Tuesday, April 19, 2016

Gwir neges maniffesto Llafur

Ar ol yr holl ddisgwyl wele ymddangosiad y maniffesto byraf - 24 tudalen, llawer ohono'n luniau.  Dyma'r ymdrech fwyaf ddi sylwedd o lawer hefyd.  Ar adegau mae'n darllen mwy na rhestr o ddymuniadau na dim arall.

Gwasanaeth bysiau mwy effeithiol - ond dim gair am sut y bydd hynny 'n cael ei wireddu.

Am greu miliwn o siaradwyr Cymraeg, ond dim gair am sut.

Son am addysg heb ddefnyddio'r gair athro nag athrawes.

Son am ddatgloi potensial y Gogledd - ddim gair am sut.

Eisiau ail fedyddio'r A55.

Ailadrodd, ailadrodd, ailadrodd - er mor fyr y ddogfen.

Heb ei chostio wrth gwrs.

Anelwig, aneglur, di ffocws.

Mae'r ddogfen - fel y 'map' 'metro' Gogledd Orllewin Lloegr / Glannau'r Gogledd Ddwyrain - yn adlewyrchu'n eithaf twt yr hyn ydi Llafur.  

Y neges mae'n ei rhoi i ni ydi hon - O gael ein hail ethol byddwn yn parhau i lawr yr un llwybr ag ydym wedi bod yn ei ddilyn am y pum mlynedd diwethaf - ymlwybro o un peth i'r llall, ymateb i bethau fel maent yn digwydd yn hytrach na gosod cyfeiriad, cyfyngu ein huchelgais i obeithio na fydd rhywbeth rhy ofnadwy yn digwydd.


5 comments:

  1. Anonymous11:11 pm

    Cytuno'n llwyr, y peth mwya di-sywedd welais i erioed. Dyma brawf (os oes angen un arall) bod y criw 'ma wedi llwyr rhedeg allan o syniadau. All y cyferbyniad rhwng yr ymdrech dila hon a maniffesto'r Blaid ddim bod yn gliriach. Piti nad oes gennyn ni gyfryngau gwerth y teitl fasai'n dal Llafur i gownt am ei diffygion.

    ReplyDelete
  2. Anonymous12:15 am

    It takes some brass neck to ask for a vote on the basis of this.

    ReplyDelete
  3. Well indeed. It isn't more a piece of fluff than anything else.

    ReplyDelete
  4. Anonymous6:46 am

    Cytuno'n llwyr. Sarhad i'r etholwyr. All y cyferbyniad rhwng yr ymdrech dila hon a maniffesto'r Blaid ddim fod yn gliriach. Os oedd angen prawf (a go brin bod) bod y criw 'ma wedi rhedeg allan o syniadau, dyma fo. Dybryd angen newid arnom.

    ReplyDelete
  5. Fel ¨point of information¨, dyma sut mae nebun blaid arall yn gofyn am barhad o´u llywodraeth ...

    https://d3n8a8pro7vhmx.cloudfront.net/thesnp/pages/5409/attachments/original/1461145824/SNP_Manifesto2016-web.pdf?1461145824

    ReplyDelete