Thursday, November 29, 2012

Pobol y Cwm a Charles Haughey Cymru

Tybed os oes yna unrhyw beth mwy dw lali wedi dod o gyfeiriad llywodraeth Cymru na'i ymdrech ryfeddol i berswadio S4C i dynnu'r plwg ar bennod o opera sebon oherwydd bod cymeriad yn y rhaglen yn lleisio barn sy'n feirniadol o un o'i bolisiau?

Mae'n debyg y byddai rhywun yn disgwyl y math yma o baranoia gan lywodraeth a arweinid gan Stalin neu Saddam Hussein neu rhywun felly - ond llywodraeth sy'n cael ei harwain gan Carwyn ddiog, ddi ffwdan, ddi ffrwt?  Mae'n dda o beth bod y cyfryngau Cymreig mor awyddus i blesio, neu Duw a wyr beth fyddai'n digwydd.  A Duw a wyr beth fyddai'n digwydd petai gan Gymru rhywbeth tebyg i Scrap Saturday.

Rhaglen radio (hynod boblogaidd) gan  RTE oedd Scrap Saturday a ddaeth i ddiwedd di symwth ar ddechrau'r 90au.  Roedd seren y sioe (Dermot Morgan o enwogrwydd Father Ted) wedi gwneud crefft hynod gywrain o lambastio prif weinidog y dydd, Charles Haughey wythnos ar ol wythnos r ol wythnos.  Roedd yna ychydig o Stalin neu Saddam yn perthyn i Haughey, ac aeth hwnnw ati i roi pwysau ar RTE i gael gwared o'r rhaglen, ac ildiodd y darlledwr i'r pwysau hwnnw - gan ddefnyddio'r datganiad cofiadwy canlynol i egluro'r penderfyniad:  The show is not being axed, it's just not being continued.

Gobeithio na fydd Carwyn Jones yn gwneud yr un peth i Pobol y Cwm - mi fyddai hynny'n ofnadwy o drist.




Wednesday, November 28, 2012

Glyn Davies, Roger Lewis a'r Daily Mail

Mae'n ddiddorol nodi nad ydi Glyn Davies, AS Maldwyn eisiau i'r Comisiynydd Iaith, Meri Huws gymryd camau cyfreithiol yn sgil erthygl Roger Lewis yn y Daily Mail.

Dadl Glyn ydi y byddai cymryd cam felly yn 'rhoi cyhoeddusrwydd' i'r erthygl.  Rwan gellid defnyddio dadl felly ar gyfer unrhyw unrhyw sylwadau amhriodol.  Er enghraifft mae'r camau cyfreithiol mae'r Arglwydd McAlpine wedi ei gymryd yn erbyn ITV, y Bib a llu o drydarwyr yn rhoi cyhoeddusrwydd i'r honiadau a wnaed ganddynt.  Ond mae'r camau hynny hefyd yn ei gwneud yn glir bod y sylwadau a wnaed yn amhriodol ac nad oes gwirionedd iddynt.

Mi fydd yna gamau cyfreithiol yn cael eu cymryd o bryd i'w gilydd yn erbyn pobl sy'n gwneud sylwadau hiliol yn y wasg, neu ar y rhyngrwyd, ond 'dydi hyn ddim yn digwydd yn aml iawn.  Mae yna reswm gweddol syml am hynny - 'does yna ddim llawer o bobl yn cyhoeddi sylwadau hiliol oherwydd eu bod yn gwybod bod goblygiadau cyfreithiol difrifol i wneud hynny.  Petai yna ganfyddiad ar led na fyddai camau cyfreithiol yn cael eu cymryd yn erbyn y sawl sy'n cyhoeddi sylwadau hiliol 'rhag rhoi sylw iddynt', yna byddai yna fwy o sylwadau hiliol o lawer yn cael eu cyhoeddi na sydd ar hyn o bryd.

