Sunday, August 30, 2015

Mwy o idiotrwydd o Gaerdydd

Mae'n debyg bod ymgeisydd UKIP yng Ngorllewin Caerdydd yn etholiadau'r Cynulliad i'w ganmol am gael ei bamffled agoriadol allan yn weddol gynnar.  Neu o leiaf dwi'n rhyw gymryd mai gohebiaeth ar gyfer etholiadau'r Cynulliad ydi'r pamffled gan mai dyna'r etholiadau nesaf - does yna ddim son o unrhyw fath o etholiadau o gwbl yn y darn. 

Serch hynny mae Brian yn addo pob math o bethau os ydi ei blaid yn cael ei ethol - rheoli 'ein' ffiniau (dwi'n cymryd mai ffiniau'r DU sydd gan Brian mewn golwg yn hytrach na rhai Cymru), cael gwared o daliadau Ewrop er mwyn ariannu'r Gwasanaeth Iechyd, cael gwared o dreth incwm ar bobl sydd ar incwm isel, cael gwared o'r dreth llofftydd, cael gwared o dreth etifeddiaeth, cael gwared o gymorth tramor ac ati.

Yn anffodus dydi hi ddim yn ymddangos bod neb wedi trafferthu egluro i Brian na fydd mewn sefyllfa i weithredu ar unrhyw un o'i addewidion  os caiff ei ethol.  Materion sydd yng ngofal llywodraeth San Steffan ydi pob un o addewidion Brian.  Mae'n ymladd ei ymgyrch ar agenda na fydd mewn unrhyw sefyllfa o gwbl i'w gweithredu os caiff ei ethol.

Mae am fod yn hwyl dilyn yr ymgyrch idiotaidd yma tros y misoedd nesaf.



Friday, August 28, 2015

Dychwelyd i'r deyrnas fanana

Felly dyma fi ar y llong ar y ffordd yn ol adref i'r newyddion gwych fy mod yn cael gwneud fy nghyfraniad bach i gadw 45 o 'arglwyddi' newydd mewn moethusrwydd.  Daw hyn a'r cyfanswm i 826.  Mae nifer o 'r 'arglwyddi' newydd ymysg y sawl oedd ynghanol y sgandal dreuliau enwog saith mlynedd yn ol.  Mae gan y Dib Lems 8 o aelodau seneddol etholedig a 102 o 'arglwyddi' efo'r hawl i ddeddfu - er na chawsant eu hethol gan neb. 

Mae'n debyg mai'r unig gorff llywodraethol mwy o ran maint ydi Cyngres y Bobl yn China sydd a bron i 3,000 o aelodau. Ond mae hwnnw yn gorff mwy democrataidd, llai drud a llai llwgr na Thy'r Arglwyddi.  




Mae yna etholiadau - o fath - i'r Gyngres. Yr unig beth sydd ei angen i fod yn aelod o Dy'r Arglwyddi ydi bod yn ffrindiau efo arweinydd un o'r pleidiau unoliaethol mawr, bod wedi cyfrannu pres i arweinydd un o'r pleidiau unoliaethol mawr, neu bod wedi cyfrannu i un o'r pleidiau unoliaethol mawr.  Mi fydd yna ambell i berson arall yn cael ymuno o bryd i'w gilydd am resymau cyflwyniadol.

Tra bod dod a thair mil o gynrychiolwyr o pob cwr o China at ei gilydd yn broses cymharol ddrud, dydi'r Gyngres ond yn cyfarfod am 10 i 14 diwrnod y flwyddyn - yn y gwanwyn fel rheol.  Mae Ty'r Arglwyddi yn cyfarfod ar hyn y flwyddyn - ac mae unrhyw aelod sy'n teimlo fel mynychu yn cael gwneud hynny - gan dderbyn 'costau' o £300 y dydd.  Yn naturiol ddigon bydd llawer yn cymryd mantais o hyn, a bydd rhai'n treulio'r diwrnod yn cysgu'n braf ar y meinciau coch cyfforddus.

Mae deddfwrfa fawr, anetholedig fel hyn yn arwydd o wladwriaeth lle nad ydi atebolrwydd yn gweithio'n iawn, a'r mwyaf mae rhywun yn edrych ar y drefn Brydeinig, y mwyaf mae dyn yn cael y teimlad bod yr atebolrwydd democrataidd sydd wedi ei sefydlu yng ngweddill Gorllewin Ewrop wedi mynd ar goll yn y  DU rhywsut.  Dwi'n gwybod i'r Chwyldro Ffrengig fethu a chyffwrdd Prydain - ond rhywsut llwyddodd i ddylanwadu ar wledydd eraill na effeithiodd yn uniongyrchol a nhw.  Ond rhywsut mae yna deimlad o Deyrnas Fanana am y DU - rhywle lle mae'r syniad o gyfartaledd  ac atebolrwydd llywodraethol wedi methu a gwreiddio'n iawn

Meddyliwch am Bennaeth y Wladwriaeth er enghraifft.  Dynas o'r enw Elizabeth Windsor sy'n 
cyflenwi'r rol arbennig yna ar hyn o bryd.  Mae wedi bod wrthi - heb fod yn atebol i neb na dim - am 
dros i hanner canrif.  Mae ei chymwysterau ar gyfer y swydd bwysig yma fel a ganlyn:

Hi oedd merch hynnaf ei thad.
Doedd ganddi hi ddim brawd.
Dydi hi ddim yn Babyddes, a dydi hi ddim wedi priodi Pabydd.




Mewn geiriau eraill cafodd ei phenodi ar sail secteraidd a llwythol.  Er gwaethaf hynny mae'r trethdalwr - yn Babyddion neu beidio - yn cael eu gorfodi i ariannu Elizabeth Windsor ac aelodau eraill ei theulu.  Mae'n rhaid gwneud hyn er gwaetha'r ffaith ei bod hi a'i theulu ymysg pobl gyfoethocaf y Byd - ac mae'r cyfoeth hwnnw wedi ei adeiladu ar y manteision mae'r olyniaeth llwythol a secteraidd wedi ei roi iddynt.  Mae ei mab hynaf - Charles Windsor - a'r brenin nesaf os bydd yn goroesi ei fam - yn hoff iawn o geisio dylanwadu ar weinidogion sydd wedi eu hethol yn ddemocrataidd trwy lythyru efo nhw i bwrpas  gorfodi ei gwahanol ddiddordebau esoterig ar y gweddill ohonom.  Mae atebion rhai o'r gweinidogion yn ogleisiol o grafllyd.




Erbyn meddwl, efallai fy mod wedi gwneud cam ddefnydd o'r gair 'democrataidd' yn y frawddeg ddiwethaf ond un.   Mae gan y llywodraeth bresenol fwyafrif llwyr i lywodraethu yn ol ei doethineb addfwyn ei hun ar 37% o bleidleisiau'r sawl a drafferthodd i bleidleisio.  Mae hynny'n fwy na'r 35% a gafodd Blair yn 2005 gyda llaw.   Mae'r wladwriaeth yn cael ei rhedeg gan gabinet sydd a 50% o'i haelodau wedi bod i ysgolion bonedd - 7% ydi'r ganran ymysg y cyhoedd yn gyffredinol.  Mae'r Prif Weinidog a'i Ganghellor yn perthyn trwy waed i'r dywydiedig Elizabeth Windsor a'i thylwyth llawen.  

