Wednesday, August 31, 2016

Y cynllwyn gwirionaf erioed?

Os ydi pol ddoe yn agos at fod yn gywir, a bod Jeremy Corbyn am ennill yr etholiad arweinyddol o filltiroedd, mae'n debyg gen i mai cynllwyn y gwrthryfelwyr ydi un ymgeisiadau mwyaf pathetig o wirion erioed ar coup d'etat gwleidyddol.

Drannoeth y refferendwm roedd Llafur mewn lle cymharol dda o gymharu a'r Toriaid.  Roedd y rhan fwyaf o'u cefnogwyr yn siomedig, ond doedd yna ddim rheswm gwirioneddol i anobeithio.  Roedd yr aelodau etholedig i gyd (fwy neu lai) wedi bod ar yr un ochr o'r ddadl, roedd tua 2/3 o gefnogwyr Llafur wedi pleidleisio i aros (ffigwr tebyg i un y Blaid a'r SNP gyda llaw), roedd y Toriaid yn ddi arweinydd ac am waed ei gilydd ac roedd y pol piniwn a gyhoeddwyd yn syth wedi'r refferendwm yn awgrymu bod Llafur ar y blaen (o fymryn) am y tro cyntaf ers cyn etholiad 2015.

A dyma ni heddiw - ddim cymaint a hynny o wythnosau wedyn - efo'r Toriaid yn gymharol unedig a milltiroedd ar y blaen yn y polau a mwyafrif llethol aelodau seneddol Llafur wedi gwrthod gwneud yr hyn maent wedi ei ethol i'w wneud - gwrthwynebu'r Toriaid a gwrthwynebu eu harweinyddiaeth eu hunain yn lle hynny.  

Ac mae'r dyfodol yn edrych hyd yn oed yn fwy ansicr.  Bydd canran go lew o'r aelodau seneddol gwrthryfelgar mewn perygl o gael eu dad ddewis gan yr aelodaeth oherwydd eu hymddygiad, mae posibilrwydd go iawn y bydd y blaid yn hollti 'n ddau, neu dri neu fwy, bydd y Chwith yn cael ei gorfodi i dynhau ei gafael ar strwythurau mewnol y blaid i osgoi cael y shambyls yma'n flynyddol (mae hyn eisoes wedi cychwyn), ac mae llinellau ymosod y Toriaid ar Lafur mewn etholiadau sydd i ddod eisoes wedi eu llunio gan aelodau seneddol Llafur.  

Mae'r rhesymau am yr hyn ddigwyddodd yn eithaf clir.  Dydi'r aelodau seneddol a wrthryfelodd ddim yn deall Corbyn, a dydyn nhw ddim yn deall aelodaeth eu plaid eu hunain.  

Roedd y busnes o ymddiswyddo o'r cabinet a gorfodi pleidlais o ddiffyg hyder yn Corbyn yn ymgais i'w gwneud yn amhosibl iddo arwain yr wrthblaid yn effeithiol a'i orfodi i ymddiswyddo oherwydd hynny.  Mae sicrhau rheolaeth y Chwith tros y Blaid Lafur yn bwysicach i Corbyn nag ydi arwain yr wrthblaid yn effeithiol.  Fydd o ddim yn mynd i'r unman o'i wirfodd nes ei fod yn gwybod bod y rheolaeth hwnnw wedi ei sicrhau.  Bydd hyn yn digwydd yn gynt yn hytrach na'n hwyrach rwan.  

A doedd aelodaeth y Blaid Lafur - yn ei ffurf bresenol yn dilyn y mewnlifiad anferth o ddilynwyr y Chwith ehangach tros y flwyddyn diwethaf - erioed am bleidleisio yn erbyn Corbyn - yn sicr ddim os mai gwleidydd ail neu drydydd rheng sy'n ymddangos yn ddi waelod yw ei unig wrthwynebydd. 

Diolch byth nad fy mhroblem i ydi hon!




Tuesday, August 30, 2016

Cwestiwn bach diddorol

Mae'r cyfryngau i gyd yn erbyn Corbyn - gydag eithriad esoteric braidd y Morning Star.  Mae hyn yn wir am y teledu a'r radio yn ogystal a'r papurau.  Rydym yn ol ym mis Medi 2014 i raddau pan roedd adolygiadau'r papurau ar sianeli newyddion 24 awr y Bib yn cynnwys dau westai chwyrn (ac aml anwybodus) eu gwrthwynebiad i annibyniaeth i'r Alban, a chadeirydd oedd yn cytuno'n llwyr efo nhw.  Ond Corbyn yn hytrach nag annibyniaeth ydi testun y llif unochrog y tro hwn.

Mae yna sawl naratif gwrth Corbyn ar waith, ond y prif un yw ei fod yn gwbl anetholadwy - ac mae yna ddadl dealladwy bod hynny'n wir - er bod yna wrth ddadl hefyd.  

Rwan byddai rhywun yn deall pam y byddai'r Guardian neu'r Mirror yn gwrthwynebu'r dyn am y rheswm hwn.  Maen nhw am weld llywodraeth Lafur cyn gynted a phosibl.  Ond mae tua tri chwarter y papurau newydd yn cefnogi'r Toriaid.  Os ydynt mewn gwirionedd yn credu bod Corbyn yn anetholadwy, byddai rhywun yn dychmygu y byddai ei gael yn arweinydd Llafur yn 2020 yn rhywbeth i'w groesawu'n fawr o'u safbwynt nhw.  Ond dydyn nhw ddim yn ei groesawu - maent yn ymateb i'r syniad o barhad yn arweinyddiaeth y dyn efo gwrthwynebiad sy'n ymylu ar yr hysteraidd a dagreuol.

Tybed pam?

Dewch o hyd i'r gyllell

Rwyf wrth gwrs yn ymwybodol bod rhai o ddarllenwyr Blogmenai mewn oed mawr, a thra bod yna anfanteision amlwg i henaint mae yna fanteision hefyd.  Un o'r rheiny ydy eich bod yn cofio pethau nad ydi'r rhan fwyaf o bobl eraill yn eu cofio.  Er enghraifft dyna i chi'r cystadlaethau hynny arferai ymddangos mewn papurau newydd - 'Dewch o hyd i'r bel' neu Spot the ball.

Roedd y gem yn syml yn y bon - byddai llun o olygfa o gem beldroed yn ymddangos yn y papur ond gyda'r bel wedi ei chuddio.  Byddai'r cystadleuwyr yn rhoi croes ar ble bynnag roeddynt yn meddwl y dylai'r bel fod, a byddai pwy bynnag oedd agosaf at ddewis y lleoliad cywir yn ennill gwobr - ac weithiau un go fawr.

Beth bynnag, roeddwn yn rhyw feddwl y byddai'n syniad cael cystadleuaeth debyg ar Flogmenai - 'Dewch o hyd i'r gyllell'.  Mae'r gem yn debyg iawn i 'Dewch o hyd i'r bel' ond efo un addasiad bach.  Chwilio am gyllell ac nid pel mae'r cystadleuwyr.  

