Tuesday, December 16, 2014

Gofynion ieithyddol mewn swyddi a hiliaeth

Mae'r sylwadau a wnaed gan un o bedwar cynghorydd Llafur yng Ngwynedd bod mynnu bod gweithwyr sector cyhoeddus yn siarad y Gymraeg mewn ardaloedd Cymraeg eu hiaith yn ymylu ar hiliaeth, yn anffodus.  Beth bynnag am y Blaid Lafur y tu allan i Wynedd, fedra i ddim dweud bod y blaid honno yng Ngwynedd yn wrth Gymraeg.  I'r gwrthwyneb - chwaraeodd ran llawn yn y consensws a arweiniodd at sefydlu a chynnal polisi iaith Gwynedd - polisi sydd wedi bod yn hynod lesol i'r iaith yn y sir.  

Dwi'n mawr hyderu mai llithriad anffodus oedd sylwadau heddiw yn hytrach nag arwydd bod Llafur Gwynedd ar fin gadael y consensws hwnnw i bwrpas etholiadol.

'Mond i fod yn glir am funud - fedar polisi ieithyddol ddim bod yn hiliol, dydi iaith a hil ddim yr un peth.  Sgil ydi un, set o nodweddion corfforol ydi'r llall.  Petai  gosod gofynion ieithyddol ynghlwm a swydd yn weithred hiliol, byddai mwyafrif llethol cyflogwyr y DU - a thu hwnt - yn hiliol.

Fel y dywedais ar y cychwyn, dwi erioed wedi ystyried y Blaid Lafur yng Ngwynedd yn wrth Gymraeg.  Ond mae'n stori arall y tu allan i'r sir.  Mae yna hen hanes o wrth Gymreigrwydd yn y blaid.  Gellir darllen rhan - a rhan yn unig - o'r hanes yma.

No comments:

Post a Comment