Diolch i bawb sydd wedi galw draw. Dwi'n gobeithio fy mod wedi plesio'r sawl sy'n cytuno efo fi, a dwi'n ymwybodol fy mod wedi pechu ac ypsetio'r sawl sydd ddim yn cytuno efo fi. Os felly diolchwch am 2014 - mi fydda i yn eich pechu a'ch ypsetio chi llawer mwy yn 2015.
Wednesday, December 31, 2014
Diolch a Blwyddyn Newydd Dda
Doeddwn i ddim yn disgwyl torri record darllenwyr eto eleni rhywsut rhwng y diffyg etholiadau a'r ffaith bod blogio yn llai o beth nag y bu o lawer. Ond felly aeth pethau. 85,000 o ymwelwyr unigryw ydi'r targed y flwyddyn nesaf.
Tuesday, December 30, 2014
Monday, December 29, 2014
Rhywbeth yn digwydd yn Llanelli?
16/1 oedd y pris ar i'r Blaid ennill yn Llanelli wythnos yn ol, fel y gwelwch mae'n 10/1 heddiw. Mae Llafur yn dal yn ffefrynau clir wrth gwrs - ond mae symudiad fel hyn yn un sylweddol. Yr eglurhad mwyaf tebygol o lawer am y fath symudiad ydi bod yna fetio wedi bod ar y Blaid yn yr etholaeth. Diddorol.
Sunday, December 28, 2014
Edrych yn ol ar 2014
Mae unrhyw gip olwg yn ol tros flwyddyn yn siwr o fod braidd yn oddrychol - ond wele fy mlwyddyn wleidyddol i. Mae refferendwm yr Alban yn amlwg yn cymryd lle canolog.
Mi wnawn ni gychwyn trwy longyfarch yr ochr 'Na' eu cyfeillion yn y Bib, Sky a gweddill y cyfryngau torfol a'r ribidi res o filiwnyddion a neidiodd i'r adwy am ennill refferendwm annibyniaeth yr Alban - a thrwy hynny lwyddo i gadw 220,000 o blant Albanaidd mewn tlodi. Fel y gwelwch roedd gan Gymru fach ei rhan i chwarae yn y fuddugoliaeth fawr yma i fuddiannau corfforaethol a'r Ymerodraeth Brydeinig. Ymfalchiwch.
'Doeddech chi ddim yn gweld y lluniau uchod ar y cyfryngau prif lif o'r torfeydd anferth o bobl oedd yn ymgynnyll yn rheolaidd yn Sgwar Sior ac mewn mannau cyhoeddus eraill fel roedd yn edrych am ychydig ddyddiau emosiynol y gallai gwlad annibynol, deg a chyfartal gael ei chreu. Doeddech chi ddim chwaith yn gweld y delweddau isod o wrthdystiadau yn yrbyn y Bib ar lannau ei phencadlys ar lan yr Afon Clyd. Os oedd unrhyw un yn ddigon gwirion i gredu mai gwasanaeth cyhoeddus ydi'r Bib yn hytrach na darlledwr gwladol, bydd digwyddiadau'r haf a dechrau'r hydref wedi rhoi terfyn parhaol ar y gwiriondeb hwnnw.
Ond llongyfarchiadau i'r SNP ar yr hyn maent wedi ei lwyddo i'w wneud yn yr wythnosau yn dilyn y refferendwm - ail lunio ei hun fel yr unig fudiad torfol go iawn yn y DU, a sgubo'r Blaid Lafur o'r neilltu yn y polau piniwn.
I fod ychydig yn fwy plwyfol roedd cefnogaeth frwdfrydig y Blaid Lafur yn Arfon i benderfyniad Tai Cymunedol Gwynedd i dorri ei bolisi iaith ei hun yn agoriad llygaid anisgwyl - yn arbennig felly yng nghyd destun sylwadau ar y radio bod polisiau sy'n mynnu bod deiliaid swyddi yn gallu siarad y Saesneg a'r Gymraeg yn 'ymylu ar fod yn hiliol'. Mae'r Blaid Lafur yng Ngwynedd wedi cefnogi polisi felly am flynyddoedd maith wrth gwrs, a hyd y gwn i does yna neb erioed wedi eu cyhuddo nhw o fod yn hiliol o'r blaen.
Cafodd arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband flwyddyn dda - cael ei wthio allan o'r ymgyrch Na yn yr Alban, a gweld perfformiad ei blaid yn y polau yn syrthio'n gyson. I godi ei galon dwi wedi cynnwys dau o'r lluniau cymharol gadarnhaol ohono a dynnwyd yn ystod y flwyddyn - y naill yn dangos ei garedigrwydd naturiol (mae'n rhoi 2c i wraig ddi gartref), a llun arall ohono'n mwynhau bechdan gig moch. Dwi'n siwr y bydd eleni'n flwyddyn wych arall iddo.
Mi gafodd un o hen gyfeillion Blogmenai - aelod seneddol Aberconwy - flwyddyn fywiog iawn - ymweliad ag Israel a mwy na'i siar o feirniadaeth yn sgil ei gefnogaeth o'r wladwriaeth honno yn sgil cyflafan plant yr haf.
Cafwyd dau ddigwyddiad arall cwbl bisar, y naill a'r llall yn brawf o fyd mor rhyfedd ydi 'r byd Toriaidd. Un oedd cyhoeddiad gan Guto yn Nhy'r Cyffredin bod partner busnes aelod seneddol Ceidwadol Gorllewin Clwyd yn un o ddau berson oedd yn cadw blog 'maleisus' oedd yn ymosod arno byth a hefyd - cyhuddiad a dynwyd yn ol yn fuan wedyn am rhyw reswm neu'i gilydd. Dyna hynna'n glir i bawb felly.
Yn ail aeth ati i gyhuddo Iwerddon o fod a hanes gwrth Iddewig ar sail un sylw gan un gwleidydd ynglyn a chyflafan Gaza a boicot Limerick yn 1904 - pan oedd Iwerddon yn rhan o'r wladwriaeth Brydeinig. Mae hanes plaid Guto - y Blaid Geidwadol wrth gwrs yn astudiaeth achos o wrth Semitiaeth lloerig a maleisus tros gyfnod maith o amser.
Rhywbeth arall na chafodd fawr o sylw yn y wasg oedd yr estyniad anferth i bwerau Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones. Ymddengys ei fod wedi cael yr hawl i benderfynu pwy sy'n cael bod yn rhan o barth Sterling, a phwy sydd ddim yn cael bod yn rhan o'r parth hwnnw. Gobeithio na fydd David Cameron yn ypsetio Carwyn yn y dyfodol agos neu bydd Lloegr ar ei chlust allan o barth Sterling - a bydd rhaid iddyn nhw ystyried ymuno efo'r Ewro.
