Saturday, November 28, 2015

Cais i ddarllenwyr Blogmenai

Mae'r sefyllfa yr ydym wedi bod yn son amdani yn ddiweddar lle mae gweinidogion yn Llywodraeth Cymru yn llusgo ymgeiswyr Cynulliad o gwmpas sefydliadau cyhoeddus yn un sydd yn peri gofid.  Yn y bon mae un o ddau beth yn digwydd - ac mae'r ddau yn gwbl anerbyniol mewn democratiaeth fodern.





1).  Mae gweinidogion yn cymryd mantais o ymweliadau swyddogol a sefydliadau cyhoeddus i godi proffil ymgeisyddion o'u plaid yn y misoedd cyn etholiad hynod bwysig.  

2).  Mae pwysau yn cael ei roi ar reolwyr sefydliadau sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru - yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol - i ganiatau i wleidyddion Llafur ymweld a nhw ar ymweliadau gwleidyddol / etholiadol.  

Mae'r naill sefyllfa a'r llall yn gwbl anerbyniol - ac mewn unrhyw wlad ag eithrio Cymru byddai'r cyfryngau newyddion prif lif yn neidio ar y stori yn hytrach na gadael pethau i flog amaturaidd.  

Petai'r sefyllfa gyntaf yn wir byddai protocolau gweinidogol yn cael eu torri, a phetai'r ail yn wir byddai grym llywodraeth yn cael ei gam ddefnyddio i ennill mantais etholiadol.  Y cwestiwn arwyddocaol ydi faint o hyn sy'n digwydd ar hyd a lled Cymru.

Felly os oes unrhyw un yn gwybod am sefyllfa debyg lle mae gweinidogion Llafur yn hebrwng ymgeiswyr Cynulliad o gwmpas sefydliadau sy'n cael eu hariannu gan y trethdalwr, gadewch i mi wybod.  Mi gaiff y sgandal sylw yma os nad yn unman arall.  Gallwch wneud hynny trwy gysylltu a mi ar y cyfeiriad ebost ar ochr dde tudalen flaen y blog.

Gwleidydda mewn ysgol y tro hwn

Chwi gofiwch i Flogmenai dynnu sylw at y ffaith i Weinidog Iechyd Cymru a'i ddirprwy fynd o gwmpas Ysbyty Gwynedd yn eu rol gweinidogol tra'n tywys ymgeisydd Cynulliad sydd heb rol o unrhyw fath o gwmpas y sefydliad.  Y broblem yma - a ninnau ar drothwy etholiad - ydi bod rolau swyddogol a gwleidydda etholiadol eithaf amrwd yn cael eu cymysgu.  Mae hyn yn tanseilio hygrededd yr ymweliadau swyddogol - ac yn caniatau i bobl godi cwestiynau ynglyn a'u gwir bwrpas.

Mae'n ymddangos nad y Gweinidog Iechyd a'i ddirprwy yn unig sydd wrthi.  Wele'r lluniau hyfryd isod o'r Gweinidog Addysg, Huw Lewis yn ystod ymweliad ag Ysgol Gynradd Bryn Teg yn Llwynhendy ger Llanelli.  



Y cymeriadau yn y lluniau ydi Geraint Jones pennaeth Ysgol Bryn Teg, Huw Lewis y Gweinidog Addysg, Sharen Davies, un o gynghorwyr (Llafur) Llwnhendy, Keith Davies, Aelod Cynulliad Llanelli a Lee Waters ymgeisydd Llafur yn Llanelli yn etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf.  

Rwan mae'n amlwg ei bod yn briodol bod Mr Jones yn ei ysgol ac mae'n wir bod Mr Lewis - fel Gweinidog Addysg - am ymweld a sefydliadau addysgol o bryd i'w gilydd.  Does yna ddim problem efo Mr a Ms Davies yn cadw cwmni iddo chwaith - mae 'r ddau yn cynrychioli Llwynhendy ar gwahanol gyrff etholedig.  Er bod rhaid nodi nad oes yna arwydd o gynghorydd arall Llwynhendy, Theressa Bowen sy'n perthyn i'r Grwp Annibynnol ar y cyngor yn y llun chwaith - tybed os cafodd hi wahoddiad? 