O ganlyniad byddai'r ymgais i 'sgubo'r ffaith bod pobl gydag agweddau hiliol o dan y carped yn arwain at wyntyllu mwy ac nid llai o sylwadau hiliol.  Wir Dduw - dydi hyn ddim yn anodd iawn Glyn Davies.

Monday, November 26, 2012

Cenhadon casineb y Daily Mail

Mae erthygl ddiweddaraf Roger Lewis ynglyn a'r iaith Gymraeg mor eithafol ac idiotaidd nes ei bod yn fwy digri na dim arall - o safbwynt rhywun sy'n byw yng Nghymru o leiaf.  Wedi'r cwbl yr oll sydd yn yr erthygl mewn gwirionedd ydi cymysgedd rhyfedd o ragfarnau Lewis, honiadau di dystiolaeth a dehongliadau hanesyddol anwybodus.

Ond mae yna ochr mwy difrifol i'r peth.  Mae'r Daily Mail yn bapur  sy'n apelio at grwp o bobl rhagfarnllyd, hysteraidd ac ofnus sydd mewn galar lled barhaol am Brydain sydd wedi hen farw - os oedd y ffasiwn  Brydain erioed yn bodoli mewn gwirionedd.  Mae llawer o'r bobl anffodus hyn y credu nonsens Lewis - yn wir maent yn ei fwynhau oherwydd ei fod yn porthi eu rhagfarnau gwaelodol.

Dyna pam bod pob math o grwpiau lleiafrifol yn cael eu colbio yn rheolaidd yn y papur - hynny yw pobl nad ydynt yn Saeson, gwyn, lled gefnog, hetro rywiol o gefndiroedd Cristnogol.  Mae mwydro di resymeg y Mail yn hynod niweidiol i gydlynedd cymdeithasol yn y DU oherwydd ei fod yn adgyfnerthu rhagfarnau sy'n bodoli ers cenrdlaethau.

Mae'r erthygl yn rhan o batrwm ehangach o ddiafoli rhannau eang o gymdeithas yn Lloegr, Cymru a gweddill y  DU gan elfennau o'r wasg Brydeinig, ac mae Roger Lewis a'i debyg yn ennill eu bywoliaeth yn nofio yng nghanol y mor yma o gasineb ac anoddefgarwch.

Wednesday, November 21, 2012

Cynlluniau Leighton Andrews ar gyfer y Gwasanaeth Addysg

Mae'n rhaid i mi ddweud bod y sylwadau a wnaeth gan John Davies y bore 'ma yn taro deuddeg efo fi o leiaf.

Ymateb oedd Mr Davies i ddatganiad y gweinidog addysg, Leighton Andrews ei fod am gynnal adolygiad llawn o'r ddarpariaeth addysg yng Nghymru.  Ymddengys bod Leighton o'r farn bod y ddarpariaeth ar hyn o bryd yn 'ofnadwy'. Pen draw posibl y broses yma fydd symud y gyfrifoldeb tros addysg o ddwylo'r cynghorau unedig a'i osod naill ai yn nwylo'r Cynulliad, neu yn nwylo'r pedwar consortia sydd wedi eu creu yng Nghymru ers mis Medi.

Honiad John Davies oedd bod ethos y gwasanaeth addysg yng Nghymru wedi newid tua'r amser y daeth Leighton Andrews yn weinidog addysg.  Yn wir roedd yn mynd cyn belled a honni bod y ffordd mae'r corff arolygu, ESTYN yn dod i gasgliadau ynglyn a pherfformiad darparwyr addysg yng Ngymru wedi mynd yn llawer caletach tua'r amser hwnnw.



