Saturday, June 29, 2013
Llongyfarchiadau _ _ _
_ _ _ i Sian a Hywel ar gael eu dewis i sefyll tros y Blaid yn etholiadau San Steffan a'r Cynulliad. Edrych ymlaen i ganfasio efo'r ddau.
Oes gan y Bib embargo ar newyddion drwg i Lafur?
Mi ddreifiais o Gaernarfon i Wrecsam ac yna i Gaerdydd ddoe gyda Radio Cymru ymlaen ar hyd y ffordd - a gwrandewais ar Post Prynhawn drwyddo. Doedd yna ddim gair am yr homar o ffrae sydd yn ysgwyd y Blaid Lafur yn Ynys Mon - dim un gair. Deallaf nad oedd gair ar Newyddion Naw chwaith. Rwan dydi is etholiadau Cynulliad ddim yn gyffredin, ac mae stitch up mor hollol amrwd a di gywilydd a hon hyd yn oed yn llai cyffredin. Mae'r ddwy stori wedi dod efo'u gilydd ac wedi cyfuno'n un. A dydi'r Bib ddim yn gweld stori yno?
Wrth gwrs eu bod nhw yn gweld stori, ond mae'n un nad ydyn nhw am ei hadrodd ar hyn o bryd. Pam tybed? Yn wahanol i Gwilym Owen sydd byth a hefyd yn gofyn cwestiwn nad yw yn ei ateb mi gynigiaf un. Roedd y Blaid Lafur Gymreig yn flin fel tinceriaid oherwydd i Rhun ap Iorwerth roi ei enw ymlaen i sefyll tros y Blaid ym Mon. Roeddynt yn fwy blin fyth na chafodd y creadur ei daflu allan o'i gyflogaeth mewn cywilydd a gwarth y tro cyntaf i'r syniad o sefyll dros y Blaid yn rhywle neu'i gilydd groesi ei wefysau.. Maent wedi bod yn hefru am y peth ar y We, ac maent wedi rhyddhau y stori i'r blog adain Dde eithafol, Guido Fawkes. Gallwn fentro nad oedd y tantro yna'n ddim wrth ymyl y tantro mwy swyddogol i lawr y lein ffon o Cathedral Road i Landaf tros y dyddiau diwethaf.
Mi fedrwn fentro hefyd nad oedd yr hogiau yn rhy hapus i wasanaeth newyddion maent yn disgwyl teyrngarwch ganddi redeg y strori am ymddygiad bisar Leighton Andrews yn y Rhondda yn protestio yn erbyn canlyniadau'r polisiau y mae o ei hun wedi eu llunio. Ac mi fedrwn fentro
bod y myllio a'r hefru i lawr y llinellau ffon hyd yn oed yn fwy ffyrnig a hysteraidd yn sgil hynny.
A dyna'r eglurhad yn ol pob tebyg, mae gan haenen reolaethol y Bib yng Nghymru ofn y Blaid Lafur Gymreig ac mae'r newyddiadurwyr wedi cael gorchymyn i fynd yn ol i'w bocsus a chadw allan o drwbwl am y tro. Mae'n debyg nad oedd dewis ond adrodd ar ddewis trychinebus a chwbl naif Llafur o ran ymgeisydd ym Mon. Tybed os byddant yn trafferthu adrodd ar y canlyniad? Mae hwnnw bellach yn sicr o fod yn drychinebus i Lafur - mae hynny'n amlwg - cyn i'r ymgyrch gychwyn hyd yn oed.

Thursday, June 27, 2013
Rhun ap Iorwerth wedi ei ddewis i sefyll tros y Blaid ym Mon.
Llongyfarchiadau i Rhun. Pob cydymdeimlad i Heledd ac Ann. Tri ymgeisydd penigamp.
Rwan mae'r gwaith go iawn yn dechrau.
Yn y cyfamser mae'n ymddangos bod Llafur yn gwneud eu gorau i helpu'r Blaid i fuddugoliaeth ysgubol. Eu rhestr fer ydi Tal Michael, Julia Dobson, Dan ap Eifion a Paul Penington. Mae'r olaf yn gynghorydd o Ddinbych, Julia a Dan yn ymgeiswyr aflwyddianus yn yr etholiadau cyngor diweddar a Tal wrth gwrs yn crwydro'r wlad yn rhoi ei enw ymlaen am pob dim sy'n mynd.
Y sioc ydi nad ydi bos y Blaid Lafur ar yr ynys, John Chorlton ar y rhestr - ac mae'n ymddangos i'r penderfyniad hwnnw gael ei wneud yng Nghaerdydd ac nid ar Ynys Mon. Mae'n anodd meddwl am ffordd o achosi cymaint o anghytuno mewnol. Gallai'r bleidlais Lafur fod yr isaf yn yr etholaeth ers cyn cof.

Nonsens diweddaraf Gwilym Owen yn Golwg
Y golofn bythefnosol mae Golwg yn ei rhoi i Gwilym Owen ladd ar Blaid Cymru sydd gen i heddiw eto mae gen i ofn. Byrdwn ymdrech yr wythnos yma ydi'r fantais fawr fydd gan Albert Owen tros Blaid Cymru yn is etholiad Mon.
Fel llawer o'r hyn mae Gwilym yn ei sgwennu mae'r damcaniaethu diweddaraf mewn gwagle - wedi ei sgwennu fel petai digwyddiadau diweddar erioed wedi digwydd. Dyna ydi"r broblem efo gadael i ragfarnau yrru'r hyn yr ydym yn ei 'sgwennu yn hytrach na ffeithiau go iawn.
Rwan dydi Albert ddim yn sefyll wrth gwrs ond doedd Gwilym ddim yn gwybod hynny pan roddodd ei ysgrifbin ar y paparus. Ei bwynt oedd y byddai Albert wedi cael llwyddiant mawr oherwydd ei gefnogaeth di amwys i Wylfa B. Ar y llaw arall mae o dan yr argraff y byddai safbwynt mwy nuanced y Blaid yn amhoblogaidd. Dydi o ddim - wrth gwrs - yn trafferthu i egluro pam y byddai mater sydd ddim oll i'w wneud efo'r Cynulliad yn cael dylanwad arwyddocaol ar etholiad Cynulliad.
Dydi o ddim yn egluro chwaith pam - er gwaethaf ei chefnogaeth i Wylfa B - mai trychineb etholiadol gafodd Llafur yn yr etholiadau cyngor sir diweddar, tra bod y Blaid wedi profi'r canlyniadau gorau yn ei hanes ar yr ynys.
Hwyrach y caf fod o gymorth iddo. Ffantasi ydi ei ddamcaniaeth bod cefnogaeth nesaf peth i unfrydol i Wylfa B ar Ynys Mon. Mae'r farn ar y mater yn amrywio o gyfnogaeth lwyr i wrthwynebiad llwyr, gyda'r rhan fwyaf o bobl yn rhywle rhwng y ddau begwn. Yn y cyd destun yna mae safbwynt y Blaid yn fwy effeithiol ac yn nes at y farn gyfansawdd nag ydi un Llafur. Mae'r Blaid yn derbyn y realiti nad oes gan y Cynulliad na'r Cyngor fawr o ddylanwad ar ddyfodiad Wylfa B, ond mae'n tyngu i wneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod cymaint a phosibl o'r swyddi a ddaw yn sgil y datblygiad yn cael eu llenwi gan bobl leol. Mae'r safbwynt yna yn gwneud synwyr i amrediad eang o bobl. Mae safbwynt Gwilym (a'r Blaid Lafur) o gefnogaeth cibddall a di gwestiwn i ddatblygiad na allant ddylanwadu ar ei ddyfodiad yn gwneud synwyr i lai o bobl o lawer.

