Sunday, December 07, 2014

Yr ymdriniaeth cytbwys arferol o faterion Albanaidd gan y Bib

Diolch i Ifan am dynnu fy sylw at y darn isod o bropoganda chwerw a phersonol o gyfeiriad y Bib.

Pam nad oes yna brotocol sy'n cyfarwyddo cadeirydd sesiwn fel hon-  lle mae'r ddau westai yn mynegi'r un safbwyntiau pleidiol wleidyddol - i herio eu barn?  Dylai hynny fod yn arbennig o wir pan mae'r safbwyntiau mor eithafol a phersonol ag ydynt yma.  Mynegiant o gytundeb a geir yma.

Linc yma os ydych yn defnyddio ipad.



2 comments:

  1. Diffyg hunanymwybyddiaeth rhyfeddol fan 'na. Mae nhw'n hollol ddall i ffeithiau syml, er enghraifft y ffaith nad ydi'r SNP erioed wedi pleidleisio ar unrhyw beth sy'n effeithio ar Loegr yn unig, fel mater o egwyddor. Hefyd, mae'r syniad bod Salmond wedi gwneud hyn tu ôl cefn Sturgeon yn chwerthinllyd. Hollol amlwg mai dyma oedd y plan o'r dechrau.

    Petawn i'n gyfrifol am ddarllediad gwleidyddol yr SNP ar gyfer mis Mai, digon fyddai jyst chwarae'r clip cibddall yna yn ei gyfanrwydd.

    ReplyDelete
  2. Anonymous9:03 pm

    Dwi'n siwr y cafodd Tim Stanley groeso cynnes yn Glasgow. Ambell i gusan hyd yn oed.

    ReplyDelete