Dydi dadansoddiad Martin Baxter o'r cyfeiriadau a symudodd pleidleiswyr ddim yn manylu ar yr hyn ddigwyddodd yng Nghymru - ond mae'n ddadlennol serch hynny. Mwy o bleidleisiau Llafur yn mynd i 'r Toriaid nag i UKIP, y Toriaid yn colli llwyth o bleidleisiau i UKIP ond yn cael eu digolledu gan gyn bleidleiswyr Llafur a Lib Dem, yr SNP yn bwyta pleidleisiau Llafur a Lib Dem ond yn cael dim o gyfeiriad y Toriaid, y Lib Dems yn gwaedu pleidleisiau i pob cyfeiriad, UKIP yn cael pleidleisiau gan bawb.
Mae'n debygol bod y patrymau sylfaenol yn berthnasol i Gymru hefyd - ond heb yr ymyraeth SNP wrth gwrs.
No comments:
Post a Comment