Rydym eisoes wedi edrych ar y blog ar ddelfrydau gwleidyddol cynnar Owen Smith pan roedd yn ymgeisydd ifanc Llafur ym Mlaenau Gwent - mynd i'r afael a defaid a iobs. Ond mae'n rhaid ei fod wedi symud ymlaen ers hynny - ac wedi magu diddordeb mewn rhywbeth amgenach. Mae'n anodd iawn dod o hyd i unrhyw beth mae Owen yn credu ynddo cyn yr etholiad arweinyddol, ond ar ol hir chwilio mae'n bleser gan Flogmenai lenwi'r bylchau a rhoi syniad o'r hyn mae Owen yn credu ynddo bellach.
- Mae o blaid adnewyddu Trident a diarfogi niwclear.
- Mae o blaid cadw'r Gwasanaeth Iechyd yn llwyr mewn dwylo cyhoeddus ond hefyd i breifateiddio agweddau ohono.
- Mae o blaid gwladgarwch, ond yn anfodlon i Gymru gael ei thim criced ei hun ac yn ymfalchio yn ei gred (cwbl ffug), bod hunaniaeth cenedlaethol yn marw.
- Yn credu mewn amddiffyn budd daliadau, ond yn anfodlon pleidleisio i'w hamddiffyn.
A dyna chi - digon i bawb a phopeth yna.
Os dof o hyd i rhywbeth arall, darllenwyr Blogmenai fydd y cyntaf i gael gwybod.
Mae 'na fwlch arall i'w lenwi - 20 mlynedd yn ei yrfa wleidyddol, i fod yn fanwl gywir:
ReplyDeletehttps://paddyfrench1.wordpress.com/2016/08/08/owen-smith-a-man-for-all-seasons/