IK1983 oedd yr etholiad diwethaf lle'r oedd yn ymddangos bod y gyfundrefn etholiadol yn y DU am gael ei thorri. Nid UKIP a'r SNP oedd yn bygwth newid pethau bryd hynny, ond y glymblaid SDP / Rhyddfrywyr.
Hollt yn y Blaid Lafur yn sgil colli etholiad cyffredinol 1979 a lleoliad adain chwith y blaid honno o dan arweinyddiaethMichael Foot roddodd fodolaeth i'r SDP yn 1981. Gadawodd pedwar o aelodau blaenllaw'r Blaid Lafur - Roy Jenkins, David Owen, Shirley Williams a Bill Rogers, a daethant i gytundeb yn fuan efo Rhyddfrydwyr David Steel i beidio a sefyll yn erbyn ei gilydd. Roedd y cyfryngau wedi mopio'n lan ar hyn oll wrth gwrs, ac fe gafwyd cyfres o fuddugoliaethau mewn is etholiadau. Llwyddodd Simon Hughes i sicrhau y gogwydd mwyaf erioed mewn etholiad Prydeinig yn Bermondsey yn dilyn o bosibl yr ymgyrch etholiadol fwyaf gwenwynig erioed.
Roedd y polau piniwn yn gadarnhaol iawn o safbwynt y gynghrair newydd. Ym misoedd diwethaf 1981 a misoedd cynnar 1982 roeddynt ymhell, bell o flaen y ddwy brif blaid Brydeinig - roeddynt yn polio cymaint a 50% weithiau.
Yna digwyddodd dau beth ar fwy neu lai yr un pryd - Rhyfel y Malfinas a gwelliant ym mherfformiad economaidd y DU. Roedd diweithdra wedi croesi'r 3,000,000 ym mlynyddoedd cynnar llywodraeth Thatcher, ac roedd y wladwriaeth wedi bod ar ei gliniau ar sawl cyfrif economaidd. Ail sefydlodd y Toriaid eu goruwchafiaeth yn y polau, ond roedd pethau'n agos iawn rhwng Llafur a'r Gynghrair. Pan ddaeth etholiad 1983 cafodd y Toriaid 42.4% o'r bleidlais a 397 o seddi. 27.6% yn unig gafodd Llafur, ond daeth hyn a 209 sedd iddynt. 23 sedd yn unig oedd 25.4% y Gynghrair ei werth. Roedd pleidlais Llafur wedi ei chanoli ar ddinasoedd ac ardaloedd diwydiannol / ol ddiwydiannol eraill, tra bod cefnogaeth y Gynghrair yn fwy cyson. Felly mae ein cyfundrefn etholiadol yn gweithio - mae pleidlais gyson yn dod a rhy ychydig o seddi oni bai bod y gefnogaeth honno yn cyrraedd 40% i 45%. Mae cefnogaeth gyson yn dod a llawer o seddi wedyn ( dyna pam bod rhai polau yn darogan y bydd yr SNP yn mynd a bron i pob dim yn yr Alban y flwyddyn nesaf).
Ymunodd dwy blaid y Gynghrair yn dilyn etholiad 1987 a ffurfiwyd y Lib Dems. Ni chafwyd 25% o'r bleidlais wedyn, ond daeth y Lib Dems yn llawer mwy effeithiol am dargedu seddi. O'r naw degau ymlaen roeddynt yn cael llai o bleidleisiau ond mwy o seddi.
Oherwydd UKIP dwi'n codi 1983 wrth gwrs. Does yna neb yn disgwyl i UKIP gael 25% o'r bleidlais, ond mae'n fwy na phosibl y byddant yn cael tua 15%. Maent yn sicr o ddal eu gafael ar Clacton, ond does yna'r un sedd arall yn un sicr iddynt - er bod rhai yn llawer llai tebygol nag eraill. Mae'n fwy na phosibl y bydd UKIP yn cael dwywaith pleidlais y Lib Dems a llai na hanner eu haelodau seneddol.
Yn ol yn 1983 daeth y Gynghrair yn ail yn 70% o seddi a enillwyd gan y Toriaid. Dod yn ail, neu o leiaf gwneud yn barchus mewn amrediiad eang o seddi fydd hanes UKIP y tro hwn. Ar yr un pryd bydd y Lib Dems yn colli llawer iawn (cannoedd o bosibl) o ernesau, ond byddant yn gystadleuol mewn ( o bosibl) chwe deg o seddi, a byddant yn ennill rhywbeth yn yr amrediad 20-35. Mae hefyd yn bosibl gyda llaw - ar y ffigyrau sydd gennym ar hyn o bryd - y bydd yr SNP yn cael mwy o'r seddi na'r Lib Dems ac UKIP efo'i gilydd, er nad ydynt ond yn sefyll mewn 59 sedd.
A dyna ni - mae'r oll o'r uchod yn bosibl os nad yn debygol - ac mae'n ganlyniad i system etholiadoul anarferol o anemocrataidd. Yr hyn sy'n llai amlwg fodd bynnag ydi effaith pleidlais dda i UKIiP ar hynt a helynt y pleidiau eraill. Mae'n siwr o gadw pleidlais y ddwy blaid unoliaethol fawr ii lawr. Mae'n bosibl y byddant yn cael cyn lleied a 60% rhyngddynt. Ond byddai pleidlais dda iddynt yn gallu effeithio ar dynged llawer o seddi. Mae yna nifer o'ri rhain yng Nghymru - Brycheiniog a Maesyfed, Trefaldwyn, Ynys Mon, Aberconwy a Llanelli yn eu plith.
Dwi'n rhagweld taw'r SNP fydd yn dod yn 3ydd o ran seddi, er bydd y Dems rhydd yn dod yn 4ydd agos.
ReplyDeleteDiolch, dadansoddiad diddorol.
ReplyDeleteUn pwynt bach: Oni fyddai'n well dweud "Y Falklands" nag "Y Malfinas" gan fod yr ail yn gwrthwynebu'r hawl i ymreolaeth?