_ _ am wneud yn well nag UKIP yn asesiad Cyfeillion y Ddaear o faniffestos y pleidiau Cymreig - o 0.25 pwynt. O - mi wnaeth Plaid Cymru yn well na'r Blaid Werdd gyda llaw.
Saturday, April 30, 2016
Cywiro datganiadau camarweiniol - eto fyth
Gan UNISON y tro hwn. Mae prentisiaethau ymysg addewidion Plaid Cymru, ac nid yw'r Blaid yn bwriadu preifateiddio addysg. Ar y llaw arall, Llafur oedd yn gyfrifol am gyflwyno academiau yn Lloegr.
Ac ymateb Leanne:
Yr ymgyrch yn cyrraedd tua'i therfyn
Daeth 46 o bobl i Fangor tros y diwrnod ar ddydd Sadwrn olaf yr ymgyrch - a llwyddwyd i daflennu'r rhan fwyaf o'r ddinas a gorffen canfasio yn yr ychydig lefydd nad oeddynt wedi eu canfasio. Ymgyrch hynod o effeithiol yn mynd yn gryfach fel rydym yn cyrraedd tua'r terfyn.
Wele rai o'r sawl ddaeth bore 'ma.
Mwy o nonsens gwrth ddemocrataidd gan Gyngor Caerdydd
Ymateb Dafydd Trystan - ymgeisydd y Blaid yn Ne Caerdydd / Penarth - i lythyr cwbl bisar gan Gyngor Caerdydd yn gofyn iddo beidio a thynnu lluniau o safleoedd sy'n eiddo i'r cyngor.
Friday, April 29, 2016
Beth ddigwyddith nos Iau?
Y gwir ydi - dwi ddim yn gwybod i sicrwydd. Mae yna deimlad - a dyna'r cwbl ydi o ar hyn o bryd - bod y Blaid yn torri tir newydd, ac y bydd yna ambell i sioc ar Fai 5. Mae'n debyg mai cyfuniad o symudiadau cymharol fach - ond o bosibl arwyddocaol - yn y polau piniwn, ymgyrch nerthol gyfryngol gan y Blaid a mor o bosteri a gwaith ymgyrchu sylweddol mewn rhai etholaethau penodol sy'n gyfrifol am hynny.
Yn bersonol dwi'n tueddu i beidio a darogan llwyddiant etholiadol yn rhy aml - mae'n anodd i rhywun sydd mor agos at y Blaid a fi, fod yn gwbl wrthrychol. Ond mae yna un peth sy'n awgrymu bod rhywbeth ar y gweill - a daw hynny o gyfeiriad Llafur, ac nid o gyfeiriad y Blaid - panig.
Ystyriwch - naratif cychwynol Llafur oedd mai ras rhwng Llafur a'r Toriaid oedd hi. Ac eto mae eu gwleidyddion yn ymosod yn gyhoeddus ar y Blaid, ac ar y Blaid yn unig i bob pwrpas - fel y gwnaeth Carwyn Jones ar Pawb a'i Farn neithiwr.
Mae rhai o'u gwleidyddion yn hynod, hynod flin. Dilynwch gyfri trydar Leighton Andrews os ydych eisiau gwybod beth sydd gen i. Mae ei linell trydar yn un afon o negyddiaeth ac ymosodiadau ar y Blaid. Mae hefyd yn ddadlennol bod cymorth gan Blaid Lafur Keele wedi ei anfon i'r Rhondda a dwy sedd ymylol - er bod mwyafrif Llafur yn yr etholaeth honno yn enfawr.
Ac wedyn dyna i ni antics rhyfeddol Cyngor Caerdydd - yn dwyn posteri ynghanol nos, ac yn erlid tafarnau sydd yn arddangos posteri'r Blaid.
Mae arweinydd Prydeinig y Blaid Lafur yn cael ei gadw o Gymru rhag iddo achosi niwed etholiadol i Lafur.
Mae goslef a chynnwys llinell drydar Leighton Andrews yn cael ei adlewyrchu gan wefannau cymdeithasol swyddogol Llafur - @WelshLabour a @WelshLabourPress er enghraifft - llif o negyddiaeth chwerw wedi ei gyfeirio bron yn llwyr tuag at Blaid Cymru, ynghyd a gwahanol ymgeisiadau i gamarwain yr etholwyr ynglyn a'i bwriadau a'i pholisiau.