Ond y cwestiwn mwy pwysig ydi - beth mae Lee Waters yn ei wneud yno?   Does yna'r un copa walltog (nag unrhyw un moel o ran hynny) wedi pleidleisio iddo yn Llwynhendy.  Pam bod rhywun sydd heb unrhyw statws swyddogol yn Llwynhendy - ond sydd eisiau pleidleisiau pobl y dref honno ym mis Mai - yn dilyn gweinidog yn Llywodraeth Cymru ac aelodau etholedig o gwmpas ysgol?  

Dwi ddim yn gwybod yr ateb - ond mae'n edrych fel esiampl arall gan Lafur o ddefnyddio busnes gweinidogol swyddogol i bwrpas chwilio am bleidleisiau yn lleol.

Friday, November 27, 2015

By jingo - i ffwrdd a ni unwaith eto

Slang o'r ail ganrif ar bymtheg ydi'r term Saesneg By Jingo.  Yn y dyddiau hynod grefyddol hynny 'doedd pobl ddim yn fodlon defnyddio enw Iesu Grist mewn cyd destun ysgafn, felly roedd yn well ganddyn nhw ddweud By Jingo na By Jesus.

Yn yr 1870au y daeth y term i gael ei ddefnyddio yn y ffordd yr ydym yn ei adnabod heddiw.  Roedd yna ryfel rhwng Twrci a Rwsia ar y pryd, ac roedd Prydain yn gweld ymgais y Rwsiaid i reoli porthladdoedd dwr cynnes i'r de iddynt fel bygythiad i'w rheolaeth o India. Arferid canu'r gan fach yma mewn tafarnau a neuaddau cerddoriaeth.

We don't want to fight but by Jingo if we do
We've got the ships, we've got the men, we've got the money too
We've fought the Bear before, and while we're Britons true
The Russians shall not have Constantinople.

Daeth y term i gynrychioli agweddau creiddiol sydd wedi bod yn weddol gyffredin ym Mhrydain am ganrifoedd - polisi tramor ymysodol iawn sy'n defnyddio bygythiadau neu drais yn hytrach na diplomyddiaeth arferol i ddiogelu buddiannau cenedlaethol.  Mae'r cysyniad bod gwlad y sawl sy'n arddel agweddau jingoistaidd yn uwchraddol o gymharu a gwledydd eraill hefyd ymhlyg yn yr agwedd yma.  Mae jingoistiaeth yn ffurf ar genedlaetholdeb eithafol, mae'n Xenaffobaidd ac mae hefyd yn sylfaenol stiwpid.




Jingoistiaeth noeth ydi bygythiadau Cameron  a nifer o arweinyddion y Blaid Lafur i fomio Syria. Wneith ymuno efo'r dwsin o wledydd eraill sydd yn bomio'r lle yn ddyddiol ddim gwneud unrhyw wahaniaeth o gwbl i'r sefyllfa filwrol yn Syria - ond mi wneith o roi'r argraff i'r hurt bod y DU yn gwneud rhywbeth sy'n gwneud gwahaniaeth.  Mae pawb yn Syria yn cael ei fomio gan rhywun neu 'i gilydd - dyna pam bod yna 6.5 miliwn wedi gorfod symud o'u cartrefi.

Mae yna ffyrdd eraill y gellid buddsoddi adnoddau i danseilio IS (costiodd cyrchoedd Libya £1.75bn) -  cymryd camau diplomyddol i danseilio'r gefnogaeth uniongyrchol ac anuniongyrchol mae IS yn ei dderbyn gan rai o'n 'cyfeillion' yn y Dwyrain Canol, tanseilio'r llif o arian sy'n caniatau iddynt ymladd eu rhyfel, tanseilio eu hymdrechion i gyrraedd cefnogwyr potensial ar y We Fyd Eang, annog y sawl sydd yn ymladd IS i roi eu gwahaniaethau o'r neilltu am y tro a rhwyfo i'r un cyfeiriad.  

