Tuesday, January 17, 2012

Argymhellion y Comisiwn Ffiniau - rhan 2

Reit, beth am gael cip ar y Gymru Gymraeg? – neu’r Gymru gymharol Gymraeg a bod yn fanwl gywir.


Yr etholaeth fwyaf hawdd i’w galw ydi Gwynedd. Mae’r Comisiwn wedi tynnu tua ugain mil o etholwyr o Ddwyrain Arfon a’u rhoi yn yr un etholaeth a Mon, tra’n cyfuno gweddill Arfon efo Meirion Dwyfor ynghyd a 4,000 o etholwyr o Ogledd Orllewin Powys a 5,500 o waelod Dyffryn Conwy. Mae’r sedd yma yn cynnwys nifer sylweddol o Gymry Cymraeg, ac mae’r rhan fwyaf o’r wardiau o Gonwy a Gwynedd efo hen hanes o bleidleisio i’r Blaid ar pob lefel. Mae hyd yn oed y wardiau o Bowys yn rhai eithaf Cymraeg o ran iaith, a gall y Blaid ddisgwyl gwneud yn dda yn y rhain – rwan eu bod mewn etholaeth enilladwy. Bydd y Blaid yn ennill yn hawdd yma.

Menai / Ynys Mon: Cyfunir Dwyrain Arfon, Ynys Mon ynghyd a dwy ward o ardal Llanfairfechan yng Nghonwy. ‘Dydi’r newidiadau ddim yn sylfaenol newid y cydbwysedd rhwng Llafur a’r Blaid yn Ynys Mon, ond mae’r bleidlais Doriaidd yn sylweddol is yn y wardiau tir mawr nag ydynt ar Ynys Mon – yn arbennig felly y tu allan i Fangor. O ganlyniad mae’r etholaeth newydd yn parhau i fod yn un ymylol rhwng Llafur a’r Blaid, gyda goruwchafiaeth bach i Lafur. Serch hynny mae unrhyw obaith oedd gan y Toriaid yn Ynys Mon yn cael ei ddiffodd i pob pwrpas. Yr her i’r Blaid fydd argyhoeddi’r bleidlais wrth Lafur ym Mon mai’r Blaid a’r Blaid yn unig sy’n gallu curo Llafur. Mae’r ffaith bod y canfyddiad yna’n digwydd bod yn wir yn gwneud yr her honno yn haws i’w gweithredu.

Ceredigion / Gogledd Penfro: Ychwanegir 1,700 o etholwyr o Gaerfyrddin a 17,000 o Ogledd Penfro at Ceredigion. Mae’r Lib Dems a’r Blaid yn gryf yng Ngheredigion, ond yn wanach yng Ngogledd Penfro. ‘Dydw i ddim yn meddwl bod yr ychwanegiadau yn newid y cydbwysedd llawer iawn. Cyn belled a bod y Blaid yn dod o hyd i ymgeisydd cryf byddant yn gwneud yn well nag y gwnaethant yn 2010 – ond bydd cael gwared o holl fwyafrif Mark Williams yn anodd mewn un etholiad. Serch hynny mae digon o le i fod yn obeithiol - llwyddwyd i wneud rhywbeth mwy anisgwyl o lawer yn ol yn 1992 ar ffiniau digon tebyg i’r rhain, pan ddaeth Cynog Dafis o’r pedwerydd safle i’r cyntaf.

Llanelli: Mae tua 19,000 o etholwyr yn dod at Lanelli o etholaeth Gwyr. Mae hyn yn gwneud etholaeth ymylol Llanelli yn llawer saffach i Lafur.

Caerfyrddin: Ffurfir yr etholaeth yma o Ddwyrain Caerfyrddin / Dinefwr a’r ardal o Gaerfyrddin oedd yn Ne Caerfyrddin / Dinefwr. Ar bapur mae’r newid yma yn creu sedd weddol ymylol rhwng y Blaid, Llafur a’r Toriaid gyda’r Blaid 1,000 – 1,500 ar y blaen. Byddwn yn disgwyl i’r oruwchafiaeth fod yn uwch na hynny pan ddaw’r etholiad fodd bynnag. Mae pleidlais y Blaid yn gyffredinol gryf yn rhan Dwyreiniol yr etholaeth newydd, ac mae hefyd yn uchel yng Ngorllewin Caerfyrddin ar pob lefel ag eithrio un San Steffan – ac mae’n debyg mai pleidleisio tactegol sy’n gyfrifol am y bleidlais is yn yr etholiadau hynny. Bydd yr etholaeth newydd yn cael gwared o’r angen i Bleidwyr bleidleisio yn dactegol, a byddwn yn disgwyl goruwchafiaeth o 3,000+ i’r Blaid.

8 comments:

  1. Heb wneud y Maths ond rwy'n tybio bog Glyndwr / Gogledd Powys yr un mor Gymraeg a'r Llanelli newydd?....Bant i'r cyfrifiad i ddadansoddi...

    ReplyDelete
  2. Oddeutu 32.5% Cymraeg eu haith yng Nghlyndwr / Gog Powys

    ReplyDelete
  3. ok - pan gai awr heno...

    ReplyDelete
  4. .....Llanelli yn 37.7%

    ReplyDelete
  5. Anonymous1:44 am

    Ond mae Cymunedau yn perthyn i etholaeth Llanelli sydd yn Gymreigaidd iawn e.e - Pontyberem, Drefach etc, ac hefyd ward newydd Mawr sydd er ond â 45% yn Gymry Cymraeg mae rhyw 70% yng Ngarnswllt yn siarad Cymraeg ond odyn?

    Dwi'n amau'n fawr bod na'r un Gymuned yn sedd newydd Glyndwr gyda dros 65% yn siarad y Gymraeg, tra bod Llanelli yn llawn ohonynt ym mhen isa Cwm Gwendraeth yn enwedig.

    ReplyDelete
  6. Llangernyw, Llansannan ac Uwchaled dros 65%

    ReplyDelete