Hyd y gwelaf i mae'r unig synnau optimistaidd sy'n dod o gyfeiriad Llafur yn dod o Arfon, lle maent yn hyderus o ennill y sedd er bod ganddynt 30.5% o fwlch i'w gau, er ei bod ymysg y seddi gwanaf i Lafur yng Nghymru ar lefel Cynulliad, er bod y polau yn awgrymu gogwydd ffyrnig yn erbyn Llafur yn genedlaethol, er i Lafur Arfon gael cweir gwta flwyddyn yn ol, er bod yr etholaeth yn for o bosteri Plaid Cymru, er bod llawer mwy o 'r etholaeth wedi ei chanfasio gan y Blaid na Llafur, er bod y Blaid wedi dosbarthu mwy o lawer o ddeunydd etholiadol na phawb arall efo'i gilydd, er bod nifer o aelodau o 'r Blaid Lafur yn dweud yn gyhoeddus na fyddant yn trafferthu pleidleisio y tro hwn, er bod Llafur o dan bwysa ychwanegol yn y Gogledd, er bod y blaid Brydeinig o dan gwmwl gwrth semitiaeth ac er bod ymgeisydd y Blaid yn llawer cryfach nag un Llafur.
Ond a gadael Arfon o'r neilltu yr ymdeimlad sy'n dod o gyfeiriad Llafur ydi un o banig. Mae hynny'n awgrymu y gallai rhywbeth trawiadol ddigwydd nos Iau.
Leanne - y dewis mwyaf poblogaidd am Weinidog Cyntaf
Yn ol holiadur gan Wales Online - a gwblhawyd gan 5,000 o bobl mae llawer mwy o bobl am weld Leanne yn Weinidog Cyntaf Cymru na neb arall. Ymddengys bod lwmp go lew o bleidleiswyr Llafur o'r farn honno.
Stori lawn yma.
Thursday, April 28, 2016
Cyfryngau mwyaf hurt a di asgwrn cefn Ewrop?
Felly mae Golwg360 yn ystyried bod ymadawiad cynghorydd tref Plaid Cymru i gorlan y Toriaid yn werth stori go faith, tra bod y Bib druan, naif yn credu a thrafferthu riportio'r hw ha hysteraidd mae'r Toriaid yn ei wneud am bod rhyw bamffled neu'i gilydd wedi disgrifio Adam Price fel mab darogan.
Ond dydi'r naill na'r llall yn teimlo fel son am yr honiadau bod Cyngor Caerdydd yn dwyn, tresbasu ac ymyryd yn y broses ddemocrataidd - nag am y stori yma chwaith - hyd yn oed ar yr amser arbennig yma yn hanes hir trychineb Hillsbrough.
Tybed os oes yna unrhyw wlad arall efo cyfryngau torfol mor gwbl hurt a di asgwrn cefn?
Diweddariad: 21:47 - Mae'r Bib wedi rhedeg y stori o'r diwedd. Ond da iawn - gwell hwyr na hwyrach.
Diweddariad: 21:47 - Mae'r Bib wedi rhedeg y stori o'r diwedd. Ond da iawn - gwell hwyr na hwyrach.
Wednesday, April 27, 2016
Tuesday, April 26, 2016
Monday, April 25, 2016
David Taylor - rhan 1
Bydd rhai ohonoch yn gwybod bod Mr Taylor yn sefyll i fod yn Gomiwsiynydd Heddlu'r Gogledd.
Gwir arwyddocad pol heddiw
Wele'r ffigyrau:
Etholaethau:
Llafur: 33% (-2)
Plaid Cymru: 21% (-)
Toriaid: 19% (-)
UKIP: 15% (-2)
Dib Lems: 8% (+2)
Eraill: 3% (-)
Rhestr:
Llafur: 29% (-2)
Plaid Cymru: 22% (+2)
Toriaid: 19 (-1)
UKIP: 15% (-1)
Dib Lems: 8% (+3)
Gwyrddion: 4% (-)
Eraill: 4% (+1)
Mae'r newidiadau oddi mewn i'r margin of error. Yr hyn sydd braidd yn fwy arwyddocaol ydi bod gan y polau hanes o or gyfrifo'r bleidlais Lafur yng Nghymru. Gor gyfrifwyd y bleidlais Lafur ym mhol Ebrill 2011 o tua 7%. Petai'r un peth yn digwydd y tro hwn byddai Llafur yn cael tua 26% yn yr etholaethau a thua 22% ar y rhestrau. Byddai canlyniad felly yn drychineb i Lafur, a byddai cyfres o'u seddi yn syrthio - gan gynnwys y cwbl ond un yng Ngogledd Cymru. Mae'n debyg mai'r rheswm am y tan gyfrifo ydi oherwydd bod Llafur yn ei chael yn anodd iawn i gael eu cefnogwyr i bleidleisio mewn etholiad Cynulliad.
Rwan dydi hi ddim yn dilyn y bydd yr un peth yn digwydd y tro yma wrth gwrs - mae'n bosibl y bydd y polau yn adlewyrchu pleidlais Llafur yn well. Ond mae yna bosibilrwydd y bydd y map gwleidyddol yn edrych yn dra gwahanol ar Fai 6 o gymharu a rwan.
