Doeddwn i methu peidio meddwl am y dyfyniad isod o lyfr Leo Abse, Tony Blair, the Man Behind the Smile pan ddarllenais y newyddion am yr ymchwiliad diweddaraf i droseddau rhywiol posibl ar ran y cyn lefarydd Ty'r Cyffredin a'r gwrth Gymreigiwr blaenllaw, George Thomas.
Yn nodweddiadol o Abse mae'n mynd ati i ddefnyddio marwolaeth ei gyfaill i ymosod ar bobl mae'n eu hystyried yn genedlaethwyr Cymreig. Mae'r geiriau am amddiffyn Thomas rhag cael ei faeddu gan ei weithredoedd ei hun yn arbennig o arwyddocaol o gofio bod Abse ei hun yn destun ymchwiliad o droseddu rhywiol ar y cyd efo Thomas.
When George died of throat cancer four years ago, Welsh nationalists and their fellow-travellers danced on his grave even as Britain mourned his passing. The nationalist apologists choked with rage that the obituarists, reflecting public opinion, were recording tributes of so many who felt indebtedness to George.
They lost their usual articulacy and relapsed into gutter abuse. The obituary in the main Anglo-Welsh literary journal declared him to be "swinish", "cynical", a "creep", "possessed of peasant cunning", "glib", "tactless", "pathologically vicious" and "brutal". The thesaurus was dredged to find pejoratives to be heaped upon his tombstone. They mocked too his "overheated relationship with his Mam".
I take pride that I had been able to shield him a little, so that he was unbesmirched when his time came. Led by the Prince of Wales, representing the Queen, Westminster Abbey was packed with 1,400 mourners — not only the great and the good but hundreds of representatives of the charities, chapels and churches to whom he had acted as an inspiration.
Yn nodweddiadol o Abse mae'n mynd ati i ddefnyddio marwolaeth ei gyfaill i ymosod ar bobl mae'n eu hystyried yn genedlaethwyr Cymreig. Mae'r geiriau am amddiffyn Thomas rhag cael ei faeddu gan ei weithredoedd ei hun yn arbennig o arwyddocaol o gofio bod Abse ei hun yn destun ymchwiliad o droseddu rhywiol ar y cyd efo Thomas.
Rwan, does yna ddim cysylltiad rhwng gwleidyddiaeth gwrth Gymreig Abse a Thomas a'r hyn maent yn cael eu cyhuddo o'i wneud wrth gwrs, ond mae'r stori yn rhan o batrwm ehangach o gamymddygiad dybryd gan bobl sefydliadol ac yn arbennig felly gwleidyddion yn San Steffan. Bydd y patrwm hwnnw yn cael ei ddatgelu tros y blynyddoedd nesaf fel y bydd gwahanol ymchwiliadau heddlu yn cyrraedd eu terfyn. Mae'r patrwm hwnnw yn ei dro yn rhan o'r patrwm ehangach sydd wedi arwain at res di ben draw o selebs - yn cael eu hunain mewn trybeini - rhai cyn marw ac eraill wedi iddynt farw - llawer ohonynt wedi eu hurddo a'u clodfori gan y sefydliad Prydeinig - ac wrth gwrs gan y wasg Seisnig. Erbyn iddo farw roedd Thomas yn cael ei drin fel rhyw gymysgedd o sant cyfoes a thrysor cenedlaethol.
Mae'r union bapurau newydd sydd ar hyn o bryd yn cael eu hunain mewn cyflwr o hysteria hunan gyfiawn pan mae Aelodau Seneddol o'r Alban yn curo dwylo yn y senedd, yn bwyta efo'r staff gweini neu fwyta sglodion yn Nhy'r Cyffredin, nid yn unig wedi methu hyn oll yn llwyr, ond maent wedi treulio degawdau yn clodfori pobl oedd yn ol pob tebyg yn euog o droseddau difrifol. Mae'n dra anhebygol nad oedd ganddynt unrhyw syniad o'r hyn oedd yn digwydd o dan eu trwyna yn San Steffan.
Ac efallai mai'r brif wers i'w chymryd o hyn oll ydi bod y cyfryngau Seisnig yn eithaf boncyrs mewn materion fel hyn - a llawer o faterion eraill hefyd. Cofier bod y Bib yn meddwl nad oedd problem rhedeg cyfres o raglenni teyrnged i Jimmy Savile, er bod rheolwyr y gorfforaeth yn ymwybodol o lawer o'i weithgareddau troseddol. Greddf gyntaf y cyfryngau hynny ydi cynnal unigolion maent yn eu hystyried yn rhan o'r sefydliad Prydeinig. O'r cyfeiriad yma y daw bron y cwbl o'r newyddion yr ydym yn ei dderbyn yng Nghymru.
No comments:
Post a Comment