Wednesday, June 26, 2013
Ynys Mon eto
Dwi'n deall i Ann a Rhun gael eu derbyn i'r rhestr heddiw - felly mae'n ymddangos mai dewis o dri sy'n wynebu pleidwyr Mon - Ann, Rhun a Heledd.
Tuesday, June 25, 2013
Leighton mewn panig - unwaith eto
Roedd y stori Leighton Andrews yn torri fel roeddwn yn dreifio i'r gwaith y bore 'ma, ac roeddwn yn rhyw feddwl pa agwedd i fynd ar ei ol i bwrpas blogio - mae yna gymaint o bosibiliadau:
- Y ddeuoliaeth honno o fod eisiau bod yn sefydliadol a gwrth sefydliadol ar yr un pryd sy'n rhan mor greiddiol o enaid y Blaid Lafur Gymreig.
- Arweinyddiaeth wael ar ran Leighton yn disgwyl i wleidyddion eraill gymryd penderfyniadau amhoblogaidd a wynebu risg gwleidyddol tra'n methu wynebu gwneud hynny ei hun.
- Y diffyg cydlynedd o fewn llywodraeth Cymru.
- Y diffyg gonestrwydd ymhlith gwleidyddion Llafur yn gyffredinol - canu un gan yn eu man gwaith ac yn cwbl wahanol ar strydoedd eu hetholaethau.
- Llongyfarch y Bib (yn anarferol i Flogmenai) am ddal gweinidogion y llywodraeth i gyfrif.
- Tueddiad Llafur i wneud mor a mynydd o wneud dim byd.
Ond wna i ddim datblygu'r un o'r themau yma. Y peth mwyaf diddorol ydi pam bod Leighton yn ymddwyn mewn ffordd mor afresymegol - ac yn mentro ei yrfa fel gweinidog wrth wneud hynny?
Awgrymaf mai ar Leanne mae'r bai. Bydd yn sefyll yn erbyn Leighton yn 2016 ac mae yntau yn teimlo'r pwysau. Os ydi o mewn panig fel hyn dair blynedd cyn yr etholiad, Duw a wyr mewn sut stad fydd y creadur erbyn dechrau 2016.

Leighton Andrews wedi mynd!
Mae'n ymddangos ei fod yn wir.
Byddwn yn dod yn ol at hon yn hwyrach heno.

Cais bach i ddarllenwyr, cyd flogwyr ac ati
Mae'n un o nodweddion gwleidyddiaeth America bod ochr y sawl sy'n sefyll mewn etholiad yn aml yn gwneud mwy o niwed i ymgeisydd na'i elynion. Oherwydd bod ymgeiswyr yn gorfod sefyll mewn etholiad agored yn erbyn aelodau eraill o'i blaid ei hun cyn cael cynrychioli ei blaid mewn etholiad go iawn, mae'n cael ei hun yn destun ymysodiadau ymhell, bell cyn yr etholiad hwnnw.
Mae'r naratifau ymysodol sy'n cael eu ffurfio yn yr etholiad cyntaf gan wrthwynebwyr o'r un blaid a'r ymgeisydd yn cael eu codi a'u datblygu fisoedd wedyn gan ei wrthwynebwyr o'r blaid arall. Roedd y rhan fwyaf o'r naratifau a ddefnyddwyd gan Obama yn erbyn Mitt Romney y llynedd wedi eu defnyddio gan gyd Weriniaethwyr Romney yn yr etholiad am yr ymgeisyddiaeth.
A dyma ydi'r perygl efo blogio fel hyn a chan rhai o'r sylwadau sydd wedi eu gadael ar y blog yma. Erbyn diwedd yr wythnos bydd gan y Blaid un ymgeisydd ar gyfer is etholiad Ynys Mon. Bydd rhaid i holl aelodau a charedigion y Blaid gefnogi hwnnw neu honno. Mae'n wirion bost mynd ati i greu proffil negyddol ar gyfer rhywun a allai'n hawdd fod yn sefyll mewn etholiad Cynulliad mewn ychydig mwy na mis.
Ar pob cyfri defnyddiwch dudalennau sylwadau'r blog yma neu unrhyw flog arall i ganmol pwy bynnag rydych eisiau iddo / iddi ennill yr ymwybyddiaeth - ond wir Dduw peidiwch a gwneud gwaith gwrthwynebwyr y Blaid trostynt trwy ladd ar y sawl nad ydych am ei weld yn ennill yr ymgeisyddiaeth.