Llun o rai o Lafurwyr ifanc Arfon yn cwrdd ag arweinydd eu plaid yn Llandudno y llynedd sydd isod.  Ymddengys bod rhai ohonynt o'r farn ei fod yn gwbl anaddas i arwain ei blaid, ac maen nhw eisiau cael gwared ohono asap.  Felly eich tasg chi - os ydych am gymryd rhan yn y gystadleuaeth - ydi rhoi croes ar lle'r ydych yn meddwl mae'r gyllell.  

Pob lwc.


Monday, August 29, 2016

Dydi'r fan hyn ddim yn lle da i fod

Bydd yr etholiadau nesaf yn cael eu cynnal ym mis Mai - etholiadau cyngor fydd y rheiny.  Cymaint yr anhrefn mae'r gwrthryfelwyr oddi mewn y Blaid Lafur wedi ei achosi i'w plaid fel nad ydym ni'n gwybod sawl fersiwn o'r Blaid Lafur fydd yn bodoli erbyn hynny.  Gallai fod yn chwech - dwy yng Nghymru, dwy yn Lloegr a dwy yn yr Alban - neu gallai fod yn llai na hynny.  Yr hyn sy'n sicr ydi os mai Corbyn sy'n ennill - ac mae hynny'n debygol iawn er bod pob papur o'r Telegraph i'r Guardian wedi bod yn lladd arno, a bod y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol wedi bod yn atal ei gefnogwyr rhag pleidleisio - bydd yn anodd iawn i'r aelodau seneddol gwrthryfelgar aros.  Mae'r hyn sydd wedi ei wneud, wedi ei wneud, a bydd yr hyn sydd wedi ei ddweud am gaei ailadrodd hyd at syrffed mewn propoganda etholiadol Toriaidd tra bydd Corbyn yn arwain.  



Mae yna bosibilrwydd cymharol fychan y bydd Corbyn yn colli - ond byddai hollt yn dal yn bosibilrwydd cryf - yn enwedig felly os y byddai yna deimlad ei fod wedi colli oherwydd twyll a jerimandro.  

Beth felly fyddai'n digwydd petai Llafur tros y DU yn hollti'n ddwy blaid tros y DU?  Wel, petai cefnogaeth Llafur yn aros tua 2:1 efo pwy bynnag fydd yn arwain Llafur gyda'r gweddill yn mynd efo'r blaid newydd, a bod y polau piniwn yn aros lle maen nhw rwan, byddai Llafur yn coll tua 70 sedd tros y DU.  Byddai hyn yn eu gadael efo tua 160 sedd a byddai'r Toriaid efo tua 390.   Y seddi fyddai'n syrthio yng Nghymru ydi'r ddwy sedd Casnewydd, Ynys Mon, Alyn a Glannau Dyfrdwy, Delyn, De Clwyd, Wrecsam a Phen y Bont.  Byddai Gorllewin a De Caerdydd, Gorllewin Abertawe, Torfaen a Llanelli hefyd o dan gryn fygythiad.  Byddai'r gyflafan yn llawer gwaeth mewn etholiad Cynulliad gyda bron i'r cwbl o'r seddi uniongyrchol yn cwympo.

Mae yna, fodd bynnag gymhlethdodau ychwanegol.  Y mwyaf amlwg wrth gwrs ydi bod y Comisiwn Ffiniau ar fin cyhoeddi eu newidiadau i'r etholaethau - ac mae'r rheiny yn siwr o gael mwy o effaith ar Lafur na neb arall.  Gallai'r 160 droi'n llai na 130 yn hawdd iawn.  

Cymhlethdod arall sy'n cael ei greu gan y newid ffiniau ydi y bydd yn gwneud hollt yn fwy tebygol.  Bydd rhaid i fwyafrif llethol yr aelodau seneddol gystadlu am y seddi newydd fydd yn ymddangos o'r ad drefnu mawr, a bydd aelodau cyffredin yn yr etholaethau'n flin iawn efo'r gwrthryfelwyr am achosi'r fath lanast oddi mewn i 'r Blaid Lafur ers Brexit - cyfnod lle dylai'r blaid fod wedi mynd ati i fanteisio ar y  rhaniadau twfn oddi mewn i'r Blaid Geidwadol.  Bydd y bygythiad o golli enwebiaethau yn cynyddu'r demtasiwn i dorri'n glir yn sylweddol. 

Ac mae hi'n mynd yn fwy cymhleth eto.  Dydan ni ddim yn siwr faint o bleidiau Llafur fydd gennym ni.  Mae Carwyn Jones wedi aros yn gymharol glir o bethau - ac mae'n debyg nad oedd hynny'n beth hawdd iddo i'w wneud.  Mae'n debyg mai'r rheswm am hynny ydi ei fod yn gobeitjio osgoi hollt yn y blaid yng Nghymru, hyd yn oed os ydi hi 'n hollti yn Lloegr.  O bosibl bydd yn llwyddo - ond bydd y newidiadau yn y ffiniau yn brathu'n ddyfnach yng Nghymru nag yn Lloegr.

Dydi Kezia Dugdale yn yr Alban heb fod mor ofalus, ac mae hi wedi bod yn llafar iawn ei chefnogaeth i Owen Smith.  Gallwn gymryd y bydd cefnogwyr Corbyn am ei gwaed drannoeth a datganiad - ac o ystyried canlyniadau etholiad Holyrood, dydi ei sefyllfa ddim yn gryf.  Un cymhlethdod bach yma ydi bod son bod dilynwyr Corbyn yn yr Alban o blaid torri cysylltiad yn llwyr efo'r blaid yn Lloegr, tra nad ydi Dugdale am wneud hynny.  

Ac mae yna bosibilrwydd arall - mae'r Lib Dems ar hyn o bryd yn blaid sydd heb aelodau seneddol, a gallai'r gwrthryfelwyr yn hawdd fod yn aelodau seneddol sydd heb blaid maes o law  _ _ .

Saturday, August 27, 2016

Owen Smith a mewnfudo

Fydda i ddim yn canmol WalesOnline yn aml iawn, ond mae'n debyg y dylid gwneud hynny mewn perthynas a'r stori yma.

Yn y bon mae'r stori yn nodi bod sylwadau Owen Smith - bod pwysau mawr ar y gwasanaeth addysg yn Rhondda Cynon Taf oherwydd pobl sy'n chwilio am loches wedi symud yno - yn gwbl groes i'r ffeithiau.
  • Mae yna 476 lle gwag yn ysgolion cynradd RCT.
  • Mae yna 715 lle gwag yn ysgolion uwchradd RCT.
  • Mae fwy neu lai pawb yn cael mynd i ysgol o'u dewis.
  • 2.1% yn unig o drigolion Rhondda Cynon Taf sydd wedi eu geni y tu allan i'r DU - un o'r ffigyrau isaf yn y DU. 
  • Mae'r niferoedd o bobl o wledydd eraill yn yr ardal yn gostwng.
  • Mae'n debyg mai 18 o bobl sy 'n chwilio am loches sydd wedi symud i'r ardal ers diwedd y gwanwyn.  Mae poblogaeth RCT yn anferth - yr ail sir mwyaf poblog yng Nghymru.
Felly er gwaethaf ei honiadau ei fod yn adain Chwith ac union yr un peth a Jeremy Corbyn yn y bon (ond nad yw'n dioddef o afiechyd meddwl a'i fod felly 'n etholadwy)  mae'n gor ddweud yn hysteraidd - fel y Daily Express, Nigel Farage, neu Felix Aubel - pan mae'n trafod mewnfudo.




