Monday, January 30, 2017

Theresa May druan

Mae cydymdeimlo efo Theresa May yn teimlo'n rhyfedd - ond mae yna reswm tros gydymdeimlo - mae hi wedi ei chlymu'n sownd i Donald Trump - yn drosiadol wrth gwrs.

Mae wedi derbyn cryn dipyn o feirniadaeth am gymryd cymaint o amser i gondemio cynllun dwlali Trump i wahardd trigolion o rhai gwledydd Mwslemaidd o'r America.  Ond mae yna reswm da pam ymatebodd May yn y ffordd y gwnaeth - dydi hi ddim mewn sefyllfa i bechu'r hiligi, oren a chroen denau o Efrog Newydd - a Brexit sy'n gyfrifol am hynny i raddau helaeth.  Felly cymrodd 38 awr iddi fynegi amheuon am bolisi idiotaidd sydd yn cosbi trigolion gwledydd sydd erioed wedi cynhyrchu terfysgwyr sydd wedi lladd unrhyw un yn yr UDA tra'n rhoi llonydd llwyr i wledydd Mwslemaidd eraill fel Saudi Arabia sydd wedi cynhyrchu terfysgwyr sydd wedi lladd Americanwyr yn America.

Bellach mae'n amlwg y bydd y DU yn gadael y Farchnad Sengl, a bydd hynny'n broblem enfawr yn economaidd.  Bydd ymadawiad Prydain hefyd yn ei gadael yn eithaf unig yn ddiplamyddol.  Dyna pam roedd Theresa May mor awyddus i redeg i America cyn gynted a phosibl, dyna pam bod Trump wedi cael gwahoddiad i ddod ar ymweliad gwladwriaethol yn llawer cynharach yn ei arlywyddiaeth na'r un Arlywydd arall, a dyna pam rydym yn clywed yr holl wichian treuenus am y berthynas. 'arbennig' efo 'r UDA.  Does gan Prydain ddim ffrindiau, ac mae'n torri ei bol i ddod o hyd i rai - ac America Donald Trump ydi'r hoff ddewis - mae'n fawr, cegog a swnllyd.

A gallwn fod yn eithaf siwr nad dyma'r weithred boncyrs olaf gan Trump.  Bydd yr hyn mae wedi ei wneud tros y dyddiau diwethaf wrth fodd eithafwyr Mwslemaidd - bydd yn cadarnhau eu naratif i'r byd Mwslemaidd ehangach bod y Gorllewin yn wrth Fwslemaidd.  Mae'n debygol iawn y bydd terfysgwyr Mwslemaidd yn ceisio gwneud rhywbeth i gael Trump i or ymateb eto, ac mae'n debygol iawn y bydd Trump yn gor ymateb eto.  Ac unwaith eto bydd Theresa May yn sefyll yn edrych yn hurt pan fydd newyddiadurwyr yn gofyn iddi beth mae'n feddwl o hurtni diweddaraf Trump.

Does yna ddim byd y gall Trump ei wneud sydd yn ddigon anymunol a hurt fydd yn ysgogi May i 'w feirniadu, a felly bydd pethau am flynyddoedd.


Saturday, January 28, 2017

Brexit - y bygythiad i undod y DU

Mae yna gryn dipyn o son wedi bod ynglyn a statws cyfansoddiadol yr Alban yn sgil Brexit gyda chryn dipyn o ddarogan y bydd refferendwm annibyniaeth arall yn cael ei chynnal cyn diwedd y ddegawd.  Mae'r sefyllfa newydd yn creu sefyllfa heriol i'r sawl sydd am weld Alban annibynnol - mae llawer mwy o allforion yr Alban yn mynd i Loegr na sy'n mynd i'r UE - a bydd hynny'n creu problem os bydd tollau yn y dyfodol ar allforion a mewnforion i 'r DU.

Beth bynnag, y sefyllfa ar hyn o bryd yn ol y rhan fwyaf o bolau ydi bod pethau'n ddigon tebyg i'r hyn roeddynt yn y refferendwm yn 2014 gyda tua 55% o blaid aros yn y DU a thua 45% o blaid annibyniaeth.  Ni fydd hynny'n fawr o boen i 'e SNP - roedd yr ochr 'Ia' yn llawer pellach y tu ol cyn i'r ymgyrchu ddechrau yn 2014.