Rwan, heb fynd i weithio fy ffordd trwy hwda a adroddiadau ar arolygiadau, mae'n rhaid i mi ddweud  mae'r argraff yr ydwyf fi yn ei chael ydi bod mwy o ysgolion o lawer yn cael ail ymweliadau gan ESTYN yn sgil rhyw wendid neu'i gilydd. Mae yna hefyd fwy o awdurdodau addysg yn cael eu hunain mewn dwr poeth efo'r corff.  Ymhellach mae rhai o'r darparwyr sydd yn cael ail ymweliad gan ESTYN yn rhai nad oedd disgwyl iddynt gael problemau o unrhyw fath.


Awgrym John Davies wrth gwrs ydi bod y newid hwn yn ganlyniad i newid bwriadol yn y cyfarwyddyd mae ESTYN yn ei gael gan y gweinidog, a bod arolygiadau ESTYN felly yn cael eu defnyddio fel esgys i ail strwythuro'r ffordd mae addysg yng Nghymru yn cael ei ddarparu yn llwyr.  Mi fyddwn i yn ychwanegu bod llawer, llawer mwy o bwysau yn cael ei roi ar ysgolion ar hyn o bryd gan awdurdodau addysg, a'i bod yn debygol mai'r rheswm am hynny ydi bod llawer mwy o bwysau yn cael ei roi ar yr awdurdodau hynny gan y gweinidog.  

Byddai symud y gyfrifoldeb am ddarparu addysg oddi wrth yr awdurdodau lleol ymysg y newidiadau mwyaf pell gyrhaeddol i ddigwydd yn hanes y gwasanaeth addysg yng Nghymru.  Byddai'r elfen o atebolrwydd democrataidd yn cael eu symud, a byddai hynny yn ei dro yn arwain at newidiadau enfawr.  Er enghraifft byddai'n llawer mwy tebygol y cai ysgolion bach gwledig eu cau.  Yn wir byddai hefyd yn dra phosibl y byddai ysgolion canolig eu maint yn  cau.  Gellir dadlau y byddai pob ysgol sydd a llai na chant o blant mewn perygl.

Mae lle hefyd i boeni am y polisiau iaith y byddai'r ardaloedd Cymreiciaf yn gweithredu oddi tanynt.  Er enghraifft, gallai Gwynedd a Mon gael eu hunain efo'r un polisi iaith a Fflint a Wrecsam.  Ar ben hynny gellid yn hawdd ddychmygu y byddai llawer o'r personel rheolaethol a gweinyddol mewn uned fawr yn ddi Gymraeg.  Canlyniad hynny fyddai creu sefyllfa lle ceid yr holl wasanaeth yn llawer mwy Seisnig ei naws nag ydyw yn y siroedd gorllewinol ar hyn o bryd.  
Mae lle cryf i ddadlau bod 22 Awdurdod Addysg lleol yn ormod, a bod llawer o ddyblygu gwaith ac anwastadedd ynghlwm a'r drefn sydd ohoni. Mae lle cryf hefyd i ddadlau y byddai 10 cyngor sir yn hen ddigon ar gyfer anghenion y Gymru ol ddatganoledig sydd ohoni. Ond mae dilyn y trywydd mae'n ymddangos bod Leighton Andrews eisiau ei ddilyn yn mynd a ni yn llawer rhy bell yn llawer rhy gyflym.

Monday, November 19, 2012

O na, refferendwm arall ar y gweill!

Felly o ganlyniad i benderfyniad llywodraeth Blair i gynnig setliad diffygiol i Gymru yn ol yn 1997 mae'n ymddangos bod rhaid i ni gael nid un, nid dwy ond tair refferendwm.

Refferendwm ynglyn a hawl Cymru i gael corff sy'n cymryd penderfyniadau ynglyn a'i bywyd cenedlaethol ei hun, refferendwm ynglyn a'r hawl i greu deddfau heb ofyn i San Steffan am yr OK a refferendwm ynglyn a sefydlu atebolrwydd o ran codi cyllid.  Tri cham sy'n ymddangos yn gwbl amlwg o ran sefydlu trefn lywodraethu resymol ac atebol a thair refferendwm er mwyn gwireddu hynny.