Mae gennym drefn etholiadol sy'n caniatau i un blaid gael 3 sedd ar llai na 100,000 o bleidleisiau ac un arall i gael 1 gydag 3.8m o bleidleisiau.  Ar hyn o bryd mae'r brif wrthblaid yn cynnal etholiad arweinyddol.  Mae tri o'r ymgeiswyr efo gwleidyddiaeth tebyg iawn i'w gilydd ac nid anhebyg i un y llywodraeth.  Fel 17 aelod o'r cabinet Toriaidd mae 3 ohonynt wedi bod i Rydychen neu Gaergrawnt.  Oherwydd bod ofn cyffredinol ymysg arweinyddiaeth presenol y Blaid Lafur bod y rhan fwyaf o'r pleidleiswyr am bleidleisio i'r boi sydd wedi ei addysgu yn y coleg 'anghywir' a sy'n arddel y wleidyddiaeth 'anghywir' (hy gwleidyddiaeth y rhan fwyaf o aelodau ei blaid) mae yna ymarferiad enfawr i chwynu'r rhestr etholwyr o bleidleiswyr sy'n debygol o bleidleisio trosto yn mynd rhagddi.  Canlyniad chwerthinllyd hyn ydi bod arweinwyr undeb a phobl sydd wedi ymgyrchu tros hawliau pobl gyffredin trwy eu bywydau yn cael eu gwrthod oherwydd 'nad ydynt yn arddel gwerthoedd Llafur' tra bod dynion busnes cyfoethog yn cael eu derbyn.

Nid bod llawer o hyn am gynhyrfu'r cyfryngau wrth gwrs.  Mae'r rhan fwyaf o'r cyfryngau print ym mherchnogaeth pobl gyfoethog iawn sy'n rhannu'r un buddiannau materol a'r sawl sy'n llywodraethu, ac mae pawb yn cael eu gorfodi i gyfrannu at ddarlledwr cyhoeddus sy'n gweithredu fel darlledwr gwladwriaethol pan mae'n canfod bygythiad i fuddiannau'r wladwriaeth - ac yn mynd ati i stwffio propoganda amrwd i lawr corn gyddfau'r sawl sy'n ei ariannu.  




Gwelwyd hyn yn ystod ymgyrch refferendwm yr Alban yn ddiweddar, fe'i gwelwyd yn ystod y dwsinau o ryfeloedd mae'r DU wedi cael ei hun ynddynt ers sefydlu'r Bib, fe'i gwelwyd yn ystod Streic y Glowyr, fe'i gwelir yn yr hyrwyddo hysteraidd o ddigwyddiadau 'brenhinol' a sefydliadol, ac fe'i gwelwyd trwy gydol y stad o anhrefn maith yng Ngogledd Iwerddon.  

Yn wir mi fyddwn yn dadlau i lyfdra newyddiadurol yn ystod y cyfnod hwnnw a arweiniodd at fimicio cibddall o naratif llywodraethol bod problem wleidyddol yn broblem droseddol anesboniadwy gyfrannu  at golli cannoedd o fywydau yn ddi angen.  Ac ar ben hynny - er gwaethaf presenoldeb anferth yn y dalaith ar hyd y cyfnod - methodd y Bib a gweddill y cyfryngau a sylwi bod nifer sylweddol o ddynion oedd yn cael eu rheoli ac oedd yn derbyn cyflog gan y wladwriaeth yn rhedeg o gwmpas y dalaith yn saethu pobl a'u chwythu i fyny - a hynny er (a defnyddio idiom leol) bod y cwn ar ochrau'r strydoedd yn gwybod yn iawn.  

Gyda llaw mae'n ddiddorol yn y cyd destun yma i Douglas Hogg gael ei godi'n 'arglwydd' ddoe.  Enilliodd enwogrwydd amheus iddo'i  hun ddwywaith yn y gorffennol - am ddefnyddio trefn dreuliau llwgr San Steffan  i gael y treth dalwr i dalu am lanhau ei ffos, ac am sefyll i fyny yn Nhy'r Cyffredin i wneud honiad ffug bod  Pat Finucane, un o bartneriaid hyn cwmni cyfreithiol  Madden & Finucane o Felfast, yn gefnogwr i'r IRA.  Cafodd Finucane ei lofruddio o flaen ei wraig a'i blant lai na mis yn ddiweddarach tra'n bwyta ei ginio dydd Sul yn ei gartref gan gyn heddwas o'r enw Ken Barrett a dyn arall.  Fe'i saethwyd yn ei wyneb bedair ar ddeg o weithiau. Roedd y dryll a ddefnyddwyd yn y llofruddiaeth wedi ei ddarparu gan gyn heddwas arall ac asiant cyflogedig i'r gwasanaethau cudd - Bill Stobie, ac roedd y wybodaeth a ddefnyddwyd i gynllunio'r llofruddiaeth wedi ei ddarparu gan ddyn arall oedd yng nghyflogaeth y gwasanaethau cudd - Brian Nelson.



Ond wedyn mae'r system gyfreithiol yn un ryfedd yn ei chyfanrwydd. Mae'r system yn wych am ddod o hyd i bobl sy'n twyllo i gael budd daliadau, ond yn anobeithiol o sal am ddod o hyd i bobl sy'n gwrthod talu eu trethi - er bod sgeifiwrs treth yn colli mwy o bres o lawer i'r Trysorlys na hawlwyr budd daliadau anonest.  Mae'r heddlu yn cymryd degawdau i fynd i'r afael a chylch cam drin plant anferth honedig reit o flaen eu trwynau yn San Steffan (a llefydd eraill) tra'n delio yn effeithiol efo'r sawl sy'n dwyn Mars Bar o arch farchnad oherwydd ei bod yn llwglyd.  Gall ymchwiliadau cyhoeddus gymryd blynyddoedd a blynyddoedd i'w gweithredu (mae Chilcott wedi cymryd cryn dipyn mwy o amser na'r rhyfel mae'n edrych ar ei hachosion) neu gall y llywodraeth gyfarwyddo eu canlyniad (Widgery).  Mae ymddygiad anghyfrifol y banciau Prydeinig wedi dod yn agos at ddod a'r economi i'w gliniau, ac wedi achosi caledi gwirioneddol i rai o bobl mwyaf bregus cymdeithas - ond 'does yna neb wedi torri'r gyfraith. Yn wir mae'r rhan fwyaf o'r sawl oedd yn gyfrifol yn ol ar gyflogau anferthol.

Mae'n debyg na fyddai trefn lywodraethol sylfaenol anemocrataidd ac anatebol mor ddrwg petai'n effeithiol - ond yr hyn a gynhyrchir gan y gyfundrefn sydd ohoni ym Mhrydain ydi gwlad gyfoethog ond diarhebol o anghyfartal.  Mae'r anghyfartaledd i'w weld ar lefel bersonol a lefel rhanbarthol.  Mae gan Brydain rai o'r rhanbarthau ac unigolion tlotaf yng Ngorllewin Ewrop - ac mae gan Gymru fwy na'i siar - llawer mwy na'i siar o ardaloedd a theuluoedd tlawd.  Pan mae gormod o rym yn nwylo cydadrannau cyfyng o gymdeithas - mae cyfoeth yn cronni'n dwt o gwmpas yr union gydadrannau hynny - felly mae pethau'n gweithio mae gen i ofn.  

