Os ydi'r flwyddyn ddiwethaf wedi dangos unrhyw beth i ni dangosodd nad ydi darogan yr hyn sy'n mynd i ddigwydd yn syniad rhy dda - felly 'dwi am osgoi syrthio i mewn i'r trap yna. Mae'n bosibl fodd bynnag dadlau bod y ddau ddigwyddiad mawr - ethol Trump a Brexit - yn adlewyrchu tueddiadau mawr mewn gwleidyddiaeth. Mi geisiwn edrych ar y rheiny a beth maent yn eu awgrymu am yr hyn allai ddigwydd tros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Dwi'n sylweddoli fy mod wedi gwneud ymarferoad tebyg ynglyn ag ethol Bush yny forffennol agos - ond mae'r cyfuniad a Bush a Brexit yn creu darlun ychydig yn wahanol.
2). Twf economaidd rhyngwladol i ostwng. Mae Trump wedi ei gwneud yn gwbl glir nad yw'n credu mewn masnach rydd - felly bydd tollau ar pob dim sy'n cael ei fewnforio i'r UDA. Mae llywodraeth May yn honni ei bod eisiau cytundebau masnach rydd efo pawb. Rydan ni'n gwybod nad ydi hynny'n mynd i ddigwydd efo America, a rydan ni fwy neu lai 'n siwr na fydd yn digwydd efo'r UE chwaith. Yn hanesyddol mae mwy o dollau rhyngwladol wedi arwain at lai o fasnach rhyngwladol ac mae hynny yn ei dro wedi arwain at lai o dwf economaidd rhyngwladol. Bydd yn cymryd amser maith i'r DU negydu ugeiniau o gytundebau efo gwledydd eraill - ychydig iawn o brofiad a chapasiti i wneud hynny sydd yn y DU ar hyn o bryd.
3). Amaethyddiaeth yng Nghymru a'r DU i ddod yn llawer llai pwysig. Mae pwysigrwydd amaethyddiaeth wedi dirywio'n raddol ers dechrau'r Chwyldro Diwydiannol. Mae yna resymau i gredu y bydd y dirywiad hwnnw'n parhau. Dydi hi ddim yn glir y bydd y DU yn gallu fforddio i gynnig cymorthdaliadau yn lle'r drefn CAP - ac mae llawer llai o rym gwleidyddol gan ffermwyr yn y DU na sydd ganddynt ar y cyfandir. Mae tua 80% o incwm y diwydiant amaeth yng Nghymru yn dod trwy gymorthdaliadau CAP ac mae 90% o'n allforion amaethyddol yn mynd i 'r UE. Mae tollau ar gynnyrch amaethyddol yn uchel iawn - a bydd hynny yn lladd y sector allforio i Ewrop. Os bydd cytundebau masnach rhydd yn cael eu negydu tros amser bydd llif o fewnforion yn cyrraedd o wledydd o wledydd fel Seland Newydd a gwledydd trydydd byd. Bydd yn anodd iawn cystadlu efo hynny. Yng Nghymru bydd hen broses hanesyddol yn cyrraedd ei therfyn.
4). Cynnydd mewn gwariant cyhoeddus yn yr UDA a'r DU - a thwf mewn dyledion cenedlaethol. Mae Trump wedi datgan y bydd yna wario sylweddol gan y wladwriaeth ar is adeiledd. Mae'r llywodraeth yn y DU eisoes wedi anghofio bwriad Osborne i gydbwyso gwariant ac incwm, ac i'r graddau hynny mae llymder wedi dod i ben. Os bydd arafu economaidd sylweddol - neu ddirwasgiad - yn codi yn sgil Brexit yna mae'n fwy na thebyg y bydd llywodraeth y DU yn gwneud rhywbeth tebyg.
5). Mae Brexit ac ethol Trump yn adlewyrchu newid sylfaenol mewn gwleidyddiaeth. Mae gwleidyddiaeth hunaniaeth yn fwyaf sydyn ar ganol y llwyfan ac mae'r hollt De / Chwith sydd wedi dominyddu'r rhan fwyaf o'r ganrif ddiwethaf yn llai pwysig. Mae'r canllawiau gwleidyddol rydym wedi arfer efo nhw wedi datgymalu'n fwyaf sydyn. Mae goblygiadau i'r math yma o wleidyddiaeth - gall arwain at lai o gydlynnedd cymdeithasol - sy'n broblem mewn gwlad gyda chymaint o bobl o gefndiroedd gwahanol a'r DU. Mae hefyd yn debygol y bydd annibyniaeth i'r Alban ac ail uno'r Iwerddon yn ol ar yr agenda - ac yn fuan. Gall hefyd arwain at newidiafau mawr mewn patrymau pleidleisio traddodiadol.
6). Mwy o wariant byd eang ar arfau - ac arfau niwclear. Mae America am ymyryd llai, ond gwario mwy ar arfau. Mae hyn yn debygol o arwain at gynnydd mewn gwariant ar arfau yn y DU - a chynnydd mewn gwariant ar arfau y tu hwnt i 'r UDA.
No comments:
Post a Comment