Mae'n un o nodweddion gwleidyddiaeth America bod ochr y sawl sy'n sefyll mewn etholiad yn aml yn gwneud mwy o niwed i ymgeisydd na'i elynion. Oherwydd bod ymgeiswyr yn gorfod sefyll mewn etholiad agored yn erbyn aelodau eraill o'i blaid ei hun cyn cael cynrychioli ei blaid mewn etholiad go iawn, mae'n cael ei hun yn destun ymysodiadau ymhell, bell cyn yr etholiad hwnnw.
Mae'r naratifau ymysodol sy'n cael eu ffurfio yn yr etholiad cyntaf gan wrthwynebwyr o'r un blaid a'r ymgeisydd yn cael eu codi a'u datblygu fisoedd wedyn gan ei wrthwynebwyr o'r blaid arall. Roedd y rhan fwyaf o'r naratifau a ddefnyddwyd gan Obama yn erbyn Mitt Romney y llynedd wedi eu defnyddio gan gyd Weriniaethwyr Romney yn yr etholiad am yr ymgeisyddiaeth.
A dyma ydi'r perygl efo blogio fel hyn a chan rhai o'r sylwadau sydd wedi eu gadael ar y blog yma. Erbyn diwedd yr wythnos bydd gan y Blaid un ymgeisydd ar gyfer is etholiad Ynys Mon. Bydd rhaid i holl aelodau a charedigion y Blaid gefnogi hwnnw neu honno. Mae'n wirion bost mynd ati i greu proffil negyddol ar gyfer rhywun a allai'n hawdd fod yn sefyll mewn etholiad Cynulliad mewn ychydig mwy na mis.
Ar pob cyfri defnyddiwch dudalennau sylwadau'r blog yma neu unrhyw flog arall i ganmol pwy bynnag rydych eisiau iddo / iddi ennill yr ymwybyddiaeth - ond wir Dduw peidiwch a gwneud gwaith gwrthwynebwyr y Blaid trostynt trwy ladd ar y sawl nad ydych am ei weld yn ennill yr ymgeisyddiaeth.

Cytuno'n llwyr. Dwi ddim yn aelod o'r Blaid ond dwi'n awyddus iawn i weld unigolion dawnus yn arwain y Cynulliad. Cam gwag mae gen i ofn yw cais Syniadau i roi proses a rheolau pedantig o flaen talent a photensial.
ReplyDeleteCytuno gant y cant. Mi ro'n i awydd dweud yn union be o'n i'n feddwl o blog dwetha Syniadau (dim byd da), ond na'i beidio...
ReplyDeletep.s. Rhun, os ti'n darllen hwn, pob lwc - mi welai di nos Iau!
Cytuno'n llwyr gyda sylwad Anon uchod. Pob lwc i Heledd a Rhun - a phwy bynnag sy'n colli, bydd dyfodol disglair iawn iddynt mewn gwleidyddiaeth dwi'n siwr.
ReplyDeletePS Dim pleidlais gen i, ond dybl pob lwc i Rhun!
Newydd clywed fy mod i wedi cael fy nerbyn i fod ar y rhestr genedlaethol hefyd.
ReplyDeletePob lwc i chi hefyd felly, Ann! Ymgeisydd cryf arall yn dod ymlaen, mae PC yn lwcus iawn.
ReplyDeleteTamed hollol speitlyd gan Syniadau !
ReplyDeleteGweld fod trydar Llafur yn cyfeirio at blog-bost Syniadau fel rhan o'u hymgyrch i danseilio rhun a pc heddiw. Clyfar iawn michael. Clyfar iawn.
ReplyDeleteDwi'n mynd yn bur anesmwyth ynglyn a goslef gor-bendant ac hunan-gyfiawn Syniadau. Mae ynni niwclear yn faes dyrys a chymleth i bob cenedl fodern.
ReplyDeleteGweld bod 'rhen Syniadau ddim wedi cymryd y cyngor hwn beth bynnag!
ReplyDelete