Mae'r blog yma wedi nodi ar sawl achlysur dueddiad anymunol Gwilym Owen i gyflwyno ei ragfarnau fel petaent yn ffeithiau, ac mi fydd yn gwneud hynny yn ei golofnau yn Golwg bron yn ddi ffael.
Er enghraifft yn ei erthygl olaf cyn y Nadolig (Rhag 15) aeth ati i nodi mor dila ac arwynebol ydi ein Cymreictod yn wyneb nifer o broblemau cyllidol sydd gan rai o'n sefydliadau cenedlaethol. Rwan mae'n wir bod hunaniaeth a diwylliant yn aml ar drugaredd grymoedd economaidd pwerus, ond mae'r awgrym bod hunaniaeth Gymreig yn rhywbeth sy'n gwbl ddibynol ar sefydliadau sy'n cael eu noddi o'r pwrs cyhoeddus yn un anarferol os nad unigryw. Ond 'dydi Gwilym ddim yn gweld unrhyw reswm yn y Byd i ddatblygu nag egluro ei ddamcaniaeth ryfedd - mae'n ei gosod ger ein bron fel petai'r weithred honno ynddi'i hun yn ei gwneud yn ffaith.
Mae truth heddiw yn ymestyn at binacl newydd fodd bynnag - hyd yn oed ag ystyried y safonau uchel mae Gwilym wedi eu cyrraedd yn y gorffennol. Ceir un syniad cynhenus ar ol y llall - dim ond Dafydd Elis Thomas sy'n ddigon deallus ac angerddol i arwain y Blaid, 'twpdra' ydi'r syniad o annibyniaeth i Gymru, sbarduno a chefnogi'r blaid Lafur ydi priod waith Plaid Cymru, rhagrith cywilyddus ydi o i blant 'cenedlaetholwyr' fynychu prifysgolion yn Lloegr - o ac mae yna feirniadaeth hynod brin o'r Blaid Lafur Gymreig - 'does yna neb ond Leighton Andrews efo tan yn ei fol.
'Rwan ar un olwg mae rhai o'r gosodiadau yma yn ddiddorol os yn rhyfedd- neu o leiaf gallant fod yn ddiddorol o gael eu datblygu. Byddai'n bosibl dadlau er enghraifft bod amodau economaidd anodd yn newid rol gwrthbleidiau a bod cefnogi yn bwysicach na gwrthwynebu ar hyn o bryd, neu gellid adeiladu achos i gefnogi'r gred bod yr Arglwydd Elis Thomas yn fwy deallus ac angerddol nag Elin Jones, Simon Thomas a Leanne Wood. Gellid mynd ati i egluro pam bod Cymru'n wlad mor anarferol nad yw'n addas iddi fod yn annibynnol, ac yn sicr gellid esbonio'r syniad rhyfeddol y gall un person fod yn gywilyddus o ragrithiol oherwydd penderfyniad neu wleidyddiaeth person arall.
Ond na, 'does yna ddim oll yn cael ei ddatblygu, dim yn cael ei egluro, dim yn cael ei gyfiawnhau. Dim, nada, zilch. Beth sydd gennym yn y bon ydi hen ddyn chwerw yn defnyddio'i golofn fel rhyw fath o machinegun i saethu i gyfeiriad cyffredinol y sawl nad ydyw'n hoff ohonynt.
Mae yna nifer o golofnwyr eraill llawer gwell yn 'sgwennu i Golwg - Angharad Mair er enghraifft. Rwan 'dwi'n derbyn bod Angharad yn dod o gyfeiriad gwleidyddol digon tebyg i fy un i - er nad ydw i'n cytuno efo hi pob tro o bell ffordd. Mae pawb yn dod o rhywle, ac o ganlyniad mae gan bawb ei ragdybiaethau, felly hefyd Angharad. Ond mae hi'n cymryd y drafferth i ddatblygu ei dadleuon, i gyfiawnhau ei safbwyntiau ac i roi cyd destun iddynt. Mae hi hefyd yn osgoi'r negyddiaeth sarhaus sy'n nodweddu pob dim mae Gwilym yn ei gynhyrchu.
'Dwi wedi dweud o'r blaen nad ydi cyflogi Gwilym Owen i daflu ei ragfarnau i bob cyfeiriad prin yn wahanol i gyflogi Billy Hughes neu Eric Howells i wneud yn union hynny. 'Does yna fawr ddim 'dwi wedi ei ddarllen gan Gwilym ers hynny wedi rhoi lle i mi newid fy meddwl. Mae'n ymdebygu fwyfwy i rhyw Alf Garnett Llafuraidd.

Dwi mor falch mai nid jyst y fi oedd di gwylltio efo doethinebu Gwilym Owen, y corach Llafuraidd hunan-bwysig.
ReplyDeleteCai - dwi'n siwr dy fod wedi darllen yr erthygl yn Golwg heddiw am statws gwarthus y Gymraeg yn ysgolion uwchradd De Meirionnydd .
ReplyDeleteMel ar fysedd rhai, dwi'n ofni .