Ond yr hyn sydd heb gael llawer o sylw ydi'r effaith ar Ogledd Iwerddon.  Mae yna lawer iawn o fasnach, teithio a chysylltiadau diwylliannol rhwng De a Gogledd yr ynys.  Mae'r polio sydd wedi digwydd hyd yn hyn - megis yr isod gan Lucid Talk - yn awgrymu bod cryn symudiad wedi bod tuag at ail uno'r ynys.  Mae'r ddau gwestiwn ar ben y graff yn awgrymu faint o bobl sydd o blaid aros yn y DU ac mae'r ddau gwestiwn ar y gwaelod yn awgrymu faint sydd o blaid ail uno'r ynys.  Mae'r canlyniadau yn dod i tua 55% i 45% o blaid aros yn y DU - bwlch llai nag a gafwyd erioed mae'n debyg.  Dim ond chwarter y boblogaeth sydd o blaid yr hyn sydd yn debygol o ddigwydd - Gogledd Iwerddon yn aros yn y DU.



O edrych ar y canlyniad o safbwynt pobl o gefndir Protestanaidd / unoliaethol yn unig mae dau beth yn ddiddorol - bod y mwyafrif am aros yn y DU, a bod bron i 9% eisiau ymuno efo gweddill yr ynys.  O gymharu a ffigyrau hanesyddol mae'r ffigwr hwnnw yn uchel.




O edych ar y ffigyrau ar gyfer pobl o gefndir Pabyddol / cenedlaetholgar mae'r ffigyrau hefyd yn ddiddorol.  Ymddengys bod y mwyafrif llethol (tua 95%) o blaid ail uno'r ynys.  Mae hwn yn ganran llawer, llawer uwch nag a gafwyd yn y gorffennol agos.  


Felly mae'n wir bod Brexit yn bygwth undod y DU - ond mae'r bygythiad hwnnw'n ehangach nag i statws yr Alban yn unig.


Friday, January 27, 2017

Cerddoriaeth wleidyddol yr wythnos

O dan yr amgylchiadau, beth fyddai'n fwy addas nag America First, Merle Haggard dywedwch?


Wednesday, January 25, 2017

Y cyfryngau print a Brexit

Siarad oeddwn i'r diwrnod o'r blaen efo un o gefnogwyr Brexit ac ar ol pwt o sgwrs am adael Ewrop dechreuodd gwyno am 'elit' cyfryngol oedd yn ceisio dwyn perswad ar bobl i bleidleisio i aros yr yr UE. Mae'r canfuddiad yma'n un gweddol gyffredin ymysg y sawl oedd am adael yr UE.  Mae'n ganfyddiad cwbl gyfeiliornus.

Wele isod agwedd y papurau newydd at Brexit a'u cylchrediad:

O blaid Brexit:

Sun (1.7m cylchrediad)
Daily Mail (1.5m)
Telegraph (490k)
Mail on Sunday (1.3m)
Sunday Times (797k)
Sunday Telegraph (797k)
Daily Star - heb ddatgan, ond y cyfeiriad golygyddol o blaid Brexit (425k)
Daily Express (427k)
Sunday Express (396k)
Sun on Sunday (1.45m).

O blaid Aros:

Times (438k)
Daily Mirror (776k)
I -  heb ddatgan, ond y cyfeiriad golygyddol o blaid Aros (284k)
Guardian (165k)
FT (118k)
Observer (194k)
Sunday Mirror (1.8m)


Monday, January 23, 2017

Pam bod May o blaid mewnfudo

Felly ymddengys bod Theresa May o blaid mewnfudo wedi'r cwbl - mae eisiau gwneud mewnfudo o'r UDA yn haws.  'Dwi'n rhyw gymryd mai'r hyn sydd ganddi mewn golwg ydi'r 209m Americanwyr sy'n wyn ac yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf yn hytrach na'r 118m sy'n syrthio i gategoriau eraill.

A dyna ydi'r broblem wrth gwrs - mae'r sawl sy'n anfodlon efo mewnfudo i'r DU yn anfodlon yn y bon efo mewnfudiad pobl o hil neu gefndir diwylliannol gwahanol i'w un eu hunain.  Mae tua dau Americanwr o pob tri yn weddol debyg yn ddiwylliannol i Saeson, felly 'dydyn nhw ddim yn cael eu hystyried yn cymaint o broblem, ac o ganlyniad mae Theresa May yn ddigon hapus i wneud pethau'n haws iddynt o ran mewnfudo.  Breuddwyd gwrach ydi'r syniad o fewnfudo sylweddol o'r UDA (neu Awstralia neu Seland Newydd) mewn gwirionedd wrth gwrs - pan mae niferoedd mawr o bobl yn symud, mynd  o wledydd tlawd i wledydd cyfoethog maen nhw, nid mynd o wledydd cyfoethog i wledydd cyfoethog eraill.  

