Wednesday, August 24, 2016

Y broblem efo prynu cath mewn sach

Sylw sydd gen i heddiw am y trydariad yma gan arweinydd Llafur ar Gyngor Gwynedd, Sion Jones.



Rwan mae yna 8 cynghorydd annibynnol yn Arfon - Lesley Day, Trevor Edwards, Jean Forsyth, Eric Jones, Dilwyn Lloyd, Roy Owen, Nigel Pickavance ac Elfed Williams. Gallai un - neu ar goblyn o bwsh ddau o'r rhain fod yn Llafurwyr cudd.  Mae'r lleill naill ai yn annibynnol go iawn neu'n nes o lawer at bleidiau neu grwpiau eraill nag ydynt at Lafur.  Hyd y gwelaf i mae wyth neu naw o'r deuddeg arall felly yn Llafurwyr cudd - os ydi syms Sion yn gywir, ac mae'r rheiny yn cynrychioli wardiau ym Meirion / Dwyfor.
  





Does gen i ddim rheswm i gredu bod yr hyn mae Sion yn ei ddweud yn gamarweiniol - mae ganddo fynediad i restrau aelodaeth Llafur yng Ngwynedd ac i'w data canfasio a does yna ddim mantais etholiadol i'w ennill o gamarwain yn yr achos yma.  Ond mae'r sylw yn crisialu'r broblem efo pleidleisio i ymgeiswyr annibynnol - mae'n weithred sydd braidd yn debyg i brynu cath mewn sach - dydych chi ddim yn gwybod beth ydych yn ei gael.  

Mae'n chwerthinllyd bod ardal fel Meirion Dwyfor - 12% o'r bleidlais gafodd Llafur yn etholiad y Cynulliad eleni, ac 13.5% oedd eu pleidlais yn etholiad San Steffan y llynedd - yn ethol nifer fawr o Lafurwyr cudd.

No comments:

Post a Comment