Datblygiad arall oedd ymadawiad Louise Hughes a Llais Gwynedd - cam a adawodd Meirion heb cymaint ag un cynghorydd Llais Gwynedd. Y rheswm am yr ymadawiad di symwth oedd oherwydd i Lais Gwynedd ddewis Seimon Glyn fel ymgeisydd Meirion Dwyfor yn hytrach na hi yn etholiadau'r Cynulliad 2016. Oherwydd bod Seimon yn siarad y Gymraeg a'r Saesneg tra bod Louise ond yn siarad Saesneg, daeth i'r casgliad Llafuraidd mai hiliaeth oedd y tu ol i'r penderfyniad. Hwyrach bod dyfodol iddi efo Plaid Lafur Gwynedd ar ei newydd wedd - gallant fynd ati efo'i gilydd i ffurfio grwp bach chwerw o unigolion gwrth Gymraeg.
Er gwaetha'r cynnydd sylweddol ym mhleidlais UKIP yng Nghymru, roedd canlyniad 2014 yn union fel canlyniad 2009. Sedd i Lafur, y Toriaid, UKIP a Phlaid Cymru.
Mater arall o ahem, gonsyrn oedd y rhyfel cartref parhaol ymysg cynghorwyr Llafur Caerdydd - coup d'etat mewnol, ymddiswyddiadau rif y gwlith, cynghorwyr yn ymosod ar ei gilydd yn gyhoeddus yn y wasg. Petai'r hogiau (a hogiau ydi'r ffreawyr cegog at ei gilydd) yn rhoi hanner cymaint o ymdrech i symud y brif ddinas yn ei blaen a maent yn ei fuddsoddi i ladd ar ei gilydd byddai Caerdydd mewn lle da. Ond rydan ni yn lle'r ydan ni.
Dwy stori fach gadarnhaol i orffen - buddugoliaeth Jean Lewis yn Nhrelech gyda gogwydd sy'n torri pob record yng Mghymru a buddugolaeth Jill Evans yn etholiad Ewrop. Roedd YouGov wedi bod yn ein sicrhau ers misoedd y byddai'r cyfuniad o dwf UKIP ac adfywiad Llafur wedi pydew 2009 am arwain at golli'r sedd i'r Blaid. Ond wnaeth hynny ddim digwydd. Hyfryd iawn.
Saturday, December 27, 2014
Friday, December 26, 2014
Ffigyrau iaith Ynys Mon 68/69
Ffigyrau am Ynys Mon ydi'r diweddaraf i'w cymryd o'r gyfres o adroddiadau sydd wedi eu hanfon ataf gan William Dolben. Rydan ni'n meddwl i'r ffigyrau gael eu coledu yn y flwyddyn 1968 / 1969.
Dydi'r ffigyrau heb eu gosod mewn trefn gall - yn anffodus roedd pwy bynnag oedd yn gyfrifol am ddod a'r adroddiad at ei gilydd yn grwpio yn ol maint ysgol.
Y peth cyntaf i'w ddweud ydi bod yr iaith yn gyffredinol gadarnach nag oedd yn yr un cyfnod yng Ngheredigion, ac mae hynny'n cael ei adlewyrchu heddiw wrth gwrs. Ceir tystiolaeth o Seisnigeiddio yn rhai o'r trefi - yn arbennig felly Amlwch, Porthaethwy a Chaergybi. Mae'r patrwm a geir heddiw ym Mon o arfordir Seisnig a pherfedd dir mwy Cymreig i'w weld hefyd - er bod y canrannau bryd hynny yn uwch yn y rhan fwyaf o achosion nag ydynt heddiw.
Mae ambell i syndod - mae'r canrannau iaith gyntaf yn is yn yr ardal Llanfairpwll / Llangefni nag ydyw heddiw yn ol pob tebyg. Mae'n bosibl bod hyn yn ganlyniad i fudo mewnol - fel y gwelwyd yn yr ardal Caernarfon / Llanrug / Bethel yr ochr arall i'r Fenai. Mae'r iaith wedi ei chynnal yr ardal honno gan fudo o rannau Cymreig o'r Gogledd Orllewin gan bobl yn chwilio am waith a gwasanaethau.
Tra bod yr iaith wedi gwanio erbyn heddiw fel mamiaith plant, dydi'r patrwm ddim mor amlwg nag oedd yng Ngheredigion. A fel yn yr adroddiadau eraill rydym wedi edrych arnynt, mae'r canfyddiad o symud o fyd Cymreig iawn i un Saesneg iawn yn or symleiddiad - roedd llawer o blant nad oeddynt yn siarad y Gymraeg fel mamiaith ar Ynys Mon yn chwe degau'r ganrif ddiwethaf.
Carreglefn 84/8/8
Llanbedrgoch 91/9/0
Llandrygarn 100/0/0
Llanddeusant 81/13/6
Llanfachraeth 84/16/0
Llanddona 82/16/2
Llanfaethlu 56/41/3
Rhosybol 93/7/0
Talwrn 84/3/13
Ty Mawr 93/3.5/3.5
Llanddaniel 67/31/2
Llangaffo 73/27
Aberffraw 73/3/21
Bodffordd 89/11/0
Bryngwran 82/6/12
Brynsiencyn 72/24/4
Kingsland 40/53/7
Llandegfan 70/23/7
Llanfellech 61/32/7
Llanbedrgoch 92/7/1
Llanrhuddlad 72/15.5/12.5
Niwbwrch 73/15/12
Pentraeth 59/16/25
Rhoscolyn 35/64/1
Penrallt 50/46/4
Tyngongl 33/63/4
Bodedern 55/45/0
Bodorgan 74/24/2
Cemaes 50/50/0
Gaerwen 77/17/6
Llangoed 43/57
Gwalchmai 83/9/7
Llaingoch 44/54/2
Llanerch y Medd 89/9/2
Rhosneigr 46/54/0
Santes Fair 0/100/0
Beaumares 21/74/5
Llangaffo 37/63
Llanfairpwll 58/34/8
Amlwch 39/60/1
Llangefni 67/25/8
Thomas Ellis 30/69.5/0.5
Porthaethwy 34/65/1
Llanfawr 17/76/7
Y Parc 22/78/0
Thursday, December 25, 2014
Dolig Llawen i bawb
Iawn, dwi'n gwybod nad oes yna bluen o eira yng Nghaernarfon ddiwrnod 'Dolig.
Ond efallai 'fory _ _ _
Wednesday, December 24, 2014
Iaith plant a dirywiad yr iaith yng Ngheredigion
Diolch i hen gyfaill i 'r blog hwn - William Dolben - am anfon cyfres o arolygiadau iaith o'r gorffennol i mi. Mi gychwynwn trwy edrych ar sefyllfa'r iaith ymysg plant ysgol Sir Geredigion yn 1949, 1960 a 1967. Mae'r ffigyrau isod yn dangos faint oedd yn siarad yr iaith fel mamiaith.