Byddai pob un o'r camau uchod yn fwy effeithiol nag ymateb yn y ffordd or ymysodol, jingoistaidd arferol.  Yn wir byddai gwneud dim oll yn fwy effeithiol na'r hyn sydd ar y gweill ar hyn o bryd - wedi'r cwbl anaml iawn, iawn mae ymyriaethau milwrol gan y DU ers yr Ail Ryfel Byd wedi llwyddo i wneud unrhyw beth ag eithrio cynhyrchu mwy o anhrefn.  

Ond jingoistiaeth fydd yn mynd a hi wrth gwrs - pan mae'n dod i ddelio efo tramorwyr anystywallt mae'r DU pob amser yn dewis yr ymateb gor ymysodol a threisgar ond aneffeithiol cyn yr ymateb deallus ac effeithiol.  Fel yna mae hi wedi bod erioed.

Troi newyddion da yn newyddion drwg

Dwi'n gwybod ei bod yn draddodiadol yn y Gymru sydd ohoni i fod mor besimistaidd a phosibl ynglyn a dyfodol yr iaith - ond ydi'r bennawd yma'n mynd ychydig yn rhy bell dywedwch?  

Mae'n arwain stori am gynnydd yn y nifer o siaradwyr Cymraeg rhugl a chynnydd mwy yn y nifer o siaradwyr sy'n siarad y Gymraeg ond yn methu gwneud hynny 'n rhugl ers 2004 - 2006.  Oherwydd y cynnydd anghyfartal mae'r ganran sy'n siarad yr iaith yn rhugl mewn cymhariaeth a chyfanswm siaradwyr Cymraeg yn gostwng.  Ond y stori sylfaenol ydi bod y nifer a'r ganran sy'n siarad y Gymraeg wedi cynyddu - yn eithaf sylweddol.

Wir Dduw mae yna ddigon o newyddion drwg heb fynd ati i greu mwy.




Guto Bebb, Russell Goodway ac S4C

Gweler ymateb Russell Goodway i gwestiwn hollol resymol Guto Bebb ynglyn a chyllido S4C.  I'r rhai ohonoch sydd ddim yn gyfarwydd a Russell, mae'n gynghorydd Llafur yn Nhrelai, Caerdydd.  Mae hefyd yn gyn arweinydd y cyngor - yr un mwyaf dadleuol yn hanes y cyngor.  Mae rhai priodoli twf y Dib Lems yng Nghaerdydd i'w arweinyddiaeth trychinebus.

Gwnewch beth y mynwch o'r ateb.



Clec arall i S4C

Felly mae'r rhan o gyllideb  S4C sy'n dod gan lywodraeth San Steffan yn lleihau o £6.7m i £5m erbyn 2019/20 - cwymp  o 26%.  Rydan wedi cael y newyddion da o lawenydd mawr yma ar ddiwrnod pan rydym hefyd wedi clywed bod George Osborne wedi dod o hyd i £23bn nad oedd yn gwybod bod ganddo ac wedi mynd ati i gynyddu gwariant ar yr heddlu, 'amddiffyn' a chael gwared o'r toriadau mewn credydau treth.  Byddai arbed S4C rhag y toriad  wedi costio 1/13,530 o'r £23bn.



Mae £1.7m yn bres mawr i S4C, ond dydi o ddim mewn gwrionedd.  Cymharwch y ffigyrau hyn efo'r gwariant canlynol dwi wedi eu dewis ar fympwy.

Bomio Libya a'i throi'n wladwriaeth sydd wedi methu -  £320m
Bwydo'r cannoedd o Arglwyddi yn Nhy'r Arglwyddi - £1.3m.
Treuliau'r 650 Aelod Seneddol - £103m (2013)
Y gost o addasu RAF Voyager A330 at ddefnydd David Cameron -  £10m.
Cost tebygol uwchraddio adeilad San Steffan £5.7bn.
Gwir gost y teulu brenhinol £334m y flwyddyn (pan ystyrier diogelwch, incwm a gollir i'r trysorlys ac ati).
'Amddiffyn' Ynysoedd y Malvinas - £75m (2010 - mwy erbyn heddiw). 

