Mae yna gryn dipyn o son wedi bod ynglyn a statws cyfansoddiadol yr Alban yn sgil Brexit gyda chryn dipyn o ddarogan y bydd refferendwm annibyniaeth arall yn cael ei chynnal cyn diwedd y ddegawd. Mae'r sefyllfa newydd yn creu sefyllfa heriol i'r sawl sydd am weld Alban annibynnol - mae llawer mwy o allforion yr Alban yn mynd i Loegr na sy'n mynd i'r UE - a bydd hynny'n creu problem os bydd tollau yn y dyfodol ar allforion a mewnforion i 'r DU.
Beth bynnag, y sefyllfa ar hyn o bryd yn ol y rhan fwyaf o bolau ydi bod pethau'n ddigon tebyg i'r hyn roeddynt yn y refferendwm yn 2014 gyda tua 55% o blaid aros yn y DU a thua 45% o blaid annibyniaeth. Ni fydd hynny'n fawr o boen i 'e SNP - roedd yr ochr 'Ia' yn llawer pellach y tu ol cyn i'r ymgyrchu ddechrau yn 2014.
Ond yr hyn sydd heb gael llawer o sylw ydi'r effaith ar Ogledd Iwerddon. Mae yna lawer iawn o fasnach, teithio a chysylltiadau diwylliannol rhwng De a Gogledd yr ynys. Mae'r polio sydd wedi digwydd hyd yn hyn - megis yr isod gan Lucid Talk - yn awgrymu bod cryn symudiad wedi bod tuag at ail uno'r ynys. Mae'r ddau gwestiwn ar ben y graff yn awgrymu faint o bobl sydd o blaid aros yn y DU ac mae'r ddau gwestiwn ar y gwaelod yn awgrymu faint sydd o blaid ail uno'r ynys. Mae'r canlyniadau yn dod i tua 55% i 45% o blaid aros yn y DU - bwlch llai nag a gafwyd erioed mae'n debyg. Dim ond chwarter y boblogaeth sydd o blaid yr hyn sydd yn debygol o ddigwydd - Gogledd Iwerddon yn aros yn y DU.
O edrych ar y canlyniad o safbwynt pobl o gefndir Protestanaidd / unoliaethol yn unig mae dau beth yn ddiddorol - bod y mwyafrif am aros yn y DU, a bod bron i 9% eisiau ymuno efo gweddill yr ynys. O gymharu a ffigyrau hanesyddol mae'r ffigwr hwnnw yn uchel.
O edych ar y ffigyrau ar gyfer pobl o gefndir Pabyddol / cenedlaetholgar mae'r ffigyrau hefyd yn ddiddorol. Ymddengys bod y mwyafrif llethol (tua 95%) o blaid ail uno'r ynys. Mae hwn yn ganran llawer, llawer uwch nag a gafwyd yn y gorffennol agos.
Felly mae'n wir bod Brexit yn bygwth undod y DU - ond mae'r bygythiad hwnnw'n ehangach nag i statws yr Alban yn unig.
Diddorol. Tybed all Sin Feinn droi'r etholiad newydd ym mis Mawrth yn etholiad am "Aros yn Ewrop"?
ReplyDelete