Aberystwyth 53%, 44%, 36%
Aberteifi 68%, 44%, 36%
Llanbed 84%, 67%, 66%
Llandysul 93%, 72%, 67%
Tregaron 93%, 85%, 80%
Crynodol 77%, 58%, 53%
Hoffwn bwysleisio bod mwy o blant na hyn yn siarad y Gymraeg - ond dydi'r adroddiad ddim yn gysact iawn ynglyn a rhuglder
Beth am batrymau eraill? Wel i ddechrau mae yna broblem gynyddol o ran trosglwyddo iaith. Yn 1949 doedd 4.62% o blant oedd a dau riant yn siarad y Gymraeg ddim yn ei siarad fel iaith gyntaf, erbyn 1960 roedd y ffigwr hwnnw yn 10.53% ac erbyn 1967 roedd yn 10.83%.
Roedd yna fwy o broblem o lawer o ran teuluoedd lle'r oedd un rhiant yn unig yn siarad y Gymraeg. 41.5% o blant teuluoedd felly oedd yn siarad y Gymraeg fel mamiaith yn 1949, erbyn 1960 roedd y ffigwr hwn wedi syrthio trwy'r llawr i 19.59% ac erbyn 1967 roedd wedi syrthio ymhellach i 10.54%. Mae'r cwymp yma yn un sylweddol.
Ar ben hynny mae'r niferoedd abserliwt yn uchel - roedd 575 o blant oedd ag o leiaf un rhiant yn siarad y Gymraeg nad oeddynt yn ei siarad fel mamiaith yn 1949 o gymharu a 531 nad oedd a rhiant yn siarad y Gymraeg. Y ffigyrau cyfatebol am 1960 oedd 820 a 1007 a 1119 / 1140 oedd y ffigyrau erbyn 1967. Mae'r ffigyrau trosglwyddiad hyn yn drychinebus, ac yn isel iawn wrth safonau heddiw. Roedd teuluoedd a rhiant Cymraeg ei iaith efo cymaint o blant nad oedd yn siarad y Gymraeg fel mamiaith erbyn 1967 nag oedd mewn teuluoedd heb oedolyn yn siarad y Gymraeg.
I ddod i gasgliadau cyffredinol mae'r ffigyrau a gafodd eu coledu ar gyfer yr adroddiadau hyn yn rhoi darlun mwy cymhleth i ni o ddirywiad y Gymraeg yng Ngheredigion na'r un mae 'r rhan fwyaf ohonom yn gyfforddus a fo. Mae yna gryn wirionedd yn y canfyddiad hynod gyffredin bod y Gymraeg yng Ngheredigion wedi colli tir yn wyneb mewnfudo sylweddol o Loegr o saith degau'r ganrif ddiwethaf ymlaen - ond mae'n rhy syml. Roedd y Gymraeg eisoes o dan bwysau sylweddol - ers y pedwar degau o leiaf. Methiant i drosglwyddo'r iaith gan Gymry oedd yn gyfrifol am y pwysau hwnnw mwy na dim arall. Roedd y ganran o blant oedd yn siarad y Gymraeg fel mamiaith yn is yng Ngheredigion yn 1967 nag oedd yng Ngwynedd bron i hanner canrif yn ddiweddarach. O ganlyniad pan ddaeth y mewnlifo mawr nid oedd y Gymraeg yng nghymunedau Ceredigion mewn sefyllfa mor gryf i wrthsefyll y Seisnigrwydd nag oedd cymunedau ymhellach i'r gogledd.
Dwi ddim yn un o'r bobl hynny sy'n gwadu bod mewnfudo yn niweidiol i'r iaith - i'r gwrthwyneb, gall fod yn hynod niweidiol - yn arbennig felly pan nad oes strwythurau i gynnal yr iaith gynhenid. Ond mae hanes dirywiad y Gymraeg mewn rhannau o Gymru yn fwy cymhleth na chwymp yn sgil mewnfudo o Loegr, a rydan ni ein hunain wedi bod yn gyfrifol am ei gwneud yn wanach nag y dylai fod. Mae'r adroddiadau ar y Gymraeg yng Ngheredigion yn dangos hynny yn ddigon clir.
Sunday, December 21, 2014
Iaith plant Sir G/narfon yn y 50au a heddiw
Am resymau sydd ddim yn gwbl glir i mi mae gen i gopi o bedwerydd arolwg iaith yr hen Gyngor Sir Caernarfon a gyhoeddwyd yn1960. Roedd yr arolwg wedi ei gymryd yn ystod y dair blynedd flaenorol. Mae'r canfyddiadau yn ddiddorol. Er enghraifft wele'r canrannau o blant sy'n siarad y Gymraeg.
Bangor - 52.1% cynradd, 53.8% uwchradd.
Bethesda - 94.7% a 95%
Botwnnog - 98.9% a 96.7%
Brynrefail - 98.7% a 98.6%
Caernarfon - 95.1% a 92.9%
Llandudno 31.1% a 17.6%
Llanrwst - 83.8% a 77.6%
Penygroes - 97.2% a 97.1%
Porthmadog 93.9% a 93.8%
Pwllheli 91% a 91.2%
Yr hyn sy'n ddiddorol yma ydi'r gymhariaeth efo heddiw. Mae canrannau uwchradd heddiw ar gyfer Bangor a Llandudno yn sylweddol is nag oeddynt yn y 50au, ond fel arall does yna ddim cymaint a hynny o wahaniaeth. Yn wir mae'r ganran sy'n siarad y Gymraeg heddiw yn uwch mewn nifer o ysgolion.
Y system addysg sydd yn gyfrifol am hyn wrth gwrs. Mae'r gyfundrefn addysg yn sicrhau bod y di Gymraeg yn dysgu Cymraeg heddiw. Doedd hynny ddim o anghenrhaid yn wir yn 1960. Mae mwy o blant heddiw yn siarad y Gymraeg yn rhugl, ond fel ail iaith.
Dwi ddim am edrych ar Fangor a Llandudno eto yn y blogiad yma, bydd y gweddill yn ystyried yr ardaloedd lle mae'r Gymraeg wedi dal ei thir.
Dydi'r arolwg ddim yn dweud wrthym faint o blant oedd yn siarad y Gymraeg fel iaith gyntaf, ond mae'n nodi faint sydd a rhieni sy'n siarad y Gymraeg. Dyma'r canrannau ar gyfer plant (uwchradd) oedd a dau riant di Gymraeg. Roedd y ganran oedd ag un rhiant di Gymraeg tua dwywaith cymaint ym mhob achos - felly roedd y ganran o blant oedd ag o leiaf un rhiant di Gymraeg yn Llanrwst yn dod i tua 34%, ac roedd y ganran ym Mrynrefail yn 16%.
Bethesda - 6.5%
Botwnnog - 4.7%
Brynrefail - 5.7%
Caernarfon - 8.75%
Llanrwst - 12.5%
Penygroes - 5.3%
Porthmadog 9.1%
Pwllheli 7.6%
Rwan gallwn fod yn ddigon siwr bod y Gymraeg yn famiaith i lawer o'r plant oedd ag un rhiant di Gymraeg, ond does gennym ni ddim ffordd o farnu faint. Mae adroddiadau ESTYN diweddar yn nodi'r ganran sy'n siarad y Gymraeg adref. Maent fel a ganlyn yn yr ysgolion uwchradd (yn ol yr adroddiadau diweddaraf).
