Ond yr hyn sy'n ddiddorol - ac heb gael sylw cyfryngol - ydi goblygiadau hynny o ran yr ail bleidlais. Byddai ennill y 73 sedd yn golygu y byddai'n ymylu at fod yn gwbl amhosibl i'r SNP ennill seddau rhanbarthol. Mae'n ymddangos bod nifer dda o bobl eisoes yn sylweddoli hynny - mae'r un pol yn awgrymu bod cefnogaeth yr SNP ddeg pwynt yn is yn y rhanbarthau nag ydynt yn yr etholaethau. Mae'r cwbl o'r gefnogaeth goll yn mynd i'r Blaid Werdd - plaid arall sydd o blaid annibyniaeth wrth gwrs.
Petai cyn lleied a 20% o'r sawl sydd ar hyn o bryd yn bwriadu pleidleisio i'r SNP yn yr etholiadau rhanbarthol bleidleisio i'r Blaid Werdd yna gallai'r blaid honno yn hawdd gael mwy o seddi na'r Blaid Lafur - nag unrhyw blaid unoliaethol arall o ran hynny. Byddai'r llywodraeth a'r brif wrthblaid yn gefnogol i annibyniaeth. Ond gallai pethau fod yn waeth - yn llawer, llawer gwaeth i'r pleidiau unoliaethol.
Mae yna grwpiau eraill sydd o blaid annibyniaeth fydd yn debygol o sefyll yn y rhanbarthau - Solidarity a'r SSP er enghraifft. Petai hanner y sawl sy'n bwriadu rhoi eu pleidlais ranbarthol i'r SNP (a'i wastraffu os ydi'r polau yn aros fel y maent) yn ei roi iddyn nhw neu'r Blaid Werdd, yna byddai tua 98 o'r 129 sedd yn mynd i bleidiau sydd o blaid annibyniaeth. Petai pawb yn gwneud hynny byddai tua 106 o'r 129 aelod o blaid annibyniaeth. Mae 55% o'r etholwyr yn erbyn annibyniaeth - neu dyna beth oedd y sefyllfa ym mis Medi beth bynnag.
Mae hyn yn dangos gwendid sylfaenol y system bleidleisio wrth gwrs, ond mae hefyd yn esiampl da o jerimandro etholiadol yn arwain at ganlyniadau cwbl anisgwyl. Roedd y gyfundrefn etholiadol wedi ei chynllunio gan lywodraeth Blair i wneud yn siwr na fyddai cefnogwyr annibyniaeth byth yn ennill mwyafrif llwyr yn Holyrood. Mae hynny'n ymddangos yn hurt bost erbyn heddiw.
No comments:
Post a Comment