Wednesday, November 21, 2012

Cynlluniau Leighton Andrews ar gyfer y Gwasanaeth Addysg

Mae'n rhaid i mi ddweud bod y sylwadau a wnaeth gan John Davies y bore 'ma yn taro deuddeg efo fi o leiaf.

Ymateb oedd Mr Davies i ddatganiad y gweinidog addysg, Leighton Andrews ei fod am gynnal adolygiad llawn o'r ddarpariaeth addysg yng Nghymru.  Ymddengys bod Leighton o'r farn bod y ddarpariaeth ar hyn o bryd yn 'ofnadwy'. Pen draw posibl y broses yma fydd symud y gyfrifoldeb tros addysg o ddwylo'r cynghorau unedig a'i osod naill ai yn nwylo'r Cynulliad, neu yn nwylo'r pedwar consortia sydd wedi eu creu yng Nghymru ers mis Medi.

Honiad John Davies oedd bod ethos y gwasanaeth addysg yng Nghymru wedi newid tua'r amser y daeth Leighton Andrews yn weinidog addysg.  Yn wir roedd yn mynd cyn belled a honni bod y ffordd mae'r corff arolygu, ESTYN yn dod i gasgliadau ynglyn a pherfformiad darparwyr addysg yng Ngymru wedi mynd yn llawer caletach tua'r amser hwnnw.



Rwan, heb fynd i weithio fy ffordd trwy hwda a adroddiadau ar arolygiadau, mae'n rhaid i mi ddweud  mae'r argraff yr ydwyf fi yn ei chael ydi bod mwy o ysgolion o lawer yn cael ail ymweliadau gan ESTYN yn sgil rhyw wendid neu'i gilydd. Mae yna hefyd fwy o awdurdodau addysg yn cael eu hunain mewn dwr poeth efo'r corff.  Ymhellach mae rhai o'r darparwyr sydd yn cael ail ymweliad gan ESTYN yn rhai nad oedd disgwyl iddynt gael problemau o unrhyw fath.


Awgrym John Davies wrth gwrs ydi bod y newid hwn yn ganlyniad i newid bwriadol yn y cyfarwyddyd mae ESTYN yn ei gael gan y gweinidog, a bod arolygiadau ESTYN felly yn cael eu defnyddio fel esgys i ail strwythuro'r ffordd mae addysg yng Nghymru yn cael ei ddarparu yn llwyr.  Mi fyddwn i yn ychwanegu bod llawer, llawer mwy o bwysau yn cael ei roi ar ysgolion ar hyn o bryd gan awdurdodau addysg, a'i bod yn debygol mai'r rheswm am hynny ydi bod llawer mwy o bwysau yn cael ei roi ar yr awdurdodau hynny gan y gweinidog.  

Byddai symud y gyfrifoldeb am ddarparu addysg oddi wrth yr awdurdodau lleol ymysg y newidiadau mwyaf pell gyrhaeddol i ddigwydd yn hanes y gwasanaeth addysg yng Nghymru.  Byddai'r elfen o atebolrwydd democrataidd yn cael eu symud, a byddai hynny yn ei dro yn arwain at newidiadau enfawr.  Er enghraifft byddai'n llawer mwy tebygol y cai ysgolion bach gwledig eu cau.  Yn wir byddai hefyd yn dra phosibl y byddai ysgolion canolig eu maint yn  cau.  Gellir dadlau y byddai pob ysgol sydd a llai na chant o blant mewn perygl.

Mae lle hefyd i boeni am y polisiau iaith y byddai'r ardaloedd Cymreiciaf yn gweithredu oddi tanynt.  Er enghraifft, gallai Gwynedd a Mon gael eu hunain efo'r un polisi iaith a Fflint a Wrecsam.  Ar ben hynny gellid yn hawdd ddychmygu y byddai llawer o'r personel rheolaethol a gweinyddol mewn uned fawr yn ddi Gymraeg.  Canlyniad hynny fyddai creu sefyllfa lle ceid yr holl wasanaeth yn llawer mwy Seisnig ei naws nag ydyw yn y siroedd gorllewinol ar hyn o bryd.  
Mae lle cryf i ddadlau bod 22 Awdurdod Addysg lleol yn ormod, a bod llawer o ddyblygu gwaith ac anwastadedd ynghlwm a'r drefn sydd ohoni. Mae lle cryf hefyd i ddadlau y byddai 10 cyngor sir yn hen ddigon ar gyfer anghenion y Gymru ol ddatganoledig sydd ohoni. Ond mae dilyn y trywydd mae'n ymddangos bod Leighton Andrews eisiau ei ddilyn yn mynd a ni yn llawer rhy bell yn llawer rhy gyflym.