Ond mae yna wledydd fydd yn fwy na pharod i ddarparu mewnfudwyr yn absenoldeb mewnfudwyr o'r Undeb Ewropiaidd - gwledydd y Gymanwlad.  Mae'r rhan fwyaf o'r bobl sy'n byw yn y gwledydd hyn yn ddiwylliannol a hiliol fwy gwahanol i drigolion y DU na Phabyddion a Lutheriaid croenwyn Canol a Dwyrain Ewrop.  Eisoes mae yna fwy o bobl yn dod i'r DU o'r tu allan i 'r UE nag oddi mewn iddi.  Mae hynny wedi bod yn wir trwy gydol hanes y DU fel aelod o'r UE.  Oherwydd strwythur oedran y DU, mae'n debyg y byddwn angen mwy ac nid llai o fewnfudwyr yn y dyfodol i lenwi'r bylchau yn y farchnad lafur - mae'n dra thebygol y bydd yna lai yn dod yma o'r UE - felly bydd mwy yn dod o lefydd eraill.

Hyd yn oed pe na byddai'r economi angen mwy o bobl o oed gweithio, mae gwledydd eraill yn gweld cysylltiad rhwng cytundebau masnach a rhyddid i bobl symud - roedd llywodraeth India yn dweud hynny yn ddiweddar.  Mae yna bron i 1bn o Hindwiaid yn byw yn India ynghyd a 172m o Fwslemiaid - llawer, llawer mwy na'r nifer o Fwslemiaid sy'n  byw ym mhob gwlad  yn Ewrop efo'i gilydd. Mae yna tua 200m o Fwslemiaid yn byw ym Mhacistan, ac mae yna 150m o Fwslemiaid yn byw ym Mangladesh.  Mae yna tua'r un faint Fwslemiaid yn byw yn is gyfandir India a phoblogaeth yr UE - hyd yn oed os ydym yn cyfri poblogaeth y DU.

Y rheswm dwi'n son am Fwslemiaid ydi oherwydd - a barnu o bapurau newydd Asgell Dde megis yr Express a'r Mail a chyfrifon trydar eithafwyr Asgell Dde megis Felix Aubel - mai nhw ydi Iddewon yr unfed ganrif ar hugain.  O'r holl grwpiau nad ydi'r Dde  yn eu hoffi - ac mae'r rhestr yn un hir iawn -  Mwslemiaid sydd ar ar y brig.  Iddewon oedd ar frig y rhestr casineb hyd at yr Ail Ryfel Byd.  

A dyna baradocs y sefyllfa sydd ohoni - rydym ar y ffordd allan o'r UE oherwydd bod y wasg gwrth Ewropiaidd a'r chydadran arwyddocaol o'r sawl a bleidleisiodd i adael y DU yn ddrwgdybus (a dweud y lleiaf) o bobl o wledydd eraill.  Mae'n ddigon posibl mai canlyniad y bleidlais fydd cynnydd mewn mewnfudo gan bobl y bobl sy'n brif wrthrych casineb llawer o'r sawl oedd yn awyddus i adael yr UE.


Friday, January 20, 2017

Goblygiadau Trump a Brexit

Os ydi'r flwyddyn ddiwethaf wedi dangos unrhyw beth i ni dangosodd nad ydi darogan yr hyn sy'n mynd i ddigwydd yn syniad rhy dda - felly 'dwi am osgoi syrthio i mewn i'r trap yna.  Mae'n bosibl fodd bynnag dadlau bod y ddau ddigwyddiad mawr - ethol Trump a Brexit - yn adlewyrchu tueddiadau mawr mewn gwleidyddiaeth.  Mi geisiwn edrych ar y rheiny a beth maent yn eu awgrymu am yr hyn allai ddigwydd tros yr ychydig flynyddoedd nesaf.  Dwi'n sylweddoli fy mod wedi gwneud ymarferoad tebyg ynglyn ag ethol Bush yny forffennol agos - ond mae'r cyfuniad a Bush a Brexit yn creu darlun ychydig yn wahanol.




1). Llai o gydweithrediad rhwng gwledydd.  Mae addewid Trump i 'roi America'n gyntaf' yn amlwg am leihau cydweithrediad rhyngwladol - ac mae'n fwy na thebyg y bydd yn cynyddu gwrthdaro rhyngwladol.  Ymgais ydi'r UE i greu strwythur i alluogi gwledydd sydd yn hanesyddol wedi bod yn elyniaethus i'w gilydd i gydweithredu a chyd dynnu.  Eto mae ymadawiad y DU yn debygol o leihau'r cydweithrediad hwnnw.  Dydi'r ffaith bod Trump yn achub ar pob cyfle i ddweud y byddai'n hoffi gweld yr UE yn chwalu ddim o gymorth mawr chwaith.  Mae'r ffaith bod yr UDA yn colli diddordeb yn NATO hefyd yn awgrymu y gellid gweld ambell i ryfel anisgwyl yma ac acw.