Ac wedyn dyna i ni'r gyfundrefn wobreuo bisar - sydd wedi ei seilio ar godi hiraeth am ymerodraeth ddiflanedig oedd yn ymestyn tros tua chwarter arwynebedd y Byd pan roedd yn ei hanterth.  Mae yna gryn gystadlu am anrhydeddau megis yr MBE a'r CBE - yn ein mysg ni fel Cymry yn fwy na neb.  Roedd yna gost i'r Ymerodraeth honno wrth gwrs - ac roedd y rhan fwyaf o'r gost honno yn syrthio ar drigolion yr Ymerodraeth.  Roedd yn rhaid wrth wladwriaeth arbennig o filwriaethus - mae'r DU wedi ymosod yn filwrol ar tua 90% o'r gwledydd sy'n bodoli heddiw - llawer, llawer mwy nag unrhyw wlad arall.  O sefydlu'r Ymerodraeth roedd rhai o'r dulliau a ddefnyddwyd i ddelio efo'r gwahanol wrthryfeloedd sy'n rhwym o ddigwydd yn dilyn concwest filwrol yn alaethus yn ol unrhyw safonau.  Ac roedd yna dueddiad anffodus i drigolion yr Ymerodraeth lwgu i farwolaeth yn eu miliynau.  Patrwm cyson ddaeth i ben yn llwyr pan ddaeth yr Ymerodraeth i ben. 



Ac ar y nodyn gwirioneddol anymunol yna dyna ddwy awr ar long wedi hedfan a ninnau yng nghysgod clogwynni gwyn De Lloegr.   Fyddwn i ddim wedi credu y gallai mordaith dwyawr ddiiflannu mor sydyn.  Well i mi godi fy mhac a mynd i chwilio am y car.

Thursday, August 27, 2015

Yr hyn ydi Llafur erbyn heddiw mewn dau lun



Mae Tony Blair yn arddel gwerthoedd Llafur, felly mae'n cael pleidleisio yn yr etholiad arweinyddol.


Dydi Mark Serwotska ddim yn arddel gwerthoedd Llafur, felly dydi o ddim yn cael pleidleisio.

Wednesday, August 26, 2015

Deiseb statws y Gymraeg yng Nghaerdydd

Os ydych eisiau arwyddo deiseb yn cefnogi statws y Gymraeg yn y brif ddinas yn dilyn sylwadau haerllyg arweinydd y cyngor, mae un wedi ei threfnu gan arweinydd Plaid Cymru ar y cyngor, Neil McEvoy.


Phil Bale


Neil Mcevoy


Tuesday, August 25, 2015

Dyna agwedd y Blaid Lafur at y Gymraeg yng Nghaerdydd yn glir felly

Stori lawn yma.

Er gwybodaeth, mae yna 54,504 o drigolion Caerdydd yn honni rhyw sgil neu'i gilydd yn yr iaith Gymraeg yn ol Cyfrifiad 2011.  Mae hyn yn tua pedair gwaith y nifer o Fwslemiaid sy'n byw yn y brif ddinas, ac mae'n llawer uwch nag unrhyw grwp lleiafrifol ethnig - ag eithrio disgynyddion Gwyddelod. Mae Mr Bale ei hun ymysg y 54k+.  

Pen draw rhesymeg Mr Bale ydi mai dim ond pobl wyn, uniaeth Saesneg o gefndir Cristnogol sy'n rhan o wead cymdeithasol y ddinas.

Mae gen i lawer o deulu yng Nghaerdydd - rhai yn siarad y Gymraeg, ac eraill ddim mor ffodus.  Bydd yn newyddion tra anymunol i'r rhai sydd yn siarad y Gymraeg i ddeall nad ydi'r cyngor Llafur yn eu hystyried yn rhan o wead cymdeithasol y ddinas.  

Apartheid - gan Lafur yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif ar hugain. 


Saturday, August 22, 2015

Catalonia ac annibyniaeth

Mae bod yn Catalonia heddiw tipyn bach fel bod yn yr Alban ar yr un pryd y llynedd - ond efallai y byddai'r 'Alban ar steroids' yn well disgrifiad.  Mae'r ymgyrch tros annibyniaeth yn hynod o weladwy yma - gyda baner annibyniaeth - yr Estelada i'w gweld ym mhob man mae dyn yn edrych bron - o fflatiau gwyliau ar y Costa Brava i'r blociau fflatiau ar gyrion trefi mawr megis Vic i sgwariau a strydoedd cul pentrefi bach y Pyrennies.

Ceir yr un math o stondinau stryd ag a gafwyd yn yr Alban gydag actifyddion yn ceisio darbwyllo pobl i gefnogi annibyniaeth, ceir pobl yn hel enwau ar gyfer deisebau a cheir arch farchnadoedd yn gwerthu baneri a chynyrch sy'n hyrwyddo annibyniaeth.  Cafwyd 'refferendwm' answyddogol y llynedd gydag 80% o'r sawl a gymrodd ran yn pleidleisio tros adael yr undeb efo Sbaen.

Serch hynny mae annibyniaeth yn y byr dymor yn  llai tebygol yng Nghatalonia heddiw nag oedd yn yr Alban yr adeg yma flwyddyn yn ol.  Yn sylfaenol un glwyd arall oedd rhaid i'r ymgyrch yn yr Alban ei chroesi erbyn hynny - ennill refferendwm.  Methwyd a neidio'r glwyd honno wrth gwrs.

Mae'n rhaid croesi dwy glwyd yng Nghatalonia.  Yn gyntaf mae etholiadau wedi eu trefnu yng Nghatalonia ddiwedd Medi eleni.  Gan nad yw llywodraeth Sbaen yn derbyn bod refferendwm yn gyfansoddiadol mae'r pleidiau sydd o blaid annibyniaeth yn ystyried yr etholiad yma yn refferendwm de facto.  Os byddant yn ennill byddant yn cychwyn llunio cyfansoddiad newydd gyda'r bwriad o sefydlu gwladwriaeth annibynnol erbyn 2017.   Mi fydd llywodraeth Sbaen yn gwrthwynebu hyn, a bydd y glymblaid arferol o fusneswyr rhyngwladol (yr Undeb Ewropiaidd, y Pab, llywodraeth China, Obama, Bob Geldoff - efallai y bydd galw am wasanaethau Gareth Edwards unwaith eto) yn sefyll y tu ol iddynt.  Gwrthwynebiad Sbaen a'r gymuned ryngwladol ydi'r ail glwyd.

O dan amgylchiadau arferol byddai'r  glwyd gyntaf yn cael ei chroesi'n weddol hawdd - mae'r pleidiau cenedlaetholgar yn ddi eithriad yn gwneud yn well na'r rhai ffederal mewn etholiadau Catalanaidd).   Efallai y bydd pethau'n fwy cymhleth y tro hwn.   Er i fwyafrif clir bleidleisio tros annibyniaeth yn y bleidlais answyddogol, mae'n debyg i'r sawl oedd yn erbyn annibyniaeth at ei gilydd beidio a thrafferthu i bleidleisio.  Mae'r polau piniwn ar hyn o bryd yn awgrymu nad oes mwyafrif clir tros annibyniaeth - er bod y polau hynny wedi dangos mwyafrif tros annibyniaeth yn y gorffennol cymharol agos.   

Byddai gwrthwynebiad y wladwriaeth Sbaeneg gyda chefnogaeth y gymuned rhyngwladol ddim yn hawdd i'w oresgyn.  Un ateb posibl ydi newid yn llywodraeth Sbaen.  Mae'r blaid geidwadol sy'n rheoli ar hyn o bryd yn debygol o golli grym maes o law.  Mae'n bosibl y bydd y blaid newydd adain Chwith, Podemos yn rhan o'r llywodraeth nesaf.  Maen nhw'n wrthwynebus i annibyniaeth i Gatalonia, ond dydyn nhw ddim yn gwrthwynebu refferendwm ar y mater.  Mae'n bosibl y byddant  yn caniatau refferendwm swyddogol - petai hynny'n digwydd mi fyddai yna drydydd glwyd - ond a chlirio honno byddai'r ail glwyd - gwrthwynebiad y wladwriaeth Sbaeneg - wedi ei niwtraleiddio i pob pwrpas.  



