Friday, August 26, 2016

Cywiriad bach

Dwi'n gwybod bod cynghorydd yn ymddiswyddo o'r grwp Llafur ar Gyngor Caerdydd yn ddigwyddiad eithriadol o gyffredin, ond mae'r Bib yn gor wneud pethau braidd yn yr adroddiad isod.  

Ward yng Nghasnewydd ydi St Julians, a chynghorydd yn y ddinas honno ydi Rhys Hutchings.


Wednesday, August 24, 2016

Y broblem efo prynu cath mewn sach

Sylw sydd gen i heddiw am y trydariad yma gan arweinydd Llafur ar Gyngor Gwynedd, Sion Jones.



Rwan mae yna 8 cynghorydd annibynnol yn Arfon - Lesley Day, Trevor Edwards, Jean Forsyth, Eric Jones, Dilwyn Lloyd, Roy Owen, Nigel Pickavance ac Elfed Williams. Gallai un - neu ar goblyn o bwsh ddau o'r rhain fod yn Llafurwyr cudd.  Mae'r lleill naill ai yn annibynnol go iawn neu'n nes o lawer at bleidiau neu grwpiau eraill nag ydynt at Lafur.  Hyd y gwelaf i mae wyth neu naw o'r deuddeg arall felly yn Llafurwyr cudd - os ydi syms Sion yn gywir, ac mae'r rheiny yn cynrychioli wardiau ym Meirion / Dwyfor.
  





Does gen i ddim rheswm i gredu bod yr hyn mae Sion yn ei ddweud yn gamarweiniol - mae ganddo fynediad i restrau aelodaeth Llafur yng Ngwynedd ac i'w data canfasio a does yna ddim mantais etholiadol i'w ennill o gamarwain yn yr achos yma.  Ond mae'r sylw yn crisialu'r broblem efo pleidleisio i ymgeiswyr annibynnol - mae'n weithred sydd braidd yn debyg i brynu cath mewn sach - dydych chi ddim yn gwybod beth ydych yn ei gael.  

Mae'n chwerthinllyd bod ardal fel Meirion Dwyfor - 12% o'r bleidlais gafodd Llafur yn etholiad y Cynulliad eleni, ac 13.5% oedd eu pleidlais yn etholiad San Steffan y llynedd - yn ethol nifer fawr o Lafurwyr cudd.

Monday, August 22, 2016

Ffraeo mewnol UKIP a Llafur - y diweddaraf

Mi fydd darllenwyr Blogmenai yn ymwybodol bod UKIP a'r Blaid Lafur wedi penderfynu treulio'r haf yn ffraeo.  Mae'r rheswm tros y ffraeo yn y bon yn debyg yn y ddau achos - mae'n ymwneud a phwy sy'n rhedeg y sioe.  Ond fel yn achos pob honglar o ffrae - mae'r ffraeo yma wedi esgor ar pob math o fan ffraeo - cymaint felly nes ei gwneud yn nesaf peth i amhosibl i gadw i fyny.  Ond nac ofnwch - mae Blogmenai yma i gadw llygad ar bethau i chi ac yn eich cadw yn y pictiwr ynglyn a rhywfaint o'r ffraeo cyfredol.  

Llafur:

Bod rhai aelodau o'r Blaid Lafur yn honni bod arweinydd Llafur yn euog o wahaniaethu hiliol.


Bod rhai o swyddogion cyflogedig Llafur yn cwyno eu bod am gael eu diswyddo wedi'r etholiad arweinyddol.  Roeddwn i wedi deall mai gwaith y swyddogion cyflodedig oedd bwlio'r aelodau etholedig yn hytrach na'r ffordd arall - ond stori arall ydi honno.  




Bod rhai o gefnogwyr Smith yn ystyried bod maer Llundain yn bwysicach na Phrif Weinidog Cymru - tra bod eraill yn anghytuno.


UKIP:












Sunday, August 21, 2016

Is etholiadau ar y gweill

Efo'r holl helynt am arweinyddiaeth Llafur, efallai ei bod yn hawdd anghofio - yn arbennig ynghanol yr haf fel hyn - bod nifer o is etholiadau cyngor Cymreig ar y gweill - ac y bydd gan Lafur gryn dipyn o amddiffyn i 'w wneud.  Mae nhw'n anhebygol o gael y mwyafrifoedd enfawr mae'r Blaid wedi eu cael yn amddiffyn seddi yng Ngwynedd yn ddiweddar.

Medi 20:  
Caerdydd : Plas Newydd.  Llafur yn amddiffyn.

Medi 22
Caerfyrddin: Cilycwm.  Annibynnol yn amddiffyn.

Dim dyddiad eto.
Caerffili: Gilfach - Llafur yn amddiffyn.
Caerffili: Dwyrain Risca - Llafur yn amddiffyn
Castell Nedd Port Talbot - Llafur yn amddiffyn
Bro Morgannwg: Gibbensdown - Llafur yn amddiffyn

Bydd yn ddiddorol gweld beth fydd effaith yr holl helynt ar bleidlais Llafur yn yr is etholiadau Cymreig.  Dydyn nhw heb wneud yn rhy ddrwg mewn etholiadau diweddar yn Lloegr - er gwaetha'r holl ffraeo.  


Friday, August 19, 2016

Yr wythnos mewn ffigyrau

6% - y nifer ddywedodd eu bod nhw'n bwriadu pleidleidio i UKIP mewn etholiad cyffredinol yn ol pol diweddaraf IPSOS MORI.  Mae hyn 1% yn is na'r Lib Dems.

€0.99 - faint oeddech yn ei gael am £1 ym meysydd awyr Luton a Stanstead yn gynharach wythnos  yma.  Gallech fod wedi cael €1.15 gan Travel FX.

80% - y tebygolrwydd mai Clinton fydd yn ennill arlywyddiaeth yr UDA - a barnu o'r marchnadoedd betio.

89% - y tebygolrwydd mai Corbyn fydd yn ennill etholiad arweinyddol Llafur - a barnu o'r marchnadoedd betio.

50% - y tebygolrwydd y bydd Farage yn ymuno a phlaid ag eithrio UKIP o fewn y flwyddyn - eto a barnu o'r marchnadoedd betio.

£24,325 - y cyfanswm o bres (pro rata 37 awr) mae aelod Llafur, Canol Caerdydd, Jenny Rathbone yn ei gynnig o'i lwfans staffio i rhywun sy'n fodlon garddio yn ei hetholaeth am naw awr yr wythnos.

$85,498,596 - faint mae Hillary Clinton wedi ei wario hyd yn hyn ar ymgyrchu yn nhaleithiau ymylol Colorado, Florida, Iowa, Nevada, New Hampshire, North Carolina, Ohio, Pennsylvania a Virginia.

