Stori lawn yma.
Er gwybodaeth, mae yna 54,504 o drigolion Caerdydd yn honni rhyw sgil neu'i gilydd yn yr iaith Gymraeg yn ol Cyfrifiad 2011. Mae hyn yn tua pedair gwaith y nifer o Fwslemiaid sy'n byw yn y brif ddinas, ac mae'n llawer uwch nag unrhyw grwp lleiafrifol ethnig - ag eithrio disgynyddion Gwyddelod. Mae Mr Bale ei hun ymysg y 54k+.

Pen draw rhesymeg Mr Bale ydi mai dim ond pobl wyn, uniaeth Saesneg o gefndir Cristnogol sy'n rhan o wead cymdeithasol y ddinas.
Mae gen i lawer o deulu yng Nghaerdydd - rhai yn siarad y Gymraeg, ac eraill ddim mor ffodus. Bydd yn newyddion tra anymunol i'r rhai sydd yn siarad y Gymraeg i ddeall nad ydi'r cyngor Llafur yn eu hystyried yn rhan o wead cymdeithasol y ddinas.
Apartheid - gan Lafur yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif ar hugain.
Felly sut mae'r Cymry yn cefnogi'r Blaid Lafur o hyd? Edrych tua'r Alban ...
ReplyDelete