Tuesday, June 30, 2015

Canlyniad is etholiad Pentyrch

Is etholiad Pentyrch, Caerdydd:

Totri 561(-14% ), 
PC 543 (+27% ), 
Llaf 234 (-12%). 
Annibyn 24
Gwyrdd 22
Dib Lems 10




Mwy o ryfela yn y Brifddinas

O diar, mae'r grwp o gynghorwyr mwyaf boncyrs yng Nghymru (ac mae hynny'n cryn ddweud) wrthi unwaith eto.  Ymddengys bod grwp Llafur Caerdydd wedi pleidleisio i daflu'r Cynghorydd Ralph Cook allan o'r Blaid Lafur am chwe mis.  Mi fydd darllenwyr rheolaidd Blogmenai yn ymwybodol nad ydi'r math yma o beth yn anarferol yng Nghaerdydd  - mae ymddiswyddiadau, gwaharddiadau, cecru mewnol a chyhoeddus, a chynllwynio yn erbyn yr arweinyddiaeth yn ddigwyddiadau.

Fel rhywun sydd ddim yn edmygu'r Blaid Lafur mae'n anodd cadw crechwen rhag dod i 'r wyneb weithiau wrth rythu ar idiotrwydd y teulu rhyfeddol o disfunctional yma i lawr yn y brifddinas.  Ond 'dydi'r peth ddim yn joc mewn gwirionedd - mae Cyngor Caerdydd yn wynebu toriadau anferth ar hyn o bryd, toriadau fydd yn ddistrywgar i wasanaethau cyhoeddus yn y ddinas am ddegawdau.  Ac eto mae'r sawl sydd i fod yn llywodraethu yn defnyddio y rhan fwyaf o'u hynni yn erlid ei gilydd.  

Mae'r hogiau (a hogiau sy'n bennaf gyfrifol am y llanast) yn gwneud i gyngor diwethaf Ynys Mon edrych yn gall, rhesymol a dedwydd.  Ond am resymau amlwg 'does yna ddim perygl iddynt fynd yr un ffordd a'r cyngor hwnnw 


Monday, June 29, 2015

Dadansoddiad Martin Baxter o stori etholiad 2015

Dydi dadansoddiad Martin Baxter o'r cyfeiriadau a symudodd pleidleiswyr ddim yn manylu ar yr hyn ddigwyddodd yng Nghymru - ond mae'n ddadlennol serch hynny.  Mwy o bleidleisiau Llafur yn mynd i 'r Toriaid nag i UKIP, y Toriaid yn colli llwyth o bleidleisiau i UKIP ond yn cael eu digolledu gan gyn bleidleiswyr Llafur a Lib Dem, yr SNP yn bwyta pleidleisiau Llafur a Lib Dem ond yn cael dim o gyfeiriad y Toriaid, y Lib Dems yn gwaedu pleidleisiau i pob cyfeiriad, UKIP yn cael pleidleisiau gan bawb.

Mae'n debygol bod y patrymau sylfaenol yn berthnasol i Gymru hefyd - ond heb yr ymyraeth SNP wrth gwrs.

Sunday, June 28, 2015

Llafur yn gwbl hapus efo tan wariant cyhoeddus yng Nghymru

Felly roedd Andy  Burnam yn gwybod bod Cymru yn cael ei than gyllido yn 2007 - ond eto yn hytrach na mynd i'r afael efo'r sefyllfa aeth ati i ganiatau i Gomisiwn Holtham dreulio blwyddyn yn darganfod os oedd Cymru yn wir yn cael ei than gyllido.  Dwi'n credu i'r Comisiwn edrych ar y ffordd mae Cymru'n cael ei chyllido rhwng haf 2008 a haf 2009.   Canlyniad i Gytundeb Cymru'n Un oedd Comisiwn Holtham - neu mewn geiriau eraill gorfodwyd Llafur i gytuno i gomisiwn i ddarganfod os oedd Cymru yn cael ei than gyllido.




 O ddarganfod bod Cymru yn cael ei than gyllido o tua £300m y flwyddyn yn 2009 penderfyniad Llafur oedd gwneud dim i adfer y sefyllfa - gan ddefnyddio'r argyfwng economaidd ar y pryd fel esgys - er mai piso dryw yn y mor ydi £300m o gymharu a chyfanrwydd gwariant cyhoeddus y DU mewn gwirionedd.  Ond ag ystyried newyddion heddiw dydi hynny ddim yn syndod, roeddynt eisoes yn deall bod Cymru'n cael ei than gyllido yn 2007 - ar yr hwyraf un - ond nid oeddynt am wneud dim oll am y peth.







Saturday, June 27, 2015

Gadael yr Ewro?

Mae'n ddiddorol gwrando ar ymdriniaeth y Bib o argyfwng ariannol Gwlad Groeg.  Mae Joe Lynam wedi bod yn egluro'n ofalus i ni beth sydd yn mynd i ddigwydd os na fydd Gwlad Groeg yn anrhydeddu ei dyledion i gwahanol fanciau rhyngwladol - Gwlad Groeg yn gorfod gadael yr Ewro, y Drachma'n  gorfod cael ei hail gyflwyno, y Drachma'n  colli hanner ei gwerth, mewnforion yn dwblu mewn pris, pobl Gwlad Groeg methu fforddio mewnforion, pobl yn gorfod gadael y wlad i gael gwaith ac ati.  Mae Joe'n ymddangos i fod wedi ypsetio'n lan, ac mae'n amlwg yn cymryd ochr Jeroen Dijsselbloem, arlywydd Eurogroup yn gyfangwbl ddi gwestiwn. 