Y datblygiad diweddaraf ar Ynys Mon
Mi soniais neithiwr bod un o'r cynghorwyr newydd a etholwyd yn gynharach eleni yn debygol o sefyll am enwebiaeth Cynulliad Ynys Mon. Dwi'n deall bod cyfarfod wedi ei gynnal tros y penwythnos i drefnu ymgeisyddiaeth Ann Griffith, Bro Aberffraw.
Monday, June 24, 2013
Ynys Mon - y diweddaraf
Mae sibrydion o gwmpas bod Rhun ap Iorwerth wedi croesi'r glwyd gyntaf sy'n rhaid iddo ei chroesi os yw i fod yn ymgeisydd y Blaid yn is etholiad Cynulliad Ynys Mon.
Cyn iddo gael mynychu'r cyfweliad - sydd rhaid i bawb sydd eisiau bod yn ymgeisydd ei wynebu - roedd rhaid i Bwyllgor Gwaith y Blaid gytuno i hynny. Dydw i ddim yn eistedd ar y pwyllgor hwnnw, a does gen i ddim mynediad i'r hyn sydd yn mynd ymlaen yno. Ond mae sibrydion ar led i'r pwyllgor ddod i benderfyniad unfrydol heno i agor y ffordd iddo symud ymlaen i gyfweliad.
Gan bod yr hystings yn digwydd ddydd Iau, gallwn gymryd y bydd y cyfweliad yn digwydd yn fuan iawn - fory neu ddydd Mercher mae'n debyg.
Mae yna o leiaf dri yn debygol o sefyll, Rhun, Heledd yn ogystal ag un o'r cynghorwyr newydd. Mae'n debyg bod mwyafrif clir iawn o'r cynghorwyr eraill yn cefnogi ymgeisyddiaeth Rhun.

Gwleidyddiaeth Cymru yn ymddangos ar Guido Fawkes
Wel, wel - mae gwleidyddiaeth Cymru yn derbyn sylw gan y blogiwr Paul Staines.
Mae'r blog Guido Fawkes ymysg blogiau gwleidyddol mwyaf poblogaidd y DU. Mae hefyd yn flog gwrth sefydliadol, adain dde sydd a diddordeb anymunol mewn sgandalau tabloid. Mae'r stori yn ymosod ar Rhun ap Iorwerth, y Blaid a'r BBC ar yr un pryd. Mae'n amlwg nad ydi Staines wedi cael y stori ei hun - heb son am y manylion - felly pwy sydd wedi ei hanfon ato. Pwy tybed?
Wel, gofynwch i chi'ch hun - pwy sydd yn flin uffernol efo Rhun, Y Blaid a BBC Cymru ar hyn o bryd? Pwy sydd efo hanes hir o ddefnyddio'r We i bwrpas pardduo gwleidyddol?
Mae cyfleustra yn arwain at gyfeillgarwch go ryfedd weithiau.

Sunday, June 23, 2013
Gwleidyddion Llafur sydd wedi gweithio yn y cyfryngau
Owen Smith (Bib)
Chris Bryant (Bib)
Edwina Hart (Cyngor Darlledu Cymru)
Ann Clwyd (Bib)
Teimlwch yn rhydd i gyfeirio at fwy yn y dudalen sylwadau.

Y Blaid Lafur Gymreig ac ymgeisyddiaeth Rhun ap Iorwerth
Mae sylwadau Ifan Morgan Jones ynglyn ag ymateb hysteraidd rhai aelodau o'r Blaid Lafur i ymgeisyddiaeth Rhun ap Iorwerth yn gwbl gywir. Mae'n gywir hefyd i dynnu sylw at ymateb ymddangosiadol boncyrs gan Alun Davies (Blaenau Gwent) i drydar gen i ynglyn a'r mater.
Because he's been interviewing me recently &; this blows away his personal & the BBC's credibility.
Fel sy'n digwydd mor aml, mae rhywbeth sy'n cael ei ddweud neu'i 'sgwennu yng ngwres y funud yn llawer mwy dadlennol na rhywbeth a ddywedir neu a ysgrifennir wedi pwyllo. Yr hyn sy'n dod i'r amlwg yma ydi'r diffyg goddefgarwch a thueddiadau unbeniaethol rhai yn y Blaid Lafur Gymreig.
Fel rhywun sydd a greddf mwy democrataidd na'r un sydd gan Alun hwyrach y bydd yn maddau i mi am gynnig gwers fach syml ynglyn a democratiaeth sylfaenol iddo.
Dydi bod a barn wleidyddol wahanol i un Alun Davies ddim yn dryllio hygrededd neb.
Dydi bod ag uchelgais wleidyddol ddim yn dryllio hygrededd neb.
Dydi holi Alun Davies tra'n dal barn wleidyddol wahanol iddo ddim yn dryllio hygrededd neb.
Dydi cyflogi pobl sydd a barn wleidyddol wahanol i farn Alun Davies ddim yn dryllio hygrededd y BBC.
Mae'r hen gyfaill David Taylor wedi mynd ymhellach hyd yn oed - mae'n gweld cynllwyn cenedlaetholgar yn erbyn y Blaid Lafur gan y Bib - The unjustified persistent and personal criticisms of@AlunDaviesAM over farming and weather in North Wales makes a bit more sense now
Oes rhywun yn gwybod beth ydi'r gair Cymraeg am delusional?
Because he's been interviewing me recently &; this blows away his personal & the BBC's credibility.
Fel sy'n digwydd mor aml, mae rhywbeth sy'n cael ei ddweud neu'i 'sgwennu yng ngwres y funud yn llawer mwy dadlennol na rhywbeth a ddywedir neu a ysgrifennir wedi pwyllo. Yr hyn sy'n dod i'r amlwg yma ydi'r diffyg goddefgarwch a thueddiadau unbeniaethol rhai yn y Blaid Lafur Gymreig.
Fel rhywun sydd a greddf mwy democrataidd na'r un sydd gan Alun hwyrach y bydd yn maddau i mi am gynnig gwers fach syml ynglyn a democratiaeth sylfaenol iddo.
Dydi bod a barn wleidyddol wahanol i un Alun Davies ddim yn dryllio hygrededd neb.
Dydi bod ag uchelgais wleidyddol ddim yn dryllio hygrededd neb.
Dydi holi Alun Davies tra'n dal barn wleidyddol wahanol iddo ddim yn dryllio hygrededd neb.
Dydi cyflogi pobl sydd a barn wleidyddol wahanol i farn Alun Davies ddim yn dryllio hygrededd y BBC.
Mae'r hen gyfaill David Taylor wedi mynd ymhellach hyd yn oed - mae'n gweld cynllwyn cenedlaetholgar yn erbyn y Blaid Lafur gan y Bib - The unjustified persistent and personal criticisms of
Oes rhywun yn gwybod beth ydi'r gair Cymraeg am delusional?
Rhun ap Iorwerth yn sefyll - swyddogol
Dwi ddim adref, a fedra i ddim cynnig linc - ond mae Rhun ap Iorwerth wedi cyhoeddi ei fod yn ceisio am enwebiad y Blaid yn Ynys Mon o fewn yr awr diwethaf. Mae dau yn y ras hyd yn hyn felly - Heledd a Rhun.
Gyda llaw mae'r Llafurwyr ar trydar - David Taylor a Alun Davies wedi ypsetio braidd. Bechod.