Rwan dydi'r £1.7m o doriad mae S4C yn gorfod ei gymryd yn ddim byd yng nghyd destun gwariant cyhoeddus y DU.  Bydd hwnnw tua £760bn y flwyddyn nesaf.  Wrth ymyl gwariant felly  dydi £1.7m ddim hyd yn oed cyn gryfed a phiso dryw yn Llyn Padarn.  Ond mae mae'r toriad yn mynd rhagddo  beth bynnag - yn ol pob tebyg ar argymhelliad gwas sifil sydd yn ystyried gwariant ar ddarlledu cyfrwng Cymraeg yn flaenoriaeth isel iawn.  

Ac o'i safbwynt o mae'n flaenoriaeth isel iawn wrth gwrs - does yna ddim gwahaniaeth iddo rhwng darlledu Farsi a darlledu Cymraeg.  Ond o'n safbwynt ni yng Nghymru - os ydan ni'n siaradwyr Cymraeg neu beidio - mae'r iaith yn rhan creiddiol o'n hunaniaeth.  Ac o ganlyniad mae'r strwythurau sy'n ei chynnal yn bwysig.  Mae felly'n amhriodol bod penderfyniadau pwysig ynglyn ag ariannu'r strwythurau hynny'n cael eu cymryd gan bobl sy'n gwbl ddi hid am y Gymraeg.  Dylai dyfodol darlledu cyfrwng Cymraeg gael ei gymryd gan bobl sy'n deall ei bwysigrwydd i Gymru.  Nid dyna'r sefyllfa ar hyn o bryd.  




Mae'n weddol amlwg y dylai  darlledu yn ei gyfanrwydd gael ei ddatganoli i Gymru - ond wnaiff hynny ddim digwydd am reswm sy'n ddim oll i'w wneud a Chymru.  Byddai datganoli'r gyfrifoldeb honno i Gymru yn ei gwneud yn anodd cyfiawnhau peidio a'i datganoli i'r Alban - a dydi hynny ddim am ddigwydd am resymau amlwg.




Monday, November 23, 2015

Mewn undeb mae nerth

Mae'n dda gweld bod cymaint o aelodau mainc flaen Llafur wedi dod i gefnogi eu harweinydd yn y drafodaeth heno ar ddatganiad y llywodraeth ar yr adolygiad amddiffyn.  

Mewn undeb mae nerth.

Sunday, November 22, 2015

Beth ddigwyddodd i Lais Gwynedd?

Peidiwch a phoeni - dydw i ddim yn barod i 'sgwennu marwnad Llais Gwynedd eto - beth bynnag ddigwyddith rhwng rwan a 2017 mi fydd rhai o aelodau'r grwp gwrth sefydliadol yn cael eu hethol bryd hynny - ac mae'n debyg y bydd Llais Gwynedd yn chwarae rhyw ran neu 'i gilydd yng ngwleidyddiaeth Gwynedd am sbel wedi hynny.

Ond fel rydym wedi ei drafod yma, ac yma mae'n ymddangos bod llanw'r Llais yn cilio gyda rhai aelodau yn gadael y grwp, rhai eraill yn ymddeol am resymau iechyd (neu'n marw yn achos Bob Wright druan) ynghyd a methiant parhaus i gael llawer mwy na chwarter y bleidlais mewn is etholiadau.  Dim ond wyth mlynedd yn ol roeddynt wedi ennill seddi mewn cyfres o wardiau yn bennaf yn Ne a Gorllewin y sir, ac roeddynt yn beryg bywyd mewn is etholiadau ym mhob rhan o'r sir ag eithrio Bangor a Dyffryn Ogwen.  Mae'n amlwg bod pethau wedi newid - ond y cwestiwn diddorol ydi pam?