Rwan mae llawer o hyn yn wir - byddai gadael yr Ewro yn achosi anhrefn, byddai yna lawer o ddioddefaint, byddai mewnforion yn ddrud iawn, byddai pobl yn ei chael yn anodd i dalu dyledion, byddai chwyddiant yn uchel - ond hanner y stori ydi hi.  Mae yna ochr arall i'r stori hefyd - un nad ydi Joe eisiau dweud wrthym amdani.   Petai'r Drachma'n colli hanner ei gwerth byddai Gwlad Groeg yn fwyaf sydyn ymhlith y lleoliadau gwyliau rhataf yn y Byd, a byddai nwyddau a chynnyrch amaethyddol o Wlad Groeg hefyd yn rhad iawn - ac felly'n gystadleuol iawn.  Os ydi Gwlad Groeg yn gadael yr Undeb Ewropiaidd yn ogystal a'r Ewro gall gymryd camau i atal cyfalaf rhag gadael y wlad - rhywbeth sy'n anathema i'r Undeb Ewropiaidd, ond sy'n ddigon posibl i'w wneud.  Gallai hefyd adael i'r banciau fynd yn fethdalwyr, ac felly trosglwyddo'r gyfrifoldeb ariannol am eu cynnal oddiwrth pobl gyffredin Gwlad Groeg a thuag at gredydwyr tramor - y bobl mae Mr Dijsselbloemyn poeni cymaint amdanynt.  

Tros amser byddai'r economi yn dod at ei hun, a byddai gwerth y Drachma yn cynyddu.  Byddai'r economi yn ail sefydlogi, ac yn dechrau tyfu.  Os nad ydych yn fy nghredu mae'r patrwm yma o ddymchweliad economaidd difrifol yn cael ei ddilyn gan dwf economaidd yn digwydd o dro i dro.  Dilynwyd argyfwng ariannol Gwlad yr Ia (2008 - 2011) gan adferiad gweddol gryf a chyflym.  Felly hefyd argyfwng yr Ariannin (1998-2002).  

Rwan dydw i ddim yn cymryd arnaf am eiliad na fydd y digwyddiadau sy'n debygol o ddigwydd tros y dyddiau nesaf yn achosi dioddefaint ac anhrefn.  Ond dydi pethau ddim mor syml a mae'r BBC a'r rhan fwyaf o'r cyfryngau prif lif yn honni.  Ag ystyried y dioddefaint mae llymder eithafol wedi ei achosi yng Ngwlad Groeg eisoes, a'r dioddefaint sydd yn debygol o gael ei achosi yn y dyfodol, mae'n fwy na thebyg mai cerdded i ffwrdd oddi wrth yr Ewro ac yn wir Ewrop ydi'r llwybr mwyaf rhesymegol i Wlad Groeg.  

Mae'r stori yn un gweddol gyfarwydd - mae'r sefydliadau cyfryngol a gwleidyddol yn Ewrop yn blaenori buddiannau sefydliadau ariannol a byddsoddwyr tros fuddiannau trwch poblogaeth Ewrop.  Dyna beth sydd wrth wraidd yr hanner stori rydym yn ei chael o Wlad Groeg.

Gwleidyddiaeth ffantasi

Mae'n ddifyr gweld ymateb ryfedd y Toriaid i'r newyddion bod Leanne Wood wedi ail aregu na fydd Plaid Cymru yn mynd i glymblaid efo nhw ar ol etholiadau'r flwyddyn nesaf.

This is just fantasy politics.  Leanne Wood isn’t even confident of winning a constituency seat, which is why she’s opted for the parachute of a place on the regional list as well.


Mae'n anodd gweld y cysylltiad rhwng y ffaith nad ydi hi'n bosibl bod yn sicr o ennill sedd etholaethol y Rhondda efo'i mwyafrif o ? a 'gwleidyddiaeth ffantasi'.  Serch hynny  mae'r sefyllfa sydd ohoni yn creu un ffantasi - sef bod posibilrwydd y bydd y Toriaid yn ennill grym o unrhyw fath yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf.  Mae rhifyddeg etholiadol y Cynulliad yn ei gwneud yn amhosibl i'r Toriaid ennill unrhyw fath o rym ym Mae Caerdydd heb gydweithrediad Plaid Cymru - ac mae hi mor glir a chloch na fydd y cydweithrediad hwnnw ar gael.  

Neu mewn geiriau eraill does yna ddim pwrpas o gwbl i bobl bleidleisio  i'r Toriaid os ydynt eisiau dylanwadu ar bwy fydd yn llywodraethu Cymru y flwyddyn nesaf - gallant fod yn hollol sicr na fydd y Toriaid yn agos at goridorau grym y Cynulliad.  A benthyg (ac addasu) slogan sy'n cael ei defnyddio gan y pleidiau unoliaethol yn ystod ymgyrchoedd San Steffan - mae pleidlais i'r Toriaid yn wastraff pleidlais.

Wednesday, June 24, 2015

Uwd o gelwydd cyfryngol

Mae'n ymddangos bod y ddwy stori a ymddangosodd yn y papurau newydd y bore 'ma yn gelwydd - neu mor agos at gelwydd na mae'n bosibl bod.  Mae'r un enwocaf - yr un am lywodraeth yr Alban yn gwrthod talu i gadw Mrs Windsor a'i theulu anferth yn ddi sail - mecanwaith yr ariannu sy'n newid.  Mae'r un am gysylltiadau Gweinidog Cyntaf yr Alban wedi ei seilio ar y ffaith i Nicola Sturgeon siarad unwaith efo rhywun sydd wedi dweud ychydig o bethau hyll ar trydar.  Mae awdur Blogmenai wedi siarad efo llawer o bobl sydd wedi dweud pethau hyll ar trydar - ac mae yna rhywbeth yn dweud wrthyf bod yr un peth yn wir am y rhan fwyaf o bobl eraill.


Dydi dweud celwydd am yr SNP ddim yn rhywbeth newydd wrth gwrs.  Yr esiampl mwyaf adnabyddus oedd y celwydd a ryddhawyd i'r Telegraph gan Alistair Carmichael ar gychwyn ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol eleni - mewn ymgais aflwyddianus i achub seddi 'r Dib Lems yn yr Alban.