Bethesda - 85%
Botwnnog - 75%
Brynrefail - 91%
Caernarfon - 87%
Llanrwst - 61%
Penygroes - 87%
Porthmadog 50%
Pwllheli 75%
Rwan mae'n bwysig bod yn ofalus efo'r ffigyrau uchod. Mae yna lawer mwy o blant yn mynychu ysgolion y tu allan i'w cymdogaethau heddiw nag oedd yn gwneud hynny yn 1960. Mae geiriad y disgrifiadau cefndir iaith hefyd ychydig yn wahanol i'w gilydd yn yr adroddiadau ESTYN. Ond wedi dweud hynny dydi'r data ddim yn awgrymu cwymp sylweddol yn y canrannau sy'n siarad y Gymraeg fel mamiaith yn y rhan fwyaf o'r cymdogaethau sydd o dan sylw (Mae Porthmadog yn eithriad amlwg).
Mae'r arolwg hefyd yn edrych ar iaith chwarae plant. Dydi natur yr holi ddim mor gysact ag y dylai fod - dosberthir yr atebion i Cymraeg / Saesneg / y ddwy iaith. Dylid fod wedi mynd ati i holi am amlder defnydd iaith wrth chwarae, ond dyma'r canlyniadau am yr ardaloedd mwy Cymreig beth bynnag.
Bethesda - 67.6% y Gymraeg, 4.8% Saesneg, 27% y ddwy.
Botwnnog - 92.5% / 2% / 5.4%
Brynrefail - 76.2% / 1% / 22%
Caernarfon - 43.4% / 9% / 47.6%
Llanrwst - 17% / 24.8% / 58.4%
Penygroes - 67.9% / 3.7% / 28.3%
Porthmadog 30% / 10.4% / 58.9%
Pwllheli 32.4% / 8.2% / 59.3%
Does yna ddim ffigyrau diweddar i gymharu efo nhw ar hyn o bryd, ond mae yna ymchwil wedi ei wneud yng Ngwynedd y llynedd fel rhan o'r Cynllun Siarter Iaith. Hyd y gwn i dydi 'r ffigyrau crynodol heb eu rhyddhau hyd yn hyn, er bod ysgolion wedi derbyn eu ffigyrau penodol nhw. Bydd gweld canfyddiadau hwnnw yn hynod ddiddorol. Serch hynny mae ffigyrau'r 50au hwyr yn awgrymu bod yna fwy o ddefnydd cymdeithasol o Saesneg ymysg plant na fyddai'r rhan fwyaf ohonom wedi disgwyl.
Oes yna gasgliadau i gymryd o hyn oll? Wel oes mae'n debyg. Efallai bod y canfyddiad sydd gan llawer ohonom o linell graff eithaf unffurf o Seisnigeiddio yn ail hanner y ganrif ddiwethaf yn un rhy syml. Mae'n gwbl wir bod yna fwy o fewnfudwyr o lawer yn byw yn y Gogledd Orllewin heddiw, ond efallai nad ydi effaith hynny ar y cenedlaethau iau mor ddistrywiol yn y rhan yma o Gymru nag yw wedi bod mewn ardaloedd eraill. Efallai nad oedd y 50au mor unffurf Gymraeg a mae llawer ohonom yn hoffi meddwl chwaith. Mae'r ffigyrau yn awgrymu bod defnydd cymdeithasol gweddol uchel ymysg plant o'r Saesneg hyd yn oed bryd hynny.
Dwi'n sylweddoli wrth gwrs bod yr ardal rydym wedi edrych arni yn dod o ardal lle mae'r Gymraeg wedi bod yn fwy gwydn nag ydyw yn yr un rhan arall o Gymru. Ond mae'r darlun yn un sydd gryn dipyn yn fwy cymhleth - a diddorol - nag oeddwn i, beth bynnag, yn disgwyl.
Saturday, December 20, 2014
Cofio etholiad cyffredinol 1983
IK1983 oedd yr etholiad diwethaf lle'r oedd yn ymddangos bod y gyfundrefn etholiadol yn y DU am gael ei thorri. Nid UKIP a'r SNP oedd yn bygwth newid pethau bryd hynny, ond y glymblaid SDP / Rhyddfrywyr.
Hollt yn y Blaid Lafur yn sgil colli etholiad cyffredinol 1979 a lleoliad adain chwith y blaid honno o dan arweinyddiaethMichael Foot roddodd fodolaeth i'r SDP yn 1981. Gadawodd pedwar o aelodau blaenllaw'r Blaid Lafur - Roy Jenkins, David Owen, Shirley Williams a Bill Rogers, a daethant i gytundeb yn fuan efo Rhyddfrydwyr David Steel i beidio a sefyll yn erbyn ei gilydd. Roedd y cyfryngau wedi mopio'n lan ar hyn oll wrth gwrs, ac fe gafwyd cyfres o fuddugoliaethau mewn is etholiadau. Llwyddodd Simon Hughes i sicrhau y gogwydd mwyaf erioed mewn etholiad Prydeinig yn Bermondsey yn dilyn o bosibl yr ymgyrch etholiadol fwyaf gwenwynig erioed.
Roedd y polau piniwn yn gadarnhaol iawn o safbwynt y gynghrair newydd. Ym misoedd diwethaf 1981 a misoedd cynnar 1982 roeddynt ymhell, bell o flaen y ddwy brif blaid Brydeinig - roeddynt yn polio cymaint a 50% weithiau.
Yna digwyddodd dau beth ar fwy neu lai yr un pryd - Rhyfel y Malfinas a gwelliant ym mherfformiad economaidd y DU. Roedd diweithdra wedi croesi'r 3,000,000 ym mlynyddoedd cynnar llywodraeth Thatcher, ac roedd y wladwriaeth wedi bod ar ei gliniau ar sawl cyfrif economaidd. Ail sefydlodd y Toriaid eu goruwchafiaeth yn y polau, ond roedd pethau'n agos iawn rhwng Llafur a'r Gynghrair. Pan ddaeth etholiad 1983 cafodd y Toriaid 42.4% o'r bleidlais a 397 o seddi. 27.6% yn unig gafodd Llafur, ond daeth hyn a 209 sedd iddynt. 23 sedd yn unig oedd 25.4% y Gynghrair ei werth. Roedd pleidlais Llafur wedi ei chanoli ar ddinasoedd ac ardaloedd diwydiannol / ol ddiwydiannol eraill, tra bod cefnogaeth y Gynghrair yn fwy cyson. Felly mae ein cyfundrefn etholiadol yn gweithio - mae pleidlais gyson yn dod a rhy ychydig o seddi oni bai bod y gefnogaeth honno yn cyrraedd 40% i 45%. Mae cefnogaeth gyson yn dod a llawer o seddi wedyn ( dyna pam bod rhai polau yn darogan y bydd yr SNP yn mynd a bron i pob dim yn yr Alban y flwyddyn nesaf).
