Pob lwc i Ian Jones, prif weithredwr newydd S4C. Ymddengys ei fod yn dechrau ar ei waith heddiw.. Mae yna joban go fawr o'i flaen, a gobeithio nad ydi ei alltudiaeth ar yr ochr arall i Gefnfor yr Iwerydd wedi amharu ar ei allu i wneud y joban honno.
Mae'r sylw i S4C golli cysylltiad efo'i chynulleidfa wedi ei wneud mor aml nes iddo fynd yn ystrydeb braidd, ac fel pob ystrydeb rhannol wir yn unig ydyw. Y gwir ydi i'r gynulleidfa hefyd golli cysylltiad efo S4C, a'r rheswm am hynny ydi i'r gynulleidfa botensial newid yn sylweddol ers sefydlu'r sianel. Mae'r Cymry Cymraeg yn y byd sydd ohoni yn fwy amrywiol, yn fwy trefol, yn ieuengach, yn llai llithrig eu Cymraeg ac wedi eu gwasgaru yn ehangach nag oeddynt pan sefydlwyd y sianel.
Methiant i addasu i amodau cymdeithasegol fel maent yn datblygu ydi rhan go lew o fethiant S4C. Dydi'r ffaith nad ydi prif weithredwr newydd y sianel heb dreulio llawer o amser yng Nghymru yn ddiweddar ddim yn golygu na all y sianel ymateb i'r newidiadau hynny - ond mae'n bwysig bod rhywun ar ddec S4C efo digon o ddiddordeb a dealltwriaeth o'r Gymru gyfoes i ganiatau i'r sianel ddatblygu mewn ffordd sy'n gydnaws ag anghenion ei chynulleidfa potensial.

1. Buddsoddi yn cerddoriaeth Gymraeg gyfoes. Hynny yw y Sîn Roc Gymraeg neu mewn pedair mlynedd fydd y Gymraeg heb fiwsig pop cyfoes ac yn edrych yn naff.
ReplyDelete2. Lladd off hanner cast Pobol y Cwm. Dim mwy o Gwyn Elfyns, Huw Ceredigs sydd wedi bod yn ennill ugeiniau o filoedd y flwyddyn am fod yn actorion festri Capel.
3. Radio S4C i roi mwy o dewis i ni. Efallai fod teledu ar ei lawr efo'r ifanc, ond dydy radio ddim.
4. Rhoi hen stwff S4C ar YouTube.
5. Bod staff S4C ddim yn credu eu bod nhw'n well nag ydyn nhw ac yn well na neb arall. Ychydig o wyleidd-dra, ac i rai, cymryd ffycin diddordeb mewn diwylliant Gymraeg - darllen nofelau, cylchgronnau a llyfrau Cymraeg, gwrando ar radio a miwsig Cymraeg, peidio codi trwyn ar Clwb Ifor Bach ne'r Fuwch Goch. Cymryd rhan mewn diwylliant Cymraeg.
6. Cynhyrchu ffilmiau Cymraeg sydd heb y geiriau, 'sensitif', 'coming of age', 'teimladwy' na meddylgar yn shod ati. Ond geiriau fel sysbens, action, ofnus a rhywiol.
7. Mwy o wynebau ifanc, newydd. Pobl o gefndiroedd du, Asiaidd, tramor yn cyflwyno. Mwy o Channel 5 na Channel 4.
8. Sticio'r chwaraeon (beth sm eu galw'n 'gemau'?) ar S4C2? Duw, beth am alw'r sianel yn 'Dai'?!
swn i'm yn trafferthu hefo'r Fuwch Goch, mae'r staff i gyd sydd o Aberystwyth, Caerfyrddin ayyb yn siarad Saesneg hefo'u gilydd tu ol i'r bar
ReplyDeleteMwy o ffilmiau arswyd, animeiddio, MMA a porn.
ReplyDeleteY Fuwch Goch di cau, a Chlwb Ifor yn glwb uniaith Saesneg - un o fethiannau mwya Cymry Cymraeg Caerdydd! Fel arall yn cytuno efo Anon 1.
ReplyDeleteMa'r Fuwch Goch di cau ers misoedd
ReplyDelete