- Felly yn ol maniffesto'r Toriaid o gael eu hethol byddant yn sicrhau nad ydi treth y cyngor yn cynyddu, torri treth incwm, pwmpio pres i mewn i'r rhwydwaith ffonau symudol, talu am ofal preswyl, gofal plant, gwario mwy ar addysg, gwario ar yr M4 a pheidio a thorri gwariant ar y Gwasanaeth Iechyd.
Felly - yn anhygoel - mae'r Toriaid eisiau cynyddu gwariant a thorri trethi ar yr un pryd. I blaid sydd yn hoffi honni ei bod o gwmpas ei phethau mewn materion economaidd - mae'r ymdrech yma yn gryn sarhad i ddeallusrwydd yr etholwyr.
Tybed yn lle maen nhw'n bwriadu planu'r Goeden Bres Hud?
Mae hi yn debyg iawn i goeden ffug Plaid Cymru!!
ReplyDeleteYm, na. Mae maniffesto'r Blaid wedi ei chostio'n llawn - ac yn annibynnol.
ReplyDeleteFyddan nhw methu bod yn fwy gwahanol.
Siôn yn brysur 7.52
ReplyDelete😉