Ymunodd dwy blaid y Gynghrair yn dilyn etholiad 1987 a ffurfiwyd y Lib Dems. Ni chafwyd 25% o'r bleidlais wedyn, ond daeth y Lib Dems yn llawer mwy effeithiol am dargedu seddi. O'r naw degau ymlaen roeddynt yn cael llai o bleidleisiau ond mwy o seddi.
Oherwydd UKIP dwi'n codi 1983 wrth gwrs. Does yna neb yn disgwyl i UKIP gael 25% o'r bleidlais, ond mae'n fwy na phosibl y byddant yn cael tua 15%. Maent yn sicr o ddal eu gafael ar Clacton, ond does yna'r un sedd arall yn un sicr iddynt - er bod rhai yn llawer llai tebygol nag eraill. Mae'n fwy na phosibl y bydd UKIP yn cael dwywaith pleidlais y Lib Dems a llai na hanner eu haelodau seneddol.
Yn ol yn 1983 daeth y Gynghrair yn ail yn 70% o seddi a enillwyd gan y Toriaid. Dod yn ail, neu o leiaf gwneud yn barchus mewn amrediiad eang o seddi fydd hanes UKIP y tro hwn. Ar yr un pryd bydd y Lib Dems yn colli llawer iawn (cannoedd o bosibl) o ernesau, ond byddant yn gystadleuol mewn ( o bosibl) chwe deg o seddi, a byddant yn ennill rhywbeth yn yr amrediad 20-35. Mae hefyd yn bosibl gyda llaw - ar y ffigyrau sydd gennym ar hyn o bryd - y bydd yr SNP yn cael mwy o'r seddi na'r Lib Dems ac UKIP efo'i gilydd, er nad ydynt ond yn sefyll mewn 59 sedd.
A dyna ni - mae'r oll o'r uchod yn bosibl os nad yn debygol - ac mae'n ganlyniad i system etholiadoul anarferol o anemocrataidd. Yr hyn sy'n llai amlwg fodd bynnag ydi effaith pleidlais dda i UKIiP ar hynt a helynt y pleidiau eraill. Mae'n siwr o gadw pleidlais y ddwy blaid unoliaethol fawr ii lawr. Mae'n bosibl y byddant yn cael cyn lleied a 60% rhyngddynt. Ond byddai pleidlais dda iddynt yn gallu effeithio ar dynged llawer o seddi. Mae yna nifer o'ri rhain yng Nghymru - Brycheiniog a Maesyfed, Trefaldwyn, Ynys Mon, Aberconwy a Llanelli yn eu plith.
Thursday, December 18, 2014
Pol diweddaraf Ashcroft
Mi fydd darllenwyr rheolaidd y blog yn gwybod fy mod yn hoff o bolio'r Arglwydd Ashcroft. Mae'r ffordd mae Ashcroft yn mynd ati yn wahanol i'r cwmniau polio eraill i'r graddau ei fod yn polio etholaethau unigol ac yn edrych ar fathau gwahanol o etholaethau. Mae hefyd yn gofyn dau gwestiwn am fwriad pleidleisio - barn gyffredinol a bwriad mewn etholaeth benodol. Rydym yn gwybod bod tirlun etholiadol etholaethau penodol yn annog pobl i bleidleisio yn wahanol i sut y byddant yn arfer pleidleisio. Mae hynny felly yn syniad synhwyrol.
Mae'r ymarferiad diweddaraf yn edrych ar etholaethau ymylol Tori / Llafur a seddi Llafur sydd mewn perygl o syrthio i UKIP, yn ogystal a sedd y Blaid Werdd - Brighton Pavilion. Tra bod yr holl ymarferiad yn ddifyr, y canfyddiad cyntaf ar y tabl cyntaf sy'n arwyddocaol o safbwynt y blog hwn.
Mae pol Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro yn awgrymu bod pleidlais Llafur, y Toriaid,a'r Lib Dems am gwympo tra bod pleidlais UKIP a Phlaid Cymru am gynyddu. O edrych ar y glo man mae'n amlwg bod UKIP yn niweidio pob plaid ond am Blaid Cymru, tra bod Plaid Cymru yn niweidio'r Lib Dems a Llafur yn arbennig, ond ddim UKIP.
Rwan, un pol ydi hwn wrth gwrs, ac mae'n anoeth i ddod i ormod o gasgliadau o bol unigol - yn arbennig felly un sy'n edrych ar sedd unigol - ac yn arbennig cyn bod pol Cymru gyfan diweddar gan UKIP yn awgrymu mai aros yn ei hunfan fydd y Blaid y flwyddyn nesaf. Ond mae pol Ashcroft Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro yn dangos patrwm digon tebyg i bol blaenorol gan Ashcroft ym Mrycheiniog a Maesyfed, er nad oedd hwnnw'n awgrymu cwymp yn y bleidlais Lafur.
Mae'r ddwy sedd yn rhai gwahanol iawn i'w gilydd, ac mae hynny'n arwydd da ynddo'i hun. Ond rhywbeth arall i'w ystyried ydi lleoliad Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro yn y De Orllewin. Petai'r un patrwm yn dal mewn etholaethau cyfagos, yna byddai Dwyrain Caerfyrddin / Dinefwr yn ddiogel iawn i'r Blaid, a byddai Llanelli yn ymylol iawn - yn arbennig ag ystyried y gweithgarwch llawr gwlad sylweddol gan y Blaid yn yr etholaeth honno. Byddai'r Toriaid yn dal Penfro / Preseli heb fawr o drafferth hefyd.
Dau bol ni wnant haf wrth reswm, ond mae pethau'n dechrau edrych yn well i'r Blaid na maent wedi ei wneud ers cryn gyfnod.
Mae'r ymarferiad diweddaraf yn edrych ar etholaethau ymylol Tori / Llafur a seddi Llafur sydd mewn perygl o syrthio i UKIP, yn ogystal a sedd y Blaid Werdd - Brighton Pavilion. Tra bod yr holl ymarferiad yn ddifyr, y canfyddiad cyntaf ar y tabl cyntaf sy'n arwyddocaol o safbwynt y blog hwn.
Mae pol Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro yn awgrymu bod pleidlais Llafur, y Toriaid,a'r Lib Dems am gwympo tra bod pleidlais UKIP a Phlaid Cymru am gynyddu. O edrych ar y glo man mae'n amlwg bod UKIP yn niweidio pob plaid ond am Blaid Cymru, tra bod Plaid Cymru yn niweidio'r Lib Dems a Llafur yn arbennig, ond ddim UKIP.
Rwan, un pol ydi hwn wrth gwrs, ac mae'n anoeth i ddod i ormod o gasgliadau o bol unigol - yn arbennig felly un sy'n edrych ar sedd unigol - ac yn arbennig cyn bod pol Cymru gyfan diweddar gan UKIP yn awgrymu mai aros yn ei hunfan fydd y Blaid y flwyddyn nesaf. Ond mae pol Ashcroft Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro yn dangos patrwm digon tebyg i bol blaenorol gan Ashcroft ym Mrycheiniog a Maesyfed, er nad oedd hwnnw'n awgrymu cwymp yn y bleidlais Lafur.