Mae yna fwy nag un ateb - fel sydd yn aml yn wir yn y sefyllfaoedd hyn.  Mae'r cyfryngau ac yn arbennig y Bib wedi colli diddordeb ynddynt - roedd yna amser pan roedd y Bib yn adrodd ar pob buddugoliaeth is etholiad oeddynt yn ei chael tra'n anwybyddu pob is etholiad arall yng Nghymru.  Mae'r system newydd i Wynedd lle mae'r penderfyniadau yn cael eu cymryd gan y cabinet yn rhoi llai o gyfle iddynt ennill cyhoeddusrwydd.  Mae diffyg llwyddiant etholiadol yn cael sgil effaith o'i gwneud yn anodd iddynt gael pobl i sefyll trostynt - i Lais Gwynedd y safodd un o 'r ymgeiswyr annibynnol yn is etholiad De Pwllheli yr wythnos nesaf y tro diwethaf.  Dydi'r ymadawiadau heb helpu chwaith - maent wedi colli pum cynghorydd i Blaid Cymru tra bod un arall bellach yn gynghorydd di grwp.

Ond er nad ydi 'r uchod wedi helpu llawer, mae yna reswm arall pwysicach o lawer.  Yn wir y rheswm hwnnw sy 'n gyrru y rhan fwyaf o'r lleill.  Ceir awgrym o'r rheswm yn sylwadau y Cyng Anwen Davies ar ol i ganlyniad nos Iau yn Llanaelhaearn gael ei gyhoeddi:

Mi rydan ni dal yn erbyn polisi addysg y cyngor ac mae rhai yn gryf iawn yn erbyn cau ysgolion bach hefyd,
Beth sy’n gwneud ni’n wahanol [i Blaid Cymru] yw ein bod ni yn cwffio dros y werin ar lawr gwlad. Mi rydan ni yna i bobol pan fyddan nhw angen help.
Mewn geiriau eraill mae naratif Llais Gwynedd yn union yr un peth heddiw ag oedd yn ol yn 2007 - eu bod yn erbyn ad drefnu 'r gyfundrefn ysgolion, eu bod nhw o blaid pobl tra bod pleidiau eraill - mewn rhyw ffordd neu'i gilydd - yn eu herbyn ac nad ydyn nhw yn hoff o Blaid Cymru.
Arhosodd y naratif yr un peth, er i'r tirwedd gwleidyddol newid yn llwyr.  Pan ddaeth Llais Gwynedd i fodolaeth roedd y Blaid mewn grym ym Mae Caerdydd, doedd yr economi heb syrthio oddi ar ochr dibyn, roedd gwariant cyhoeddus yn dal i gynyddu, ac roedd bron i bawb yn ystyried y cynllun ail strwythuro ysgolion yn rhy bell gyrhaeddol o lawer.
Erbyn hyn mae'r Blaid yn genedlaethol wedi dod allan o lywodraeth, newid arweinyddiaeth, symud i 'r chwith, ac wedi arwain y gad yn erbyn llymdra. Mae'r cynllun ail strwythuro presenol yn un llawer mwy graddol na'r un gwreiddiol.  
Yn lleol mae'r cyngor wedi gorfod gweinyddu toriadau sylweddol - ond nid yw hynny wedi effeithio ar gefnogaeth y Blaid, fel y dangosodd canlyniadau Etholiad Cyffredinol 2015.  Y rhesymau am hynny ydi bod naratif cenedlaethol y Blaid wedi gwahanu'r weinyddiaeth yng Nghaernarfon oddi wrth y toriadau ym meddyliau 'r rhan fwyaf o etholwyr, ac mae yna ymwybyddiaeth bod y Blaid yn lleol yn gweinyddu'r toriadau mewn ffordd cyfrifol, cynhwysol a thryloyw.
Mewn geiriau eraill 'dydi naratif Llais Gwynedd ddim yn berthnasol i'r hinsawdd gwleidyddol sydd ohoni yng Ngwynedd heddiw -  ac oni bai eu bod yn dod o hyd i naratif mwy cyfoes byddant yn parhau i golli tir yn weddol gyflym.  Dydi hi ddim yn bosibl ennill etholiadau heddiw trwy ymladd brwydrau ddoe efo naratif sydd bron yn ddeg oed.

Friday, November 20, 2015

A thra ein bod yn son am batrymau ac is etholiadau _ _

Wele'r is etholiadau a gynhalwyd ers etholiadau'r cyngor yn 2012.  Aeth un sedd yn wag - Bowydd a Rhiw ym Mlaenau Ffestiniog - ond dychwelwyd aelod o Blaid Cymru yn ddi wrthwynebiad i gynrychioli'r ward honno.






