Monday, November 26, 2012

Cenhadon casineb y Daily Mail

Mae erthygl ddiweddaraf Roger Lewis ynglyn a'r iaith Gymraeg mor eithafol ac idiotaidd nes ei bod yn fwy digri na dim arall - o safbwynt rhywun sy'n byw yng Nghymru o leiaf.  Wedi'r cwbl yr oll sydd yn yr erthygl mewn gwirionedd ydi cymysgedd rhyfedd o ragfarnau Lewis, honiadau di dystiolaeth a dehongliadau hanesyddol anwybodus.

Ond mae yna ochr mwy difrifol i'r peth.  Mae'r Daily Mail yn bapur  sy'n apelio at grwp o bobl rhagfarnllyd, hysteraidd ac ofnus sydd mewn galar lled barhaol am Brydain sydd wedi hen farw - os oedd y ffasiwn  Brydain erioed yn bodoli mewn gwirionedd.  Mae llawer o'r bobl anffodus hyn y credu nonsens Lewis - yn wir maent yn ei fwynhau oherwydd ei fod yn porthi eu rhagfarnau gwaelodol.

Dyna pam bod pob math o grwpiau lleiafrifol yn cael eu colbio yn rheolaidd yn y papur - hynny yw pobl nad ydynt yn Saeson, gwyn, lled gefnog, hetro rywiol o gefndiroedd Cristnogol.  Mae mwydro di resymeg y Mail yn hynod niweidiol i gydlynedd cymdeithasol yn y DU oherwydd ei fod yn adgyfnerthu rhagfarnau sy'n bodoli ers cenrdlaethau.

Mae'r erthygl yn rhan o batrwm ehangach o ddiafoli rhannau eang o gymdeithas yn Lloegr, Cymru a gweddill y  DU gan elfennau o'r wasg Brydeinig, ac mae Roger Lewis a'i debyg yn ennill eu bywoliaeth yn nofio yng nghanol y mor yma o gasineb ac anoddefgarwch.

3 comments:

  1. Go brin mai cyd-ddigwyddiad yw'r ffaith bod ffigurau'r cyfrifiad ar fin cael eu cyhoeddi, chwaith. Gallwn ddisgwyl mwy fyth o'r math yma o lol os yw'r canrannau wedi syrthio'n arw yn y fro.

    ReplyDelete
  2. Anonymous8:48 pm

    This comment has been removed by a blog administrator.

    ReplyDelete
  3. Mi fedri di ddisgwyl y math yma o beth pa bynnag ffordd fydd y ffigyrau yn symud - os byddant yn mynd i fyny bydd pobl yn cael eu gorfodi i siarad Cymraeg, os byddant yn mynd i lawr bydd yr iaith wedi mars beth bynnag.

    ReplyDelete