cymru.
ReplyDeletePeidiwch a chymryd bod Caerfyrddin o reidrwydd mor ddiogel. Yn ôl y canlyniadau "notional" byddai Llafur A'R Toriaid o fewn rhyw 1,000 pleidlais yr un o gipio'r sedd.
ReplyDeleteGweler yma:
http://ukpollingreport.co.uk/blog/archives/4627?utm_source=feedburner&utm_medium=feed&utm_campaign=Feed%3A+PollingReport+%28UK+Polling+Report%29
Dwi hefyd yn cytuno am Gaerfyrddin - prin fod nifer y cynghorwyr mewn ardal yn adolygu cryfder plaid mewn etholiadau cenedlaethol.
ReplyDeleteWn i ddim chwaith am Geredigion/Gogledd Penfro. Rhaid cofio mae 'na lawer o gymunedau di-Gymraeg yma (fydd hon ddim yn sedd â mwyafrif Cymraeg ei hiaith cofiwch) a dydi'r Blaid heb wneud yn dda yn etholaeth Gog Penfro dros y blynyddoedd diwethaf.
Mi gymrith lot o waith caled i Blaid Cymru sicrhau Caerfyrddin, ond hefyd herio yng Ngheredigion a Môn-Menai.
@Cymro i'r Carn
ReplyDeleteFedrai hanner gweld beth yw dy ddadl, serch hynny, nid yw'r ffaith bod y Blaid yn gryf yn y wardiau hynny ar lefel cyngor sir yn golygu drosglwyddith hynna'n bleidleisiau adeg Etholiad Cyffredinol. Er enghraifft, mae'r Blaid efo dros 20 o seddi yng Ngheredigion (un yn brin o fwyafrif) ond mae'r AS LibDem, Mark Williams, efo 8,000 o fwyafrif. Yn wir, efallai ei fod yn beth da mai Gog Penfro sydd wedi ei glymu efo Ceredigion ac nid rhannau o Bowys, ond a fydd modd canfod 8,000 o bleidleisiau yn y tir newydd hwnnw? Go brin dybiwn - nid adeg yr Etholiad nesaf pryn bynnag.
Dylai fod dwy etholaeth cadarnaf y Blaid greu un etholaeth cadarnach fyth, ac allai ddim gweld sut allai unrhyw un o'r pleidiau eraill gipio Gwynedd.
I raddau, dwi'n teimlo'n fwy optimistaidd am Geredigion nag am Gaerfyrddin. A chymaint o doriaid a llafur yng Nghaerfyrddin gall unrhyw ogwydd sylweddol o un i'r llall wneud i'r Blaid golli'r sedd hyd yn oed os yw ei phleidlais yn cadw i fynny neu'n cynyddu hyd yn oed. Dyle fod Ceredigion o fewn cyraedd y Blaid os yw'r Rhyddfrydwyr yn colli lot o'i cefnogaeth, fel y mae'r polau'n awgrymu. Mae yna lawer o fyfyrwyr yng Ngheredigion, siwr o fod fe bleidleisiodd llawer ohonyn nhw dros y Rhyddfrydwyr yn 2010.
ReplyDeleteElfyn Llwyd yn sedd Gwynedd ac Arfon.
ReplyDeleteHywel Williams....chwilio am waith?
O ran Plaid Cymru yng Ngwynedd, rwy'n rhagweld Dafydd Elis Thomas yn colli ras yr arweinyddiaeth, (ac o gofio y bydd bron iawn â chyrraedd oed yr addewid adeg etholiadau nesaf y Cynulliad), sgwn i a fydd D-ET yn 'ymddeol' yn ol i Dy'r Arglwyddi? Mae Elfyn Llwyd hefyd wedi dweud y byddai ef yn hoffi cyfnod yn y Cynulliad. Felly sgwn i ai Hywel Williams fydd yn mynd am sedd 'Gwynedd' yn San Steffan, ac Elfyn Llwyd yn mynd am sedd Dwyfor Meirionydd yn y Cynulliad?
ReplyDeleteOni bai bod trefn etholiadol y Cynulliad yn newid wrth gwrs.
Iwan Rhys
Etholwyd Hywel Williams yn gyntaf i gynrychioli sedd Caernarfon; mae'r sedd hwnnw bellach bron i gyd o fewn Gwynedd felly byddai'n digon naturiol i naill ai Hywel Williams neu Elfyn Llwyd sefyll yno. Pe bai Elfyn yn mynd am y bechingalw heddlu yno, byddai hynny'n rhyddhau'r sedd wedyn.
ReplyDelete