Ynys Mon - y dyfalu diweddaraf
Mae'n werth cael cip ar gyfri trydar Y Cynghorydd Carwyn Jones am wybodaeth am y datblygiadau diweddaraf o Ynys Mon - @CarwynJones22.
Rydym eisoes yn gwybod bod Heledd yn bwriadu rhoi ei henw ymlaen, ac yn ol Carwyn fydd o ddim yn rhoi ei enw ymlaen y tro hwn. Mae o'n dweud fodd bynnag y bydd enw arall yn dod i'r amlwg fory. Dydi o ddim yn dweud pwy - ond mae'n debygol bod yr enw yn un adnabyddus - Rhun ap Iorwerth.

Saturday, June 22, 2013
Cyfle unigryw i'r Blaid yn 2015
Felly mae Ed Milliband yn cadarnhau'r hyn oedd yn amlwg ers i Ed Balls ddweud y bydd Llafur yn cadw at gynlluniau gwariant George Osborne os byddant yn ennill yr etholiad San Steffan nesaf - ni fyddant yn benthyg mwy o arian er mwyn dad wneud toriadau'r llywodraeth sydd ohoni. Maent felly yn derbyn dadansoddiad y Toriaid mai'r hyn sydd angen ei wneud i ddod a'r amgylchiadau economaidd anodd presenol i ben ydi toriant mewn gwariant cyhoeddus.
Rwan ar un olwg mae dadlau mai peidio a benthyg mwy ydi'r ffordd orau i fynd i'r afael ag argyfwng sydd wedi ei sylfaenu i raddau helaeth ar or fenthyg yn gwneud synnwyr. Ond mae dadl arall hefyd - ac mae'r dystiolaeth sydd ar gael yn tueddu i gefnogi honno.
Mae'r ddamcaniaeth Tori / Llafur / Lib Dem bod torri'r sector cyhoeddus am roi hwb i'r economi ehangach wedi ei phrofi am flynyddoedd bellach - ac wedi methu yn llwyr a chreu unrhyw dwf economaidd gwerth son amdano. Mae'r llwybr mae Balls a Milliband mor awyddus i'w gerdded efo'r Toriaid a'r Lib wedi methu ac wedi methu yn llwyr i gael yr economi yn symud.
Y ddadl arall ydi y gallai cynyddu gwariant cyhoeddus yn y byr dymor gael yr economi yn symud a byddai torri ar fenthyg yn y dyfodol - pan mae'r economi yn tyfu - fod yn fwy effeithiol a llai poenus i bobl gyffredin na cheisio gwneud hynny pan mae'r economi yn llonydd neu'n crebachu.
Ag edrych y tu hwnt i'r DU mae pleidiau sydd y tu hwnt i'r consensws mai gwariant cyhoeddus ydi sail y wasgfa economaidd wedi gweld eu cefnogaeth yn cynyddu yn sylweddol tros y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn yn wir o Wlad Groeg i'r Iwerddon.
Mae'r sefyllfa yma yn rhoi cyfle i'r Blaid - yn arbennig felly yng nghyd destun etholiad San Steffan 2015. Mae ganddi'r cyfle hynod anarferol feddiannu tir etholiadol poblogaidd, ar ei phen ei hun reit wrth galon yr hyn sy'n penderfynu canlyniadau etholiadau cyffredinol. Mae etholiadau cyffredinol yn cael eu penderfynu gan ystyriaethau tymor byr carfannau o etholwyr ynglyn a sut orau i amddiffyn eu safonau byw eu hunain.
Dydi Plaid Cymru ddim yn gorfod poeni ynglyn a barn llond dwrn o bobl sydd a buddiannau personol wedi eu clymu i'r status quo ym milltir sgwar Dinas Llundain. Dydi Milliband ddim mewn sefyllfa i'w pechu. Mae'n gyfle gwych i lwyddo yn etholiad 2015. Y ffordd o baratoi ar gyfer yr etholiad hwnnw ydi trwy baratoi naratif effeithiol sy'n gwrthwynebu'r consensws toriadau, mynd a'r naratif hwnnw i mewn i'r flwyddyn etholiad a siarad am ddim arall trwy'r ymgyrch.

Thursday, June 20, 2013
Plaid Carwyn Jones mor awyddus i dorri gwariant cyhoeddus a'r Toriaid
Dylai fod o gryn ddiddordeb i'r gwrthbleidiau yn y Cynulliad bod Ed Balls wedi dod i'r casgliad bod Llafur - o gael eu hethol - yn bwriadu cadw oddi mewn i gynlluniau gwariant George Osborne.
Bydd unrhyw un sy'n dilyn sesiynau holi'r Prif Weinidog yn y Cynulliad yn gwybod mai un ateb sydd gan Carwyn Jones i pob beirniadaeth o'i weinyddiaeth - sef mai bai'r Toriaid drwg efo'u toriadau ydi pob dim.
Ond erbyn deall gan Ed, petai yn cael ei hun yn 11 Downing Street byddai'n gwario cyn lleied aG Osborne ar wasanaethau cyhoeddus - hy cyn lleied a phosibl. Felly pan mae Carwyn Jones yn osgoi ateb cwestiynau trwy feio'r Toriaid am eu toriadau mewn gwariant cyhoeddus, cofier bod plaid Carwyn yn Llundain yn cytuno efo'r toriadau hynny.

Is etholiad Ynys Mon
Mae'r ffaith y bydd is etholiad Ynys Mon yn digwydd yn fuan - ar Awst 1 o bosibl - yn rhoi mantais tactegol sylweddol i'r Blaid.
Mae'r etholiad cyngor sir diweddar wedi dangos yn gwbl glir nad oes gan y pleidiau unoliaethol ar yr ynys fawr o drefniadaeth, fawr o glem pwy ydi eu cefnogwyr a'u cefnogwyr potensial, na fawr o glem am dechnegau canfasio diweddar. Dydi'r amserlen fer ddim yn rhoi cyfle iddynt ddechrau cael trefn ar bethau, heb son am osod peririant etholiadol effeithiol a chyfoes mewn lle.
Byddai'r Blaid yn disgwyl ennill beth bynnag - mae'n amser maith ers i un o'r pleidiau unoliaethol ei churo ar Ynys Mon mewn unrhyw etholiad ag eithrio etholiad San Steffan - mae hyn yn cynnwys etholiadau cyngor, Cynulliad ac Ewrop.
O dan yr amgylchiadau hyn dylai'r Blaid ddal y sedd yn hawdd - yr unig beth a allai newid hynny fyddai dewis sobor o anoeth o ymgeisydd - a does yna ddim rheswm o gwbl i boeni y gallai hynny ddigwydd.