Ac mae yna ribidires o esiamplau eraill - ymysg y mwyaf di chwaeth ydi'r ymgais isod gan y Daily Mail i feio marwolaeth Charles Kennedy ar genedlaetholwyr yn hytrach nag adrodd ar yr eglurhad a gafwyd gan y crwner yn y cwest i'r farwolaeth - mai gwaedlif a achoswyd gan alcoholiaeth oedd yn gyfrifol am y farwolaeth.


Ymddengys bod pob ymgais i smalio bod gwrthrychedd proffesiynol - neu hyd yn oed safonau newyddiadurol proffesiynol - yn cael eu harfer wedi cael llich trwy'r ffenest pan mae'n dod i adrodd ar wleidyddiaeth yr Alban. 

I rhyw raddau mae'r arfer o 'sgwennu celwydd a nonsens  mewn perthynas a'r Alban yn mynd yn ol i'r ymgyrch Na yn y misoedd oedd yn arwain at y refferendwm y llynedd.  Wele restr o beth o'r celwydd a ddywedwyd yn ystod refferendwm yr Alban y llynedd.  Afraid dweud i'r cwbl lot gael eu hailadrodd yn ffyddlon gan y cyfryngau Prydeinig.

1). Bydd rhaid i Loegr fomio meusydd awyr yr Alban.  Lord Fraser of Carmyllie
2). Bydd rhaid i'r pandas adael sw Caeredin. Llefarydd ar ran llywodraeth y DU.
3).  Bydd yr Alban yn agored i ymysodiadau o'r gofod.  Philip Hammond.
4). Bydd rhaid i'r Alban dalu am ddad gomisiynu canolfan WMDs Prydain yn Faslane ac am godi canolfan WMDs newydd.  Philip Hamond.
5). Bydd rhaid i bawb yrru ar ochr dde'r lon.  Andy Burnham.
6). Bydd Prydain yn cadw gafael ar ran o'r Alban er mwyn cadw eu canolfan WMDs.
7). Bydd rhaid codi rhwystrau rhwng Lloegr a'r Alban a bydd angen pasport i groesi o un wlad i'r llall.  Theresa May.
8). Bydd y Byd i gyd yn cael ei ddad sefydlogi a bydd 'grymoedd y tywyllwch' wrth eu bodd.  George Robertson.
9). Bydd costau o £2.7bn yn codi o newid. LSE.
10). Bydd costau ffonau symudol yn saethu trwy'r to.
11).  Fydd Albanwyr ddim yn cael gweld Dr Who.  Maria Miller.
12).  Bydd y diwydiant adeiladu llongau yn dod i ben.  Plaid Lafur yr Alban.
13). Bydd costau cadw car neu lori yn cynyddu £1,000 y flwyddyn.  David Mundell
14). Bydd mynd i siopa yn llawer drytach.  Margaret Curran.
15).  Bydd rhaid i Brydain anfon y fyddin i'r ffin efo'r Alban.

Yn waelodol mae'r swnami cyfryngol yma o gelwydd a lol yn adlewyrchiad o gasineb y sefydliad unoliaethol tuag at bobl sy'n bygwth datgymalu'r Undeb - ond mae hefyd yn adlewyrchiad o dlodi deallusol yr achos unoliaethol.  Yn hytrach na dadlau yn rhesymegol ar sail pethau sy'n digwydd yn y Byd go iawn, mae'r naratif unoliaethol  wedi ei seilio ar stwff dychmygol sy'n digwydd mewn Byd dychmygol.  Dydi dadleuon o bwys hanesyddol ddim yn cael eu hennill yn y ffordd yna - hyd yn oed pan mae mwyafrif llethol y cyfryngau yn byw yn yr un Byd ffantasiol.

Tuesday, June 23, 2015

O diar

Yn ol y Times mae'r llywodraeth SNP yn bwriadu rhoi'r gorau i gyllido'r frenhiniaeth - ac felly dod a'r arfer o drosglwyddo adnoddau pobl dlawd i goffrau rhai o bobl gyfoethocaf y Byd i ben.  O diar.


Cynghorydd newydd i'r Blaid yng Nghaerdydd

Mae'r Cynghorydd Gareth Holden, Gabalfa wedi gadael y grwp annibynnol ac ymuno efo grwp y Blaid.  Stori llawn yma.

Enwebiaeth rhestr y Gogledd - Ann Griffith

Mae'n dipyn o arfer bellach i ymgeiswyr ar gyfer enwebiadau i sefyll mewn gwahanol etholiadau ar ran y Blaid anfon peth o'u gohebiaeth i Blogmenai i'w gyhoeddi.  Mae'n debyg bod hynny'n gwneud synnwyr oherwydd bod lwmp go sylweddol o ddarlleniad y blog yn aelodau 'r Blaid - ac y nhw sy 'n penderfynu pwy ydi eu hymgeiswyr.  

Beth bynnag Ann Griffith sydd wedi cymryd mantais o'r ddarpariaeth yn gyntaf.  Mae Ann yn gynghorydd yn Ynys Mon tros ward Bro Aberffraw.  Daeth o fewn trwch blewyn i ennill y sedd gyntaf o flaen yr enwog Peter Rogers yn yr etholiadau cyngor diwethaf - cryn gamp.   Mae wedi rhoi ei henw ymlaen ar gyfer enwebiaeth ar restr Gogledd Cymru.

Mae croeso cynnes i unrhyw ymgeisydd arall, o unrhyw ranbarth anfon ei ohebiaeth - byddaf yn fwy na pharod i 'w gyhoeddi.  

*Cliciwch ar y ddelwedd i'w gweld yn glir.


Sunday, June 21, 2015

Y canlyniadau lleiaf cyfrannol erioed

Mae'r blog hwn wedi nodi ar sawl achlysur bod y drefn bleidleisio a geir yn y DU yn gwbl anheg, ac wedi awgrymu y byddai mabwysiadu'r dull pleidleisio a ddeifnyddir ym mhob etholiad yng  Ngweriniaeth Iwerddon, pob etholiad Gogledd Iwerddon ac eithrio rhai San Steffan, ac etholiadau lleol yr Alban - STV - yn ffordd gwell o lawer o ddewis cynrychiolwyr etholedig.