Friday, August 21, 2015

Cefnogi'r boi oedd yn gwybod bod Cymru'n cael ei than ariannu

Hmm, felly mae Owen Smith, Kevin Brennan, Nick Thomas-Symonds, Nia Griffith, Wayne David, ac Albert Owen wedi datgan cefnogaeth i Andy Burnham.  

Hwn ydi'r Andy Burnham sydd bellach yn cyfaddef ei fod yn gwybod ers blynyddoedd bod Cymru yn cael ei than ariannu, ond na wmaeth unrhyw beth i fynd i'r afael a'r sefyllfa oherwydd mai rhif 2 yn y Trysorlys oedd ac nid rhif 1.  

Beth bynnag flaenoriaethau'r ASau Llafur hyn, dydi Lles Cymru ddim yn eu plith.

Thursday, August 20, 2015

Llun a theitl

Tybed os oes yna erioed deitl i flog wedi bod mor anghydnaws a'r llun sydd ar y dudalen flaen nag ymdrech AS Toriaidd Maldwyn, Glyn Davies?  A View from Rural Wales ydi enw'r blog, ond ceir llun o balas neo Gothaidd fawreddog ymhell, bell o'r Gymru wledig, neu unrhyw fan gwledig arall o ran hynny.

Mae'n siwr bod yna neges yno yn rhywle _ _ _ 

Wednesday, August 19, 2015

Pwt o Perpignan

Bu'n gryn gyfnod ers i mi fod yn Perpignan ddiwethaf.  Bydd rhai ohonoch yn ymwybodol bod y gornel fach chwilboeth yma o Ffrainc hefyd yng Nghatalonia - cartref y Catalan Dragons i'r sawl yn eich plith sy'n dilyn rygbi'r gynghrair.

Newid amlwg ers i mi fod yma ddiwethaf ydi bod y Gatalaneg yn llawer mwy gweladwy, er bod llywodraeth Ffrainc yn enwog o anoddefgar o ieithoedd ag eithrio'r Ffrangeg.  Wnewch chi ddim clywed llawer o'r Gatalaneg yn Perpignan ei hun - er ei bod yn weddol gyffredin ei chlywed ym mhentrefi'r Pyrennies gerllaw - ac wrth gwrs tros y ffin yn Sbaen.  

Un o'r prif resymau am weladwyedd newydd yr iaith yn Ffrainc ydi bod y weinyddiaeth leol Lagendoc Rossilion wedi rhoi statws swyddogol i'r iaith ar ei thiriogaeth.  Mae hynny yn ei dro yn ganlyniad i'r brwdfrydedd newydd tuag at yr iaith yr ochr arall i'r ffin rhyngwladol. Mae ynagysylltiad agos rhwng cenedlaetholdeb ieithyddol a chenedlaetholdeb cyfansoddiadol yn y rhan yma o'r Byd.  Yn yr ystyr yna mae Catalonia yn fwy tebyg i Gymru nag i'r Alban.











Sunday, August 16, 2015

Y Front Nationale yn Ffrainc ac UKIP yng Nghymru

Mae'r ddau fap isod yn dangos cyfraddau diweithdra yn Ffrainc a'r bleidlais i'r blaid asgell Dde eithafol y Front Nationale yn etholiadau arlywyddol 2012.  Mae diweithdra ar ei uchaf ar hyd arfordir y Mor y Canoldir ac yn hen berfedd diroedd diwtdiannol y wlad yn y Gogledd Ddwyrain.  Nid bod hynny'n golygu o anghenrhaid mai'r di waith sy'n pleidleisio i blaid Le Pen, mae mwy yn pleidleisio iddi yn yr ardaloedd hyn na sy'n ddi waith.  Mae ardaloedd sydd efo lefelau uchel o ddiweithdra yn fregus yn economaidd, ac mae bod mewn sefyllfa economaidd fregus yn ymddangos i arwain at dueddiad i bleidleisio i'r Dde eithafol.  Does yna ddim cysylltiad amlwg rhwng lefelau cefnogaeth o UKIP a lefelau mewnfudo.



Fel y gellir gweld o'r trydydd map sy'n dangos dwysder cefnogaeth UKIP yng Mghymru eleni, mae'r patrwm yn debyg.




Thursday, August 13, 2015

Blogiad gwyliau 1

Reit, dwi ar fy ngwyliau - ac fel arfer dwi am flogio yn achlysurol -  mae'n gwbl anisgwyl (ac yn wir anesboniaday) cymaint sy'n darllen fy mlogiadau gwyliau.  Yr un telerau ag arfer mae gen i ofn - blog gwleidyddol nid blog gwyliau  ydi Blogmenai, felly gwleidyddol fydd y cynnwys.  Hefyd peidiwch a disgwyl i mi wastraffu'r gwyliau yn ei diddanu yr uffars hunanol - mi fydd pob dim yn eithaf cwta.  Peidiwch a chwyno am wallau iaith chwaith - dwi ddim yn bwriadu prawf ddarllen dim.

Dwi newydd dreulio'r diwrnod yn ardal Verdun, yng Ngogledd Ddwyrain Ffrainc. Mae'r dref yn lle hynod ddymunol a heddychlon ond mae'n enwog oherwydd brwydr erchyll rhwng yr Almaen a Ffrainc yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.  Bu farw cannoedd o filoedd ar y ddwy ochr yn ystod y frwydr - a barhaodd am 300 niwrnod.  Cafodd naw o bentrefi ar y safle eu difa - rhai ohonynt wedi bod yn gymunedau hyfyw ers Oes y Rhufeiniaid.  Nid oedd yn bosib dychwelyd iddynt wedi'r rhyfel oherwydd y difrod a'r holl ffrwydrolion marwol oedd ar hyd y lle.  Serch hynny maent yn parhau i fod yn bentrefi yn llygaid y gyfraith gydag etholiadau i ddewis cyngor pentref a maer - i bentrefi sydd wedi eu chwythu oddi ar wyneb daear ganrif yn ol a lle nad oes fawr ddim ar ol o'r pentrefi gwreiddiol.  Mae'r rhan fwyaf o'r coedwigoedd enfawr wedi eu cau i'r cyhoedd oherwydd eu bod yn parhau i fod a gweddillion dynol, gwenwyn rhyfel a ffrwydrolion sydd heb ffrwydro.  Byddin Ffrainc yn unig sydd a hawl mynediad.



Serch hynny mae llawer i'w weld - ceiri  tan ddaearol anferth a'r L'ossuaire de Douaumont er enghraifft.  Lle i storio esgyrn ydi L'ossuaire.  Mae'r un yn Douramont yn anferth - mae yna weddillion dynol 130,000 o filwyr yn L'ossuaire de Douaumont - yn Almaenwyr a Ffrancwyr.  Mae'r nifer esgyrn yn cynyddu'n flynyddol fel mae mwy o weddillion yn cael eu darganfod a'u storio.  Mae yna fynwent filwrol y tu allan lle claddwyd tua 16,000 o'r sawl y gellid eu hadnabod.  Ceir mynwentydd tebyg yma ac acw ar hyd yr ardal.  Roedd mwyafrif llethol y sawl fu farw yn yr ardal yn ddynion yn eu dau ddegau, a'u tri degau cynnar - oed fy mhlant i heddiw.  Bywydau nad oedd wedi hanner eu byw yn llythrennol wedi eu chwythu'n ddarnau.  