Mae'r ddwy sedd yn rhai gwahanol iawn i'w gilydd, ac mae hynny'n arwydd da ynddo'i hun. Ond rhywbeth arall i'w ystyried ydi lleoliad Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro yn y De Orllewin. Petai'r un patrwm yn dal mewn etholaethau cyfagos, yna byddai Dwyrain Caerfyrddin / Dinefwr yn ddiogel iawn i'r Blaid, a byddai Llanelli yn ymylol iawn - yn arbennig ag ystyried y gweithgarwch llawr gwlad sylweddol gan y Blaid yn yr etholaeth honno. Byddai'r Toriaid yn dal Penfro / Preseli heb fawr o drafferth hefyd.
Dau bol ni wnant haf wrth reswm, ond mae pethau'n dechrau edrych yn well i'r Blaid na maent wedi ei wneud ers cryn gyfnod.
Tuesday, December 16, 2014
Gofynion ieithyddol mewn swyddi a hiliaeth
Mae'r sylwadau a wnaed gan un o bedwar cynghorydd Llafur yng Ngwynedd bod mynnu bod gweithwyr sector cyhoeddus yn siarad y Gymraeg mewn ardaloedd Cymraeg eu hiaith yn ymylu ar hiliaeth, yn anffodus. Beth bynnag am y Blaid Lafur y tu allan i Wynedd, fedra i ddim dweud bod y blaid honno yng Ngwynedd yn wrth Gymraeg. I'r gwrthwyneb - chwaraeodd ran llawn yn y consensws a arweiniodd at sefydlu a chynnal polisi iaith Gwynedd - polisi sydd wedi bod yn hynod lesol i'r iaith yn y sir.
Dwi'n mawr hyderu mai llithriad anffodus oedd sylwadau heddiw yn hytrach nag arwydd bod Llafur Gwynedd ar fin gadael y consensws hwnnw i bwrpas etholiadol.
'Mond i fod yn glir am funud - fedar polisi ieithyddol ddim bod yn hiliol, dydi iaith a hil ddim yr un peth. Sgil ydi un, set o nodweddion corfforol ydi'r llall. Petai gosod gofynion ieithyddol ynghlwm a swydd yn weithred hiliol, byddai mwyafrif llethol cyflogwyr y DU - a thu hwnt - yn hiliol.
Fel y dywedais ar y cychwyn, dwi erioed wedi ystyried y Blaid Lafur yng Ngwynedd yn wrth Gymraeg. Ond mae'n stori arall y tu allan i'r sir. Mae yna hen hanes o wrth Gymreigrwydd yn y blaid. Gellir darllen rhan - a rhan yn unig - o'r hanes yma.
'Mond i fod yn glir am funud - fedar polisi ieithyddol ddim bod yn hiliol, dydi iaith a hil ddim yr un peth. Sgil ydi un, set o nodweddion corfforol ydi'r llall. Petai gosod gofynion ieithyddol ynghlwm a swydd yn weithred hiliol, byddai mwyafrif llethol cyflogwyr y DU - a thu hwnt - yn hiliol.
Fel y dywedais ar y cychwyn, dwi erioed wedi ystyried y Blaid Lafur yng Ngwynedd yn wrth Gymraeg. Ond mae'n stori arall y tu allan i'r sir. Mae yna hen hanes o wrth Gymreigrwydd yn y blaid. Gellir darllen rhan - a rhan yn unig - o'r hanes yma.
Monday, December 15, 2014
Ymgyrch Llafur yn Arfon yn mynd i'r cyfeiriad arferol _ _
_ _ _ hynny yw tua'r gwter.
Mae'n ymddangos bod eu hymgeisydd, Alun Pugh yn llafurio o dan yr argraff mai'r ffaith i bobl fotio i Blaid Cymru sy'n gyfrifol am y dreth llofftydd, TAW o 20% a thoriadau treth i'r cyfoethog. Mae'n bosibl mai fo ydi 'r unig berson yn y Byd sy'n credu hyn.
Gan mai'r unig reswm i fotio trosto y gall Alun feddwl amdani ydi'r mantra arferol bod pleidlais i 'r Blaid yn bleidlais i'r Toriaid mewn gwirionedd, hoffwn gynnig her bach iddo. Ydi Alun yn gallu cyfeirio at unrhyw etholiad cyffredinol mewn hanes etholiadol lle mae pleidleisiau i Blaid Cymru wedi arwain at lywodraeth Doriaidd? Mae ganddo 21 etholiad i edrych arnynt ers i'r Blaid sefyll gyntaf yn 1929. Mi fyddai jyst un yn gwneud y tro yn iawn.
Ymddiswyddiad Sian Gwenllian o fwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd
Eglurhad gan y Cyng Sian Gwenllian pam ei fod wedi ymddiswyddo o fwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd:
Ymddiswyddiad SG o CCG Ym Medi 2014, penderfynodd Bwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd hysbysebu dwy o’i swyddi haen uchaf heb fod y gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol a heb osod amod fod rhaid i’r ymgeiswyr llwyddiannus ddysgu Cymraeg. Cafodd y mater ei drafod yn yr ail gyfarfod i mi ei fynychu fel aelod oedd newydd ei phenodi i’r Bwrdd. Roeddwn wedi dadlau a phleidleisio yn erbyn y penderfyniad ond pan benderfynodd y Bwrdd gefnogi’r bwriad yma, teimlwn nad oedd gen i ddewis ond ymddiswyddo o’r Bwrdd fel mater o egwyddor. Ar ôl meddwl yn ofalus iawn am y mater, rhoddais wybod i’r Cadeirydd fy mod yn dymuno ymddiswyddo ac fe dderbyniwyd hwnnw yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd. Ni chredaf fod modd edrych ar benderfyniad y Bwrdd fel ‘eithriad’ o gofio statws uchel y swyddi ac rwyf yn cwestiynau pa mor gyfreithiol yw torri polisi iaith Gymraeg y corff mewn ffordd mor sylweddol. Credaf fod y mater yn cael ei ymchwilio gan Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg. Dyma fy rhesymau dros ymddiswyddo mewn gwrthwynebiad i’r penderfyniad: 1)Bydd penodi dau aelod o staff di-Gymraeg ar y lefel uchaf yn newid holl ethos ieithyddol CCG, cyflogwr mawr lleol. Bydd cyfathrebu o dydd i dydd yn yr uwch dim reoli yn digwydd drwy gyfrwng y Saesneg. Bydd hyn yn treiddio drwy’r corff i gyd ac fe fydd yn mynd yn gynyddol anodd i gynnal y Gymraeg fel iaith cyfathrebu mewnol. Byddwn yn gweld Seisnigio graddol o’r corff cyfan mewn rhan o Gymru lle mae’r iaith Gymraeg ar ei chryfaf, ond dan fygythiad hefyd. Mae cynnal a datblygu’r ymrwymiad cryfaf posib i’r iaith Gymraeg gan fudiadau sector cyhoeddus yn hanfodol i barhad yr iaith Gymraeg. Mae’n helpu creu gweithlu lleol dwyieithog hyderus, yn gwasanaethu cymuned ddwyieithog hyderus. 