Roedd y stori Leighton Andrews yn torri fel roeddwn yn dreifio i'r gwaith y bore 'ma, ac roeddwn yn rhyw feddwl pa agwedd i fynd ar ei ol i bwrpas blogio - mae yna gymaint o bosibiliadau:
- Y ddeuoliaeth honno o fod eisiau bod yn sefydliadol a gwrth sefydliadol ar yr un pryd sy'n rhan mor greiddiol o enaid y Blaid Lafur Gymreig.
- Arweinyddiaeth wael ar ran Leighton yn disgwyl i wleidyddion eraill gymryd penderfyniadau amhoblogaidd a wynebu risg gwleidyddol tra'n methu wynebu gwneud hynny ei hun.
- Y diffyg cydlynedd o fewn llywodraeth Cymru.
- Y diffyg gonestrwydd ymhlith gwleidyddion Llafur yn gyffredinol - canu un gan yn eu man gwaith ac yn cwbl wahanol ar strydoedd eu hetholaethau.
- Llongyfarch y Bib (yn anarferol i Flogmenai) am ddal gweinidogion y llywodraeth i gyfrif.
- Tueddiad Llafur i wneud mor a mynydd o wneud dim byd.
Ond wna i ddim datblygu'r un o'r themau yma. Y peth mwyaf diddorol ydi pam bod Leighton yn ymddwyn mewn ffordd mor afresymegol - ac yn mentro ei yrfa fel gweinidog wrth wneud hynny?
Awgrymaf mai ar Leanne mae'r bai. Bydd yn sefyll yn erbyn Leighton yn 2016 ac mae yntau yn teimlo'r pwysau. Os ydi o mewn panig fel hyn dair blynedd cyn yr etholiad, Duw a wyr mewn sut stad fydd y creadur erbyn dechrau 2016.
Awgrymaf mai ar Leanne mae'r bai. Bydd yn sefyll yn erbyn Leighton yn 2016 ac mae yntau yn teimlo'r pwysau. Os ydi o mewn panig fel hyn dair blynedd cyn yr etholiad, Duw a wyr mewn sut stad fydd y creadur erbyn dechrau 2016.
Cytuno.
ReplyDeleteErbyn 2016 bydd Llafur unai mewn grym yn San Steffan neu allan ohoni. Unrhyw ffordd, bydd Llafur dan y lach.
O orfod gael Gweinidog Addysg a'r Gymraeg o rengoedd y Blaid Lafur, yna LA oedd y gorau o bell ffordd.
Sgalp i Blaid Cymru a Leanne heno, ond efallai, yn y tymor byr, newyddion drwg i'r Gymraeg.
Beth yw dy farn ar y cydweithio rhwng PC a LD bore 'ma ar y gyllideb. Dwi'n rhyw amau fod hynny hefyd wedi ychwanegu'r pwysau. Wedi methiant y BLaid yn Sir Fon (oherwydd twyll Llafur) mae'n edrych fod PC wedi tyfu par a sylweddoli nad oedd pwrpas fod yn neis neis i Lafur. Roedd cydweithio efo'r LD yn gam pwysig. Mae Llafur wedi sywelddoli fod PC ddim bellach yn gwrando ar eu bygythiadau ac wedi gweld fod pethau am fod lot lot anoddach.
Dwi'n anghytuno efo ti pan ti'n deud bod Andrews yn ymddwyn mewn ffordd afresymol. Hyd y gwela i yr unig beth mae o wedi ei wneud ydi amddiffyn diddordebau ei etholwyr, gyda rhesymau da dros wneud hynny'r ddwy waith.
ReplyDeleteFel cynrychiolwr y Rhondda roedd rhaid iddo fo wrthywnebu cau Ysbyty Frenhinol Morgannwg, byddai wedi bod yn od os fyddai o heb wneud.
Ynglyn a cau'r ysgol - ei ddadl o ydi fod y cyngor (Llafur) heb ddilyn y canllawiau mae o wedi eu gosod. Yn erbyn hyn roedd o'n brotestio, nid yn erbyn ei bolisi ei hun o gau ysgolion sydd efo gormod o lefydd gwag.
Un person sydd wedi ymddwyn yn afresymol yma, sef Carwyn Jones. Fe wnaeth o'n amlwg roi row anferth i Leighton am yr ymgyrch Labour4royalglam, neu gerdyn melyn fel mae Betsan Powys a Rhodri Morgan wedi ei ddisgrifio. Roedd hynny'n iawn gan na ddylai Andrew fod wedi defnyddio'r logo Llafur ar gyfer yr ymgyrch heb ganiatad Carwyn.
Roedd ei benderfyniad i wneud i'w weinidog ymddiswyddo oherwydd ei fod o wedi (yn ei lygid o) cyflawni'r un dramgwydd eto yn gwbl wallgo. Penderfyniad dyn gwan oedd hwn, penderfyniad emosiynol - dyn oedd a gymaint o ofn edrych yn wan roedd yn fodlon gwneud rhywbeth twp ermwyn ceisio edrych fel y dyn cryf.
Wedi'r cwbl, fe ddywedodd Rhodri Morgan ar Newyddion Naw ei fod o ei hun wedi ymgyrchu i gadw ysgol ar agor pan yn Brif Weinidog - dim problem!
Mae hon yn fuddugoliaeth i'r gwrthbleidiau a "catastrophe" i Carwyn Jones ac i raddau Llafur fel ddywedodd Peter Hain.
Dwi'n ama y bydd Andrews yn reit hapus efo'r ffordd mae hyn wedi panio allan. Mae ganddo fo blatfform gwych i amddiffyn ei sedd yn y Rhondda rwan, ond yn fwy na hynny, y platfform perffaith i herio arweinyddiaeth Carwyn Jones. Dwi'n siwr fod well gan fwyafrif o'r 28 aelod Llafur arall yn y Cynulliad y cyn Weinidog Addysg nac arweinydd eu plaid yng Nghymru, yn enwedig ar ol heddiw.
Fel aelod o Blaid Cymru mae gen i deimladau cymysg am hyn - byddai'n llawer gwell gen i gael Andrews fel Prif Weinidog na Carwyn Jones, ond byddai hefyd yn well gen i weld Leanne Wood yn Brif Weinidog na Leighton Andrews.
O leia y byddai'r Blaid yn medru gweithio efo llywodraeth Lafur dan arweinyddiaeth Andrews, rhywbeth sydd heb fod yn digwydd ers i Carwyn ddod yn Brif Weinidog.
Afresymegol oedd y gair wnes i ei ddefnyddio. Mae'n afresymegol i lunio polisi ac wedyn mynd ati i ymgyrchu yn erbyn deilliannau dy bolisi dy hun.
ReplyDelete