Tybed os oes yna unrhyw wlad arall erioed wedi gorfod mynd trwy'r ffasiwn rigmarol boncyrs dim ond i gael trefn lywodraethu sy'n gweithio.

Sunday, November 18, 2012

Mae'r Cynulliad angen mwy o aelodau

Mae'r Comisiwn Newid Etholiadol yn gywir i alw am fwy o Aelodau Cynulliad.  O gymharu a'r ddau ddeddfwrfa Celtaidd arall mae Cymru yn cael ei than gynrychioli yn weddol ddrwg.  Mae yna 5,255,000 o bobl yn byw yn yr Alban, ac mae yna 129 o aelodau yn senedd yr Alban - un aelod ar gyfer pob 40,736 o bobl.  1,810,863 o bobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon ac mae ganddynt 108 o Aelodau Cynulliad i'w cynrychioli - un am pob 16,700 o bobl.  Mae 60 Aelod Cynulliad yng Nghymru, ac maent yn cynrychioli 3,063,500 o bobl - un am pob 51,058 o bobl.

Ar ben hynny mae gan y rhan fwyaf o gynghorau sir yng Nghymru fwy o gynrychiolwyr etholedig na sydd gan y Cynulliad.  Er enghraifft mae gan Cyngor Gwynedd 75 cynghorydd i gynrychioli 121,900 o bobl.  Dydi'r sefyllfa sydd ohoni ddim yn gwneud synnwyr.  

Friday, November 16, 2012

Etholiadau Ddoe

Yn anarferol braidd dwi'n cael fy hun ar yr un ochr a'r rhan fwyaf o etholwyr mewn etholiad - fel tua 85% o etholwyr Cymru wnes i ddim trafferthu pleidleisio.  Yn fy achos i roedd dau reswm, gwrthwynebiad i wneud plismona yn fater gwledidyddol a diffyg unrhyw un oedd werth pleidleisio trosto ar y papur pleidleisio.  Ta waeth, un neu ddau o sylwadau ar etholiadau ddoe.

Pan ddywedodd Neil Mcevoy y dylai Plaid Cymru fod wedi sefyll, ac o wneud hynny y byddai wedi ennill yn nhair o ranbarthau heddlu Cymru, 'doedd o ddim mor bell a hynny ohoni ar yr ail bwynt o leiaf.  Cefnogwyr y Blaid sydd orau am bleidleisio, ac isaf yn y byd ydi'r gyfradd pleidleisio, y gorau y bydd y Blaid yn ei wneud.  Mae'n anodd dychmygu y byddai'r Toriaid wedi dod o flaen y Blaid yn Nyfed Powys efo'r cyfraddau pleidleisio yma, ac mae'r un mor anodd dychmygu y byddai Winston Roddick wedi ennill heb bleidleisiau cenedlaetholwyr Cymreig.  Dydi hynny ddim yn golygu y dylai'r Blaid fod wedi sefyll, ond 'dwi'n meddwl bod Neil yn gywir ynglyn a chanlyniadau tebygol y Gogledd a Dyfed Powys.

O ran yr etholiadau eraill - is etholiad cyngor sir yn Neganwy ( Cyngor Conwy), ac is etholiad De Caerdydd / Penarth, boddhaol ydi'r ffordd gorau i'w disgrifio o safbwynt y Blaid.  Yn wahanol i'r pleidiau Prydeinig, wnaeth pleidlais y Blaid ddim syrthio trwy'r llawr yn Ne Caerdydd / Penarth.  Roedd y gogwydd tuag at Lafur yn llawer llai nag oedd yn y ddwy is etholiad Seisnig, a dwblwyd canran y Blaid o'r bleidlais - ond pedwerydd oeddem o hyd, a doedd yna ddim symudiad mawr tuag atom.