2). Twf economaidd rhyngwladol i ostwng.  Mae Trump wedi ei gwneud yn gwbl glir nad yw'n credu mewn masnach rydd - felly bydd tollau ar pob dim sy'n cael ei fewnforio i'r UDA.  Mae llywodraeth May yn honni ei bod eisiau cytundebau masnach rydd efo pawb.  Rydan ni'n gwybod nad ydi hynny'n mynd i ddigwydd efo America, a rydan ni fwy neu lai 'n siwr na fydd yn digwydd efo'r UE chwaith.  Yn hanesyddol mae mwy o dollau rhyngwladol wedi arwain at lai o fasnach rhyngwladol ac mae hynny yn ei dro wedi arwain at lai o dwf economaidd rhyngwladol.  Bydd yn cymryd amser maith i'r DU negydu ugeiniau o gytundebau efo gwledydd eraill - ychydig iawn o brofiad a chapasiti i wneud hynny sydd yn y DU ar hyn o bryd.

3). Amaethyddiaeth yng Nghymru a'r DU i ddod yn llawer llai pwysig.  Mae pwysigrwydd amaethyddiaeth wedi dirywio'n raddol ers dechrau'r Chwyldro Diwydiannol.  Mae yna resymau i gredu y bydd y dirywiad hwnnw'n parhau.  Dydi hi ddim yn glir y bydd y DU yn gallu fforddio i gynnig cymorthdaliadau yn lle'r drefn CAP - ac mae llawer llai o rym gwleidyddol gan ffermwyr yn y DU na sydd ganddynt ar y cyfandir. Mae tua 80% o incwm y diwydiant amaeth yng Nghymru yn dod trwy gymorthdaliadau CAP ac mae 90% o'n allforion amaethyddol yn mynd i 'r UE.   Mae tollau ar gynnyrch amaethyddol yn uchel iawn - a bydd hynny yn lladd y sector allforio i Ewrop.  Os bydd cytundebau masnach rhydd yn cael eu negydu tros amser bydd llif o fewnforion yn cyrraedd o wledydd o wledydd fel Seland Newydd a gwledydd trydydd byd.  Bydd yn anodd iawn cystadlu efo hynny.  Yng Nghymru bydd hen broses hanesyddol yn cyrraedd ei therfyn.

4). Cynnydd mewn gwariant cyhoeddus yn yr UDA a'r DU - a thwf mewn dyledion cenedlaethol.   Mae Trump wedi datgan y bydd yna wario sylweddol gan y wladwriaeth ar is adeiledd.  Mae'r llywodraeth yn y DU eisoes wedi anghofio bwriad Osborne i gydbwyso gwariant ac incwm, ac i'r graddau hynny mae llymder wedi dod i ben.  Os bydd arafu economaidd sylweddol - neu ddirwasgiad - yn codi yn sgil Brexit yna mae'n fwy na thebyg y bydd llywodraeth y DU yn gwneud rhywbeth tebyg. 

5). Mae Brexit ac ethol Trump yn adlewyrchu newid sylfaenol mewn gwleidyddiaeth.  Mae gwleidyddiaeth hunaniaeth yn fwyaf sydyn ar ganol y llwyfan ac mae'r hollt De / Chwith sydd wedi dominyddu'r rhan fwyaf o'r ganrif ddiwethaf yn llai pwysig.  Mae'r canllawiau gwleidyddol rydym wedi arfer efo nhw wedi datgymalu'n fwyaf sydyn.  Mae goblygiadau i'r math yma o wleidyddiaeth - gall arwain at lai o gydlynnedd cymdeithasol - sy'n broblem mewn gwlad gyda chymaint o bobl o gefndiroedd gwahanol a'r DU.  Mae hefyd yn debygol y bydd annibyniaeth i'r Alban ac ail uno'r Iwerddon yn ol ar yr agenda - ac yn fuan.  Gall hefyd arwain at newidiafau mawr mewn patrymau pleidleisio traddodiadol.

6). Mwy o wariant byd eang ar arfau - ac arfau niwclear.  Mae America am ymyryd llai, ond gwario mwy ar arfau.  Mae hyn yn debygol o arwain at gynnydd mewn gwariant ar arfau yn y DU - a chynnydd mewn gwariant ar arfau y tu hwnt i 'r UDA.  

Monday, January 16, 2017

Niwed masnachol Brexit

Fydda i ddim yn un o'r bobl hynny sy'n teimlo'r angen i ddweud ei ddweud trwy adael sylwadau ar dudalennau sylwadau Golwg360 - ond dwi'n meddwl bod y sylw idiotaidd ar ddiwedd y stori yma werth ychydig o sylw.  