Sunday, April 24, 2016
Saturday, April 23, 2016
Diolch i bawb _ _
_ _ yn Arfon sydd wedi bod ddigon carededig i gymryd poster gardd - mae'r galw wedi bod yn gwbl anhygoel - dwi'n amcangyfri ein bod wedi dosbarthu tua dwy waith cymaint nag erioed o'r blaen.
Diolch o galon.
Friday, April 22, 2016
Llafur ac UKIP yn ymladd i ddod ar waelod y tabl
Hynny yw y tabl a grewyd gan Gymdeithas yr Iaith i ddangos pam mor llesol ydi maniffestos y pleidiau i'r Gymraeg. Mae hyd yn oed y Toriaid yn gwneud bron ddwywaith yn well na Llafur. Manylion yma.
Cywiro datganiadau camarweiniol - eto fyth
Y trydydd gwaith i mi orfod cywiro hon. Dwi'n adgynhyrchu'r hyn ysgrifennais ym mis Chwefror.
Rwan mae'r stori mymryn yn gymhleth - yn arbennig os ydych yn dod o'r tu allan o Wynedd, ond mi geisiwn wneud pethau'n syml.
Mae Gwynedd - fel pob cyngor arall yng Nghymru - yn gorfod gwneud toriadau sylweddol mewn gwariant - a felly gwasanaethau. Mae dau reswm uniongyrchol am hyn.
1). Y toriadau sylweddol i gyllideb y Cynulliad yn sgil y toriadau enfawr a bleidleiswyd arnynt fis Chwefror y llynedd yn San Steffan gan y Blaid Lafur, y Toriaid a'r Dib Lems.
2). Y ffaith i 'r Cynulliad drosglwyddo lwmp o'r toriadau hyn i'r cynghorau. Cafodd Gwynedd setliad salach na'r rhan fwyaf o gynghorau gan lywodraeth Llafur y Cynulliad.
Yn wahanol i'r rhan fwyaf o gynghorau, aeth Gwynedd ati i lunio rhestr o pob toriad posibl ac ymgynghori efo'r cyhoedd ynglyn a pha doriadau oedd fwyaf derbyniol (neu leiaf anerbyniol). Cafodd pawb gyfle i ddweud eu dweud ar lein, a cymrodd rhai miloedd o bobl fantais o'r cyfle i wneud hynny.
Beth bynnag, dau o'r toriadau posibl ar y rhestr oedd cau Pont yr Aber yng Nghaernarfon a Phont Abermaw. Roedd yna ddwsinau o bosibiliadau eraill, gan gynnwys cau canolfannau hamdden, torri grantiau diwylliant a hamdden ac ati, ac ati. Am rhyw reswm gafaelodd Sion yn y posibilrwydd o gau Pont yr Aber yn hytrach na'r un arall, a chynhaliodd brotest ar y bont. Ymddengys bod nifer go dda o bobl yn cytuno efo fo mai dyna 'r mater mawr - a chafwyd gwrthdystiad eithaf sylweddol ar y bont yn ystod yr hydref.
Yn y cyfamser roedd y broses ymgynghori yn mynd rhagddi, gyda phobl Gwynedd yn dweud eu dweud ar lein. Llunwyd rhestr oedd wedi ei seilio bron yn llwyr ar flaenoriaethau 'r cyhoedd ac ar sail hynny y llunwyd y papur oedd yn argymell beth i'w dorri a beth i beidio ei dorri. 'Doedd y cyhoedd ddim yn ystyried y dylai cau Pont yr Aber fod yn agos at frig y rhestr, felly ni chafodd ei chau - yn union fel nifer sylweddol o argymhellion posibl eraill.
Felly y cyhoedd a gymrodd rhan yn yr ymgynghoriad a achubodd y bont, nid protest Sion. Mae'n debygol wrth gwrs i nifer o bobl oedd yn y brotest gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a chyfranu at y penderfyniad felly - a chware teg iddynt am wneud hynny.
Ond mae'r awgrym bod y penderfyniad i beidio a chau'r bont yn ganlyniad i'r brotest yn gwbl gamarweiniol. Yn wir mae 'n ymgais drwsgl i hawlio clod ar draul y nifer fawr o bobl a gymrodd rhan yn yr ymgynghoriad yn ddi rodres a di ffwdan ac heb fynd i chwilio am ganmoliaeth. Dinasyddion cyfrifol, di lol Gwynedd mewn geiriau eraill.