Mae'r fideo bach isod yn egluro'n dwt ac yn syml pam bod y drefn sydd ohoni mor ddiffygiol.


Friday, June 19, 2015

Y Toriaid a gwariant ar drwsio senedd-dai

 Mi fydd rhai o ddarllenwyr Blogmenai yn cofio'r ffasiwn stad y cafodd y Toriaid Cymreig nhw'i hunain ynddo pan benderfynodd y Cynulliad Cenedlaethol gomisiynu adeilad newydd i fod yn gartref i'r Cynulliad newydd.  Roeddynt yn dadlau bod y gwariant o £100m yn  llawer rhy uchel, ac yn dadlau bod gan y sefydliad gartref hen ddigon da eisoes - yr anghenfil brics coch sydd yn sownd i gefn yr adeilad newydd  hyd heddiw. 





Doedd y ffaith bod mwy o lawer yn cael ei wario tua'r un pryd ar Portcullis House - bloc o swyddfeydd i Aelodau Seneddol yn San Steffan - yn poeni dim arnynt, nac yn achosi unrhyw embaras iddynt.  Mae'r cysyniad ei bod yn iawn gwario yn ddi ben draw ar y senedd 'go iawn' yn San Steffan, tra bod unrhyw wariant ar y 'ffug' senedd yng Nghaerdydd wedi ei wreiddio yn dwfn yn y ffordd mae'r Toriaid Cymreig yn canfod y Byd.  Felly roedd pobl fel Rod Richards, Nick Bourne a David Davies yn myllio'n ddi ddiwedd bod Cymru yn gwario ar adeilad i leoli ei senedd.

Ac nid prynu adeilad yn unig oedd yn eu poeni - o na.  Mae gwariant ar yr adeilad hefyd yn broblem.  Yn wir roedd David Davies - ac yntau wedi cael dianc o Fae Caerdydd am borfeydd brasach San Steffan erbyn hynny - yn outraged bod £3.2m wedi ei wario ar uwchraddio rhan o'r adeilad tros un haf.  Ei union eiriau oedd:

 I find it outrageous that Ministers in the Welsh Government feel it is appropriate to refurbish their own offices at great expense at a time when, for understandable reasons, cuts are having to be made in public spending.
This sets a very poor example to public sector bodies which are all in the position of having to cut back and prioritise where they spend their money.


A rwan dyma'r newyddion yn dod am y bil uwchraddio / cynnal a chadw yr honglad mawr hyll o adeilad neo Gothaidd sy'n gwbl anaddas i bwrpas  sy'n gwasanaethu fel deddfwrfa'r DU.  Y gost - arhoswch amdani - ydi hyd at  £7.1bn - ia na chi - biliwn nid miliwn.  Mae'r ffigwr yn un mawr - ond i gael rhyw syniad ohono ystyriwch hyn - mae'n swm uwch nag ydi cost y Gwasanaeth Iechyd yn ei gyfanrwydd yn ei gostio yng Nghymru am flwyddyn.





Yr ateb ariannol gyfrifol - y math o beth mae Toriaid yn ei hoffi - i ddyfynbris o'r math yma ydi chwalu'r lle a symud i rhywle arall.  Mae tir adeiladu yn ardal Westminster ymysg y tir drytaf yn y Byd.  Mae'n costio tua £93,300,000 yr hectar.  Mae Palas San Steffan yn sefyll ar 40 hectar - mae'r tir werth £3.73bn.  Mae yna dir adeiladu yn Llundain i'w gael am cyn rhated a £8m yr hectar.  Byddai safle o'r un maint yn costio £320m yn Barking er enghraifft.  Petai'r senedd yn symud o Lundain gellid cael tir am tua £1.5m yr hectar ym Mirmingham - a gellid prynu'r safle am £60m.  Neu wrth gwrs mae yna pob math o lefydd eraill diddorol - Cannock Chace er enghraifft lle mae tir adeiladu yn costio £725,000 yr hectar - gellid prynu'r safle am £30m.  Mi fyddai unrhyw un o'r trefniadau amgen hyn yn caniatau i 'r wladwriaeth brynu tir, codi senedd newydd sydd efo digon o le i'r holl aelodau seneddol eistedd yno a gadael celc o bres wrth gefn i fynd tuag at dalu'r ddyled genedlaethol yn hytrach na gorfodi'r trethdalwr i ddod o hyd i tros i £7bn.




Dwi'n siwr felly y bydd y Ceidwadwyr Cymreig ar flaen y gad i berswadio'r llywodraeth i beidio a chwythu £7.1bn ar adnewyddu tysteb i ddiffyg chwaeth pensaerniaeth Fictorianaidd. A dwi'n siwr y bydd David Davies yn arwain y Toriaid Cymreig yn hyn o beth.  Os oedd gwario £3.2m ar adnewyddu'r Cynulliad yn cymaint o stwmp arno, mae'n rhaid y byddai talu 2,200 o weithiau c cymaint a hynny ar rhywbeth y gellid gwneud elw arno yn ei anfon i fedd cynnar.

*Ymddiheuriadau am yr amrywiol ffontau - problemau technegol fel mae'r dywediad yn mynd.

Thursday, June 18, 2015

Dosbarthiad boncyrs Cyrsiau Ymwybyddiaeth Cyflymder cyfrwng Cymraeg

Dydi gor yrru ddim yn rhywbeth i fod yn arbennig o falch ohono, ond mi ges i fy nal yn gwneud hynny wrth yrru i Lanaelhaearn fis diwethaf - roeddwn yn gwneud 40mya mewn parth 30mya.  