Ymateb a geir i sylw gan Leanne Wood y bydd Brexit 'caled' yn gwneud niwed economaidd i Gymru (ac i'r DU).  Mae'r cyfranwr o'r enw Cledwyn wedi ypsetio am nad ydi o'n cael gwybod beth yn union fydd y niwed economaidd.  Mae yna ddau ateb os mai holi am yr effaith ar fasnach mae Cledwyn - y naill yn hollol amlwg,  a'r llall sydd braidd yn llai amlwg.  Mae un yn ymwneud a thollau ar nwyddau, ac mae'r llall yn ymwneud a tharfu ar gadwyni cyflenwi.  

O adael yr UE bydd rhaid i'r DU osod tollau ar nwyddau sy'n dod o'r UE a bydd rhaid i'r UE osod tollau ar nwyddau sy'n dod o'r DU. 

Felly, os oes  busnes sy'n mewnforio gwin o'r UE bydd pob potel ar y silff sydd wedi ei phrynu o'r UE yn costio cryn dipyn yn fwy. Bydd rhaid i'r gost cael ei drosglwyddo i'r cwsmeriaid yn y pen draw. Golyga hyn y bydd llai o boteli'n cael eu gwerthu, ac y bydd y rhai sydd yn cael eu gwerthu yn ddrud.

Weithiau bydd hyn yn cael yr effaith gadarnhaol ar werthwyr nwyddau sy 'n cael eu cynhyrchu yn y DU - byddant yn fwy cystadleuol oddi mewn i'r DU. Mae hynny'n wych os ydi hi'n bosibl cynhyrchu stwff tebyg i safon uchel yn y DU.  Mae'r broblem yn codi os nad yw hynny'n wir - ac mae 'n wir am lawer o nwyddau - gan gynnwys gwin.

Ond bydd yr un peth yn digwydd yn y cyfeiriad arall.   Bydd busnesau yn y DU yn gweld eu cynnyrch yn dod yn llawer mwy costus ym marchnad enfawr yr Undeb Ewropeaidd.  Hynny yw bydd cig oen sy'n cael ei gynhyrchu yng Nghymru - er enghraifft - yn llawer, llawer drytach yn Ffrainc nag yw rwan. 

Mae yna ail fater hefyd - ac mae'n un mawr - hyd yn oed os nad yw'n cael nemor ddim sylw yn y wasg.  Mae nwyddau sydd ddim yn cael eu masnachu oddi mewn i'r Farchnad Sengl yn gorfod cael eu gwirio wrth iddynt groesi'r ffin i 'r UE. Ynddo'i hun nid yw hyn yn niweidiol, ond os oes gennych lwyth o gydrannau ceir yn gorfod mynd trwy broses fiwrocrataidd mae'n dinistrio'r arfer o dderbyn cydrannau cyn agosed a phosibl at pan maent yn cael eu defnyddio sy'n gyffredin mewn gwaithgynhyrchu. Yn ychwanegol gallai'r broses o gynhyrchu ei hun ddod i stop tra bod cydrannau yn cael eu gwirio gan tollau os oes problem yn codi.

Yr ateb i gynhyrchwyr ydi stocio cydrannau - ond y broblem ydi bod hynny'n uffernol o ddrud - byddai angen creu a thalu am adeiladau storio.  Byddai'n cymryd mwy o lawer o amser i droi cydrannau yn bres.  Byddai yna hefyd gostau ynghlwm a newid modelau busnes yn llwyddiannus i ddelio efo hyn.  Hynny yw - bydd cadwyni cyflenwi yn cael eu tarfu - ac mae hynny'n farwol i gynhyrchwyr.


Friday, January 13, 2017

Fideo wleidyddol yr wythnos

Mississipi Goddam gan Nina Simone ydi'r fideo yr wythnos yma.  Yn amlwg mae'r gan yn dod o gyfnod hawliau sifil yn yr UDA.  Mae'r geiriau yn edrych yn ddigon di niwed heddiw, ond ar y pryd roedd yn cymryd cryn ddewrder i rhywun croenddu feirniadu gwleidyddion a thaleithiau yn Ne'r UDA yn gyhoeddus.

Cafodd y gan ei chyfansoddi yn dilyn llofruddiaeth actifydd hawliau sifil o'r enw Medgar Evers yn 1963 gan Byron De La Beckwith - aelod o'r Klu Klux Klan.  





Wednesday, January 11, 2017

A beth sy'n mynd ymlaen yng Ngogledd Iwerddon

Er bod ymddiswyddiad diweddar Martin McGuinness yn ymddangos fel ymateb i'r sgandal hynod Wyddelig ei naws - Ash for Cash - nid dyna sy'n digwydd mewn gwirionedd.  Mewn amgylchiadau arferol byddai Sinn Fein yng Ngogledd Iwerddon wedi lled anwybyddu'r peth er bod y blaid yn y Weriniaeth yn llawer mwy piwritanaidd ynglyn a cham ymddwyn ariannol.  Beth sydd yn mynd ymlaen felly?