Sunday, June 16, 2013
Ymgeisyddiaeth Arfon ar gyfer etholiadu'r Cynulliad 2016
Dwi'n siwr na fydd y Cynghorydd Dyfrig Jones yn anghytuno ei bod yn beth rhyfedd ei fod o a minnau yn perthyn i'r un Blaid ond yn cael ein hunain yn anghytuno mor aml am cymaint o wahanol bethau.
Dwi yn cytuno serch hynny efo'i ddadansoddiad o'r frwydr am ymgeidyddiaeth y Blaid yn Arfon. Yn Sian Gwenllian a Heledd Fychan mae gennym ddau ymgeisydd cryf. Mae Sian serch hynny yn well ymgeisydd i Arfon. Mae yna bedwar rheswm pam 'dwi o'r farn yma:

- Mae ganddi gysylltiadau personol ar hyd a lled yr etholaeth - yn wir mae ganddi fwy o gysylltiadau lleol nag unrhyw ymgeisydd diweddar i'r Blaid yn yr ardal. Mae cysylltiadau lleol yn bwysig yn y Gogledd Orllewin.
- Mae iddi hanes o fod a'i chlust ar y llawr yn wleidyddol a chymryd rhan mewn ymgyrchoedd llawr gwlad yn lleol. Mae ymgyrchoedd felly yn ffordd effeithiol o adeiladu cefnogaeth bersonol.
- Mae ei chefndir newyddiadurol yn ei rhoi mewn lle cryf i fynd i'r afael a phroblem sydd gan y Blaid yn y Gogledd Orllewin. Dydi ymdriniaeth y wasg a materion gwleidyddol lleol ddim yn gydymdeimladol a'r Blaid - i'r gwrthwyneb. Mae'r cefndir newyddiadurol yn ei harfogi i geisio newid y naratif negyddol yma - yn ogystal a hyrwyddo ei hymgeisyddiaeth yn y wasg.
- Mae unrhyw un sydd wedi bod yn ddeilydd portffolio addysg yng Ngwynedd yn ddiweddar efo o leiaf ddwy nodwedd wleidyddol hynod bwysig - croen mor dew ag un eliffant a pharodrwydd i gymryd penderfyniadau anodd.
Mi fydda i yn hapus i gefnogi Sian ddydd Gwener a dwi'n hapus hefyd i ddymuno'n dda i Heledd yn y dyfodol. Mi fydd yn aelod cynulliad effeithiol rhyw ddiwrnod - ond mae yn sefyll yn erbyn ymgeisydd mwy addas ar gyfer Arfon y tro hwn.
Wednesday, June 12, 2013
Pwy sy'n siarad y Wyddeleg (a'r Gymraeg) yn ddyddiol?
Digwydd dod ar draws yr adroddiad yma - wel mae'n rhaid i fi wneud rhywbeth efo'r holl amser sbar mae rhywun yn fy swydd i yn ei gael. Adroddiad i Gyngor Sir Galway ydyw ar dlodi yn y sir. Mae'r darn dwi wedi ei ddewis fodd bynnag yn canolbwyntio ar y defnydd o'r iaith Wyddeleg.
Mae'r fethedoleg yn ddiddorol i'r graddau mai'r hyn a edrychir arno ydi niferoedd o bobl sy'n defnyddio'r iaith yn ddyddiol yn hytrach na'r niferoedd sy'n gallu ei siarad. Ymhellach mae'r adroddiad yn cymryd bod iaith yn un gymunedol os ydi hanner trigolion y gymuned honno yn siarad Gwyddeleg pob dydd. Yr egwyddor sydd y tu cefn i hyn ydi bod amlder defnydd o iaith yn bwysicach na gallu goddefol i'w siarad.
Mae hyn yn fy nharo yn ffordd synhwyrol o edrych ar bethau. Os oes arolygon iaith cenedlaethol neu leol yn cael eu cynnal yng Nghymru tros y blynyddoedd nesaf, byddwn yn awgrymu y byddai mynd ati yn y ffordd yma yn llawer mwy dadlennol na holi unwaith eto pwy sy'n gallu siarad y Gymraeg ac yn lle - mae'r wybodaeth yna eisoes gennym.

Dilynwyr trydarwyr gwleidyddol
Digwydd gweld ffigyrau dilynwyr trydar arweinwyr pleidiau yr Alban. Maent fel a
J Lamont - Llafur - 4554
R Davidson - Tori - 4386
A Salmond - 39568
Rhag bod rhywun eisiau gwybod y ffigyrau Cymreig cyfatebol ydi:
Leanne Wood - 7911
Carwyn Jones - 7492
Kirsty Williams - 4100
Andrew RT Davies - 2071

Monday, June 10, 2013
Carwyn yn deffro am ychydig funudau
Pan oeddwn yn yr ysgol uwchradd roedd gen i athro ddylai fod wedi ymddeol flynyddoedd cyn iddo wneud hynny. . Wna i ddim o'i enwi - ond roedd yn enwog y tu allan i'r maes addysg. Roedd ganddo ddisgyblaeth arbennig o dda pan oedd yn effro, ond roedd y disgyblaeth hwnnw yn dirywio braidd pan syrthiai i gysgu - ac roedd yn syrthio i gysgu yn amlach ac yn amlach yn ystod misoedd olaf ei yrfa. Byddai'n deffro pan a'r swn yn ormodol ac yn mynd ati i ail sefydlu trefn - cyn syrthio i gysgu eto.
Roeddwn yn meddwl am yr hen greadur hwnnw wrth ddarllen am Carwyn Jones yn dweud y drefn wrth Leighton Andrews am ymgyrchu yn erbyn polisi cau ysbytai Llafur ar balmentydd y Rhondda. Ymddengys ei fod wedi sylwi o'r diwedd.
Dwi ddim yn siwr os ydi Carwyn yn dda am gadw trefn ar ei gyd Lafurwyr pan mae'n effro, a dydw i ddim yn siwr ei fod wedi deffro digon i sylwi nad ydi Leighton ar ei ben ei hun yn chwarae'r gem fach ragrithiol yma - mae Owen Smith, Mark Antoniw, Chris Bryant, Keith Davies a Nia Griffiths wrthi hefyd.
Yn fy mhrofiad i mae yfed coffi yn rheolaidd yn ffordd dda iawn o gadw'n effro. Mae'n rhywbeth y gallai Carwyn ei ystyried.