$9,098,720 - faint mae Donald Trump wedi ei wario hyd yn hyn yn yr un taleithiau.  






Wednesday, August 17, 2016

Cenedlaetholdeb a chenedlaetholdeb pitw

Mae'n ddiddorol bod Andrew RT Davies - arweinydd y Toriaid 'Cymreig' wedi cael y myll oherwydd nad oedd Ffederasiwn Peldroed Merched Cymru, Gogledd Iwerddon a'r Alban eisiau bod yn rhan o dim Prydeinig yn y Gemau Olympaidd.  Mae Andrew'n priodoli'r penderfyniadau yma i genedlaetholdeb pitw -  petty nationalism.

Yn rhyfedd iawn mae yna adegau pan mae Andrew yn ddigon parod i ddefnyddio cenedlaetholdeb - yma er enghraifft.



Y frawddegmae'n ei defnyddio ydi "If you want a country called Europe, stay in, if you want a country called Britain, vote to stay out."

Rwan, mae Andrew'n deall yn iawn nad oes yna wladwriaeth o'r enw Ewrop, ac mae'n deall yn iawn bod gwladwriaethau o'r enw yr Almaen, Sbaen, Ffrainc ac ati - er gwaetha'r ffaith bod y gwledydd hynny yn perthyn i'r Undeb Ewropiaidd.  Yr hyn mae'n ei wneud ydi defnyddio ieithwedd ymfflamychol i  annog cenedlaetholwyr Prydeinig i bleidleisio i adael Ewrop.  Mae'n gyfforddus efo cenedlaetholdeb Prydeinig - ond petty nationalism ydi sefyll tros fuddiannau'r gwledydd Celtaidd.  Mae'r math cyntaf o genedlaetholdeb yn 'dda', tra bod yr ail fath o genedlaetholdeb yn 'ddrwg'.  

Ac mae hyn yn dod a ni at Owen Smith - mae o'n arddel daliadau rhyfeddol o debyg i Andrew RT Davies yn hyn o beth.  Chwi gofiwch i Owen ymosod ar Jeremy Corbyn oherwydd ei ddiffyg gwlatgarwch, ond ddim yn gweld unrhyw beth o gwbl o'i le mewn dadlau na ddylai ei wlad ei hun gael tim criced, 


Ac mae Owen hefyd o'r farn bod hunaniaeth Albanaidd a Chymreig yn ddiwerth.  

Mae yna lawer mwy'n gyffredin rhwng Rhai o'n cyfeillion Llafur a Thoriaidd na sy'n eu gwahanu. 

Tuesday, August 16, 2016

Methu gweld yr hyn sy'n digwydd o flaen eu trwynau

Dydw i ddim eisiau bysnesu mewn galar plaid arall, ond dwi'n meddwl y dyliwn ddweud pwt am yr obsesiwn sydd gan aelodau seneddol Cymreig ynglyn a Jeremy Corbyn - a'r ffordd mae 'n cael ei ddefnyddio fel bwch dihangol i egluro pam bod y Blaid Lafur yng Nghymru - a thu hwnt - yn colli cefnogaeth.  Dwi am wneud hynny trwy gyfeirio at berfformiad Llafur yn rhai o gadarnleoedd y blaid yn 1992 - pan roeddynt yn cael eu harwain gan un person o'r Chwith 'meddal' a 2015 - pan roeddynt hefyd yn cael eu harwain gan rhywun ar y Chwith 'meddal'.  

'Dydw i heb ddethol etholaethau - ceir patrwm tebyg yn holl gadarnleoedd Llafur yng Nghymru.

















Cyn mynd ymlaen, mae'n debyg y dylid cymryd ennyd i longyfarch Chris Bryant - does yna neb yng Nghymru wedi bod mor effeithiol am ddifa pleidleisiau Llafur.  

Rwan - mae'r cwymp yna i gyd - ac mae o'n anferth o safbwynt niferol syml - wedi digwydd yn absenoldeb Jeremy Corbyn a phan roedd y criw o wrthryfelwyr sydd bellach yn herio arweinyddiaeth Corbyn yn rhedeg y sioe. 

Mae'n eithaf amlwg bod yna rhywbeth sylfaenol o'i le ar y Blaid Lafur Gymreig - mae hi'n colli pleidleisiau mewn etholiad ar ol etholiad.  Mae hi'n teithio yn union yr un cyfeiriad a'r Blaid Lafur yn yr Alban, ond ychydig yn arafach.  Os ydi'r sefydliad Llafur yng Nghymru yn credu mai cael gwared o Corbyn ydi'r ateb i'w problemau, dydyn nhw heb fod yn edrych ar yr hyn sydd wedi bod yn digwydd o flaen eu trwynau am chwarter canrif.
















Sunday, August 14, 2016

Ar y ffens?

Diolch i Ann Hopcyn am ddwyn fy sylw at ymddygiad bisar Plaid Lafur Arfon mewn perthynas a'r gwrthryfel o fewn y Blaid Lafur yn erbyn arweinyddiaeth Jeremy Corbyn.

Bydd darllenwyr rheolaidd Blogmenai yn gwybod i ymgeisydd Llafur yn etholiad Cynulliad eleni, Sion Jones gefnogi Andy Burnham ar y cychwyn yn etholiad arweinyddol Llafur y llynedd, cyn troi at Jeremy Corbyn.  Cafodd lond bol ar Jeremy Corbyn yn fuan iawn, a phenderfynodd gefnogi Owen Smith yn yr ornest eleni.  Nid yn unig hynny, ond penderfynodd fod yn gydlynnydd ymgyrch Smith yn Arfon, a threfnu banc ffonio i geisio perswadio pobl i bleidleisio i'r dyn bach o'r Bari.







Yn wir, ymddengys ei fod yn mynd cyn belled a rhoi'r bai ar Corbyn am bolio diweddar gwael Llafur yn hytrach na'r criw o gynllwynwyr sydd wedi taflu'r blaid i ryfel cartref a galw ar Corbyn i ymddiswyddo heb etholiad.


Ond - a barnu o'r trydariad yma gan un o hoelion wyth Llafur yn Arfon - does gan Sion ddim llawer o gydlynnu i'w wneud oherwydd nad oes fawr neb ymhlith Llafurwyr Arfon yn cefnogi Smith.  





Rwan, tydi hyn ddim yn syndod arbennig o fawr i mi a dweud y gwir oherwydd bod y rhan fwyaf o Lafurwyr Arfon - yn fy mhrofiad i o leiaf - yn bobl sy'n arddel gwerthoedd Llafur yn hytrach na'r dipyn o bob dim i bawb mae Smith yn ei gynnig.  