Er syndod i mi cefais ddewis i fynd ar gwrs ymwybyddiaeth gyrru yn hytrach na chael dirwy a 3 phwynt ar fy nhrwydded.  Yn fy nineweitrwydd cymrais yn ganiataol y byddai cwrs cyfrwng Cymraeg ar gael - ac ymddengys bod cyrsiau felly yn wir i'w cael - ond ddim i drigolion Gogledd Cymru.  Yn ol gwefan TTC Cymru does yna ond cyrsiau i'w cael yn 'Ne a Chanolbarth Cymru'.  Felly dyma chwilio am gyrsiau Cymraeg yn y De a'r Canolbarth - o chwilio yn ofalus dwi wedi dod o hyd i bedwar - un yng Nghastell Nedd, un yng Nghasnewydd, un yn Abertawe a'r llall yng Nghaerdydd.  Yn ddi amau mae pob un o'r lleoedd yna yn y De - dim un yn y Canolbarth.  Am reswm cwbl amhosibl i'w ddeall mae'r cyrsiau yn cael eu cynnal cyn belled a phosibl o'r ardaloedd hynny lle mae niferoedd sylweddol o siaradwyr Cymraeg yn y Gogledd.  Mae bron pob cymuned lle mae mwy na 70% o'r boblogaeth yn agos at arfordir y Gogledd, tra bod pob cwrs yn agos at arfordir y De.

Oherwydd fy mod yn gweithio yr unig gwrs cyfrwng Cymraeg sy'n addas i mi ydi un yng Nghaerdydd sydd yn gorffen am 6 o'r gloch ar ddydd Sul.  Gobeithio na chaf fy nal yn gor yrru wrth geisio ei gwneud hi adref mewn pryd i fynd i fy ngwely ar amser call er mwyn medru codi i fynd i 'r gwaith yn y bore.  

Oes yna unrhyw le arall oni bai am Gymru lle lleolir gwasanaethau cyn belled a phosibl oddi wrth ddefnyddwyr?


*Diweddariad 19/6 - y Mrs wedi dod o hyd i gwrs i mi ym Mangor trwy wneud cais trwy ffonio y TTC - y ddynas yr ochr arall i'r ffon yn dweud bod cyrsiau  yn cael eu cynnig yn y Gogledd ers fis Ionawr - ond nad oedd y Wefan wedi ei diweddaru ers hynny.

Tuesday, June 16, 2015

Y cynghorau newydd a'r Gymraeg

Yn ol y Bib mae'n fwriad gan Lywodraeth Cymru leihau'r nifer o gynghorau Cymreig o 22 i 8 gydag opsiwn pellach o 9.  Wna i ddim trafod y cynlluniau y tu allan i fy ardal fy hun ar hyn o bryd, ond mae gen i bwt i'w ddweud am yr hyn sy'n debygol o ddigwydd yn y Gogledd Orllewin.

Y bwriad ydi cyfuno Ynys Mon, Gwynedd a Chonwy yn y Gogledd Orllewin a chyfuno Dinbych, Wrecsam a Fflint yn y Gogledd Ddwyrain - ond cadw opsiwn yn agored o gael tri chyngor yn y Gogledd - Gwynedd a Mon, Dinbych a Chonwy a Fflint a Wrecsam.  O ran yr iaith Gymraeg byddai'r ail opsiwn yn llawer gwell.  

Ar hyn o bryd mae Gwynedd yn defnyddio'r Gymraeg fel ei hiaith weinyddol, mae statws y Gymraeg yn llawer llai cadarn yng Nghyngor Ynys Mon, ac yn llai cadarn eto yng Nghyngor Conwy.  Mae polisi  Gwynedd wedi bod yn gryn gefn i'r iaith yn yr ardal, gan sicrhau statws proffesiynol i'r iaith,  a chymhelliad economaidd i Gymry Cymraeg aros ar eu milltir sgwar, ac  i'r di Gymraeg ddysgu'r iaith.

Mae proffeil ieithyddol Gwynedd a Mon yn eithaf tebyg, tra bod un Conwy yn gwbl wahanol.  30.5% o drigolion Mon sydd heb unrhyw sgiliau iaith Gymraeg o gwbl a 26.5% o drigolion Gwynedd sydd yn yr un sefyllfa.  Yng Nghonwy mae'r ganran yn 60.5%.  Mae 56% o drigolion Mon yn siarad yr iaith,  64% o rai Gwynedd, a 27% o bobl Conwy.  

Mae'n wir bod yr hen Gyngor Gwynedd oedd yn bodoli cyn yr ad drefnu llywodraeth leol diwethaf yn cwmpasu llawer o'r tri hen awdurdod, a bod hwnnw yn gymharol Gymreig o ran ei naws, os nad ei weinyddiaeth. Ond dim ond at ardal Llandudno oedd yr hen Wynedd yn ymestyn, byddai'r un newydd yn ymestyn i Fae Cinmel - sy'n newid y proffil ieithyddol yn sylweddol.   Byddai siaradwyr Cymraeg mewn lleiafrif mewn cyngor sydd wedi ei gyfansoddi o Gonwy, Gwynedd ac Ynys Mon, ond byddant mewn mwyafrif cyfforddus mewn cyngor fyddai wedi ei ffurfio o Gyngor Mon a Chyngor Gwynedd.  

Canlyniad tebygol yr opsiwn Mon / Gwynedd / Conwy ydi y byddai'n llawer anos i gael y gefnogaeth y byddai ei hangen i gael cyngor fyddai'n defnyddio'r Gymraeg fel ei phrif gyfrwng gweinyddol petai Conwy'n gynwysiedig yn y drefniant newydd.  Gallai fod yn anodd beth bynnag - mae polisi iaith Gwynedd yn gweithio oherwydd bod yna gonsensws traws bleidiol trosto, a bod yna gefnogaeth eang i'r polisi ar lawr gwlad.  Does yna ddim polisi cyffelyb ym Mon - a dydi hi ddim yn glir bod y gefnogaeth i drefniant cyfrwng Cymraeg gyda chefnogaeth gyffelyb yno.

Mae'n bwysig o safbwynt dyfodol yr iaith fodd bynnag bod o leiaf un o'r cynghorau newydd yn mabwysiadu polisi iaith y Wynedd gyfredol.  Mae Leighton Andrews yn un o garedigion yr iaith - ac mae ganddo gyfle go iawn i osod trefn mewn lle a allai fod yn gefn gwirioneddol i'r Gymraeg yn y Gogledd Orllewin.  Mae ganddo gyfle i wneud gwahaniaeth go iawn.  Gobeithio y bydd yn ei gymryd.