2)Os mai prinder ymgeiswyr addas a phroblemau recriwtio sy’n cael y ‘bai’ am y newid yma mewn polisi, yna mae angen datrys y problemau hynny mewn ffordd wahanol ; mewn ffordd sydd ddim yn peryglu holl ethos Cymraeg y sefydliad. Mae’r strwythur uwch reoli newydd wedi ei ddylunio gyda chymorth cwmni o Fanceinion nad yw, efallai’n deall y diwylliant lleol. Yng Ngogledd Orllewin Cymru, mae’n bwysig cael polisïau datblygu staff, mentora ac olyniaeth cadarn mewn grym er mwyn datblygu a chryfhau talent lleol. 3)Cartrefi Cymunedol Gwynedd yw’r corff sydd bellach yn gyfrifol am y stoc tai oedd yn arfer bod ym meddiant Cyngor Gwynedd, tua 6,300 o gartrefi. Rwy’n hynod o falch o bolisïau Cymraeg cadarn Cyngor Gwynedd ac roeddwn yn hyderus y byddai CCG yn cadw at y polisïau hynny y bu eraill yn ymgyrchu mor ddygn i’w sicrhau. Roedd fy niweddar Dad yn uwch swyddog yn yr hen Gyngor Dosbarth Dwyfor ac yn un o benseiri polisi iaith arloesol Gwynedd. Mae’n fy nhristáu yn fawr fod sefydliad sy’n awr yn gofalu am stoc tai Cyngor Gwynedd yn troi cefn ar y polisi iaith arloesol hwnnw. 4)Mae’r rhan helaeth o staff CCG yn ddwyieithog. Mae dweud nad yw’r gallu i siarad Cymraeg ar gyfer swyddi mor uchel yn hanfodol yn siŵr o gael effaith negyddol ar foral y gweithlu cyfan gan gyflwyno negeseuon negyddol i’r rhai sy’n gobeithio symud ymlaen gyda’u gyrfaoedd o fewn CCG.
Cwymp rhyfeddol Llafur yn y polau
Mae'n werth nodi bod pol Cymru gyfan diweddaraf YouGov / Canolfan Llywodraethiant Cymru / ITV yn awgrymu i gefnogaeth Llafur yng Nghymru syrthio o 46% i 36% tros y flwyddyn diwethaf. Nid yn unig bod hyn yn gwymp rhyfeddol, ond mae'n agor y posibilrwydd pendant y bydd Llafur yn torri eu record am y perfformiad Etholiad Cyffredinol salaf yn eu hanes yng Nghymru.
Ystyrier am funud i Lafur gael 48.6% o'r bleidlais Gymreig yn 1979, 37.5% yn 1983, 45.1% yn 1987 a 49.2% yn 1992. Roedd y rhain i gyd yn etholiadau a gollwyd gan Lafur ar lefel Prydeinig. 36.2% etholiad 2010 ydi'r record ar hyn o bryd, ac o ystyried yr ogwydd cyffredinol a'r ffaith nad oes gan Lafur record dda o gynnal eu ffigyrau polio pan mae'n dod i etholiad go iawn, mae'n bosibl y bydd y ganran yn un is na hynny. Mi fydd yna nifer o aelodau seneddol Llafur oedd yn teimlo yn gwbl ddiogel flwyddyn yn ol yn teimlo cryn dipyn yn fwy nerfus erbyn hyn.
Sunday, December 14, 2014
Y gyfundrefn etholiadol leiaf democrataidd yr ochr yma i Ogledd Corea?
- Os oes yna unrhyw beth yn dangos anhegwch sylfaenol ein system etholiadol, dosbarthiad aelodau seneddol Cymru ydi hwnnw.
Yn ol pol YouGov i ITV a Chanolfan Llywodraethiant Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar mae pleidlais Llafur yng Nghymru yn parhau i gwympo'n gyson - maent ar 36% ar hyn o bryd - rhywbeth digon tebyg i'w perfformiad yn 2010. Ac eto mae'r un pol yn awgrymu y byddant yn ennill 70% o'r seddi - dwywaith cymaint a mae eu pleidlais yn awgrymu y dylent ei gael.
Ychwaneger at hynny'r ffaith bod yr etholaethau Cymreig yn isel eu poblogaeth o gymharu a gweddill y DU ac mae'n weddol amlwg bod mae ychydig o bleidleisiau yng Nghymru yn cyfieithu i lawer o seddi i'r Blaid Lafur.
I edrych ar bethau mewn ffordd ychydig yn wahanol cafodd Llafur 19,239 o bleidleisiau am pob sedd a gafodd yng Nghymru yn 2010. Cafodd y Toriaid 33,325 o bleidleisiau am pob sedd a gawsant yn Lloegr. Cymaint ag oedd y gwahaniaeth hwnnw dydi o'n ddim wrth y gymhareb Lib Dem yn Lloegr - 141,306 pleidlais am pob sedd. Yr anhegwch sydd yn rhan o'r gyfundrefn etholiadol ydi'r rheswm pam bod Llafur mor gefnogol iddi wrth gwrs.
Ta waeth, stori arall ydi honno. Yr hyn sy'n fwy perthnasol ydi'r cysylltiad rhwng natur tirwedd etholiadol Cymru a'i statws oddi mewn i'r DU. Mae Cymru yn ffynhonnell hawdd o seddi San Steffan i Lafur sy'n gallu cael eu hennill heb wneud fawr o ymdrech a heb rhyw ormod o bleidleisiau chwaith. O ganlyniad mae'r wlad yn cael ei chymryd yn ganiataol gan Lafur, a does dim rhaid gwneud llawer iawn o ymdrech i gadw'r seddi. Dyma i raddau helaeth pam bod y driniaeth gyllidol mae Cymru yn ei derbyn cymaint salach na'r hyn a gynigir i'r Alban a Gogledd Iwerddon.
- Llafur 36% (-2%)
- Toriaid 23% (0)
- UKIP 18% (+1%)
- Plaid Cymru 11% (0)
- Lib Dems 5% (-1%)
- Gwyrdd 5% (0)
- Arall 2% (+1)
- Llafur 28 (70% o'r seddi)
- Toriaid 8 (20% o'r seddi)
- UKIP 0 (0% o'r seddi)
- Plaid Cymru 3 (7.5% o'r seddi)
- Lib Dems 1 (2.5% o'r seddi)
- Gwyrdd 0 (0% o'r seddi)
Dechrau newydd i Gwm Cynon
Mae'n debyg y dylid llongyfarch Ann Clwyd ar gael ei hail ddewis yn ymgeisydd Llafur yng Nghwm Cynon. Erbyn diwedd y senedd nesaf mae'n debygol y bydd yn ymylu at fod yn 85 oed. Er bod Ann wedi dod i enwogrwydd yn ddiweddar yn ymosod ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, am ei hymdrechion i ddechrau rhyfel Irac y bydd yn cael ei chofio orau.