Roedd perfformiad Trystan Lewis yn un clodwiw yn Neganwy - ward anodd iawn i'r Blaid lle nad oedd gennym hyd yn oed ymgeisydd ym mis Mai - ond byddai buddugoliaeth wedi bod cymaint gwell nag ail anrhydeddus iawn.  Y canlyniad oedd:

Tori 437
Plaid 327
Llafur 142
Annibynnol 74
Lib Dem 53
Annibynnol 4

Beth bynnag - llongyfarchiadau i bawb oedd ynghlwm a'r ddwy ymgyrch - symudwyd y Blaid i'r cyfeiriad cywir yn y ddau achos.

Wednesday, November 14, 2012

Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu

Hynodrwydd etholaeth Liverpool Riverside ydi iddi gael y gyfradd pleidleisio isaf  erioed mewn etholiad tros Brydain gyfan.  Y dyddiad oedd 2001 a'r gyfradd oedd 34.08%.  Y gyfradd yng Nwyrain Abertawe yn etholiadau Cynulliad 2011 oedd 31.39%.  Mae hynny'n uchel o'i gymharu a'r 26.8% a bleidleisiodd yn refferendwm 2011 yn Wrecsam.  

Mi fydd y ffigyrau hynod isel yma yn ymddangos yn barchus 'fory wrth ymyl y canrannau fydd yn pleidleisio yn yr etholiadau i ddewis comisiynwyr heddlu.  Tan yn ddiweddar byddech wedi cael pris go lew y byddai'r bleidlais yn ei chyfanrwydd yn is nag 17% - er ei bod yn ymddangos erbyn hyn y bydd ychydig yn uwch na hynny.

Mae'r wefan betio wleidyddol - politicalbetting.com yn awgrymu mai Llafur fydd yn cymryd pob un o'r rhanbarthau heddlu Cymreig gydag eithriad posibl Dyfed Powys - (gellir disgwyl gogwydd o tua 5% i Lafur).  Dwi wedi dwyn y data ganddyn nhw - canrannau'r etholiad cyffredinol ydi'r ffigyrau:


LAB “Certainties”

Cleveland: LAB 40.1 CON 27.81 LD 21.5
Durham: LAB 45  LD 24 CON 21
Greater Manchester: LAB 41 CON 27 LD 23
Gwent: LAB 41 CON 24 LD 17
Merseyside: LAB 52 CON 21 LD 20
Northumbria: LAB 45 LD 24 CON 22
South Wales: LAB 41 CON 22 LD 21
South Yorkshire: LAB 43 LD 23 CON 20
Nottinghamshire: LAB 37 CON 36 LD 19
West Midlands: LAB 37 CON 32 LD 19
North Wales: LAB 33 CON 30 LD 15 Plaid 15 (no LD and Plaid)
West Yorkshire: LAB 37 CON 32 LD 20

LAB on CON>LAB swing of upto 5%

Derbyshire: CON 36 LAB 34 LD 22
Cheshire: CON 40.84 LAB32.53 LD 21.21
Cumbria: CON 39.5 LAB 30.82 LD 24.35
Dyfed-Powys: CON 30 LD 26 LAB 22 Plaid
Humberside: CON 37 LAB 31 LD 22
Lancashire: CON 38 LAB 35 LD 18

LAB on CON>LAB swing of 5-7.5%

Staffordshire: CON 41 LAB 31 LD 18
Bedfordshire: CON 44.91 LAB 27.28 LD 20.4
Leicestershire: CON 41 LAB 28 LD 22
Warwickshire: CON45 LAB 27 LD 20