Wednesday, June 05, 2013
Y gwersi i'r Blaid eu cymryd o batrymau polio diweddar
Mae Blogmenai wedi son am y wefan politicalbetting.com sawl gwaith. Does yna'r unman arall yn cynnig dadansoddiadau etholiadol o safon uchel yn gyson. Edrych ar ddau batrwm sydd wedi cael eu amlygu mewn dadansoddiadau diweddar fyddwn ni heddiw. Gyda llai na dwy flynedd i fynd cyn etholiad cyffredinol 2015 - mae'n bwysig bod pleidiau yn dechrau meddwl o ddifri am eu strategaethau etholiadol.
Patrwm 1: I ble mae pleidleisiau'r Lib Dems yn mynd? Mae'r polau yn weddol glir ynglyn a hyn - mae 30.1% o'r sawl bleidleisiodd tros y Lib Dems yn 2010 yn bwriadu gwneud hynny eto, mae 25% am fotio i Lafur, 14.2% i UKIP, 8% i blaid arall, 5.2% i'r Toriaid a dydi 17.5% ddim yn siwr. Felly mae Llafur yn perfformio'n gryf iawn ymysg cyn bleidleiswyr Lib Dem - bron mor gryf a'r Lib Dems eu hunain.
Patrwm 2: Roedd cefnogaeth UKIP wedi tyfu yn sylweddol erbyn diwedd mis Rhagfyr - ac roedd hwnnw ar draul y Toriaid yn bennaf. Ond bu twf pellach ers mis Ionawr - ac mae ychydig mwy o hwnnw wedi dod oddi wrth Lafur na'r Toriaid - Llafur -3.93%, Toriaid - 3.43%, Lib Dems -1.3%, UKIP - +7.33%. Mae hyn wedi dod a chanran Llafur i lawr o dan 40% yn y rhan fwyaf o bolau - roeddynt yn y 40au cynnar cyn hynny.
Rwan o safbwynt y Blaid mae yna wersi i'w cymryd o hyn - yn arbennig felly mewn etholaethau lle mai Llafur ydi prif wrthwynebwyr y Blaid. Y gyntaf ydi nad ydi twf ym mhleidlais UKIP yn rhywbeth i boeni amdano - mae'n niweidiol i Lafur ac mae'n rhannu'r bleidlais unoliaethol bedair ffordd.
Mae'r ail wers yn bwysicach - mae pleidlais Llafur wedi tyfu ond mae'r twf hwnnw yn fregus i'r graddau ei fod yn ddibynnol ar drosglwyddiad o bleidleisiau Lib Dem. Byddai dod o hyd i ffordd o apelio at rai o'r cyn bleidleiswyr Lib Dem yma yn ffordd hynod bwerus o niweidio Llafur - nid yn unig y byddai pob pleidlais y byddai'r Blaid yn ei chael o'r cyfeiriad yma yn cynyddu pleidlais y Blaid, ond byddai hefyd yn lleihau'r bleidlais Lafur. Clec ddwbl i Lafur. 'Dydi hyn ddim yn hawdd - pleidlais ddigon Seisnig ydi un y Lib Dems yn y rhan fwyaf o Gymru. Ond gallai dod o hyd i ffordd o apelio at y pleidleiswyr anwadal yma wneud gwahaniaeth holl bwysig mewn nifer o etholaethau.