Thursday, April 21, 2016
Wednesday, April 20, 2016
O Keele i'r Rhondda
Peidiwch a chamddeall rwan 'does gen i ddim byd yn erbyn Keele - dim oll - wyddoch chi ddim, efallai y byddaf yn ymweld a'r lle rhywbryd yn y dyfodol. Does gen i ddim byd yn erbyn Plaid Lafur Keele chwaith - 'dwi'n siwr eu bod nhw'n bobl ddymunol iawn.
Ond mae'n ddiddorol eu bod wrthi'n canfasio yn Ne Cymru.
Ac mae'n ddiddorol lle maent yn canfasio - Bro Morgannwg - sy 'n sedd ymylol.
Canol Caerdydd - sydd eto yn sedd ymylol.
A'r Rhondda.
Mae'n adrodd cyfrolau am gyflwr y Blaid Lafur yng Nghymru bod y blaid yn y Rhondda - lle a arferai fod yn ymgorfforiad o gadernid Llafur - yn gorfod mynd i Keele i gael pobl i wneud eu canfasio iddyn nhw. Ac nid yng Nghanol Caerdydd, Bro Morgannwg a'r Rhondda yn unig mae'r actifyddion o Keele yn ymddangos. Roedd rhai hefyd yn y gynulleidfa yn ystod lawnsiad maniffesto Llafur ddoe.
Tuesday, April 19, 2016
Gwir neges maniffesto Llafur
Ar ol yr holl ddisgwyl wele ymddangosiad y maniffesto byraf - 24 tudalen, llawer ohono'n luniau. Dyma'r ymdrech fwyaf ddi sylwedd o lawer hefyd. Ar adegau mae'n darllen mwy na rhestr o ddymuniadau na dim arall.
Am greu miliwn o siaradwyr Cymraeg, ond dim gair am sut.
Son am addysg heb ddefnyddio'r gair athro nag athrawes.
Son am ddatgloi potensial y Gogledd - ddim gair am sut.
Eisiau ail fedyddio'r A55.
Ailadrodd, ailadrodd, ailadrodd - er mor fyr y ddogfen.
Heb ei chostio wrth gwrs.
Anelwig, aneglur, di ffocws.
Mae'r ddogfen - fel y 'map' 'metro' Gogledd Orllewin Lloegr / Glannau'r Gogledd Ddwyrain - yn adlewyrchu'n eithaf twt yr hyn ydi Llafur.
Y neges mae'n ei rhoi i ni ydi hon - O gael ein hail ethol byddwn yn parhau i lawr yr un llwybr ag ydym wedi bod yn ei ddilyn am y pum mlynedd diwethaf - ymlwybro o un peth i'r llall, ymateb i bethau fel maent yn digwydd yn hytrach na gosod cyfeiriad, cyfyngu ein huchelgais i obeithio na fydd rhywbeth rhy ofnadwy yn digwydd.
Cywiro datganiadau camarweiniol - rhif 101
Wna i ddim ailadrodd fy hun - gallwch weld pam mae hon yn gamarweiniol yma.
Dydi celwydd ddim yn syndod wrth gwrs - ons mae'n dipyn y syndod bod Llafur yn trafferthu i ganfasio'r trydarwr - mae o'n aelod o'r Blaid, yn fotio i'r Blaid pob tro ac mae ganddo glamp o arwydd Plaid Cymru yng ngwaelod ei ardd. Mae o'n gwneud i rhywun ofni braidd am ansawdd eu data - ac yn wir eu golwg.
O.N Dwi'n brysur rwan - ond mi fyddwn yn cael golwg ar faniffesto enwog Llafur pan ga i ddau funud.
Monday, April 18, 2016
Coeden Bres Hud y Toriaid
- Felly yn ol maniffesto'r Toriaid o gael eu hethol byddant yn sicrhau nad ydi treth y cyngor yn cynyddu, torri treth incwm, pwmpio pres i mewn i'r rhwydwaith ffonau symudol, talu am ofal preswyl, gofal plant, gwario mwy ar addysg, gwario ar yr M4 a pheidio a thorri gwariant ar y Gwasanaeth Iechyd.
Felly - yn anhygoel - mae'r Toriaid eisiau cynyddu gwariant a thorri trethi ar yr un pryd. I blaid sydd yn hoffi honni ei bod o gwmpas ei phethau mewn materion economaidd - mae'r ymdrech yma yn gryn sarhad i ddeallusrwydd yr etholwyr.
Tybed yn lle maen nhw'n bwriadu planu'r Goeden Bres Hud?
Sunday, April 17, 2016
Rhag eich bod wedi anghofio _ _
_ _ y Canolbarth a'r Gorllewin y tro hwn. Dim ond tair etholaeth sydd a mwy na 10% o fwyafrif - Meirion Dwyfor i Blaid Cymru sy 'n gwbl ddiogel, Dwyrain Caerfyrddin / Dinefwr - eto i Blaid Cymru a Threfaldwyn i'r Toriaid.