Cyn ateb y cwestiwn hwnnw mae'n rhaid deall y ffordd mae Sinn Fein yn rhesymu fel plaid.  Mae hi'n blaid hynod anarferol, a'r rheswm am hynny ydi cysylltiadau milwrol ei harweinyddiaeth.  Mae Sinn Fein yn rhesymu mewn ffordd digon tebyg i sut oedd yr IRA yn rhesymu.  Mae strategaethau'r Mudiad Gweriniaethol pob amser yn gweithio mewn ffram amser hir.  Does gan y mudiad ddim diddordeb mewn strategaethau byr dymor - mae pob dim ynglyn ag ennill mantais yn yr hir dymor. Canlyniad hyn yn aml ydi cyfnodau hir, distaw yn cael ei ddilyn gan newyd cyflym radicalaidd. Ymateb ydi 'r hyn ddigwyddodd echdoe i fethiant rhannol mewn strategaeth tymor hir.  Mae'r rhan fwyaf o bleidiau yn gweithio mewn ffram amser llawer llai.

Y bwriad yn dilyn Cytundeb Dydd Gwener y Groglith oedd adeiladu dylanwad gwleidyddol ar ddwy ochr y ffin er mwyn defnyddio'r sefydliadau a strwythurau oedd wedi eu creu gan y cytundeb i hyrwyddo'r broses o ail uno'r wlad.  Mae'r broses o adeiladu cefnogaeth yn y Weriniaeth wedi mynd rhagddo yn dda - mae'r blaid wedi datblygu cefnogaeth ar hyd a lled y wlad ac mae'n bresenoldeb grymus yn y Dail.  Cyn y cytundeb roedd yn gwbl ymylol i wleidyddiaeth y Weriniaeth.

Ond 'dydi'r ochr arall heb weithio cystal.  Tyfodd cefnogaeth wleidyddol Sinn Fein yn y Gogledd yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd yn dilyn yr ymprydiau newyn ar ddechrau'r 80au - ond ni pharhaodd y twf wedi hynny oherwydd na lwyddwyd i adeiladu cefnogaeth y tu hwnt i berfedd diroedd yr IRA.  Parhaodd y rhan fwyaf o genedlaetholwyr i bleidleisio i'r SDLP.  Newidiodd Cytundeb Dydd Gwener y Groglith hynny, ac yn dilyn y cytundeb achubodd Sinn Fein y blaen ar yr SDLP am y tro cyntaf ers 2001.  Ers hynny mae'r gwahaniaeth rhwng y ddwy blaid wedi parhau i dyfu - ac mae SF bellach yn cael tua dwywaith cymaint o bleidleisiau a'r SNP.  

Serch hynny - yn groes i ddisgwyliadau arweinyddiaeth y Mudiad Gweriniaethol  - ni thyfodd y bleidlais genedlaetholgar at ei gilydd o tua 2005 ymlaen - os rhywbeth mae wedi dechrau syrthio'n ol.  Roedd hyn yn anisgwyl oherwydd bod y ganran o Babyddion yn y boblogaeth yn tyfu o flwyddyn i flwyddyn - ac yn ystod y rhyfel roedd Pabyddion yn llawer mwy tebygol o bleidleisio na Phrotestaniaid.

Mae'n debyg mai'r rheswm am hyn ydi natur y sefydliadau sydd wedi eu creu yn sgil Cytundeb Dydd Gwener y Groglith.  Gan bod grym yn gorfod cael ei rannu rhwng Unoliaethwyr a Chenedlaetholwyr mae SF bellach yn cael ei gweld fel rhan o'r sefydliad.  Mae cefnogwyr naturiol SF yn y Gogledd yn bobl hynod wrth sefydliadol.  O ganlyniad mae nhw'n fwy tueddol i aros adref ar ddiwrnod etholiad nag oeddynt yn y gorffennol.

Rhan o ymgais i newid pethau ydi digwyddiadau echdoe.  Mae'r blaid am gael ei hail frandio a'i hail leoli'n wleidyddol i fod yn rhywbeth mwy gwrth sefydliadol o lawer - a gallai hynny arwain at ail negydu'r ffordd mae elfennau o'r strwythurau a grewyd yn gweithio.  Gallai hefyd arwain at lywodraethiant uniongyrchol o San Steffan am gyfnod estynedig.

Ac mae yna un peth arall wrth gwrs - Brexit.  Mae'r bleidlais honno wedi cynnig posibiliadau newydd o ran annibyniaeth i'r Alban, ac mae'n cynnig posibiliadau o ran ail uno'r Iwerddon hefyd.  Bydd cael dwy gyfundrefn economaidd hollol wahanol ar ynys sydd wedi ei hintigreiddio mewn rhai ffyrdd yn creu problemau sylweddol.  Bydd y blaid yn ceisio manteisio ar hynny - ac nid fel plaid lywodraethol mae gwneud hynny. 