Mae hyn i gyd yn gwneud rhyw fath o synnwyr - cyn ymgeisydd seneddol allan o gysylltiad efo'i blaid leol ei hun yn uniaethu efo elit etholedig ei blaid.  Mae hyn yn siwr o fod yn wir mewn rhannau eraill o Gymru.  Ond yr hyn nad yw yn ei egluro ydi'r map yma o @CLPNominations


Yn ol hwnnw dydi Plaid Lafur Arfon ddim yn cefnogi'r naill ymgeisydd na'r llall o ran enwebiad swyddogol. Rwan efallai mai camgymeriad ar ran y wefan ydi'r map.  Neu efallai bod well gan Blaid Lafur Arfon eistedd ar y ffens yn gyhoeddus - er bod bron i 90% ohonynt yn cefnogi Corbyn.  Petai hynny'n wir, byddai'n anodd meddwl am blaid leol mwy llwfr ac amharod i ypsetio'r elit etholedig neo Blairaidd yn unman.  Wedi'r cwbl mae gan bron i pob plaid leol arall yng Ngogledd a Gorllewin Cymru y dewrder i wneud eu cefnogaeth i Corbyn yn gyhoeddus.

Byddai'n rhywbeth gwirioneddol bathetig.  




Friday, August 12, 2016

Tros beth saif Owen Smith?

Rydym eisoes wedi edrych ar y blog ar ddelfrydau gwleidyddol cynnar Owen Smith pan roedd yn ymgeisydd ifanc Llafur ym Mlaenau Gwent - mynd i'r afael a defaid a iobs.  Ond mae'n rhaid ei fod wedi symud ymlaen ers hynny - ac wedi magu diddordeb mewn rhywbeth amgenach.  Mae'n anodd iawn dod o hyd i unrhyw beth mae Owen yn credu ynddo cyn yr etholiad arweinyddol, ond ar ol hir chwilio mae'n bleser gan Flogmenai lenwi'r bylchau a rhoi syniad o'r hyn mae Owen yn credu ynddo bellach.


Mae o'n mwynhau ciniawa efo gwerthwyr arfau yn ei amser hamdden.

A dyna chi - digon i bawb a phopeth yna.  

Os dof o hyd i rhywbeth arall, darllenwyr Blogmenai fydd y cyntaf i gael gwybod.  



Tuesday, August 09, 2016

Pam nad oes gan Lafur obaith caneri o greu 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg

Mae'n ddiddorol i Alun Davies a Carwyn Jones fynd ati i fynegi eu bod am geisio sicrhau y bydd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ar yr un pryd - fwy neu lai - a chyhoeddiad adroddiad 5 mlynedd ar y Gymraeg gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Mae'r adroddiad yn un maith - a diddorol ar brydiau - ac mae yna lawer iawn, iawn ynddi hi. Ond mae yna un peth amlwg iawn ynglyn a dyfodol y Gymraeg i'w weld yn yr adroddiad - ac mae'n bwysicach nag unrhyw beth arall mewn gwirionedd.  Dwi wedi dwyn y graffiau o'r adroddiad.


Does yna ddim angen eglurhad ar y siart uchod - mae'n amlwg bod newid arwyddocaol a phell gyrhaeddol wedi digwydd ers canol y ganrif ddiwethaf.  Heddiw mae mwyafrif llethol y sawl sy'n siarad y Gymraeg yn ei dysgu yn yr ysgol, tra bod mwyafrif llethol y sawl a anwyd yng nghanol y ganrif ddiwethaf - a chyn hynny - wedi dysgu'r Gymraeg adref.

Un o'r prif resymau am y newid yma ydi nad ydi trosglwyddiad iaith yn y cartref mor effeithiol heddiw nag oedd yn y gorffennol.  Nid bod rhieni Cymraeg eu hiaith yn llai tebygol o drosglwyddo 'r Gymraeg ydi'r broblem - ond bod yna lai o deuluoedd lle mae'r ddau riant yn siarad yr iaith.  



Mater o fathemateg ydi hyn yn y bon - os ydi 20% o'r gwyr / gwragedd / partneriaid sydd ar gael yn ddi Gymraeg, yna mae'r nifer o deuluoedd lle mae'r ddau riant yn siarad yr iaith yn siwr o gwympo.  Teuluoedd felly ydi'r mwyaf effeithiol o lawer o drosglwyddo'r iaith. 

Felly os ydi'r targed o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg i gael ei gwrdd mae'n hanfodol bod y nifer o blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn cynyddu.  Mae addysg cyfrwng Cymraeg yn llawer mwy tebygol nag addysg cyfrwng Saesneg o gynhyrchu siaradwyr Cymraeg.  Yn anffodus 'dydi'r ganran o blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg ddim yn cynyddu.  Roedd y ganran o ysgolion cyfrwng Cymraeg yn is yn 2014/15 nag oedd yn 2010/11.



Dydi'r nifer o blant sy'n cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ddim yn ymddangos i gynyddu llawer chwaith.  O gymharu faint o blant a asesid trwy gyfrwng y Gymraeg ym mlwyddyn 2 mae'r niferoedd wedi cynyddu, tra bod y ganran wedi cwympo.  Demograffeg sy'n gyfrifol am y cynnydd - roedd yna fwy o blant 7 oed yn gyffredinol yn 2014 nag oedd yna bum mlynedd ynghynt.  Gallwn ddisgwyl gweld y nifer sy'n cael eu hasesu yn y Gymraeg yn cwympo fel mae'r niferoedd plant yn gyffredinol yn cwympo.  


Mae yna dystiolaeth bod galw sylweddol am addysg Gymraeg - galw sydd ddim yn cael ei ddiwallu yn y rhan fwyaf o Gymru.  Mae awdurdodau Llafur ymysg y gwaethaf yn y wlad am ddarparu ysgolion Cymraeg.





Y gwir amdani ydi y gall Llafur siarad hyd ddydd y farn am gynhyrchu miliwn o siaradwyr Cymraeg - ond does ganddyn nhw ddim gobaith caneri o wneud hynny tan maen nhw'n cael eu cynghorau i wneud gwell job ar ddarparu addysg Gymraeg, ac i gael eu gwleidyddion i gefnogi'r addysg Gymraeg, yn hytrach na'i ddefnyddio at ddibenion gwleidyddol.






Pam nad oes gan Lafur obaith caneri o greu 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg

Mae'n ddiddorol i Alun Davies a Carwyn Jones fynd ati i fynegi eu bod am geisio sicrhau y bydd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ar yr un pryd - fwy neu lai - a chyhoeddiad adroddiad 5 mlynedd ar y Gymraeg gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Mae'r adroddiad yn un maith - a diddorol ar brydiau - ac mae yna lawer iawn, iawn ynddi hi. Ond mae yna un peth amlwg iawn ynglyn a dyfodol y Gymraeg i'w weld yn yr adroddiad - ac mae'n bwysicach nag unrhyw beth arall mewn gwirionedd.  Dwi wedi dwyn y graffiau o'r adroddiad.


Does yna ddim angen eglurhad ar y siart uchod - mae'n amlwg bod newid arwyddocaol a phell gyrhaeddol wedi digwydd ers canol y ganrif ddiwethaf.  Heddiw mae mwyafrif llethol y sawl sy'n siarad y Gymraeg yn ei dysgu yn yr ysgol, tra bod mwyafrif llethol y sawl a anwyd yng nghanol y ganrif ddiwethaf - a chyn hynny - wedi dysgu'r Gymraeg adref.