15 comments:

  1. Anonymous8:50 pm

    Yn union, mae angen llai o Gynghorau Sir gwastrafflyf, llai o gynghorwyr ac yn hytrach cynyddu nifer aelodau yn y Cynulliad

    ReplyDelete
  2. Rydym yn rhan o gonsortiwm y De Orllewin a'r Canolbarth yma, Swamwac: clamp o gorff sy'n ymestyn o Lanrhaedr ym Mochnant i Aberafan, ac o'r Trallwng i Angle.

    Os bydd cynghorau Sir Gâr a Cheredigion yn colli'u gafael ar addysg, rwy'n ofni y bydd meddylfryd West Glam-aidd Abertawe a Chastell-nedd yn traflyncu'r ymdrechion at Gymreigio addysg.

    ReplyDelete
  3. Anonymous9:46 pm

    Mae'n hen bryd i Wynedd a Mon uno'u gwasanaethau addysg er mwyn cynnal polisiau iaith ac ethos yr hen Wynedd.

    ReplyDelete
  4. Anonymous10:31 am

    Dwi jyst yn poeni am effaith hyn ar yr iaith. Os ydy LA yn golygu cryfhau a gwella (ac efallai bod yn fwy deallus) wrth gyflwyno addysg Gymraeg yna dwi'n hapus. Does gen i ddim rhyw feddwl fawr o lywodraeth leol. Dim ond yn y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf mae Ceredigion wedi dangos unrhyw fath o frys at taclo methiant addysg Gymraeg yn y sir.

    ReplyDelete
  5. Anonymous6:39 pm

    Mae Estyn wedi mynd yn llawer mey 'politicaidd'.

    Estyn sy'n dweud bod angen cael gwared o lefydd gweigion (cau ysgolion) - heb brofi bod hyn yn arbed arian - mae arian yn dilyn y plentyn nid y lle gwag - heblaw am ysgolion gwirion o fach dydi dadl llefydd gweigion ddim yn dal dwr.

    Yn ddiweddar mae Estyn byn cyhoeddi adroddiadau sy'n creu penawdau ysgubol - heb dystiolaeth, heb awdurdod ac yn saff heb atebolrwydd.

    Mae Estyn yn cuddio wynebau anhysbys sy'n arwain polisiau addysg heb unrhyw sel bendith ddemocrataidd.

    ReplyDelete
  6. Anonymous4:15 pm

    Kind words are the music of the world.
    The music is the temperament of a nation is more noble, where there is music, where you jolly!
    Music has charms to soothe a savage breast, to soften rocks or bend a knotted oak.
    [url=http://www.cheapbeatssalehome.com/]cheap beats dre[/url]
    [url=http://www.cheapbeatsoutlethouse.com/]cheap beats outlet[/url]
    [url=http://www.cheapbeatsdrehouse.com/]cheap beats sale[/url]
    [url=http://www.cheapbeatsoutlethouse.com/studio-c-573.html]beats Studio dre[/url]
    [url=http://www.cheapbeatssalehome.com/beats-studio-c-562.html]beats studio sale[/url]
    [url=http://www.cheapbeatsdrehouse.com/beats-dre-studio-c-578.html]cheap beats Studio[/url]

    ReplyDelete
  7. Anonymous4:16 pm

    cheap moncler outlet - Stretchy knit panels at the sides enhance the fit and motion flexiStretchy knit panels at the sides enhance the fit and motion flexibility for a lightweight, down-filled puffer with adjustable toggles to cinch the hood.bility for a lightweight, down-filled puffer with adjustable toggles to cinch the hood.
    [url=http://www.cheapmoncleroutlethouse.com/]cheap moncler[/url]
    [url=http://www.cheapmoncleroutlethouse.com/men-jackets-c-565.html]Moncler Down Jackets Men[/url]

    ReplyDelete
  8. Anonymous5:27 pm

    Braf gweld fod ESTYN eu hunain wedi postio cynifer o ymatebion i'r drafodaeth. Mae eu hadroddiadau'n gwneud dipyn mwy o synnwyr i mi ar ol gweld hynny.