Probably CON

Cambridgeshire: CON 45.3 LD 29.19 LAB 16.31
Dorset: CON 48 LD 32 LAB 12
Essex: CON 49 LD 21 LAB 19
Gloucestershire: CON 45 LD 27 LAB 21
Hampshire: CON 49 LD 30 LAB 14
Herefordshire: CON 50 LD 24 LAB 19
Kent: CON 50, LAB 21, LD 21
Lincolnshire: CON 46 LD 21 LAB 20
Norfolk: CON 43 LD 27 LAB 18
North Yorkshire: CON 46 LD 27 LAB 19
Northamptonshire: CON 48 LAB 26 LD 19
Suffolk: CON 46 LD 24 LAB 21
Surrey: CON 55 LD 28 LAB 9
Sussex: CON 46 LD 27 LAB 16
Thames Valley: CON 48 LD 25 LAB 17
West Mercia: CON 46 LD 24 LAB 18
Wiltshire: CON 47 LD 30 LAB 18
Avon and Somerset: LD 38.4 CON 37.85 LAB 17.97
Devon and Cornwall: CON 42 LD 36 LAB 12

Mae yna gymhlethdod mewn nifer o'r rhanbarthau hyn.  Er enghraifft yng Ngogledd Cymru mae yna ymgeisydd annibynnol sydd wedi wedi ceisio cael ei ethol tros y Lib Dems i San Steffan yn y gorffennol sydd hefyd wedi derbyn cefnogaeth nifer o arweinwyr y Blaid yn y Gogledd - Winston Roddick. Byddai pleidlais y Blaid a'r Lib Dems efo'i gilydd yn ei wneud yn gystadleuol - er nad ydi pethau yn gweithio mor syml a hynny fel rheol.

Er eglurder, mae yna honiad ar led yng Ngwynedd mai unwaith yn unig a safodd Winston tros y Lib Dems, a hynny yn Ynys Mon yn 1970.  Dwi ddim am fynegi barn os mai ymgais ydi hyn i bellhau Winston oddi wrth y Lib Dems yn y Gogledd Orllewin cenedlaetholgar, ond yn ol 'Etholiadau'r Ganrif' Beti Jones safodd G W Roddick tros y Lib Dems yn Ynys Mon yn 1970, safodd dyn o'r enw Winston Roddick tros y Lib Dems yn Ne Caerdydd yn 1983, a safodd Winston Roddick yng Ngorllewin Casnewydd yn 1987. Yr un boi? - barnwch chi.

O - a gyda llaw, rhag ofn bod rhywun eisiau gwybod, mi fyddai i yn torri arfer oes ac yn peidio a phleidleisio pan rwyf mewn sefyllfa i wneud hynny.  

Monday, November 12, 2012

Cyfundrefn etholiadol Cymru

Mae penderfyniad dewr Leanne Wood i sefyll mewn etholaeth yn hytrach nag ar restr rhanbarthol yn tynnu sylw unwaith eto at y drefn bisar a geir yng Nghymru o ethol traean o aelodau'r Cynulliad.  Mae'r drefn ranbarthol yn aneffeithiol am y rhesymau canlynol:

  • Mae'n gwobreuo methiant.  Y salaf mae plaid yn ei wneud yn yr etholaethau, y gorau maent yn debygol o'i wneud yn y rhanbarthau.
  • Mae'n lleihau gallu etholwyr i ddewis pa unigolyn sy'n eu cynrychioli.
  • Mae'n grymuso pleidiau gwleidyddol ar draul etholwyr - peiriannau gwleidyddol yn hytrach nag etholwyr sy'n dewis cynrychiolwyr etholedig.
  • Mae'n torri'r cysylltiad rhwng cynrychiolwyr etholedig ac etholaethau unigol.

fantais y gyfundrefn ydi ei bod yn osgoi'r risg bod pleidiau yn ennill grym efo lleiafrif o'r pleidleisiau.  Roedd gan Llafur 60% o'r seddi uniongyrchol gyda thraean yn unig o'r pleidleisiau yng Nghynulliad 2007 - 2011.

Yr ateb ydi cyfundrefn STV - cyfundrefn sy'n osgoi yr holl broblemau 'dwi wedi eu rhestru, a sydd hefyd yn gyfrannol.   STV ydi polisi swyddogol y Blaid gyda llaw.