Mae'n bosibl ymweld a'r naw pentref coll - er nad oes yna ddim llawer i'w weld ag eithrio ychydig o adfeilion treuenus, arwyddion i ddangos pwy arferai weld yn lle, ac eglwys fechan sydd wedi ei hadeiladu ar pob safle yn y blynyddoedd ar ol y Rhyfel Byd Cyntaf.  




Mae'r cysylltiad gwleidyddol yn weddol amlwg mae'n debyg gen i.  Y ganrif ddiwethaf oedd yr un mwyaf gwadlyd yn hanes y ddynoliaeth o ddigon.  Roedd y rhyfeloedd a arweiniodd at y tywallt gwaed yn cael eu gyrru gan ddwy ffrwd wleidyddol wahanol imperialaeth a gwrthdaro ideolegol.  Cenfigen a drwg deimlad rhwng y sawl oedd yn rheoli pwerau imperialaidd mawr oedd yn gyfrifol am yr hyn ddigwyddodd yn Verdun, a chafwyd cryn dywallt gwaed yn ail hanner y ganrif pan oedd yr ymerodraethau mawr yn syrthio'n ddarnau. Ac wedyn roedd yna'r gwrthdaro ideolegol oedd yn y bon yn ymwneud ag anghytundeb ynglyn a'r ffordd orau o drefnu economiau.  

O edrych yn ol mae llawer o'r hyn oedd yn achosi i bobl ddefnyddio dulliau diwydiannol i ladd ei gilydd yn eu cannoedd o filoedd yn ymddangos yn ddi sylwedd a di ddim erbyn heddiw.  Ond ar y pryd roedd 
gwleidyddion y pleidiau sefydliadol  ynghyd a'r wasg oedd yn eu cefnogi yn datgan yn groch bod rhaid mynd i ryfel er mwyn atal rhyw erchylldra neu'i gilydd.  Doedd yna ddim consensws sefydliadol tros pob rhyfel - er enghraifft roedd ein cyfeillion yn y Daily Mail yn groch yn erbyn cymryd rhan yn yr Ail Ryfel Byd -  cyn iddi ddechrau - er eu bod o blaid bron i pob rhyfel arall a gymrodd Prydain ran ynddi trwy'r ganrif.  Ond roedd lled gonsensws yn amlach na pheidio, ac roedd y farn gyhoeddus yn cael ei llywio mewn modd oedd yn ei gwneud yn bosibl i gychwyn a chynnal rhyfel.

Mae ein hanes diweddar yn dangos yn glir i ni nad ydi lled gonsensws gan y sefydliad gwleidyddol yn golygu bod y consensws hwnnw yn gywir.  Mae hynny yr un mor wir am ryfeloedd y ganrif ddiwethaf ag yw am wleidyddiaeth y ganfif yma.  Roedd barn y Toriaid a Llafur am ymyraeth yn Afghanistan ac Irac yn gwbl anghywir.  Roedd polisi economaidd neo ryddfrydig a'r llyfu a llempian o gwmpas banciau anghyfrifol yn gwbl anghywir, roedd yr ymgyrch ofn a dychryn yn erbyn annibyniaeth i 'r Alban wedi ei seilio ar gelwydd, dydi'r gred gwltaidd mewn llymder ddim yn gwneud unrhyw synnwyr economaidd, ac mae'r corws sy'n rhybuddio yr aiff Llafur i ddifancoll os ydynt yn dewis arweinydd sydd o'r tu allan i'r consensws sefydliadol hefyd yn anghywir.

Mae coelio nonsens y grwpiau cul sy'n berchen y cyfryngau a sy'n rhedeg y sefydliadau gwleidyddol yn San Steffan wedi arwain at drychineb ar ol trychineb yn ystod y ganrif ddiwethaf, a does yna ddim lle o gwbl i gredu y bydd dilyn yr un grwpiau yn gibddall yn arwain at ganlyniadau llesol yn ystod y ganrif yma chwaith.

Wednesday, August 12, 2015

Dylai Chris Bryant edrych adref

Mae'r strop bach mae Chris Bryant yn ei chael ar hyn o bryd yn ddigri.  Mae'n honni bod 'cefnogwyr' Plaid Cymru wedi ymuno a'r Blaid Lafur fel aelodau ategol i bwrpas pleidleisio i Jeremy Corbyn fod yn arweinydd y blaid honno.



Mae hyn yn y bon yn eithaf syml.  Mae gan Blaid Cymru reolau cadarn sy'n gwahardd unrhyw aelod rhag ymaelodi a phlaid sy'n sefyll yn erbyn y Blaid mewn etholiadau.  Felly mae aelodaeth ddeuol o'r SNP a'r Blaid yn bosibl, ond tydi aelodaeth ddeuol o'r Blaid Lafur a Phlaid Cymru ddim yn bosibl.  Os oes aelod o'r Blaid yn ymuno a'r Blaid Lafur, yna bydd yn colli ei aelodaeth o Blaid Cymru yn ddiymdroi.  'Does gan y Blaid ddim rheolaeth o gwbl tros yr hyn mae pobl nad ydynt yn aelodau yn ei wneud.

Ond mae Llafur wedi penderfynu ar drefn bisar o ddewis arweinydd lle mae gwahanol grwpiau o bobl yn cael pleidleisio, lle mae pobl o unrhyw gred wleidyddol yn cael ymuno fel aelodau ategol am bris gostegol yn unswydd i gael pleidleisio, lle mai'r Aelodau Seneddol sy'n cael dewis pwy sydd yn cael sefyll ond bod rhai ohonynt yn enwebu rhywun nad ydynt eisiau iddo gael ei ddewis.  Trefn or gymhleth, afresymegol, boncyrs sy'n gofyn am broblemau.  

Bai un plaid ydi'r shambyls yma, ac nid Plaid Cymru ydi honno.

Ydi Plaid Lafur Arfon yn sbeio ar ty ni?

Paranoid dwi'n gwybod - ond fedra i ddim meddwl am neb arall sy'n hoffi gwisgo fel anifeiliaid gwyllt - yn gyhoeddus beth bynnag.

Be wnawn ni dywedwch?

Monday, August 10, 2015

Ail wladoli 'r rheilffyrdd

Un o'r nifer o faterion diddorol sydd wedi codi yn sgil yr etholiad am arweinyddiaeth Llafur ydi ail wladoli 'r system rheilffyrdd.  Cafodd y rheilffyrdd eu gwladoli gan Lafur ym 1948 a'u dychwelyd i ddwylo preifat gan lywodraeth John Major ym 1993.  Roedd canlyniadau'r penderfyniad hwnnw yn drychinebus i ddefnyddwyr y rheilffyrdd, gan greu darpariaeth ddrud ac aneffeithiol iawn.  Diffyg atebolrwydd  sydd wrth wraidd y sefyllfa yma.



O'm safbwynt fy hun does gen i ddim byd yn erbyn caniatau i'r sector breifat gael contractau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus os ydi hynny'n ffordd effeithiol o fynd ati.  Ond dydw i ddim yn derbyn bod darpariaeth gyhoeddus yn ei hanfod yn llai effeithiol na darpariaeth breifat.  Mae yna ddigon o esiamplau o ddarpariaeth gyhoeddus effeithiol.  Er enghraifft y rhan mwyaf effeithiol o'r ddarpariaeth trenau ydi'r rhan sy'n cael ei ddarparu gan y sector gyhoeddus.  Mae rheilffordd arfordir Dwyrain y DU yn cael ei redeg gan gwmni cyhoeddus - y Directly Operated Railways.  Mae'r DOR yn llawer mwy effeithiol a llai dibynnol ar gymorthdaliadau cyhoeddus na'r un darparwr gwasanaeth trenau arall.

