Ceir yr un math o stondinau stryd ag a gafwyd yn yr Alban gydag actifyddion yn ceisio darbwyllo pobl i gefnogi annibyniaeth, ceir pobl yn hel enwau ar gyfer deisebau a cheir arch farchnadoedd yn gwerthu baneri a chynyrch sy'n hyrwyddo annibyniaeth. Cafwyd 'refferendwm' answyddogol y llynedd gydag 80% o'r sawl a gymrodd ran yn pleidleisio tros adael yr undeb efo Sbaen.
Serch hynny mae annibyniaeth yn y byr dymor yn llai tebygol yng Nghatalonia heddiw nag oedd yn yr Alban yr adeg yma flwyddyn yn ol. Yn sylfaenol un glwyd arall oedd rhaid i'r ymgyrch yn yr Alban ei chroesi erbyn hynny - ennill refferendwm. Methwyd a neidio'r glwyd honno wrth gwrs.
Mae'n rhaid croesi dwy glwyd yng Nghatalonia. Yn gyntaf mae etholiadau wedi eu trefnu yng Nghatalonia ddiwedd Medi eleni. Gan nad yw llywodraeth Sbaen yn derbyn bod refferendwm yn gyfansoddiadol mae'r pleidiau sydd o blaid annibyniaeth yn ystyried yr etholiad yma yn refferendwm de facto. Os byddant yn ennill byddant yn cychwyn llunio cyfansoddiad newydd gyda'r bwriad o sefydlu gwladwriaeth annibynnol erbyn 2017. Mi fydd llywodraeth Sbaen yn gwrthwynebu hyn, a bydd y glymblaid arferol o fusneswyr rhyngwladol (yr Undeb Ewropiaidd, y Pab, llywodraeth China, Obama, Bob Geldoff - efallai y bydd galw am wasanaethau Gareth Edwards unwaith eto) yn sefyll y tu ol iddynt. Gwrthwynebiad Sbaen a'r gymuned ryngwladol ydi'r ail glwyd.
O dan amgylchiadau arferol byddai'r glwyd gyntaf yn cael ei chroesi'n weddol hawdd - mae'r pleidiau cenedlaetholgar yn ddi eithriad yn gwneud yn well na'r rhai ffederal mewn etholiadau Catalanaidd). Efallai y bydd pethau'n fwy cymhleth y tro hwn. Er i fwyafrif clir bleidleisio tros annibyniaeth yn y bleidlais answyddogol, mae'n debyg i'r sawl oedd yn erbyn annibyniaeth at ei gilydd beidio a thrafferthu i bleidleisio. Mae'r polau piniwn ar hyn o bryd yn awgrymu nad oes mwyafrif clir tros annibyniaeth - er bod y polau hynny wedi dangos mwyafrif tros annibyniaeth yn y gorffennol cymharol agos.
Byddai gwrthwynebiad y wladwriaeth Sbaeneg gyda chefnogaeth y gymuned rhyngwladol ddim yn hawdd i'w oresgyn. Un ateb posibl ydi newid yn llywodraeth Sbaen. Mae'r blaid geidwadol sy'n rheoli ar hyn o bryd yn debygol o golli grym maes o law. Mae'n bosibl y bydd y blaid newydd adain Chwith, Podemos yn rhan o'r llywodraeth nesaf. Maen nhw'n wrthwynebus i annibyniaeth i Gatalonia, ond dydyn nhw ddim yn gwrthwynebu refferendwm ar y mater. Mae'n bosibl y byddant yn caniatau refferendwm swyddogol - petai hynny'n digwydd mi fyddai yna drydydd glwyd - ond a chlirio honno byddai'r ail glwyd - gwrthwynebiad y wladwriaeth Sbaeneg - wedi ei niwtraleiddio i pob pwrpas.
Hylo Cai,
ReplyDeleteDwi'n meddwl fod annibynniaeth Catalwnia'n anochel. Mae'r to ifanc yn frwd drosti a mae'r Catalaniaid wedi llwyddo i gatalaneiddio'r to ifanc (haws o dipyn na dysgu Cymraeg i'r di-Gymraeg yng Nghymru wrth gwrs am fod Castillan a Chatalaneg yn eitha debyg fatha a Saesneg a Lallans / Scots). Roedd rhieni y charnegos (enw'r Catalaniaid i ddilorni'r mewnfudwyr tlawd, Sbaeneg eu hiaith a ddaeth o Andalswia ac Extremadura) yn pleidleisio i'r PSOE ond mae eu plant wedi'u cymhathu i raddau a mae llawer yn fotio i ERC bellach. Methodd Cymru Rydd a Phlaid Cymru hefo'r mewnfudwyr i Gymry hyd yn hyn.
Yng Nghatalwnia mae'r cenedlaetholwyr wedi ennill y ddadl economaidd a mae'r rhan fwya yn credu fod Madrid a'r ardaloedd tlotach yn "dwyn eu prês" yn union fel mae trigolion Llundain yn coelio eu bod yn talu trethi i gynorthwyo "rhanbarthau" tlawd fel yr Alban a Chymru.
Mae'r mudiad annibynniaeth wed cael ambell ei dro trwstan yn ddiweddar: Misdimanars tad cenedlaetholdeb Catalwnia Jordi Pujol a'i deulu a rhwyg yn y blaid asgell dde CiU (mae Unió wedi torri hefo Convergencia am fod ei haelodau'n ofni canlyniadau Catalwnia annibynnol cyn belled â mae busnes yn y cwestiwn. Ond mae'r duedd tymor hir yn glir.
Y cwestiwn mawr ydi agwedd Ewrop. Petasai'r Undeb Ewropeiadd yn gwarantu aelodaeth i Gatalwnia mi fuasai'r mwyafrif yn fotio "ie" yfory ond mi fyddai'r posibilidad o 5 neu 10 mlynedd tu allan i farchnad gyntaf diwydiant Catalwnia (Sbaen) a'i hail farchnad yn ormod. Rwy'n tueddu meddwl y byddai'r UE yn cyfaddawdu pe tasai Catalwnia'n torri'n rhydd ond pwy a ^wyr?
Diolch William - diddorol fel arfer.
ReplyDelete