Monday, June 15, 2015

George, Leo a'r gweddill

Doeddwn i methu peidio meddwl am y dyfyniad isod o lyfr Leo Abse, Tony Blair, the Man Behind the Smile pan ddarllenais y newyddion am yr ymchwiliad diweddaraf i droseddau rhywiol posibl ar ran y cyn lefarydd Ty'r Cyffredin a'r gwrth Gymreigiwr blaenllaw, George Thomas.

When George died of throat cancer four years ago, Welsh nationalists and their fellow-travellers danced on his grave even as Britain mourned his passing. The nationalist apologists choked with rage that the obituarists, reflecting public opinion, were recording tributes of so many who felt indebtedness to George. 
They lost their usual articulacy and relapsed into gutter abuse. The obituary in the main Anglo-Welsh literary journal declared him to be "swinish", "cynical", a "creep", "possessed of peasant cunning", "glib", "tactless", "pathologically vicious" and "brutal". The thesaurus was dredged to find pejoratives to be heaped upon his tombstone. They mocked too his "overheated relationship with his Mam". 
I take pride that I had been able to shield him a little, so that he was unbesmirched when his time came. Led by the Prince of Wales, representing the Queen, Westminster Abbey was packed with 1,400 mourners — not only the great and the good but hundreds of representatives of the charities, chapels and churches to whom he had acted as an inspiration.

Yn nodweddiadol o Abse mae'n mynd ati i ddefnyddio marwolaeth ei gyfaill i ymosod ar bobl mae'n eu hystyried yn genedlaethwyr Cymreig.  Mae'r geiriau am amddiffyn Thomas rhag cael ei faeddu gan ei weithredoedd ei hun yn arbennig o arwyddocaol o gofio bod Abse ei hun yn destun ymchwiliad o droseddu rhywiol ar y cyd efo Thomas.



Rwan, does yna ddim cysylltiad rhwng gwleidyddiaeth gwrth Gymreig Abse a Thomas a'r hyn maent yn cael eu cyhuddo o'i wneud wrth gwrs, ond mae'r stori yn rhan o batrwm ehangach o gamymddygiad dybryd gan bobl sefydliadol ac yn arbennig felly gwleidyddion yn San Steffan.  Bydd y patrwm hwnnw yn cael ei ddatgelu tros y blynyddoedd nesaf fel y bydd gwahanol ymchwiliadau heddlu yn cyrraedd eu terfyn.  Mae'r patrwm hwnnw yn ei dro yn rhan o'r patrwm ehangach sydd wedi arwain at res di ben draw o selebs - yn cael eu hunain mewn trybeini - rhai cyn marw ac eraill wedi iddynt farw - llawer ohonynt wedi eu hurddo a'u clodfori gan y sefydliad Prydeinig - ac wrth gwrs gan y wasg Seisnig.  Erbyn iddo farw roedd Thomas yn cael ei drin fel rhyw gymysgedd o sant cyfoes a thrysor cenedlaethol. 


Mae'r union bapurau newydd sydd ar hyn o bryd yn cael eu hunain mewn cyflwr o hysteria hunan gyfiawn pan mae Aelodau Seneddol o'r Alban yn curo dwylo yn y senedd, yn bwyta efo'r staff gweini neu fwyta sglodion yn Nhy'r Cyffredin, nid yn unig wedi methu hyn oll yn llwyr, ond maent wedi treulio degawdau yn clodfori pobl oedd yn ol pob tebyg yn euog o droseddau difrifol.  Mae'n dra anhebygol nad oedd ganddynt unrhyw syniad o'r hyn oedd yn digwydd o dan eu trwyna yn San Steffan.

Ac efallai mai'r brif wers i'w chymryd o hyn oll ydi bod y cyfryngau Seisnig yn eithaf boncyrs mewn materion fel hyn - a llawer o faterion eraill hefyd.  Cofier bod y Bib yn meddwl nad oedd problem rhedeg cyfres o raglenni teyrnged i Jimmy Savile, er bod rheolwyr y gorfforaeth yn ymwybodol o lawer o'i weithgareddau troseddol. Greddf gyntaf y cyfryngau hynny ydi cynnal unigolion maent yn eu hystyried yn rhan o'r sefydliad Prydeinig.   O'r cyfeiriad yma y daw bron y cwbl o'r newyddion yr ydym yn ei dderbyn yng Nghymru.


Saturday, June 13, 2015

Ynglyn ag etholiadau Holyrood

Byddwch yn cofio i ni edrych yn ddiweddar ar bol piniwn rhyfeddol o'r Alban sy'n awgrymu y gallai'r SNP ennill cymaint a 60% o'r bleidlais etholiadol yn etholiadau Holyrood y flwyddyn nesaf.  Byddai hynny wrth gwrs yn golygu y byddai'r SNP yn ennill pob un o'r 73 sedd etholaethol.

Ond yr hyn sy'n ddiddorol - ac heb gael sylw cyfryngol - ydi goblygiadau hynny o ran yr ail bleidlais.  Byddai ennill y 73 sedd yn golygu y byddai'n ymylu at fod yn gwbl amhosibl i'r SNP ennill seddau rhanbarthol.  Mae'n ymddangos bod nifer dda o bobl eisoes yn sylweddoli hynny - mae'r un pol yn awgrymu bod cefnogaeth yr SNP ddeg pwynt yn is yn y rhanbarthau nag ydynt yn yr etholaethau.  Mae'r cwbl o'r gefnogaeth goll yn mynd i'r Blaid Werdd - plaid arall sydd o blaid annibyniaeth wrth gwrs.