Sunday, November 11, 2012

Glyn Davies a'r Bib

Felly mae Glyn Davies wedi llwyddo i argyhoeddi ei hun bod y Bib yng Nghymru yn tueddu tuag at Blaid Cymru - neu dyna mae'n ei honni yn ei flogiad diweddaraf - blogiad sy'n ceisio amddiffyn y Bib, Entwistle a Newsnight oddi wrth canlyniadau'r problemau maent wedi eu hachosi iddyn nhw eu hunain.

Mi gofiwch wrth gwrs bod y Bib yng Nghymru wedi bod wrthi am fisoedd yn chwifio Jac yr Undeb yn ein wynebau ni i gyd efo brwdfrydedd lloerig.  Pan mae'n dod i hybu sefydliadau Prydeinig dydi safonau newyddiadurol y Bib yng Nghymru ddim mymryn uwch na rhai sefydliadau darlledu Gogledd Corea - gweniaeth di ddiwedd a di gwestiwn yn absenoldeb llwyr unrhyw ymdeimlad bod angen cadw o leiaf mymryn o wrthrychedd beirniadol.

Mae'r broses yma o wthio hunaniaeth Brydeinig ar draul hunaniaeth Gymreig o gryn gymorth i blaid Glyn - mae'r Blaid Geidwadol yng Nghymru yn denu pobl sydd ag iddynt hunaniaeth Prydeinig.  Mae antics Prydeinllyd y Bib o fwy o gymorth i'r Ceidwadwyr Cymreig na'r un plaid arall - a dyna pam  - yn y pendraw bod Glyn mor awyddus i amddiffyn y gorfforaeth rwan ei bod hithau'n ymbalfalu i gadw ar wyneb y mor o chwyd mae wedi ei gynhyrchu tros gyfnod o flynyddoedd maith.

Saturday, November 10, 2012

Gair neu ddau am yr etholiad arlywyddol

Wnaeth blogmenai ddim trafferthu dilyn etholiad arlywyddol yr UDA yn fanwl yn ystod yr ymgyrch, ond mi hoffwn wneud un neu ddau o sylwadau brysiog ar ganlyniadau'r etholiad honno.

Yn gyntaf mae proffeil demograffig y sawl a bleidleisiodd yn hynod ddadlennol.  Yn ol y polau mwyaf cywir - y rhai sy'n cael eu cymryd pan mae pobl yn gadael y bythau pleidleisio - roedd 72% o'r sawl a bleidleisiodd yn wyn, 13% yn ddu, 10% o gefndir hispanaidd a 3% yn Asiaid.  Ymysg pobl wyn roedd y bleidlais i Romney yn torri 59% / 39%, ymysg pobl croenddu roedd 93% yn pleidleisio i Obama a 3% i Romney, ymysg pobl Hisbanaidd roedd y fantais i Obama yn 71% / 27%, tra bod  Asiaid yn pleidleisio 73% i 26% o blaid Obama.  Rwan, mae'r amrywiaeth yma yn arwyddocaol iawn, ac yn un sy'n awgrymu bod perthynas glos rhwng hil neu gefndir ethnig a gwleidyddiaeth yn yr UDA.

Yn ail mae'n ddiddorol i gymaint o bobl nad ydynt o gefndir gwyn bleidleisio y tro hwn.  Roedd cryn ddamcaniaethu gan sylwebyddion y Dde - Dick Morris, Karl Rove ac eraill o selogion Fox News oedd yn taeru du yn las bod y polau - oedd yn dangos mantais bach i Obama o ran y bleidlais yn ei chyfanrwydd, a mantais mawr yn y coleg etholiadol - yn anghywir.  Roedd yna rhyw fath o synnwyr i'r dadleuon hyn - roedd Karl a Dick yn synhwyro bod llai o frwdrydedd tros Obama gan bobl o leiafrifoedd ethnig, yn gweld torfaoedd mawr yn mynd i weld Romney yn mynd trwy'i bethau, ac yn rhesymu y byddai llai o gefnogwyr y Democratiaid yn trafferthu mynd i bleidleisio y tro hwn a mwy o gefnogwyr y Gweriniaethwyr.