Un o'r prif resymau am y newid yma ydi nad ydi trosglwyddiad iaith yn y cartref mor effeithiol heddiw nag oedd yn y gorffennol.  Nid bod rhieni Cymraeg eu hiaith yn llai tebygol o drosglwyddo 'r Gymraeg ydi'r broblem - ond bod yna lai o deuluoedd lle mae'r ddau riant yn siarad yr iaith.  



Mater o fathemateg ydi hyn yn y bon - os ydi 20% o'r gwyr / gwragedd / partneriaid sydd ar gael yn ddi Gymraeg, yna mae'r nifer o deuluoedd lle mae'r ddau riant yn siarad yr iaith yn siwr o gwympo.  Teuluoedd felly ydi'r mwyaf effeithiol o lawer o drosglwyddo'r iaith. 

Felly os ydi'r targed o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg i gael ei gwrdd mae'n hanfodol bod y nifer o blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn cynyddu.  Mae addysg cyfrwng Cymraeg yn llawer mwy tebygol nag addysg cyfrwng Saesneg o gynhyrchu siaradwyr Cymraeg.  Yn anffodus 'dydi'r ganran o blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg ddim yn cynyddu.  Roedd y ganran o ysgolion cyfrwng Cymraeg yn is yn 2014/15 nag oedd yn 2010/11.



Dydi'r nifer o blant sy'n cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ddim yn ymddangos i gynyddu llawer chwaith.  O gymharu faint o blant a asesid trwy gyfrwng y Gymraeg ym mlwyddyn 2 mae'r niferoedd wedi cynyddu, tra bod y ganran wedi cwympo.  Demograffeg sy'n gyfrifol am y cynnydd - roedd yna fwy o blant 7 oed yn gyffredinol yn 2014 nag oedd yna bum mlynedd ynghynt.  Gallwn ddisgwyl gweld y nifer sy'n cael eu hasesu yn y Gymraeg yn cwympo fel mae'r niferoedd plant yn gyffredinol yn cwympo.  


Mae yna dystiolaeth bod galw sylweddol am addysg Gymraeg - galw sydd ddim yn cael ei ddiwallu yn y rhan fwyaf o Gymru.  Mae awdurdodau Llafur ymysg y gwaethaf yn y wlad am ddarparu ysgolion Cymraeg.





Y gwir amdani ydi y gall Llafur siarad hyd ddydd y farn am gynhyrchu miliwn o siaradwyr Cymraeg - ond does ganddyn nhw ddim gobaith caneri o wneud hynny tan maen nhw'n cael eu cynghorau i wneud gwell job ar ddarparu addysg Gymraeg, ac i gael eu gwleidyddion i gefnogi'r addysg Gymraeg, yn hytrach na'i ddefnyddio at ddibenion gwleidyddol.






Sunday, August 07, 2016

Ffrwydriad ar y ffordd o Fynwy - efallai

Bydd y sawl ymhlith darllenwyr Blogmenai sydd efo cof arbennig o dda yn cofio i Aelod Seneddol Mynwy - David Davies - gael sterics pan benderfynodd Llywodraeth y Cynulliad wario £3.2 miliwn ar addasu swyddfeydd ar bumed llawr yn Nhy Hywel ar safle'r Cynulliad yn ol yn 2013.

Rwan dydi £3.2m ddim yn swm arbennig o fawr o gymharu a chyfanrwydd gwariant Llywodraeth Cymru - ond dyna fo, efallai nad ydi David yn hoff o wariant ar senedd-dai a 'ballu.



Felly mae'n debyg gen i y gallwn ddisgwyl clywed y ffrwydriad mwyaf erchyll o gyfeiriad Mynwy pan fydd David yn dod i ddeall bod Llywodraeth Y DU yn bwriadu gwario £4bn ar gynnal, cadw, addasu ac uwchraddio San Steffan.  Rhag ofn bod rhywun ddim yn rhy siwr o'i syms, golyga hyn y bydd Llywodraeth y DU yn gwario 1,250 punt ar San Steffan am pob punt gafodd ei wario ar Dy Hywel gan Lywodraeth Cymru.  Gobeithio na wneith o wylltio 1,250 gwaith cymaint na wnaeth o yn 2013, neu bydd yn gwneud rhyw fath o niwed iddo'i hun.

A Duw a wyr beth ddigwyddith os daw i ddeall y gallai'r gost yn y diwedd gyrraedd £7.1bn - 2,200 punt am pob punt gafodd ei gwario ar Dy Hywel.

Neu, efallai na fyddwn yn clywed gair o Fynwy ynglyn a'r mater wrth gwrs _ _ wedi'r cwbl mae San Steffan yn lle hynod o bwysig, tra bod y Cynulliad yn _ _ wel rhywbeth i'w wneud efo Cymru.





Saturday, August 06, 2016

Perlau Felix - rhan 3 - Felix Paisley (Dr)

O diar, mae Felix eisiau tynnu baneri 'tramor' oddi ar adeiladau cyhoeddus.  



Doeddwn i heb feddwl am y tebygrwydd rhwng y diweddar Ian Paisley a Felix nes i mi weld y trydariad yma - ond mae yna debygrwydd - y ddau'n gegog a swnllyd, y ddau'n weinidogion yr Efengyl, y ddau'n  hoff iawn o truiamphalism, y ddau yn gwirioni ar raniadau mewn cymdeithas, a'r ddau yn hoffi tynnu baneri pobl sydd a daliadau gwahanol iddyn nhw eu hunain i lawr.



Dwi'n meddwl mai yn ystod mis Hydref 1964 y mynnodd Paisley bod yr RUC yn mynd i Divis Street i ddwyn baner Wyddelig - syniad gwych a arweiniodd at ddau ddiwrnod o ymladd ac anhrefn ar strydoedd Belfast, at gannoedd o anafiadau ac at garcharu ugeiniau o bobl.   

Does yna neb am fod allan ar y strydoedd i amddiffyn baner Ewrop wrth gwrs - ond mae'r ffordd mae Felix a Paisley yn rhesymu yn debyg iawn.  

Thursday, August 04, 2016

Is etholiad Cyngor Cymuned Llanon

Tymbl 

Plaid Cymru - 244
Llafur - 224

Plaid yn cymryd sedd gan Lafur. 

Wednesday, August 03, 2016

Llun y diwrnod

Cyfarfod o Gymdeithas Cledwyn - y gymdeithas oddi mewn i'r Blaid Lafur sy'n honni ei. Bod yn hyrwyddo'r Gymraeg.


Annwyl BBC _ _

_ _ dim ond pwt bach i egluro i chi pam ei bod yn amhriodol i ddarlledwr gwladwriaethol ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i chwilio am eithafwyr i ddadlau y dylai'r iaith Gymraeg farw.

Mae'n syndod i mi eich bod mor stiwpid bod angen eglurhad arnoch, ond dyna lle ydan ni.  Mi wnawn ni bethau mor syml a phosibl.  

Mae'r DU yn gymdeithasegol gymhleth, ac mae yna amrediad o hunaniaethau gwahanol yma. 

Ceir cysylltiad agos rhwng hunaniaeth a gwahanol nodweddion dynol eraill - lliw croen, crefydd, acen, man geni, dosbarth cymdeithasol - ac wrth gwrs iaith.

