Mae'n ddiddorol nodi nad ydi Glyn Davies, AS Maldwyn eisiau i'r Comisiynydd Iaith, Meri Huws gymryd camau cyfreithiol yn sgil erthygl Roger Lewis yn y Daily Mail.
Dadl Glyn ydi y byddai cymryd cam felly yn 'rhoi cyhoeddusrwydd' i'r erthygl. Rwan gellid defnyddio dadl felly ar gyfer unrhyw unrhyw sylwadau amhriodol. Er enghraifft mae'r camau cyfreithiol mae'r Arglwydd McAlpine wedi ei gymryd yn erbyn ITV, y Bib a llu o drydarwyr yn rhoi cyhoeddusrwydd i'r honiadau a wnaed ganddynt. Ond mae'r camau hynny hefyd yn ei gwneud yn glir bod y sylwadau a wnaed yn amhriodol ac nad oes gwirionedd iddynt.
Mi fydd yna gamau cyfreithiol yn cael eu cymryd o bryd i'w gilydd yn erbyn pobl sy'n gwneud sylwadau hiliol yn y wasg, neu ar y rhyngrwyd, ond 'dydi hyn ddim yn digwydd yn aml iawn. Mae yna reswm gweddol syml am hynny - 'does yna ddim llawer o bobl yn cyhoeddi sylwadau hiliol oherwydd eu bod yn gwybod bod goblygiadau cyfreithiol difrifol i wneud hynny. Petai yna ganfyddiad ar led na fyddai camau cyfreithiol yn cael eu cymryd yn erbyn y sawl sy'n cyhoeddi sylwadau hiliol 'rhag rhoi sylw iddynt', yna byddai yna fwy o sylwadau hiliol o lawer yn cael eu cyhoeddi na sydd ar hyn o bryd.
O ganlyniad byddai'r ymgais i 'sgubo'r ffaith bod pobl gydag agweddau hiliol o dan y carped yn arwain at wyntyllu mwy ac nid llai o sylwadau hiliol. Wir Dduw - dydi hyn ddim yn anodd iawn Glyn Davies.

Y broblem yw, mi fyddwn i'n meddwl y bydd hi'n anodd iawn i bobl profi bod Roger Lewis wedi bod yn "hiliol". Dywedodd pethau hollol gwallgof - ee bod plant a addysgwyd yn y Gymraeg yn methu cael swyddi y tu allan i Gymru - a pethau y bydd llawer wedi eu cael yn sarhaus iawn, ond gan fwyaf polisiau iaith neu'r iaith ei hunan oedd targed yr hyn a ddywedodd, yn hytrach na phobl neu grwpiau o bobl.
ReplyDeleteDw i'n anghytuno'n chwyrn efo'r syniad o gymryd camau cyfreithiol yn erbyn Lewis. Mae'r cwestiwn a yw'r hyn a ddywedodd yn haeddu'r label "hiliaeth" yn amherthnasol yn fy marn i. Ni ddylai bod yn hiliol fod yn anghyfreithlon.
ReplyDeleteWel, nid hiliaeth fel y cyfryw sy'n anghyfreithlon. Incitement to Hatered Act 2006 ydi'r Ddeddf dan sylw. Hynny yw annog pobl i gasau eraill ar sail hil neu grefydd.
ReplyDeleteYn erhyfedd braidd roedd deddf debyg yn bodoli yng Ngogledd Iwerddon ers 1970 - roedd annog casineb yn arwain at waed yn llifo yn y gwteri yno.
Dwi innau'n anghytuno ag unrhyw fwriad i gymryd camau cyfreithiol yn erbyn y DM oherwydd darn barn gan un newyddiadurwr rhagfarnllyd.
ReplyDeleteI raddau, fel cenedlaetholwr, mae ymosodiadau fel hyn i'w croesawu gan eu bod yn arwydd bod ein proffil cenedlaethol yn dechrau ymddangos ar y radar fel petai. Ac mae rhagfarn fel hyn hefyd yn creu mwy o wydnwch a phenderfyniad ynom ninnau.