Y gwrthwyneb ddigwyddodd - aeth y bleidlais ddu, Asiaidd a'r un Hisbanaidd i fyny, tra aeth yr un wyn i lawr.  Demograffeg sydd y tu ol i rhan o hyn - mae'r poblogaethau Hisbanaidd ac Asiaidd yn tyfu'n gyflym yn yr UDA, ond mae mwy iddi na hynny.  Mae brwdfrydedd yn cael pobl allan i bleidleisio, ond mae ofn yn gyrru mwy o bobl allan i bleidleisio - ac roedd Dick, Karl a Fox News wedi codi ofn ar lawer iawn o bobl tros y blynyddoedd diwethaf.  Roedd yr holl hefru am anfon mewnfudwyr anghyfreithlon adref yn codi ofn ar bobl o Dde a Chanolbarth America - mae bron i bawb yn eu mysg sydd efo'r hawl i bleidleisio efo teulu, ffrindiau neu chydnabod sy'n byw yn yr UDA yn anghyfreithlon.  Roedd y galw am dorri gwariant cyhoeddus i'r bon yn fygythiad i lawer iawn o bobl croenddu (a phobl dlawd eraill)  - ac ar ben hynny mae'n bosibl bod llawer ohonynt yn cymryd yr ymysodiadau hysteraidd ar Obama yn bersonol, ac yn cael eu cythruddo i fynd allan i bleidleisio.

Ac mae yna wersi yna i pob plaid wleidyddol ym mhob man - does yna ddim pwrpas creu brwdfrydedd ymysg cefnogwyr naturiol os ydi gwneud hynny yn codi ofn ar garfannau sylweddol o bobl, ac yn peri iddynt fynd i bleidleisio yn ei herbyn.  Neu o leiaf does yna ddim pwynt gwneud hynny os nad oes yna ddealltwriaeth gref o fathemateg yr etholiad - ac mae'n weddol glir nad ydi cefnogwyr cyfryngol y GOP efo llawer o glem ynglyn a mathemateg etholiadol yr America sydd ohoni.


Y BBC yn llyfu'r llawr

Does yna ddim byd cadarnhaol o gwbl am yr holl lanast sydd wedi codi yn sgil yr honiadau yn erbyn Jimmy Savile, cartref preswyl Bryn Estyn ac ati.  Mae'r holl beth yn drychineb o'r dechrau i'r diwedd.

Ond wedi dweud hynny, mae yna rhywbeth addas gweld y Bib  yn llyfu'r llawr ar hyn o bryd, ar ol treulio misoedd maith yn llyfu a llempian o gwmpas y teulu brenhinol yn ystod y gwanwyn, cyn mynd ati i hyrwyddo'r Gemau Olympaidd efo brwdfrydedd lloerig tros yr haf.  

Wednesday, November 07, 2012

Mae'n anodd peidio chwerthin weithiau




Save this tweet as a favorite?

 @Talkmaster 
Tomorrow we're going to talk about escape plans ... how you can avoid the disaster of four more years of Dear Ruler.
Cancel

Read more: http://www.businessinsider.com/conservatives-obama-election-win-ted-nugent-donald-trump-jose-canseco-2012-11#ixzz2BZuORHuI

This election is a total sham and a travesty. We are not a democracy!
7 Nov 12


Save this tweet as a favorite?

 @TedNugent 
Pimps whores & welfare brats & their soulless supporters hav a president to destroy America


Read more: http://www.businessinsider.com/conservatives-obama-election-win-ted-nugent-donald-trump-jose-canseco-2012-11#ixzz2BZuORHuI
Cancel