Dydi hi ddim yn briodol i chwilio am eithafwyr i ddweud yn gyhoeddus y dylai Protestaniaeth farw yng Ngogledd Iwerddon oherwydd bod hynny yn ymysodiad ar hunaniaeth 800,000 o bobl.  Mae hefyd yn rhywbeth hynod o an ryddfrydig a chroes i werthoedd Gorllewinol i'w ddadlau - ond mi wnawn ni adael honna ar un ochr am y tro.  

Dydi hi ddim yn briodol i chwilio am eithafwr i ddadlau y dylai pobl groenddu Lambeth,neu Fwslemiaid Tower Hamlets gael eu gwasgaru ar hyd y brif ddinas, neu eu hel adref i India'r Gorllewin neu is gyfandir India.  Byddai hynny yn ymysodiad ar hunaniaeth niferoedd sylweddol o bobl. 

Dydi hi ddim yn briodol i chwilio am eithafwr i ddadlau y dylai Teithwyr gael eu gorfodi i beidio a theithio. Byddai hynny yn ymysodiad ar eu hunaniaeth. 

Dydi hi ddim yn briodol i chwilio am eithafwr i ddadlau y dylai Iddewon crefyddol roi'r gorau i arfer eu crefydd.  Byddai hynny'n ymosodiad ar eu hunaniaeth hwythau.  

Dydi hi ddim yn briodol i chwilio am eithafwr i ddadlau y dylai trigolion Lerpwl siarad fel y Frenhines.  Byddai hynny'n ymysodiad ar eu hunaniaeth nhw - a byddai'n beth cwbl chwerthinllyd i'w wneud hefyd.

Rwan, dydych chi ddim yn gwneud dim o'r uchod, felly mae'n debyg gen i eich bod yn deall yn o lew na ddylai darlledwr gwladwriaethol fynd ati i danseilio cydlyniant cymdeithasol o fewn y wladwriaeth mae'n ei gwasanaethu.

Mae eithriadau yn aml yn ddadlennol - ac mae'r ffaith bod y Gymraeg a'i siaradwyr yn cael eu heithrio o  ymdeimlad eich corfforaeth o sut y dylid ymddwyn yn briodol yn ddadlennol.  Mae'n awgrymu rhagfarn gwaelodol yn erbyn y Gymraeg a'i siaradwyr.  

Byddwn ddiolchgar petaech yn edrych ar eich gweithdrefnau cydraddoldeb yng ngoleuni'r uchod.  

Diolch.


Colli dau gynghorydd mewn diwrnod

Fydd hi ddim yn syndod mawr i neb bod un o gynghorwyr Llafur yng Nghaerdydd wedi - mae yna res hir wedi gwneud hynny ers etholiad 2012.  Fydd hi ddim yn syndod chwaith bod Gretta Marshall (sy'n cynrychioli ardal Splott) yn cwyno am ddiwylliant o fwlio oddi mewn i'r Blaid Lafur - mae hionna'n hen gwyn.  Beth sy'n fwy anarferol - ond sy'n rhywbeth i'w groesawu - ydi bod Gretta'n dod at y Blaid.




Yn y cyfamser mae Gwynfor Edwards - unig gynghorydd Llafur ym Mangor - hefyd yn gadael, ond mynd i gorlan y Gwyrddion mae Gwynfor.  Mae i gynghorydd adael y Blaid Lafur yn fwy anarferol yng Ngwynedd - yn bennaf oherwydd bod cyn lleied ohonyn nhw.  Dim ond pump oedd yna tan heddiw, ond rwan maen nhw i lawr i bedwar, ac wedi colli 20% o'u cynghorwyr mewn diwrnod.  


Dydi moral ddim yn dda iawn mae gen i ofn.  


Beth wnawn ni efo UKIP?

Mae'n rhaid i mi gyfaddef bod dod ar draws Neil a Christine Hamilton a chwpl arall yn mynd o gwmpas maes yr Eisteddfod ddoe - gyda'u ymbarels Brexit a'u swn byddarol ( I just couldn 't figure out what they were on about meddai un ddynas wrth y llall) braidd yn chwydlyd.  Serch hynny mae'n bwysig ymateb i dwf diweddar UKIP yng Nghymru mewn ffordd synhwyrol - a dydi gor ymateb ddim yn beth synhwyrol i'w wneud.

Y peth cyntaf i'w ddweud ydi hyn - mae gan UKIP broblemau sylweddol ar y gorwel - yng Nghymru a thu hwnt i Gymru.  Ystyrier y canlynol.


1). Pan fydd y DU yn tynnu allan o'r Undeb Ewropiaidd byddant yn colli y rhan fwyaf o'u gwleidyddion proffesiynol.  Yr unig rai fydd ar ol fydd Douglas Carswell - sy'n ymddwyn yn fwy tebyg i aelod seneddol annibynnol na dim arall, y criw lliwgar ym Mae Caerdydd - faint bynnag ohonyn nhw fydd wedi osgoi cael eu diarddel erbyn hynny, dau aelod o Gynulliad Llundain, a thri aelod o Dy'r Arglwyddi.  Does ganddyn nhw ddim cynrychiolaeth yn senedd-dai Gogledd Iwerddon na'r Alban. Bydd hyn yn sicr o gynyddu'r sylw cyfryngol Prydeinig fydd Hamilton a'r gweddill yn ei gael - ac o'r cyfryngau Prydeinig mae'r rhan fwyaf o Gymry'n cael eu newyddion.  Ydi'r criw yma'n debygol o apelio at etholwyr Cymru?  'Dwi'n amau hynny rhywsut.

2). Mae canlyniad y refferendwm Ewrop yn fuddugoliaeth i UKIP wrth reswm, ond mae hefyd yn achosi problemau iddynt.  Eu pwynt gwerthu unigryw hyd refferendwm mis Mehefin oedd mai nhw oedd yr unig blaid (a chefnogaeth arwyddocaol iddi) oedd am adael Ewrop. Mae llawer o bobl gwrth Ewropeaidd yng Nghymru - fel y dangoswyd yng nghanlyniad y refferendwm.  Ond bydd rhaid iddynt ail ddiffinio eu hunain yn sgil y canlyniad a dod o hyd i rhywbeth arall i sefyll trosto.  Dydi hi ddim yn amlwg y bydd y 'rhywbeth arall' hwnnw yn boblogaidd yng Nghymru.  Apelio at eu pleidlais graidd yn Lloegr fydd eu blaenoriaeth.  Dydi o ddim yn dilyn bod natur eu cefnogaeth yng Nghymru yr un peth ag yw yn Lloegr.  Er enghraifft, os ydi UKIP yn troi fwyfwy at wleidyddiaeth hunaniaeth yn Lloegr, mae ganddynt broblem yng Nghymru.  Mae'r blaid yn tueddu i wneud yn dda yng Nghymru mewn ardaloedd sydd a hunaniaeth Gymreig gref.  Dydi pwyslais ar hunaniaeth Seisnig ddim am edrych yn wych ym Mlaenau Gwent na Merthyr, ac nid yw Seisnigrwydd amlwg rhai o'u aelodau Cynulliad am fod o lawer o gymorth chwaith.