Petai cyn lleied a 20% o'r sawl sydd ar hyn o bryd yn bwriadu pleidleisio i'r SNP yn yr etholiadau rhanbarthol bleidleisio i'r  Blaid Werdd yna gallai'r blaid honno yn hawdd gael mwy o seddi na'r Blaid Lafur - nag unrhyw blaid unoliaethol arall o ran hynny.  Byddai'r llywodraeth a'r brif wrthblaid yn gefnogol i annibyniaeth.  Ond gallai pethau fod yn waeth - yn llawer, llawer gwaeth i'r pleidiau unoliaethol.

Mae yna grwpiau eraill sydd o blaid annibyniaeth fydd yn debygol o sefyll yn y rhanbarthau - Solidarity a'r SSP er enghraifft.  Petai hanner y sawl sy'n bwriadu rhoi eu pleidlais ranbarthol i'r SNP (a'i wastraffu os ydi'r polau yn aros fel y maent) yn ei roi iddyn nhw neu'r Blaid Werdd, yna byddai tua 98 o'r 129 sedd yn mynd i bleidiau sydd o blaid annibyniaeth.  Petai pawb yn gwneud hynny byddai tua 106 o'r 129 aelod o blaid annibyniaeth.  Mae 55% o'r etholwyr yn erbyn annibyniaeth - neu dyna beth oedd y sefyllfa ym mis Medi beth bynnag.

Mae hyn yn dangos gwendid sylfaenol y system bleidleisio wrth gwrs, ond mae hefyd yn esiampl da o jerimandro etholiadol yn arwain at ganlyniadau cwbl anisgwyl.  Roedd y gyfundrefn etholiadol wedi ei chynllunio gan lywodraeth Blair i wneud yn siwr na fyddai cefnogwyr annibyniaeth byth yn ennill mwyafrif llwyr yn Holyrood.  Mae hynny'n ymddangos yn hurt bost erbyn heddiw.

Friday, June 12, 2015

Marchog arall i Gymru fach

Llongyfarchiadau i'r ymgyrchydd unoliaethol, Gareth Edwards ar gael ei urddo'n farchog fel gwobr am ei wasanaethau sylweddol i'r Undeb.  Mae'n dda gweld cymaint o'r Cymry mwyaf llywath a theyrngar i'r sefydliad Prydeinig  yn cael eu gwobr haeddianol gan y sefydliad Prydeinig.

Mae chwaraewyr rygbi, neu gyn chwaraewyr rygbi wedi chwarae rhannau blaenllaw yn yr ymgyrchoedd tros ddatganoli, neu tros gryfhau datganoli ers yr ymgyrch wreiddiol yn 79, ond doedd gan Mr Edwards ddim digon o ddiddordeb yn yr un o'r rheiny i gymryd rhan.  Roedd ganddo fwy o ddiddordeb, fodd bynnag mewn ceisio dwyn perswad ar Albanwyr i beidio pleidleisio tros fod yn wlad annibynnol - fel y mwyafrif llethol o wledydd eraill.

Yn wir roedd mor barod i gymryd rhan nes caniatau iddo'i hun edrych yn wirion ar fideo a gomisiynwyd gan Better Together trwy ddefnyddio dadl gwbl hurt tros beidio a phleidleisio tros annibyniaeth - bod rhyw fath o gysylltiad rhwng undod y DU ac undod tim rygbi'r Llewod.  Mae'r tim hwnnw eisoes yn tynnu chwaraewyr o ddwy wladwriaeth wahanol  - y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon.





Sunday, June 07, 2015

Etholiad y Cynulliad a'r Refferendwm

Mi fydd y sawl ohonoch a edrychodd ar fersiwn Gymraeg y Politics Show heddiw yn ymwybodol i Dafydd Elis Thomas a'r Aelod Cynulliad Mike Hedges anghytuno ynglyn ag amseriad refferendwm Ewrop.  Roedd Dafydd Elis Thomas yn croesawu cynnal y ddwy etholiad ar yr un diwrnod tra bod Mike Hedges yn dadlau y dyliwn gael canolbwyntio ar faterion Cymreig yn etholiad y Cynulliad.  Y Llafurwr sy'n gywir yn yr achos hwn, a'r pleidiwr sy'n anghywir mae gen i ofn.

Refferendwm Ewrop fydd yr etholiad pwysicaf am ddegawdau ar lefel Y DU ers degawdau - bydd yn diffinio sut wlad fydd y DU yn y dyfodol, a byddai pleidlais i adael Ewrop yn debygol o arwain at ymadawiad yr Alban o'r DU.  Bydd effaith y canlyniad yn barhaol ac yn ddi droi'n ol.   Bydd y cyfryngau yn ymwybodol o hyn oll, a bydd y newyddion wedi ei ddominyddu gan gwestiwn Ewrop am wythnosau lawer cyn y bleidlais.  

Ar yr amser gorau mae'n anodd i pob plaid redeg ymgyrch effeithiol mewn etholiad Cynulliad.  Gan bod y rhan fwyaf o bobl Cymru yn cael y rhan fwyaf o'u newyddion o gyfryngau Seisnig mae'r air war y byddwn yn son amdani'n aml yn anodd i'w chynnal i'r holl bleidiau.  Dydi'r mwyafrif  ddim yn cael llawer o fynediad i'r ddisgwrs etholiadol, ac o ganlyniad mae etholiadau'r Cynulliad yn aml yn fwy tebyg i gyfres o is etholiadau lleol ar un ystyr.  Mae hyn o fantais i bleidiau sydd efo peirianwaith lleol cryf, ond mae'n anodd i ymgyrch genedlaethol lwyddo.

Byddai pethau'n llawer, llawer gwaeth pe cynhelid yr etholiad yng nghanol swn byddarol refferendwm Ewrop.  Dylai etholiad y Cynulliad gael ei hymladd ar record y llywodraeth tros y pum mlynedd diwethaf tros faterion datganoledig yn ogystal a chyfeiriad cyfansoddiadol Cymru yn y dyfodol agos.  Petai'r ddwy etholiad ar yr un diwrnod byddai'r materion hynny wedi eu gwthio i ymylon eithaf y ddisgwrs gyfryngol. Byddai gwerth yr etholiad Cynulliadwedi ei lastwreiddio'n llwyr.