Monday, June 03, 2013
Cabinet newydd cynhyrfus Ynys Mon
Does yna ddim pwt o amheuaeth bod y dyddiau hyn yn rhai hynod gynhyrfus i Gyngor Mon. Wedi blynyddoedd o fod o dan gwmwl, mae pethau'n well rwan bod y cyngor am gael ei arwain gan grwp annibynnol gyda chefnogaeth amrywiol grwpiau eraill. Ni allai neb gwrthrychol amau am eiliad mai dyma'n union y math o drefniant newydd ac arloesol mae Cyngor Ynys Mon ei angen.
Mae'r rhain yn ddyddiau cynhyrfus yn wir - ac does yna ddim byd yn adlewyrchu hynny cystal a chyfansoddiad y cabinet newydd. Mae'n gabinet llawn talent - ond yr hyn sydd orau amdano ydi'r ffaith ei fod yn hollol wahanol i'r hyn a gafwyd o'r blaen. Yn wir nid yw'n ormodiaeth i ddweud bod gan Ynys Mon bellach gabinet sy'n cynrychioli'r ynys ei holl amrywiaeth llachar. Cabinet gwirioneddol amrywiol a chynrychioladol am y tro cyntaf erioed. Mae'n bleser gan Flogmenai gyflwyno'r cabinet hwnnw i'r genedl.
Arweinydd y cyngor a deilydd y portffolio addysg - Ieuan Williams (Annibynnol, Lligwy). Mae Ieuan yn deall yn iawn mai'r gwir reswm am yr enw anffodus mae Ynys Mon wedi ei gael yn ddiweddar ydi sylw anheg gan y cyfryngau. Mae Ieuan am weld y gorau i ward Lligwy.
Wele'r dirprwy arweinydd newydd Arwel Roberts, (Llafur, Caergybi) ar y chwith fel rydych yn edrych ar y llun. Mae Arwel yn gyfrifol am gynllunio a'r amgylchedd. 'Dydi Arwel ddim eisiau gweld unrhyw radicaliaeth yn croesi Pont Borth neu mi fydd y drygioni hwnnw'n croesi'r Cob mewn dim - a lle ddiawl fyddan ni i gyd wedyn? Mae Arwel eisiau'r gorau i ward Caergybi.
Richard Dew (chwith, Annibynnol Llifon) sy'n gyfrifol am wastraff a phriffyrdd . Mae Richard am weld y gorau i ward Llifon.
Kenneth Hughes (Annibynnol, Talybolion) sy'n gyfrifol am wasanaethau cymdeithasol a thai. Mae Ken am weld y gorau i ward Talybolion.
Aled Morris Jones (Lib Dem, Twrcelyn) sy'n gyfrifol am ddatblygu'r economi a thwristiaeth. Ystyrir datblygu'r economi yn faes arbennig o addas i Lib Dem ar Ynys Mon gan bod y blaid honno yn cael cymaint o lwyddiant yn datblygu'r economi ar lefel Prydeinig ar hyn o bryd a chan eu bod yn gwrthwynebu gorsaf bwer niwclear ar Ynys Mon ac ym mhob man arall. Mae Aled am weld y gorau i ward Twrcelyn.
Hywel Eifion Jones (Annibynnol, Bro Rhosyr) sy'n ysgwyddo'r gyfrifoldeb am edrych ar ol holl bres y cyngor. Mae Eifion yn fwy nag atebol o wneud hyn. Mae hefyd am weld y gorau i ward Bro Rhosyr.
Yn anffodus 'does yna ddim digon o le ar y blog i restru holl gyfrifoldebau Alwyn Rowlands (Llafur, Seiriol). Nid yw'n rhyfedd iddo gael cymaint o gyfrifoldebau - mae ymysg cynghorwyr ieuengef a mwyaf deinamig y glymblaid. Mae am weld y gorau i ward Seiriol.
Mae'r rhain yn ddyddiau cynhyrfus yn wir - ac does yna ddim byd yn adlewyrchu hynny cystal a chyfansoddiad y cabinet newydd. Mae'n gabinet llawn talent - ond yr hyn sydd orau amdano ydi'r ffaith ei fod yn hollol wahanol i'r hyn a gafwyd o'r blaen. Yn wir nid yw'n ormodiaeth i ddweud bod gan Ynys Mon bellach gabinet sy'n cynrychioli'r ynys ei holl amrywiaeth llachar. Cabinet gwirioneddol amrywiol a chynrychioladol am y tro cyntaf erioed. Mae'n bleser gan Flogmenai gyflwyno'r cabinet hwnnw i'r genedl.
Arweinydd y cyngor a deilydd y portffolio addysg - Ieuan Williams (Annibynnol, Lligwy). Mae Ieuan yn deall yn iawn mai'r gwir reswm am yr enw anffodus mae Ynys Mon wedi ei gael yn ddiweddar ydi sylw anheg gan y cyfryngau. Mae Ieuan am weld y gorau i ward Lligwy.
Wele'r dirprwy arweinydd newydd Arwel Roberts, (Llafur, Caergybi) ar y chwith fel rydych yn edrych ar y llun. Mae Arwel yn gyfrifol am gynllunio a'r amgylchedd. 'Dydi Arwel ddim eisiau gweld unrhyw radicaliaeth yn croesi Pont Borth neu mi fydd y drygioni hwnnw'n croesi'r Cob mewn dim - a lle ddiawl fyddan ni i gyd wedyn? Mae Arwel eisiau'r gorau i ward Caergybi.
Richard Dew (chwith, Annibynnol Llifon) sy'n gyfrifol am wastraff a phriffyrdd . Mae Richard am weld y gorau i ward Llifon.
Kenneth Hughes (Annibynnol, Talybolion) sy'n gyfrifol am wasanaethau cymdeithasol a thai. Mae Ken am weld y gorau i ward Talybolion.
Aled Morris Jones (Lib Dem, Twrcelyn) sy'n gyfrifol am ddatblygu'r economi a thwristiaeth. Ystyrir datblygu'r economi yn faes arbennig o addas i Lib Dem ar Ynys Mon gan bod y blaid honno yn cael cymaint o lwyddiant yn datblygu'r economi ar lefel Prydeinig ar hyn o bryd a chan eu bod yn gwrthwynebu gorsaf bwer niwclear ar Ynys Mon ac ym mhob man arall. Mae Aled am weld y gorau i ward Twrcelyn.
Hywel Eifion Jones (Annibynnol, Bro Rhosyr) sy'n ysgwyddo'r gyfrifoldeb am edrych ar ol holl bres y cyngor. Mae Eifion yn fwy nag atebol o wneud hyn. Mae hefyd am weld y gorau i ward Bro Rhosyr.
Saturday, June 01, 2013
Bru na Boinne
Mi wnawn ni orffen yr arbrawf bach yma mewn cyfuno gwyliau a blogio gwleidyddol efo llun neu ddau o fynwentydd megolithig enwog Bru na Boinne yn swydd Meath. Daw'r lluniau o safleoedd Knowth a Newgrange.
Mae'n debyg i'r strwythurau hynod hyn gael eu codi pum mil o flynyddoedd yn ol. Mae hyn 1,000 cyn Stonehenge, a 600 mlynedd cyn pyramidau Giza. Yn wir mae'n bosibl mai'r strwythur yn Knowth oedd yr adeilad mwyaf yn y Byd pan gafodd ei godi.
Mae'r cyfnod yma ymhell cyn i'r Hen Destament gael ei ysgrifennu, ac mae ymhell cyn i'r un o grefyddau mawr y Byd gychwyn. Roeddem yn son ynghynt am cymaint mae'r ffordd rydym yn canfod y Byd wedi newid ers dechrau codi Glendalough. Dydi hwnnw yn ddim o'i gymharu a'r newid sydd wedi digwydd ers i bobl dechrau gadael tystiolaeth o'u bodolaeth ar yr ynysoedd hyn.
Byddwn dychwelyd at y cymysgedd arferol o ddadansoddi a cholbio o fory ymlaen.