3). Gwan iawn ydi peirianwaith lleol UKIP yng Nghymru - dyna yn rhannol pam nad ydynt yn gystadleuol mewn etholaethau uniongyrchol.  Un cynghorydd sydd ganddynt trwy'r wlad - mae ganddynt bron i 500 yn Lloegr.  Anaml y byddant yn dod o hyd i ymgeisydd mewn is etholiadau lleol yng Nghymru.  Maen nhw wedi llwyddo i ennill cryn dipyn o bleidleisiau yng Nghymru heb beirianwaith - ond roedd llawer o hynny (er nad y cwbl) yn ddibynnol ar eu neges greiddiol gwrth Ewropiaidd.  Fydd hwnnw ddim ar gael yn 2020 a 2021.  Un o'r prif resymau pam bod peirianwaith etholiadol yn angenrheidiol ydi i gael pobl allan i bleidleisio - pan mae cymhelliad cryf i bleidleisio does dim llawer o angen annog pobl i fynd i bleidleisio.  Ond dydi cymhelliad cryf ddim yn aros am byth - ac mae UKIP yn apelio at grwpiau sydd ddim yn yr arfer o fynd allan i bleidleisio.  Byddant angen peiriant yn y dyfodol - ac os na allant adeiladu un byddant yn gwywo. 

4). Mae'r blaid yng Nghymru a thu hwnt yn dioddef o ffraeo mewnol a thueddiad i ddewis ymgeiswyr anaddas.  Mae'r etholwyr wedi maddau iddynt hyd yn hyn.  Mae eu delwedd gwrth sefydliadol wedi cuddio'r ffaith eu bod yn euog o rai o ffaeleddau'r pleidiau sefydliadol.  Yn wir maent yn fwy euog o ffraeo mewnol a sleeze nag ydi'r rhan fwyaf o'r pleidiau sefydliadol erbyn hyn (OK - fedar neb guro Llafur am ffraeo). Ni fydd yr etholwyr yn gwahaniaethu am byth rhyngddyn nhw a'r pleidiau traddodiadol.  

Yr hyn rwyf yn ei ddweud mae'n debyg ydi y bydd yn anos i UKIP yng Nghymru yn y dyfodol, ac mae'n debyg y bydd eu cefnogaeth yn cilio i ryw raddau neu'i gilydd yn naturiol.  Mae yna berygl y gallai gor ymateb wneud pethau'n haws i UKIP - ac mae yna bethau'n sicr na ddylai'r mudiad cenedlaethol eu gwneud.

Y cyntaf a'r pwysicaf o'r rheiny ydi cynghreirio efo cyd bleidiau unoliaethol UKIP yn erbyn UKIP. Mae'r blaid asgell Dde, bopiwlistaidd yn byw ar greu canfyddiad ei bod yn wrth sefydliadol.  Byddai ochri efo pleidiau sefydliadol yn erbyn UKIP yn bwydo'r naratif yna'n berffaith.  Un hollt wleidyddol arwyddocaol sydd ei hangen yng Nghymru o safbwynt genedlaetholgar - un rhwng y sawl sy'n credu mewn annibyniaeth i Gymru, a'r sawl sydd ddim yn credu mewn annibyniaeth i Gymru.  Dydi creu holltau eraill ddim yn ddefnyddiol.

Yn ail, ni ddylid creu argraff bod UKIP yn bwysicach nag ydyn nhw - maen nhw'n bwydo ar y canfyddiad hwnnw hefyd.  Pedwerydd plaid ydyn nhw yn y Cynulliad - a phedwerydd plaid sydd wedi gwanhau ei hun trwy ffraeo mewnol - ond hynod gyhoeddus.  

Yn drydydd, ni ddylid rhoi'r argraff bod UKIP efo naratif cyson o ran gwleidyddiaeth Cymru - does ganddyn nhw ddim un, a dydyn nhw ddim yn dangos unrhyw dystiolaeth eu bod yn gallu diffinio eu hunain yng nghyd destun gwleidyddiaeth Senedd Cymru chwaith.  Plaid gwbl Brydeinig ydi hi o ran ei meddylfryd sylfaenol - mwy felly nag unrhyw blaid arall yng Nghymru - hyd yn oed y Lib Dems.  Dydyn nhw heb ddod o hyd i niche yn nhirlun gwleidyddiaeth Cymru, a does yna ddim pwrpas priodoli un iddyn nhw.  Maen nhw ar hyd i lle i gyd, ac maent yn debygol o barhau i fod ar hyd y lle i gyd.

Yn bedwerydd ni ddylid ceisio eu hesgymuno a'u cau allan o wleidydda arferol.  Digwyddodd hyn i raddau eithafol yn yr 80au a'r 90au yn sgil twf Sinn Fein yng Ngogledd Iwerddon.  Cawsant eu cau allan o'r cyfryngau - yn llythrennol, roedd yn nesaf peth i amhosibl iddynt weithredu yn y rhan fwyaf o gynghorau lleol oherwydd nad oedd y cynghorwyr unoliaethol yn fodlon cyd weithio efo nhw, cawsant eu cau o'r ddisgwrs wleidyddol, roedd yr holl sylw cyfryngol roeddynt yn ei gael yn gwbl negyddol.  A gweithiodd hyn oll - dros dro.  Llwyddwyd i gyfyngu ar dwf y blaid - ond digwyddodd rhywbeth arall hefyd.  Gorfodwyd y blaid i ddod o hyd i ffyrdd amgen i gyfathrebu efo'i hetholwyr, a chafodd ei gorfodi i adeiladu peiriant etholiadol sylweddol.  Roedd y peiriant, a'r dulliau cyfathrebu mewn lle pan laciodd y gwrthwynebiad a'r cyfyngiadau yn sgil Cytundeb Dydd Gwener y Groglith - a doedd Sinn Fein fawr o dro yn sgubo cenedlaetholdeb cyfansoddiadol o'r neilltu.  

Y peth diwethaf rydym  sydd angen ei wneud ydi gorfodi UKIP yng Nghymru i esblygu i fod yn endid llawer mwy effeithiol wleidyddol nag yw ar hyn o bryd.  Gwell gadael iddi arddangos ei rhwygiadau mewnol a'i diffyg cysondeb a chrebwyll gwleidyddol yn gyhoeddus.

Dydi hyn oll ddim yn golygu na ddylid gwrthwynebu UKIP, wrth gwrs - ond dylid gwneud hynny mewn modd sy'n cymesur a'u bygythiad.  Fel mae'n digwydd mae am fod yn hawdd ei beirniadu a'i gwrthwynebu - plaid Brydeinig iawn ydi hi, ac oherwydd hynny mae'n naturiol y bydd buddiannau Cymru pob amser yn dod yn ail gwael i fuddiannau Lloegr.  Mae am fod yn hawdd ei diffinio fel gwarchodwr buddiannau Lloegr yng Nghymru.  Mae'r un peth yn wir am y Toriaid wrth gwrs, ond dydyn nhw ddim yn gorfod mynd i Islwyn, Merthyr neu Dorfaen i chwilio am bleidleisiau.