Friday, June 05, 2015

Y rhestrau rhanbarthol a'r Toriaid

Mae'n ddiddorol bod y cyfryngau prif lif wedi cymryd diddordeb yn y ffaith i Leanne Wood roi ei henw ymlaen i gael ei henwebu ar gyfer rhestr Canol Canolbarth Cymru tra'n methu mynd ar ol  stori mwy diddorol o lawer sy'n ymwneud a'r rhestrau rhanbarthol.

Dydi'r Toriaid ddim yn awyddus iawn i siarad am hyn, ond y ffordd aethant ati i ddewis ymgeiswyr rhestr yn 2011 oedd trwy ddilyn trefn unigryw eu hunain - gadael i'r sawl oedd eisoes wedi eu hethol ar y rhestrau fynd yn syth i ben y rhestrau hynny heb orfod mynd trwy'r drafferth a'r anghyfleustra o gyflwyno eu hunain ger bron aelodau o'r Blaid Doriaidd.  Prin i'r cyfryngau prif lif sylwi ar yr esiampl rhyfeddol yma o anatebolrwydd a dirmyg tuag at brosesau democrataidd - heb son am ddechrau gofyn cwestiynau am briodoldeb y drefn.

Go brin bod fawr o wrthwynebiad i'r drefn yma gan Aelodau Cynulliad Toriaidd yn 2011 - doedd ymgeisyddiaeth ddeuol ddim yn bosibl oherwydd jerimandro'r llywodraeth Lafur flaenorol.  Ond rwan bod y sefyllfa wedi newid mae'n ddigon posibl y bydd yr Aelodau Cynulliad sydd yn cynrychioli etholaethau eisiau'r yswiriant ychwanegol o fod ar y rhestrau rhanbarthol.  

Efallai y bydd yn fwy anodd i'r pwyllgor bach o bwysigion sy'n arwain y Toriaid Cymreig aeth ati i roi seddi Cynulliad i'w mets yn 2011 wneud hynny eto y flwyddyn nesaf.  

Thursday, June 04, 2015

Llafur ac ymgeisyddiaeth ddeuol i'r Cynulliad

Mae ymateb Leighton Andrews ac Alun Davies i'r newyddion bod Leanne Wood wedi rhoi ei henw ymlaen ar gyfer ymgeisyddiaeth ar restr Canol De Cymru yn ogystal a bod yn ymgeisydd yn etholaeth y Rhondda yn ragweladwy.  Mae Leighton yn ein sicrhau mai dim ond yn y Rhondda y bydd o yn sefyll, tra bod Alun Davies - am resymau sydd ond yn amlwg iddo fo ei hun - yn mynegi 'siom'. 


 

Wnaeth Leighton ddim dweud iddo yntau ymddangos fel ymgeisydd rhestr yn ogystal ag ymgeisydd rhestr yn 2003 - a wnaeth yr un o'r ddau son nad oes yna fawr o bwrpas iddyn nhw eu hunain roi eu henwau ar y rhestrau oherwydd ei bod yn hynod anhebygol y byddant yn cael eu hethol yn y ffordd yna.

Beth bynnag, dyma un neu ddau o ffeithiau ychwanegol am y gyfundrefn etholiadol anarferol sydd gennym yn etholiadau'r Cynulliad.  

Syniad Llafur oedd y drefn yma yn y lle cyntaf - nhw ddaeth a'r drefn i fodolaeth ar gyfer etholiadau 1999 - yng Nghymru a'r Alban.

Cefnogodd Llafur adael trefniadau etholiadol Cymreig yn nwylo Llywodraeth y DU, a hwy yn nes ymlaen a symudodd y gwaharddiad ar ymgeisyddiaeth ddeuol yng Nghymru - ond wnaethon nhw ddim byd o gwbl am ymgeisyddiaeth ddeuol yn yr Alban. 

Mae'n wir ei bod yn bosibl dadlau bod ymgeisyddiaeth ddeuol yn gwobreuo methiant - ond mae yna ffordd hawdd o gwmpas hynny - sefydlu trefn etholiadol STV fel y ceir yng Ngogledd Iwerddon.  Byddai hynny yn gwobreuo ymgeiswyr cryf, byddai'n sicrhau bod Aelodau Cynulliad yn uniongyrchol atebol i etholwyr a byddai'n decach a mwy chyfrannol na'r drefn sydd ohoni.  Dyna ydi polisi Plaid Cymru a'r SNP, ond 'does gan Llafur ddim diddordeb mewn symud i'r cyfeiriad yma.

Mae'r rhesymau tros ymddygiad anghyson Llafur yng nghyd destun y mater hwn yn weddol gyfarwydd - buddiannau Llafur sy'n dod gyntaf i Lafur pob amser.  Mae ymgeisyddiaeth ddeuol o fantais iddynt yn yr Alban, 'dydi hynny ddim yn wir yng Nghymru.  Felly maent yn erbyn ymgeisyddiaeth ddeuol yng Nghymru tra eu bod o blaid trefn felly yn yr Alban.  

Maent yn erbyn STV oherwydd y byddai hynny yn golygu y byddant angen tua 45% o'r bleidlais i gael mwyafrif llwyr - gallant wneud hynny efo llai na 40% o dan y drefn sydd ohoni.

Mae'n reol di feth bod lles y Blaid Lafur Gymreig yn dod cyn pob dim arall yng nghyd destun datganoli.  Dyna sy'n egluro eu hagwedd at y drefn o ethol Aelodau Cynulliad, a dyna sy'n egluro yr holl anghysondebau eraill sydd ynghlwm a'r setliad datganoli yng Nghymru - roedd y setliad ei hun yn ganlyniad i broses o gyfaddawdu oedd wedi ei lunio i fynd i'r afael a thyndra oddi mewn i'r Blaid Lafur - nid oedd yn ganlyniad i ddyhead i sicrhau llywodraethiant effeithiol.