Yr hyn sydd yn hanfodol i wasanaeth effeithiol ydi bod y darparwr yn atebol i'r sawl sydd yn ei ddefnyddio - boed hwnnw yn ddarparwr preifat, cyhoeddus neu drydydd sector.  Gallai'r atebolrwydd hwnnw fod ar ffurf atebolrwydd etholiadol (Gwasanaeth Iechyd neu heddlu er enghraifft), y gallu i ddewis darparwr arall (sector addysg neu wasanaethau masnachol), neu'r gallu i beidio a defnyddio'r wasanaeth o gwbl (unrhyw wasanaeth dewisol).  

Dydi hi ddim yn bosibl i fwyafrif defnyddwyr rheilffyrdd yn y DU sicrhau atebolrwydd trwy unrhyw un o'r dulliau uchod.  Dydi gwasanaeth rheilffordd ddim yn ddewisol i lawer o bobl - mae'r unig ffordd ymarferol sydd ganddynt i fynd i'w gwaith.  Dydi hi ddim yn bosibl newid darparwr am bod mae gan y darparwr fonopoli ar ran benodol o'r rhwydwaith.  Dydi'r cwmniau rheilffordd ddim yn atebol i bwysau democrataidd oherwydd nad ydynt yn cael eu rhedeg gan wleidyddion etholedig.

Gall preifateiddio weithio er budd y cwsmer lle nad oes monopoli gan y darparwr.  Mae yn natur y ddarpariaeth rheilffordd bod yn rhaid wrth fonopoli.  Lle ceir cyfuniad o fonopoli preifat a diffyg atebolrwydd mae'r wasanaeth bron yn rhwym o fod yn anfoddhaol a drud. Dydi monopoli cyhoeddus ddim yn cymaint o broblem oherwydd bod atebolrwydd democrataidd yn rhan o'r model.  

Mae ideoleg y farchnad rydd wedi bod yn broblem yn y DU mewn perthynas a'r rheilffyrdd o'r dechrau'n deg.  Yn ol yn oes Fictoria caniatawyd i'r system gael ei chodi bron yn llwyr gyda chyfalaf preifat.  Canlyniad hynny ydi system sydd wedi datblygu yn fympwyol, yn aml mewn ymateb i ystyriaethau busnes tros dro - doedd yna erioed ystyriaethau strategol ehangach yn gyrru'r broses o adeiladu'r system.  Mae hyn yn wahanol i'r hyn ddigwyddodd mewn llawer o wledydd Ewropiaidd eraill.  Er enghraifft yn Ffrainc cymerodd y llywodraeth ran bwysig mewn cynllunio'r system yn strategol oherwydd yr angen i allu symud milwyr yn gyflym i amrywiol ffiniau'r wlad.  O ganlyniad mae'r system yno yn fwy cytbwys, a mwy rhesymegol.

Mae ail wladoli'r rheilffyrdd yn no brainer -chwedl y Saisoddi tan unrhyw ystyriaeth gwrthrychol ac ymarferol.  Mae'r ffaith mai ond dau o'r pedwar ymgeisydd am arweinyddiaeth Llafur sydd eisiau gwneud hynny yn  adrodd cyfrolau am cymaint mae'r ideoleg neo ryddfrydig wedi treiddio i weithiennau 'r Blaid Lafur fodern.  

Mymryn am y Saeson Cymraeg

Dydw i fawr o eiteddfodwr - er fy mod i'n mynychu'r rhan fwyaf ohonynt o ddiigon - cael fy llusgo yno gerfydd fy nghlust braidd ydw i a dweud y gwir.  Beth bynnag, mi gefais ddianc am ychydig oriau ddoe a mynd am dro i Groesoswallt - tref nad ydw i erioed wedi ymweld a hi o'r blaen.  Mae gan y dref amgueddfa ddigon diddorol - ond hynod ddi drefn.  Ymysg yr hyn oedd yn cael eu harddangos oedd y cofebau isod - cofebau i'r milwyr o'r ardal a fu farw yn y Rhyfeloedd Napoleonaidd a Rhyfel y Crimea yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.





Roeddwn eisoes yn gwybod i'r Gymraeg oroesi am gyfnod maith ynn Ngogledd Sir Amwythig a bod dwsinau o enwau Cymraeg ar bentrefi - Bettws-y-Crwyn, Llanvair Waterdine, Llanymynech, Trefarclawdd ac Argoed er enghraifft, a channoedd o enwau caeau a thai - Rhyd y Cwm, Gwern y Brenin a Phencraig er enghraifft.  Ond nid oeddwn yn disgwyl gweld cymaint o gyfenwau Cymreig.  Mae mwyafrif llethol yr enwau ar y gofeb Napoleanaidd yn rhai Cymreig, ac mae mwyafrif clir yr enwau ar y gofeb Rhyfel y Crimea a ymladdwyd ddeugain mlynedd yn ddiweddarach yn rhai Cymreig hefyd.  Mae'r niferoedd yma'n uwch nag y byddent yn y rhan fwyaf o gymdogaethau yng Nghymru heddiw.  

Yn y dref yma y gwelodd Y Cymro olau dydd gyntaf yn 1932 ac yn ol Gwyddoniadur Cymru roedd siaradwyr Cymraeg nad oedd a'u gwreiddiau yng Nghymru yn byw yn yr ardal ymhell i mewn i'r ugeinfed ganrif.  Dwi'n cofio siarad (yn y Gymraeg) efo hen gwpl yng Ngorsef Aberystwyth yn y saith degau hwyr oedd yn dweud eu bod yn byw wrth ymyl 'Soswallt'chwedl hwythau.  Wnes i ddim gofyn iddynt ar pa ochr i'r ffin roeddynt yn byw - mae Croesoswallt bum milltir o'r ffin efo Cymru. Roeddynt  wedi rhyfeddu at wrthrych roeddwn yn ei gario o dan fy nghesail, ac yn ceisio fy nghael i egluro sut oedd yn gweithio, a phwy oedd y 'parti' ar y clawr.  LP Geraint Jarman oedd gen i.  Roedd yna gapel Cymraeg - Horeb yn agored yn y dref ar ddechrau'r ganrif yma.  Mae nifer o siopau efo perchnogion sydd a chyfenwau Cymreig, a hyd y gwn i yma mae'r unig siop gwerthu llyfrau Cymraeg y tu allan i Gymru - er bod gen i gof plentyn o ymweld ag un yn Llundain yn y saith degau cynnar.

Does yna ddim byd yn newydd am hyn oll wrth gwrs - a dwi'n siwr bod nifer sy'n darllen y blogiad yma yn gwybod llawer mwy na fi am hanes y Gymraeg yn ardal Croesoswallt.  Ond mae'n drawiadol fel mae rhywfaint o'r cymunedau sydd y tu hwnt i Gymru sydd wedi cynnal y Gymraeg yn cael mwy o sylw cyfryngol na'i gilydd.  Mae'n ddealladwy bod mor a mynydd yn cael ei wneud o oroesiad yr iaith ar ochr arall y Byd ym Mhatagonia - ac mae'r ffaith bod ffigyrau blaenllaw ym myd darlledu yn byw yn Llundain yn egluro pam bod cymuned Gymraeg y ddinas honno yn cael cymaint o sylw.  Mae maint y gymuned Gymraeg yn Lerpwl yn y gorffennol yn egluro pam bod ei hanes hithau wedi ei groniclo'n gymharol drylwyr.  