Sunday, January 08, 2017

Beth sy'n mynd ymlaen yn yr Alban?

Mae datganiadau Nicola Sturgeon tros y dyddiau diwethaf yn ddiddorol - ac yn awgrymu bod gan yr SNP fap pendant o'r ffordd ymlaen.  Mae hyn yn cyferbynu'n eithaf amlwg efo llywodraeth y DU - sy'n ymddangos i fod yn rhanedig ac aneglur ynglyn a'r hyn mae eisiau ei wneud.  Gadewch i ni geisio deall yr hyn mae'r SNP yn ceisio ei wneud.  Dywedwyd dau beth gan Nicola Sturgeon tros y dyddiau diwethaf:  

1). Na fydd yr SNP yn galw refferendwm ar annibyniaeth i'r Alban yn y tymor canolig os bydd y DU yn aros yn y Farchnad Sengl.

2). Y bydd yr SNP yn galw refferendwm mewn dwy flynedd os bydd y DU yn gadael y Farchnad Sengl.



Rwan ar un olwg mae hyn yn ymddangos yn rhyfedd.  Byddai rhywun yn disgwyl iddi fod yn anos i 'r Alban adael y DU os bydd tollau ar allforion a mewnforion o ac i'r UE.  Mae'r farchnad rhwng gweddill y DU a'r Alban yn llawer mwy na'r farchnad rhwng yr Alban a'r UE.  Petai'r DU yn gadael y Farchnad Sengl, yna y DU fyddai'r Farchnad Sengl i 'r Alban.  Byddai codi wal o dollau ar hyd y ffin efo Lloegr yn broblem.

Ond mae yna ffordd arall o edrych ar bethau.  Byddai gadael y DU hefyd yn rhoi cyfleoedd i'r Alban petai Prydain allan o'r Farchnad Sengl.  Ceir dau brif gyfle - neu un cyfle efo dwy agwedd iddi mewn gwirionedd.

1). Gallwn fod yn weddol sicr y byddai gwledydd yr UE yn syrthio tros ei gilydd yn cystadlu am farchnadoedd Prydain petaent yn gadael y Farchnad Sengl.  Gallai 'r Alban fod yn rhan o'r sgrambl yna.

2). Byddai'r Alban mewn lle delfrydol - yn ddaearyddol, ieithyddol a diwylliannol - i gystadlu am lawer o'r hyn y byddai gweddill y DU yn ei golli.  Byddai Paris, Frankfurt, Dulyn a Chaeredin yn cystadlu i ddenu sefydliadau ariannol - ond byddai Dulyn a Chaeredin gyda manteision oherwydd y byddai'n haws adleoli staff yna.  Petai cwmni ceir eisiau adleoli, byddai'n haws symud tros y ffin na symud tros y dwr. 

Byddai natur refferendwm o dan yr amgylchiadau yma'n dra gwahanol i'r un diwethaf - ond byddai yna naratif 'Ia' atyniadol y gellid ei chreu - yn arbennig felly os y byddai sefydliadau masnachol ac ariannol eisoes yn chwilio am gyfleoedd i adleoli. 


Friday, January 06, 2017

Y Dib Lems ers Brexit

Dwi wedi dwyn y graff isod o'r wefan politicalbetting.com - ac mae'n cyfleu rhywbeth diddorol.


Yr hyn rydym yn ei weld ydi llwyddiant i'r Lib Dems - o gymharu a'r etholiad flaenorol.  Mae'r Lib Dems yn ddi amwys gefnogol i 'r UE wrth gwrs.  Mae'r un peth yn wir am y Gwyrddion.  Mae'r Toriaid - bellach - ac UKIP yn ddi amwys eisiau gadael yr UE ac mae Llafur eisiau rhywbeth neu'i gilydd, ond does neb yn rhy siwr beth.  

Yr hyn sy'n ddiddorol ydi mor dda mae'r Lib Dems yn gwneud mewn ardaloedd a bleidleisiodd i adael. Hyd yn oed yn yr ardaloedd hynny mae yna leiafrif sylweddol - a lleiafrif sy'n fwy na pharod i fynd i bleidleisio - oedd eisiau aros yn yr UE.  Mae'r Lib Dems yn eu corlanu oherwydd nad ydynt yn gorfod cystadlu efo neb am eu pleidleisiau.

Mae'r wers yng Nghymru yn weddol amlwg mi dybiwn.

Monday, January 02, 2017

Problem y Blaid Lafur

Dydw i ddim yn arbennig o falch bod pol heddiw wedi dangos bod Llafur tros y DU wedi syrthio i cyn ised a 24%, wedi'r cwbl mae pob plaid unoliaethol arall yn waeth na nhw rwan mae nhw wedi cael gwared o Blair a Brown.  Ond does yna ddim llawer o amheuaeth bod y dyfodol canolig yn edrych yn ddrwg arnyn nhw, ac mae'r rhesymau am hynny yn weddol hawdd i'w harenwi.