Yn ystod yr amser pan roedd pob math o gelwydd yn cael eu rhaffu - bod Irac yn paratoi arfau niwclear, bod yr wlad yn llawn o arfau cemegol a biolegol, bod taflegrau gan Irac a allai gael eu tanio at y DU mewn tri chwarter awr, bod a wnelo'r wlad ag ymysodiadau 9/11, bod llwyth o awerynnau di beilot gan Irac yn barod i ledaenu nwyon gwenwynig tros bawb ac ati - roedd Ann yn gefnogwraig llafar iawn - os nad hysteraidd - i'r ymyraeth anghyfreithlon. Yn wir roedd ganddi ei stori liwgar os bisar ei hun i'w daflu ganol y grochan fyrlymus o gelwydd a nonsens - roedd rhywun wedi dweud wrthi bod gan Saddam shredar pobl. Dwi ddim yn tynnu coes. Roedd o'r farn bod Saddam yn taflu pobl yn fyw i mewn i shredar - traed yn gyntaf er mwyn iddynt weld beth oedd yn digwydd - i bwrpas eu troi'n fwyd pysgod.
Beth bynnag - arweiniodd y cymysgedd rhyfedd o gelwydd at ryfel, ac arweiniodd y rhyfel a'r anhrefn a ddilynodd y rhyfel at farwolaeth rhwng 110,000 a 650,000 o bobl. Os ydych chi eisiau cymhariaeth 43,000 o sifiliaid Prydeinig a laddwyd yn ystod y Blits yn 1940 / 1941.
Mae'r ffaith i'r rwdan ryfelgar, wenwynig yma gael ei dewis eto fyth yn dweud yr oll sydd angen ei ddweud am y Blaid Lafur Gymreig.
Yn ystod yr amser pan roedd pob math o gelwydd yn cael eu rhaffu - bod Irac yn paratoi arfau niwclear, bod yr wlad yn llawn o arfau cemegol a biolegol, bod taflegrau gan Irac a allai gael eu tanio at y DU mewn tri chwarter awr, bod a wnelo'r wlad ag ymysodiadau 9/11, bod llwyth o awerynnau di beilot gan Irac yn barod i ledaenu nwyon gwenwynig tros bawb ac ati - roedd Ann yn gefnogwraig llafar iawn - os nad hysteraidd - i'r ymyraeth anghyfreithlon. Yn wir roedd ganddi ei stori liwgar os bisar ei hun i'w daflu ganol y grochan fyrlymus o gelwydd a nonsens - roedd rhywun wedi dweud wrthi bod gan Saddam shredar pobl. Dwi ddim yn tynnu coes. Roedd o'r farn bod Saddam yn taflu pobl yn fyw i mewn i shredar - traed yn gyntaf er mwyn iddynt weld beth oedd yn digwydd - i bwrpas eu troi'n fwyd pysgod.
Beth bynnag - arweiniodd y cymysgedd rhyfedd o gelwydd at ryfel, ac arweiniodd y rhyfel a'r anhrefn a ddilynodd y rhyfel at farwolaeth rhwng 110,000 a 650,000 o bobl. Os ydych chi eisiau cymhariaeth 43,000 o sifiliaid Prydeinig a laddwyd yn ystod y Blits yn 1940 / 1941.
Mae'r ffaith i'r rwdan ryfelgar, wenwynig yma gael ei dewis eto fyth yn dweud yr oll sydd angen ei ddweud am y Blaid Lafur Gymreig.
Friday, December 12, 2014
Thursday, December 11, 2014
Alun Pugh a chytundebau sero awr
Mae ateb ymgeisydd Llafur Arfon, Alun Pugh i lythyr Peredur Jenkins ynglyn a pherthynas. Llafur a chontractau 'zero hours' yn hynod ddiddorol.
Wele'r llythyr :
Ac wele'r ymateb:
Hyd y gwelaf i dau ffaith 'anghywir' y gallai Alun fod yn cyfeirio atynt - bod 62 o aelodau seneddol Llafur yn defnyddio gweithwyr cytundebau sero awr a bod Cyngor (Llafur) Doncaster yn cyflogi 2,759 o dan yr amodau hyn.
Yn ol y Daily Mirror mae'r niferoedd sydd yn derbyn cytundebau sero awr gan aelodau seneddol fel a ganlyn:
Toriaid 77, Llafur 62 a'r Lib Dems 5.
Yn ol yr IBT roedd ffigyrau Doncaster fel a ganlyn:
One of the biggest employers of zero-hours contracted staff was Doncaster Borough Council, with 2,759.
Yn ol yr IBT roedd ffigyrau Doncaster fel a ganlyn:
One of the biggest employers of zero-hours contracted staff was Doncaster Borough Council, with 2,759.
Felly naill ai bod y Mirror a'r IBT yn dweud celwydd am Aelodau Seneddol a chynghorau Llafur, neu bod Alun Pugh yn ceisio cam arwain ei ddarpar etholwyr ynglyn a pherthynas ei blaid a chytundebau sero awr.
Mae'n ymddangos bod Alun hefyd braidd yn ddryslyd ynglyn a pha swydd yn union mae'n sefyll amdani - aelod seneddol Arfon neu arlywydd y DU
Sunday, December 07, 2014
Yr ymdriniaeth cytbwys arferol o faterion Albanaidd gan y Bib
Diolch i Ifan am dynnu fy sylw at y darn isod o bropoganda chwerw a phersonol o gyfeiriad y Bib.
Pam nad oes yna brotocol sy'n cyfarwyddo cadeirydd sesiwn fel hon- lle mae'r ddau westai yn mynegi'r un safbwyntiau pleidiol wleidyddol - i herio eu barn? Dylai hynny fod yn arbennig o wir pan mae'r safbwyntiau mor eithafol a phersonol ag ydynt yma. Mynegiant o gytundeb a geir yma.
Linc yma os ydych yn defnyddio ipad.
Pam nad oes yna brotocol sy'n cyfarwyddo cadeirydd sesiwn fel hon- lle mae'r ddau westai yn mynegi'r un safbwyntiau pleidiol wleidyddol - i herio eu barn? Dylai hynny fod yn arbennig o wir pan mae'r safbwyntiau mor eithafol a phersonol ag ydynt yma. Mynegiant o gytundeb a geir yma.
Linc yma os ydych yn defnyddio ipad.
Friday, December 05, 2014
Marwolaeth brenin y gombins
Mater o dristwch ydi gorfod adrodd ar farwolaeth un o hen gyfeillion Blogmenai - Jackie Healy Ray. Os ydych eisiau gweld maint y golled dilynwch y linc.