    ReplyDelete
  9. Anonymous10:38 am

    Cwpl o sylwadau:-

    Mae'r rhan fwyaf o lawer o wledydd Ewropeaidd yn gosod cyfrifoldeb am addysg statudol ar lefel o lywodraeth uwch na llywodraeth leol. Prydain yw'r eithriad. Ddim bod hwnna'n broblematig. Jyst ffordd arall o weld atebolrwydd democrataidd.

    Y Gymraeg. Os ydys rywbryd eisiau polisi iaith addysg unffurf, genedlaethol, raddedig a phwrpasol, yna rhaid gofyn sut mae unwlad wlad yn gallu cyflawni hynny gyda 22 o gogyddion? Mae Llywodraeth Cymru, fel unrhyw sefydliad llywodraethu, eisiau ehangu ei hadenydd. Iawn a feri gwd. Y cwestiwn yw pryd bydd yn barod i ymgymryd a pholisi cenedlaethol cynhwysfawr a graddedig ar y Gymraeg?

    Ddim cweit eto, dw i'n meddwl. Ond wn i ddim a ydym yn bell bell o'r fan honno. Imi, mae strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg y llywodraeth yn broto-ddogfen o lywodraeth Cymru y dyfodol fydd yn derbyn cynllunio ar gyfer cynnydd a pharhad addysg Gymraeg ym mhob rhan o'r wlad. Ddim ar hyn o bryd, ond myn gebyst, all 22 cogydd gyda'r ewyllys gorau yn y byd ddim cyflawni hyn!! Imi, nid yw dadl Gwynedd yn trympio dadl polisi unffurf a graddedig gan lywodraeth gwlad. Gallai Gwynedd a Mon, ie, a Cheredigion a Chaerfyrddin, gael eu rhoi mewn categori ar wahan. Ond boed iddynt fod yn gategoriau a bennir gan lywodraeth Gymreig.

    Da beth amlwg sy'n codi cenedl yn hanesyddol. Addysg a byddin. Does dim angen byddin ar Gymru nawr. Felly addysg sydd ar ol. Cenedlaetholed hi!!

    ReplyDelete
  10. Anonymous2:02 am

    If we look at the meaning of the idea of really like, not just in comparison to its a close romance having one more, nonetheless for a experiencing which is engendered for those who have miltchmonkey a more rewarding partnership with yourself way too - as well as to be a sensation of larger unity spouse and children or maybe the human race ( space ) therefore it results in being more crystal clear that all everyone wants in everyday life is like.

    ReplyDelete
  11. Anonymous2:40 am

    cheap ugg boots sale kcmoollc cheap ugg boots uk ybbcathb cheap ugg boots lsaiogqh cheap uggs motmywrg ugg boots sale uk gczajhvc ugg boots sale lhllmbsl ugg boots uk fpsyirpa ugg boots jplhxouq ugg sale eyvpckty

    ReplyDelete
  12. Anonymous6:58 pm

    uenvks generic imitrex for sale - buy generic imitrex online http://www.buyimitrex365.com/#buy-generic-imitrex-online , [url=http://www.buyimitrex365.com/#buy-cheap-imitrex ]buy cheap imitrex [/url]

    ReplyDelete
  13. Anonymous9:53 pm

    Here are particulars on 1000 dollar pay day loan loans these refinancing options would be the fastest solutions that could do maximum good for folks in
    the need of income for emergency cases pay day loans once
    a house enters into foreclosure options to avoid wasting
    the house are limited.

    ReplyDelete