Mae'n werth cael cip ar gyfri trydar Y Cynghorydd Carwyn Jones am wybodaeth am y datblygiadau diweddaraf o Ynys Mon - @CarwynJones22.
Rydym eisoes yn gwybod bod Heledd yn bwriadu rhoi ei henw ymlaen, ac yn ol Carwyn fydd o ddim yn rhoi ei enw ymlaen y tro hwn. Mae o'n dweud fodd bynnag y bydd enw arall yn dod i'r amlwg fory. Dydi o ddim yn dweud pwy - ond mae'n debygol bod yr enw yn un adnabyddus - Rhun ap Iorwerth.
Rydym eisoes yn gwybod bod Heledd yn bwriadu rhoi ei henw ymlaen, ac yn ol Carwyn fydd o ddim yn rhoi ei enw ymlaen y tro hwn. Mae o'n dweud fodd bynnag y bydd enw arall yn dod i'r amlwg fory. Dydi o ddim yn dweud pwy - ond mae'n debygol bod yr enw yn un adnabyddus - Rhun ap Iorwerth.
Waw! Byddai Rhun yn chwip o ymgeisydd. Gobeithio yn fawr fod sail i'r sibrydion.
ReplyDeleteBydd fydd Rhun ap yn cerdded mewn i'r Senedd fe fydd Carwyn Jones yn rhedeg adre yw fam yn llefain .
ReplyDeleteDos amdani Rhun.
ReplyDeleteGobeithio wir bod sail i'r si. Rhywun gyda profiad, proffil cyhoeddus a pharch yng Nghymru a thu hwnt.
ReplyDeleteNaill ai ma'r BBC & Golwg yn eistedd ar stori o dan embargo neu ma nhw'n rhy hoplessi ffonio fe ! Plis Duw fod y stori'n wir !
ReplyDeleteGobeithio wir. Rhywun o sylwedd
ReplyDeleteYdy Plaid Cymru yn ceisio perswadio Heledd i gamu nol , ond bod hi'n gwrthod ?
ReplyDeleteMa hi'n uncharacteristically tawel heddi .
Pam y byddai'r Blaid eisiau i Heledd gamu yn ol?
ReplyDeleteEr mwyn i Rhun cael 'free run' ar y sedd - cofier fod e'n aberthu gyrfa fawr fan hyn ar lefel Brydeinig/rhyngwladol - Huw Edwards ond gwell .
ReplyDeleteY peth diwetha ni moyn hefyd yw dau ymgeisydd yn dadle dros Wylfa - dyna'r 'man trap'
Fydde nhw ond yn dadlay mewn hustings wythnos nesaf (yn ol pob tebyg).
ReplyDeleteBydd hi'n braf unwaith eto cael deud fod y mwyaf disglair nol ar feinciau y Blaid eto
ReplyDeleteFaint o wirionedd wyt ti'n meddwl sy' 'na i'r sibrydion bod Llafur am geisio darbwyllo Albert i sefyll yn yr is-etholiad?
ReplyDeleteMethu deall rhesymeg y rhai hynny sy'n credu bod angen i Rhun ap Iorwerth gael llwybr clir ar gyfer yr enwebiad. Yndi, mae o'n ddarlledwr adnabyddus ac yn gyfathrebwr da yn y ddwy iaith - ond mae o'n hollol ddibrofiad o ran sefyll etholiad a chysylltu gyda phobl ar lawr gwlad.Siawns nad ydi Mon am ddilyn Arfon a dim cystadleuaeth yn digwydd?! Mae angen trafodaeth agored a phell-gyrrhaeddol ymhlith aelodau PC Ynys Mon,nid jest coroni un unigolyn yn ddall- waeth pa mor dalentog ydi o.
ReplyDeleteDylan
ReplyDeleteMae yna son ers talwm y byddai AO yn hoffi mynd i'r Cynulliad.
Ei broblem ydi nad ydi Ynys Mon erioed wedi dangos unrhyw ddiddordeb mewn ethol Llafurwr i'r Cynulliad. Mae hynny'n debygol o fod yn fwy gwir mewn is etholiad lle mae Llafur yn trio cael grym llwyr yn y Cynulliad. Mae'r lein - fotiwch Plaid Cymru i stopio Llafur wneud fel fynan nhw yng Nghymru am apelio at garfanau sylweddol o bobl ar Ynys Mon.
A byddai colli yn ddrwg mewn etholiad Cynulliad yn cael effaith negyddol iawn ar ei ymgais i ddal y sedd i Lafur yn San Steffan.
F***king hell os bydd Albert yn sefyll yn erbyn Rhun dwi am fynd at Help the Aged i ddeud fod hynny yn cruelty yn erbyn hen bobl .
ReplyDeleteGyda llaw 'anon' uchod ma'r Blaid mor brin o dalent byddai dawnsio ar y strydoedd fath a man nhw yn Gazza pa ma' Palistinian yn enill Arab Idol os gawn Rhun .
Sorri ond smo Heledd yn inspiro confidence - bydd hi o dan y chwydd wydr mewn by election . Well iddi gymryd 'pass' ar hon a mynd i Frwsel mewn ychydig diawl o beryg i neb rhoi microffon dan ei thrwyn yn fan na .
Heledd Fychan yn mynd am Arfon a Mon ar unwaith? Dwi wedi colli clecs yn rhywle.
ReplyDeleteDo ti wedi
ReplyDeleteFfan mawr o Rhun fel cyflwynydd.
ReplyDeleteMae o hefyd yn ddyn hyfryd.
Mae ganddo bresenoldeb gwych ar y teledu ac ar y radio.
Ond beth yw'r 'fawning' yma amdano?
Pam fod pawb mor argyhoeddiedig y byddai'n gwneud gwleidydd gwych ac yn codi ofn ar Carwyn Jones a'r Blaid Lafur?
Beth yw ei ddaliadau gwleidyddol ag eithrio ei fod yn genedlaetholwr? Ble mae o ar y sbectrwm gwleidyddol?
Mae o'n 'un-proven' ac yn 'un-tested'. Does neb (heblaw am ffrindiau a theulu) a wyr beth yw ei farn am faterion y dydd.
Rwy'n edrych ymlaen I weld Rhun yn datblygu'n wleidyddol a chlywed ei safbwynt ar wahanol faterion cyn mynegu ai fo fyddai'r ymgeisydd gorau.