Nid rhedeg at y gyfraith sydd ei angen mewn mater fel hyn ond ymwroli ac ymateb fel unigolion( fel y mae cannoedd eisoes wedi'i wneud ar wefan y DM).
Yn lle gwastraffu ei hamser yn chwilio am farn gyfreithiol, dylai Meri Huws fynnu cael erthygl o'r un maint yn y DM er mwyn ateb honiadau'r Br Lewis. Byddai hyn yn cyd-fynd yn berffaith ag Adroddiad Leveson, fydd mae'n debyg yn awgrymu bod y cyhoedd yn cael mwy o hawl i gywiro camgymeriadau a rhagfarn newyddiadurwyr.
Dylse Meri Huws ddim ymateb. Mae pethe pwysicach ganddi wneud.
ReplyDeleteDwi hefyd ddim eisiau iddi gael sylw hawdd fel hwn ar bwnc sydd ddim o unrhyw ots - dyna dacted AC ac AS Llafur. Malu cachu ar rhywbeth populist, syml ond osgoi gwneud na dweud dim sydd wir o werth. Byddaf yn amheus iawn os wneith hi ffws o hyn.
Yn bersonol dwi'n meddwl fod erthyglau hurt fel un Roger Lewis yn gwneud mwy o dda nag o ddrwg i'r Gymraeg. Mae help i gryfhau a chadw ein hunaniaeth. Mwy plîs!
Mae'r ddeddf honno'n erthyl o beth hefyd a dylid ei diddymu.
ReplyDeleteBoed hiliaeth, rhywiaeth, homoffobia, neu'n "gasineb" (gair amwys) o unrhyw fath, ni ddylai lleisio'r fath farn fod yn anghyfreithlon. Dim ots pa mor afiach.
Parthed y comisiynydd, byddai unrhyw ymyrraeth ganddi'n wastraff amser a'n amherthnasol i'w swydd. Ond yn waeth na hynny, byddai'n atgyfnerthu'r hen ystrydeb annifyr a diflas hwnnw am Gymry Cymraeg yn meddianu sefydliadau a chyfarpar y wladwriaeth er eu budd eu hunain ac er mwyn cosbi eu gelynion. Anfoesol a gwrth-gynhyrchiol.
It's an remarkable post designed for all the online visitors; they will take benefit from it I am sure.
ReplyDeleteHere is my page - geld verdienen seri?s im internet
Wow! After all I got a webpage from where I know how to genuinely take valuable information concerning my
ReplyDeletestudy and knowledge.
Also see my website :: how To make money in the internet
Hello, all is going sound here and ofcourse every one is sharing data, that's in fact excellent, keep up writing.
ReplyDeleteHere is my web-site : what can i sell online to make money
Hello there, just became alert to your blog through Google,
ReplyDeleteand found that it is really informative. I am going to watch out for brussels.
I'll be grateful if you continue this in future. Many people will be benefited from your writing. Cheers!
Feel free to surf my web site ; fastest ways to make money online
An intriguing discussion is worth comment. I do believe that you need to publish more about this subject, it might not
ReplyDeletebe a taboo subject but generally folks don't talk about these issues. To the next! Kind regards!!
My page ; Link Building Specialist
Greetings! I know this is kinda off topic however , I'd figured I'd ask.
ReplyDeleteWould you be interested in exchanging links or maybe guest
authoring a blog article or vice-versa? My blog addresses a lot of the same topics as yours and I think we could greatly benefit from
each other. If you're interested feel free to send me an e-mail. I look forward to hearing from you! Fantastic blog by the way!
Feel free to visit my homepage : Same Day Cash Advance
Hey there, You have done an incredible job.
ReplyDeleteI will certainly digg it and personally suggest to my friends.
I am confident they'll be benefited from this site.
my web site - online casino eaggjfc http://bestonlinecasinoworld.tumblr.com/
Its like you learn my thoughts! You seem to grasp so much about this, like you wrote the guide in it or something.
ReplyDeleteI believe that you can do with a few p.c. to force the message house a bit, however other than
that, that is excellent blog. An excellent read.
I'll certainly be back.
Here is my weblog ... inc. buy stocks