Gwleidyddiaeth hunaniaeth a'r cyfrifiad yng Ngogledd Iwerddon
Gwleidyddiaeth hunaniaeth - fel mae'r enw yn awgrymu - ydi gwleidyddiaeth sy'n ymwneud a'r ffordd mae pobl yn diffinio eu hunaniaeth eu hunain. Gall hunaniaeth gyfeirio at ethnigrwydd, cenedl, rhywioldeb, hil, rhanbarth, dosbarth cymdeithasol, lliw, cefndir diwylliannol ac ati. Mae'n debyg bod hunaniaeth yn effeithio ar wleidyddiaeth bron i bawb i ryw raddau neu'i gilydd. Yr hyn sy'n nodweddu Gogledd Iwerddon ydi bod hunaniaeth yn tra arglwyddiaethu tros bron i pob ystyriaeth arall. Mae'r naratifau a greir gan wleidyddiaeth hunaniaeth yn gryfach nag unrhyw naratif arall - gan gynnwys y materion bara menyn sydd yn tra arglwyddiaethu yn y rhan fwyaf o lefydd. Cau ysbytai ydi'r stori yng Nghymru - pleidlais yn Stormont i wahardd spads gwleidyddol sydd a record parafilwrol a choctel sydd ar werth mewn bar yn Lloegr o'r enw Sunday Bloody Sunday oedd y materion mawr yng Ngogledd Iwerddon wythnos diwethaf.
Un o nodweddion gwleidyddiaeth hunaniaeth yng Ngogledd Iwerddon ydi'r angen i farcio tir - i ddangos pwy sydd 'biau' gwahanol ardaloedd. Mae unoliaethwyr yn fwy euog o hyn na chenedlaetholwyr. Mae yna filoedd ar filoedd o faneri Jac yr Undeb mewn ardaloedd unoliaethol dosbarth gweithiol ar hyd a lled y dalaith. Mae tricola'r Weriniaeth i'w gweld hefyd - ond ddim i'r un graddau. Mi fydd yna lawer iawn ohonynt yn ymddangos am ychydig wythnosau o gwmpas y Pasg - ond mae'r marcio tiriogaethol cenedlaetholgar yn tueddu i fod yn llai amrwd na'r marcio unoliaethol - dwyieithrwydd cyhoeddus, cyfeiriadau at Gemau Gwyddelig neu furluniau - sydd bellach yn aml ddim yn cyfeirio at y rhyfel hir yn uniongyrchol - er enghraifft. Mae'r murluniau teyrngarol wedi eu nodweddu gan ddiffyg datblygiad - lluniau yn clodfori'r UVF neu'r UFF ydi'r rhan fwyaf ohonynt hyd heddiw.
Mae'n debyg nad oes yna lawer o lefydd lle mae gwleidyddiaeth hunaniaeth yn fwy gweladwy nag ydyw yn ninas Derry. Lluniau o ddwy stad ar lan orllewinol Afon Foyle a geir isod - Y Bogside a'r Fountain. Mae'r naill yn stad tai cenedlaetholgar sylweddol iawn, tra bod y llall yn stad fechan unoliaethol. Mae'r ddwy stad yn teimlo eu bod o dan warchae. Yn achos y Bogside cof o Bloody Sunday a'r is strwythur milwrol sylweddol oedd yn eu hamgylchu am ddegawdau sydd wrth gefn yr ymdeimlad. Yn achos trigolion y Fountain cred mai nhw ydi'r Protestaniaid olaf ar ochr orllewinol y Foyle - tir sydd yn bwysig i unoliaethwyr am resymau hanesyddol - sydd yn gyrru pethau.
Mae canfyddiad trigolion y Fountain wedi ei seilio i raddau ar symudiadau poblogaeth go iawn a ddigwyddodd yn ystod y trafferthion. Roedd yna fwyafrif hanesyddol Protestanaidd ar lan ddwyreiniol yr afon, ac atgyfnerthwyd hwnnw pan symudodd tros i dri chwarter y 12,000 o Brotestaniaid oedd yn byw ar y lan Orllewinol tris yr afon yn fuan wedi i'r helyntion gychwyn. Cafwyd symudiad cyfatebol o Babyddion i'r gorllewin. Arhosodd trigolion y Fountain yn y Gorllewin, gan wneud eu murluniau, eu baneri a'u hunaniaeth mor eglur ag oedd bosibl eu gwneud. Mae unoliaethwyr y lan ddwyreiniol yn gwneud eu gorau i ddangos mai nhw ydi perchnogion yr ardal honno hefyd. Mae yna faneri Jac yr Undeb i'w gweld yr holl ffordd trwy'r Waterside.
Ond yr hyn sy'n ddiddorol ydi bod hanes wedi gadael y ddau ganfyddiad ar ol - ond mae fel petai'r naill ochr na'r llall wedi sylweddoli hynny. Mae canlyniadau cyfrifiad 2011 yn dangos hynny yn boenus o glir. O safbwynt y Bogside mae bron i'r cwbl o'r is strwythur diogelwch wedi mynd. Prin bod unrhyw bresenoldeb diogelwch i'r gorllewin o'r Foyle. Yr hyn sydd yno ydi Pabyddion - miloedd ar filoedd ar filoedd ohonyn nhw - 54,976 a bod yn fanwl. 3,169 o Brotestaniaid sydd yno. Ar un olwg mae demograffeg a rhyfel wedi sicrhau bod ardal y dref gaerog - ardal sydd yn ymylu at fod yn santaidd i unoliaethwyr- bellach ynghanol mor o genedlaetholwyr. Yn yr ystyr hwnnw mae trigolion y Bogside - a'r stadau sydd i'r gorllewin iddynt - Creggan, Shantallow a'r holl ddatblygiadau tai mawr diweddar wedi ennill eu rhyfel.
Ond o graffu ar y ffigyrau mae yna wirioneddau eraill hefyd. Mae poblogaeth y Fountain yn syrthio. 364 sy'n byw yno bellach - 88 yn llai na ddeg mlynedd yn ol. O fynd yn ol ymhellach roedd y boblogaeth yn sylweddol. Yn wir mae yna bellach saith gwaith cymaint o Brotestaniaid yn byw ar, neu yn agos at, stadau Pabyddol y lan orllewinol na sydd yn byw yn y Fountain - ac yn gwneud hynny heb ddangos yr un baner na murlun unoliaethol neu deurngarol.
Ond yr hyn sydd o fwyaf o syndod ydi bod y mwyafrif unoliaethol ar y lan ddwyreiniol wedi mynd - beth bynnag mae baneri'r Waterside yn ei awgrymu. Mae yna 25,345 o Babyddion yn byw yn y Dwyrain o gymharu a 20,097 o Brotestaniaid. Rhith ydi'r syniad o lan ddwyreiniol unoliaethol bellach.
Mae'r hyn sydd wedi digwydd yn Derry yn cael ei adlewyrchu yng ngweddill y dalaith - er ddim i'r un graddau ym mhob man. Ond yr hyn sy'n rhyfedd ydi bod angen y gymuned unoliaethol i farcio tir a chynrychioli ei hun ar ffurf weledol yn cynyddu fel mae ei niferoedd yn godtwng.