Ond mae llawer Gymry Cymraeg wedi ymfudo yn y gorffennol i ddinasoedd a threfi ar hyd a lled y Byd, ac wedi byw o leiaf rhai agweddau ar eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg wedi gadael Cymru.  Er nad ydi trosglwyddiad iaith o un genhedlaeth i'r llall yn yr amgylchiadau hyn yn dda - mae straeon y bobl hyn yn rhan o stori'r Gymraeg. Ac mae stori'r Saeson yng Ngogledd Amwythig (a Swydd Henffordd) oedd yn siarad y Gymraeg yn rhan o stori'r Gymraeg hefyd.  Mae'n anffodus nad oes mwy yn cael ei wneud o hanes y cymunedau hynny.





Wednesday, August 05, 2015

Carwyn Jones - ffydd yn gryfach na thystiolaeth.

Felly mae Carwyn Jones o'r farn mai symud i'r 'canol' ydi'r ffordd ymlaen i'r Blaid Lafur - ac y bydd felly yn pleidleisio i rhywun sy'n debygol o symud Llafur tuag at y 'canol' hwnnw.  Mewn geiriau eraill fydd o ddim yn pleidleisio i Jeremy Corbyn.



Rwan bu 'symud tua'r canol' yn erthygl ffydd braidd ymysg gwleidyddion proffesiynol Llafur ers eu hetholiad trychinebus yn 1983 pan gafodd Llafur gweir anferthol gan y Toriaid - yn rhannol oherwydd i adain Dde'r Blaid Lafur benderfynu mai'r ffordd orau o symud tua'r 'canol' fyddai trwy ffurfio eu plaid eu hunain a chlymbleidio efo'r Rhyddfrydwyr.  Y 'prawf' tros gywirdeb y ddamcaniaeth yma ydi etholiad 1997 pan gafodd Llafur eu buddugoliaeth fwyaf erioed o dan arweiniad Tony Blair.  Roedd llawer o blatfform Blair wedi ei seilio ar blatfform etholiadol Bill Clinton yn 1992 pan aeth ati i ddadlau tros achosion adain Dde traddodiadol - cyfraith a threfn, 'cyfrifoldeb' cyllidol, ac ati.

Y broblem efo'r gred mai'r 'canol' ydi'r lle i fod ydi nad yw ynddi ei hun yn gred resymegol.  Yn wir mae 'n gred sydd wedi ei seilio ar gamargraffiadau rhesymegol.  

Er enghraifft fedrwn ni ddim cymryd yn ganiataol mai symud i'r Dde oedd yn gyfrifol am fuddugoliaeth Blair - roedd llywodraeth Major mewn llanast llwyr erbyn 1997 - roedd wedi colli ei hygrededd economaidd yn llwyr wedi i'r DU gael ei gorfodi allan o'r ERM gan y marchnadoedd pres, ac roedd yr etholiad yn cael ei hymladd yng nghysgod cyfres hir o sgandalau ariannol a rhywiol - y cwbl ohonynt yn ymwneud a gwleidyddion Toriaidd.  

Ar ben hynny mae'r un mor rhesymegol i ddadlau mai'r unig gyfeiriad sy'n addas i'w gymryd ydi un tua'r Dde ar sail buddugoliaeth 1997 ag ydi hi i ddadlau mai'r unig gyfeiriad i'r gymryd ydi tua'r Chwith yn sgil buddugoliaeth 1945.  Mae cymdeithas yn newid, mae amodau economaidd yn newid, ac o ganlyniad mae union leoliad y 'canol' hefyd yn symud.  Petai pawb yn credu bod rhywbeth sydd wedi gweithio unwaith yn rhwym o weithio pob tro yn ei fywyd personol, yna byddai pawb mewn cryn lanast.

Ystyriwch y canlynol - etholiad gorau Llafur erioed oedd un 1997.  Daeth 13,518,167 o bobl allan i bleidleisio iddynt bryd hynny.  Erbyn 2001 roedd y cyfanswm wedi syrthio i 10,724,953.  Syrthiodd y bleidlais eto yn 2005, ac eto yn 2010.  Cynyddodd eto eleni - ond dim ond i 9,347,304.  Felly roedd tros i 4 miliwn o etholwyr wedi eu colli rhwng 1997 a 2015.  Roedd cyfanswm y Toriaid tua 2 filiwn yn uwch nag un Llafur yn 2015.

Yr etholiad cyffredinol cyntaf 'dwi yn ei gofio oedd un 1970 - ac roedd honno'n fwy o sioc nag un 2015 hyd yn oed.  Roedd disgwyl y byddai llywodraeth Lafur Harold Wilson yn cael ei hail ethol yn weddol hawdd - ond Toriaid Heath aeth a'r dydd, a hynny gyda mwyafrif clir.   Ond hyd yn oed pryd hynny cafodd Llafur 12,208,758 o bleidleisiau - mwy nag a gafwyd mewn unrhyw etholiad wedyn ag eithrio un 1997.  Roedd yna 7 miliwn o bobl yn llai yn byw yn y DU bryd hynny.  Oni bai am 1983 cafodd Llafur fwy o bleidleisiau ym mhob etholiad 1945 i 1997 nag a gawsant yn etholiadau'r mileniwm yma.  Roedd poblogaeth y DU tua 13 miliwn yn is yn 1945 nag yw heddiw.  

Felly beth bynnag ddigwyddodd cyn 2001 mae Llafur wedi colli pleidleisiau  yn y cannoedd o filoedd yn ystod y mileniwm hwn, ac maent wedi tin droi mewnsafle gwleidyddol canol y ffordd trwy gydol y cyfnod -  ond mae gwleidyddion proffesiynol fel Carwyn Jones yn ail adrodd hyd at syrffed  y farn mai dyna'r lle i fod os ydi Llafur i gael llwyddiant etholiadol.  Mae'r gred yma wedi ei seilio mwy ar ffydd nag ar dystiolaeth mae gen i ofn. 

Mae'n fwy rhesymol i gasglu bod lleoliad gwleidyddol presenol Llafur yn colli llawer mwy o bleidleisiau iddi na sy'n cael eu hennill.

Tuesday, August 04, 2015

Lwc mul - neu lwc Aelod Seneddol efallai

Llongyfarchiadau i Aelod Seneddol Llafur St Helens South, Marie Rimmer ar gael ei hachos llys am ymosod ar ymgyrchydd Ia ar ddiwrnod Refferendwm yr Alban y llynedd wedi ei ollwng.  

Yn ol Patricia McLeish dechreuodd Ms Rimmer ymddwyn yn ymysodol tuag ati cyn mynd ymlaen i'w chicio fel roedd yn dosbarthu pamffledi Ia y tu allan i'r orsaf bleidleisio yn Shettleston, Glasgow ar ddiwrnod y refferendwm.  Ar y cychwyn roedd Ms McLeish yn gyndyn o fynd a'r mater at yr heddlu oherwydd ei bod yn meddwl bod Ms Rimmer, oedd yn arweinydd Cyngor St Helen's ar y pryd, yn dioddef o afiechyd meddwl - ond gwnaeth ddatganiad i 'r heddlu yn ddiweddarach, a threuliodd Ms Rimmer wyth awr yn westai i heddlu Glasgow.



Beth bynnag, cynhalwyd yr achos ddoe, a sylwodd y siryf mai Shettleston ac nid Shettleston, Glasgow oedd ar y ffurflenni cyhuddo - a daeth a'r achos i ben yn y fan a'r lle oherwydd nad oedd lleoliad yr anfadwaith wedi ei enwi'n briodol.  Dim ond un Shettleston sydd yn yr Alban ac yn Glasgow mae hwnnw.  

Ond tydi bod yn Aelod Seneddol yn gallu dod a lwc yn ei sgil dywedwch?

