Tuesday, August 30, 2016

Dewch o hyd i'r gyllell

Rwyf wrth gwrs yn ymwybodol bod rhai o ddarllenwyr Blogmenai mewn oed mawr, a thra bod yna anfanteision amlwg i henaint mae yna fanteision hefyd.  Un o'r rheiny ydy eich bod yn cofio pethau nad ydi'r rhan fwyaf o bobl eraill yn eu cofio.  Er enghraifft dyna i chi'r cystadlaethau hynny arferai ymddangos mewn papurau newydd - 'Dewch o hyd i'r bel' neu Spot the ball.

Roedd y gem yn syml yn y bon - byddai llun o olygfa o gem beldroed yn ymddangos yn y papur ond gyda'r bel wedi ei chuddio.  Byddai'r cystadleuwyr yn rhoi croes ar ble bynnag roeddynt yn meddwl y dylai'r bel fod, a byddai pwy bynnag oedd agosaf at ddewis y lleoliad cywir yn ennill gwobr - ac weithiau un go fawr.

Beth bynnag, roeddwn yn rhyw feddwl y byddai'n syniad cael cystadleuaeth debyg ar Flogmenai - 'Dewch o hyd i'r gyllell'.  Mae'r gem yn debyg iawn i 'Dewch o hyd i'r bel' ond efo un addasiad bach.  Chwilio am gyllell ac nid pel mae'r cystadleuwyr.  

Llun o rai o Lafurwyr ifanc Arfon yn cwrdd ag arweinydd eu plaid yn Llandudno y llynedd sydd isod.  Ymddengys bod rhai ohonynt o'r farn ei fod yn gwbl anaddas i arwain ei blaid, ac maen nhw eisiau cael gwared ohono asap.  Felly eich tasg chi - os ydych am gymryd rhan yn y gystadleuaeth - ydi rhoi croes ar lle'r ydych yn meddwl mae'r gyllell.  

Pob lwc.


1 comment:

  1. Anonymous7:31 pm

    Methu'n glir cael hyd i'r gyllell. Peryg bod hi gan Glyn Wise.

    ReplyDelete