Dydw i ddim yn meddwl bod yr hyn mae eu harweinydd yn ei ddweud yn arbennig o amhoblogaidd, nag yn wir yn amhoblogaidd o gwbl - ond mae nifer o ffactorau yn ei wneud yn amhoblogaidd - ei gymeriad anarferol i arweinydd plaid, gwrthwynebiad chwyrn unfrydol  y cyfryngau torfol, gwrthwynebiad chwyrn a hoffter o ryfela cartref y rhan fwyaf o aelodau seneddol Llafur.  Ond fel mae'r graff isod yn ei ddangos dydi pethau heb wella yn dilyn yr etholiad arweinyddol - yn wir maent wedi mynd cryn dipyn yn waeth.


Y rheswm am hynny yn ol pob tebyg ydi Brexit - neu a bod yn fwy manwl ymateb Llafur i Brexit.  Mae refferendwm y llynedd yn ddigwyddiad arwyddocaol a sylweddol ac mae sut y pleidleisiodd pobl yn debygol o effeithio ar y ffordd maent yn edrych arnynt eu hunain yn wleidyddol ac yn diffinio eu hunain yn wleidyddol.

Mae'r Toriaid wedi ymateb trwy symud i 'r Dde, a mynegi 'r bwriad i adael Ewrop, a gwneud hynny mewn modd fydd yn dod a mewnlifiad i ben.  Dydi'r ffaith eu bod yn gobeithio am rhywbeth afresymegol - aelodaeth o'r farchnad rydd ond dim mewnfudo - ddim yma nag acw, mae'r safbwynt yn glir a dealladwy.  Mae'r un peth yn wir am y Dib Lems, UKIP ac yn wir Plaid Cymru.  Dydi hynny ddim yn wir am Lafur - mae eu hymateb yn gymhleth.  

Mae'r rheswm am hynny ynddo ei hun yn eithaf cymhleth.  Er i fwyafrif da o bleidleiswyr 2015 Llafur bleidleisio i aros (mae'r ganran yn debyg i un Plaid Cymru, y Dib Lems a'r SNP) os ydynt i ennill etholiad cyffredinol mae'n rhaid iddynt apelio at grwpiau ychwanegol - ac mae'r rheini at ei gilydd wedi pleidleisio i adael (pleidleiswyr UKIP a phobl sydd ddim yn pleidleisio gan amlaf yn bennaf).  Felly mae'n rhaid iddynt gael o leiaf un droed efo'r sawl sydd am adael - a chystadlu efo'r Toriaid ac UKIP yn y pwll hwnnw.  Mae hynny'n gadael y pwll arall - un y 48% a bleidleisiodd i aros - yn eithaf rhydd i'r Dib Lems a'r Gwyrddion yn Lloegr, ac i'r pleidiau hynny a'r pleidiau cenedlaetholgar yng Nghymru a'r Alban.  

Felly maent mewn perygl o golli pleidleisiau i UKIP ymysg y sawl nad ydynt yn credu eu bod yn ddigon cefnogol i Brexit ar un llaw, ac i'r cenedlaetholwyr, Dib Lems a'r Gwyrddion ymysg y sawl nad ydynt am adael Ewrop.  Bydd eleni yn cael ei dominydfu 'n wleidyddol gan y negydu fydd yn digwydd yn sgil gweithrefu Erthygl 50.  Bydd hynny yn debygol o bolareiddio pobl, ac mae perygl y bydd Llafur yn cael ei gadael ar y ffens - neu'n meddiannu tir neb.  Bydd hyn yn ei dro yn eu gwneud yn amherthnasol - ac mae bod yn amherthnasol yn farwol i bleidiau gwleidyddol.

Sunday, January 01, 2017

Ffigyrau'r flwyddyn

O wel - dyma'r ffigyrau i lawr am y tro cyntaf yn hanes y blog - neu ers i ni ddechrau cyfri beth bynnag. Mae'r ffigwr ymwelwyr unigryw - y llinyn mesur pwysicaf am wn i - ar eu hisaf ers 2010.  

A'r rhesymau?  Dwi wedi blogio llai na'r llynedd, mae yna lai o flogiau eraill felly mae yna llai o draffig o flog i flog, doedd dim cymaint o ddiddordeb yn etholiad Cynulliad 2016 nag oedd yn etholiad San Steffan na refferendwm yr Alban (ar adegau felly mae'r traffig drymaf o lawer) ac efallai fy mod i'n mynd yn hen a boring.

Mi wnawn ni fwy o ymdrech eleni.