Monday, August 03, 2015

Y diweddaraf o Gyngor Caerdydd


Felly mae'n syrthio ar Blaid Cymru i geisio atal y weinyddiaeth Llafur ar gyngor mwyaf boncyrs Cymru rhag trosglwyddo tros i fil o'u staff i ofal cwmni newydd 'hyd braich'.  Mi fydd y newidiadau yn effeithio yn bennaf ar bobl sydd ar gyflogau isel - pobl casglu biniau, pobl sy'n gweithio mewn parciau ac ati.  

Arbed pres ydi'r rheswm a roddir wrth gwrs - a dyna yn wir ydi'r rheswm, neu ran o'r rheswm o leiaf.  Prif gostau y cwmni hyd braich newydd (o ddigon) fydd cyflogi eu staff.  Yr unig ffyrdd sydd ganddynt mewn gwirionedd  o arbed pres ydi trwy dorri ar staff, trwy dorri eu cyflogau, neu trwy wneud eu hamodau gweithio yn salach.  Does yna ddim byd arall sydd am wneud llawer o wahaniaeth.  Ond mae cwmni hyd braich yn rhoi cyfle i'r weinyddiaeth Lafur wthio'r gyfrifoldeb am ymosod ar ansawdd bywyd rhai o'i gweithwyr tlotaf hyd braich oddi wrthynt eu hunain.  

Fydd ddim rhaid i unrhyw benderfyniadau anodd fynd trwy gabinet Llafur - mi fydd yna Brif Weithredwr i'r cwmni newydd i gymryd y bai.  Ymarferiad mewn cael rhywun arall i wneud gwaith budur y weinyddiaeth Llafur mae gen i ofn - ac enghraifft arall, eto fyth, o'r Blaid Lafur yn gweithredu mwy fel Toriaid na Llafurwyr.

Saturday, August 01, 2015

Pam bod 'atebion' David Davies i argyfwng Calais yn sylfaenol anymunol

Felly ateb David Davies - Aelod Seneddol Mynwy - i'r argyfwng mewnfudwyr yng Nghalais ydi anfon byddin Prydain i Ogledd Ffrainc a gorfodi'r mewnfudwyr arfaethiedig i fynd i fyw mewn gwersylloedd yn Affrica neu'r Dwyrain Canol  a lleihau budd daliadau yn y DU er mwyn rhoi llai o anogaeth i fewnfudwyr ddod i 'r DU.  Mae David yn foi digon dymunol, ond mae o hefyd yn byw mewn bydysawd cyfochrog i'r un mae pawb arall yn byw ynddo.

Mae Gogledd Affrica a'r Dwyrain Canol bellach yn llawn dop o wersylloedd i ffoaduriaid - ac hynny yn ganlyniad uniongyrchol neu anuniongyrchol yn aml i'r rhyfeloedd a'r ymgyrchoedd bomio mae plaid David wedi bod mor frwdfrydig i'w cefnogi.


Mae llawer o'r gwledydd mae David eisiau dympio ei broblem pobl sy'n chwilio am loches arnynt eisoes yn dlawd, ac eisoes wedi cymryd nifer fawr o bobl o'r tu allan i'w ffiniau -Iran 857,400, Yemen 241,300, Ethiopia 433,990, De Sudan 229,600, Uganda 220,600, Kenya 534,000.  Twrci sydd efo'r mwyaf o bobl - 1.6m.  Ar ddiwedd 2014 roedd 0.24% o boblogaeth y DU yn bobl oedd yn chwilio am loches - 117,161 o bobl sydd wedi derbyn caniatad i aros 36,383 oedd yn disgwyl i'w hachosion gael eu clywed a 16 person nad oedd ganddynt wladwriaeth.  Mae 86% o bobl sy 'n chwilio am loches wedi eu lleoli mewn gwledydd sy 'n datblygu yn economaidd - hy gwledydd sydd yn llawer tlotach a felly llai abl i ddelio efo'r broblem na'r DU.




Mae nifer o wledydd Gorllewinol yn delio efo llawer mwy o geisiadau am loches na'r DU - yr UDA, yr Almaen, Sweden, yr Eidal er enghraifft.  Dydi Ffrainc ddim yn derbyn cymaint o geisiadau na'r DU - a'r prif reswm am hynny ydi nad ydi'r wlad honno yn cartrefu ymgeiswyr lloches am dri mis, mae Prydain yn darparu cartrefi cyn gynted a phosibl.  Gallai Prydain wrth gwrs wneud yr un peth - ond byddai David, y Mail, yr Express ac ati wedyn yn cwyno bod dinasoedd De Lloegr yn edrych fel Calais efo pobl yn cysgu ar ochr y strydoedd.

Mae David hefyd eisiau gostwng budd daliadau.  Dwi ddim yn siwr os mai son am fudd daliadau i ymgeiswyr lloches mae o yn hytrach na budd daliadau i bawb - ond mae'r budd dal mae ymgeiswyr lloches yn ei gael yn dod i £36.95 y person, yr wythnos - mae hyn yn £5.28 ar gyfer bwyd, dillad a hylendid personol y dydd.  Mae David yn ennill £67,060 y flwyddyn fel aelod seneddol.  Mae David hefyd yn mynd o gwmpas y wlad yn traddodi darlithiau - mae'n codi £150 yr awr am rheiny.  Roedd ei dreuliau am lety a theithio tros £18,000 yn 2013-2014.  A bod yn deg dydi'r ffioedd darlithio na'r treuliau ddim yn arbennig o uchel, ond mae'n rhaid eu bod yn edrych fel ffortiwn i rhywun sy'n ceisio cynnal ei hun ar £5 y diwrnod.

Ac mae yna fater arall hefyd.  Dydi o ddim yn glir os mae eisiau i ymgeiswyr lloches gael llai na £5.28 y diwrnod mae David, ynteu a ydi o eisiau i bawb gael llai o fudd daliadau er mwyn gwneud y DU yn llai atyniadol i fewnfudwyr - gyda mae mewnfudwyr wedi derbyn hawl i loches mae ganddynt hawl i fudd daliadau pellach wrth gwrs.  Rwan mae'r Toriaid wrthi'n brysur yn torri budd daliadau pobl ieuengach - fel y trafodwyd yn y blogiad diwethaf, ac efallai mai cyflymu'r broses  sydd gan David mewn golwg.  Yn sicr mae'r wasg Adain Dde yn awyddus iawn i gysylltu mewnlifiad efo budd daliadau.

Mae yna tua 7 miliwn o bobl wedi mewnfudo i Awstralia ers diwedd yr Ail Ryfel Byd - y rhan fwyaf  o Ewrop a'r rhan fwyaf o ddigon er mwyn gwella eu hunain - dwi ddim yn meddwl bod neb yn cwestiynu hynny.  Mae'r gred bod pobl efo greddf naturiol i geisio gwella eu cyflwr materol yn elfen greiddiol o'r ffordd mae'r wasg Adain Dde a phobl fel David yn gweld y Byd, a'r hyn sy'n gwneud i gymdeithasau dynol weithio.  Ond mae'n ymddangos bod y Mail, y Telegraph a'r Express yn priodoli greddfau felly i Ewropiaid gwyn.  Mewnfudo i chwilio am waith mae'r boi o Newcastle, ond chwilio am fudd daliadau mae'r sawl sy'n dweud ei fod yn dianc rhag erledigaeth yn Eritrea.  Mae'r boi o Newcastle yn weithgar, tra bod yr un o Eritrea yn ddiog.  Mae yna rhywbeth hyll iawn yn y ffordd yna o edrych ar y Byd.