Mae Blogmenai wedi son am y wefan politicalbetting.com sawl gwaith. Does yna'r unman arall yn cynnig dadansoddiadau etholiadol o safon uchel yn gyson. Edrych ar ddau batrwm sydd wedi cael eu amlygu mewn dadansoddiadau diweddar fyddwn ni heddiw. Gyda llai na dwy flynedd i fynd cyn etholiad cyffredinol 2015 - mae'n bwysig bod pleidiau yn dechrau meddwl o ddifri am eu strategaethau etholiadol.
Patrwm 1: I ble mae pleidleisiau'r Lib Dems yn mynd? Mae'r polau yn weddol glir ynglyn a hyn - mae 30.1% o'r sawl bleidleisiodd tros y Lib Dems yn 2010 yn bwriadu gwneud hynny eto, mae 25% am fotio i Lafur, 14.2% i UKIP, 8% i blaid arall, 5.2% i'r Toriaid a dydi 17.5% ddim yn siwr. Felly mae Llafur yn perfformio'n gryf iawn ymysg cyn bleidleiswyr Lib Dem - bron mor gryf a'r Lib Dems eu hunain.
Patrwm 2: Roedd cefnogaeth UKIP wedi tyfu yn sylweddol erbyn diwedd mis Rhagfyr - ac roedd hwnnw ar draul y Toriaid yn bennaf. Ond bu twf pellach ers mis Ionawr - ac mae ychydig mwy o hwnnw wedi dod oddi wrth Lafur na'r Toriaid - Llafur -3.93%, Toriaid - 3.43%, Lib Dems -1.3%, UKIP - +7.33%. Mae hyn wedi dod a chanran Llafur i lawr o dan 40% yn y rhan fwyaf o bolau - roeddynt yn y 40au cynnar cyn hynny.
Rwan o safbwynt y Blaid mae yna wersi i'w cymryd o hyn - yn arbennig felly mewn etholaethau lle mai Llafur ydi prif wrthwynebwyr y Blaid. Y gyntaf ydi nad ydi twf ym mhleidlais UKIP yn rhywbeth i boeni amdano - mae'n niweidiol i Lafur ac mae'n rhannu'r bleidlais unoliaethol bedair ffordd.
Mae'r ail wers yn bwysicach - mae pleidlais Llafur wedi tyfu ond mae'r twf hwnnw yn fregus i'r graddau ei fod yn ddibynnol ar drosglwyddiad o bleidleisiau Lib Dem. Byddai dod o hyd i ffordd o apelio at rai o'r cyn bleidleiswyr Lib Dem yma yn ffordd hynod bwerus o niweidio Llafur - nid yn unig y byddai pob pleidlais y byddai'r Blaid yn ei chael o'r cyfeiriad yma yn cynyddu pleidlais y Blaid, ond byddai hefyd yn lleihau'r bleidlais Lafur. Clec ddwbl i Lafur. 'Dydi hyn ddim yn hawdd - pleidlais ddigon Seisnig ydi un y Lib Dems yn y rhan fwyaf o Gymru. Ond gallai dod o hyd i ffordd o apelio at y pleidleiswyr anwadal yma wneud gwahaniaeth holl bwysig mewn nifer o etholaethau.

Faint o etholaethau sydd yna yng Nghymru lle mae'r bleidlais Lib Dem + PC gyda'i gilydd yn mynd i ddisodli neu peryglu Llafur ? .
ReplyDeleteAnon, Credaf y bydd dadansoddiad o ryw fath yn dilyn cyfres o erthyglau ynghylch seddi targed y pleidiau gwahanol ar penartharbyd.wordpress.com
ReplyDeletefelly, Menai, gan obeithio 'mod i ddim yn diflasu'r darllenwyr, petai (er enghraifft) PC ym Mon wedi gallu creu clymblaid gyda'r un boi LD a chwpwl o bobl Annibyns yna fyddai hynny wedi corneli Llafur.
ReplyDeleteFel mae hi ym Mon mae Llafur nawr yn gallu dangos i LD (ac Annibns) fod nhw'n gallu cydweithio. O le mae fots extra mae PC angen ym MOn am ddod nawr fod nhw wedi dangos nad ydyn nhw'n gallu gweithio efo neb.
Dogma a naifrwydd PC Môn i'w weld eto.
Fydd PC ddim yn denu fots pobl gwrthLafur ar gyfer etholiad San Steffan na chwaith fots Llafurwyr ar gyfer y Cynulliad.
Mae'r math o gyd-weithio hefo'r Lib Dems a'r Toris yn y Senedd i orfodi Llafur i sefydlu system daliadau cenedlaethol ar gyfer prif weithredwyr Cymru yn gam pwysig i'r cyfeiriad hwn.
ReplyDeleteEr yr heip am ennill grym yn 2016, y gwir ydi mai clymblaid enfys hefo PC yn ei harwain ydi'r gobaith mwy realistig.
Mae cyd-weithio fel yr uchod yn codi calon dyn bod hyn yn bosibilrwydd gwirioneddol.
Be fydd yn diddorol yw gweld a fydd pleidlais y Rhydd-Dems yn chwalu yng Ngheredigion ddigon i adael y Blaid yn ôl i fewn. Ar bapur Ceredigion yw un o seddi saffa'r Rhyddfrydwyr unrhywle yn y DU; ond cofiwch nad oedd hyn yn wir tan 2010. Debyg bydd eu mwyafrif yn crebachu, ond a fydd mwyafrif y pleidleisiau'n mynd i Lafur?
ReplyDeleteHallucinogenic Mushrooms I will instantaneously grab your RSS feed to keep in touch of coming updates. Hallucinogenic Mushrooms
ReplyDeletePoeni mwy am golli sedd arfon...dewis o Sian Gwenllian (cau ysgolion bach) a Heledd Fychan (ddim i wneud ar ardal)....be ddiawl oedd y broses ddaeth a ddwy yma i'r brig?
ReplyDeleteDwi ddim yn cytuno efo'r uchod ond mae'r blogiad yn amlwg yn ymwneud ag etholiadau San Steffan.
ReplyDeleteMae yna fwlch anferth rhwng y Blaid a Llafur ar lefel Cynulliad yn Arfon.
Gwersi i'r Blaid...tydi cau ysgolion bach ddim yn bolisi sydd yn curo etholiad. Dwi falch fod Plaid yn llawn hyder oherwydd y bwlch mawr rhwng nhw a Llafur...roedd set Dafydd Iwan ar y cyngor yn saff hefyd?
ReplyDelete