Eto mae patrymau eithaf clir i'w gweld.  Dim ond Plaid Cymru sy'n gallu dod o hyd i ymgeiswyr ym mhob rhan o'r sir.  Mae'r Blaid yn gyntaf neu'n ail ym mhob is etholiad ac yn cael rhwng 27% a 72% o'r bleidlais.  Ail ydi lleoliad gorau Llais Gwynedd ac mae eu canran uchaf nhw 28.08% yn debyg iawn i ganran isaf Plaid Cymru - 27.13%.  Mae eu hamrediad o 7% i 28%.  Dwy waith allan o chwech mae Llafur wedi dod o hyd i ymgeisydd, er iddynt ennill un etholiad a dod yn ail yn y llall.  Amrediad o 10.2% i 42.4% sydd gan yr Annibynnwyr - enillwyd un sedd ganddynt o fewn ychydig wythnosau i etholiad 2012.  Fel arfer 'dydi 'r Toriaid ddim yn ystyried Gwynedd yn ddigon pwysig i drafferthu a hi ar lefel lleol, a wnawn ni ddim son am y Dib Lems am resymau sy'n ymwneud a charedigrwydd naturiol awdur y blog.

Mae'n edrych fel petai'r Blaid yn adeiladu at sefyllfa lle gallant ddominyddu'r cyngor nesaf (ar ol 2017) mewn ffordd nad yw wedi llwyddo i wneud o'r blaen.  Mae'n  gyfrinach lled agored bod nifer o'r grwp Annibynnol yn agos at Blaid Cymru yn wleidyddol - a bydd yn ddiddorol i weld beth y byddant hwy yn ei wneud rhwng rwan a 2017, o weld y ffordd mae'r gwynt gwleidyddol yn chwythu yng Ngwynedd.  

Dyddiau difyr.


Crebwyll gwleidyddol 'ta chrebwyll mathemategol Felix Aubel sy'n giami?

Ymddengys bod y Tori swnllyd sydd bellach yn byw yn Ne Orllewin Cymru yn credu mai ymyraeth ei blaid o oedd yn gyfrifol am atal Plaid Cymru rhag cipio sedd yn is etholiad Cidweli neithiwr.  Mi anghofiwn y ffaith ei bod yn ymddangos bod well gan Dori sy 'n weinidog yr Efengyl weld Llafurwr - sydd a hanes lliwgar a dweud y lleiaf - yn cael ei ethol na Phleidiwr - rydan ni'n gwybod bod y pleidiau unoliaethol yn sylfaenol eithaf agos at ei gilydd.  


Ond yr hyn sydd o fwy o ddiddordeb yma ydi diffyg crebwyll mathemategol a gwleidyddol Felix.  Gadewch i ni edrych ar y ffigyrau:

Llaf - 288
PC - 248
Ann 1 - 177
People 1st - 58
Toriaid - 53
Ann 2 - 28

Ymddengys bod Felix yn credu y byddai o leiaf 41 (77%) o'r 53 pleidlais a gafodd ei blaid wedi mynd i 'r Blaid oni bai bod Tori ar gael i bleidleisio trosto - er bod ganddynt 2 ymgeisydd annibynnol, 1 ymgeisydd People First, un Llafurwr, neu aros adref a pheidio pleidleisio i ddewis rhyngddynt.  Mae trosglwyddiad o 77% yn eithaf uchel rhwng aelodau o'r un plaid mewn cyfundrefnau etholiadol lle trosglwyddir pleidleisiau - tra bod trosglwyddiad o llai na 2% yn weddol gyffredin rhwng pleidiau hollol wahanol i'w gilydd fel Plaid Cymru a'r Toriaid.

Dwi'n gwybod bod Felix yn credu mewn ysbrydion a gwyrthiau a stwff felly - ond wir Dduw mae'r ddamcaniaeth bach yma yn bellach oddi wrth realiti na'r naill gred na'r llall.



Cydbwysedd y grwpiau ar Gyngor Gwynedd

Yn sgil canlyniadau neithiwr mae'n ddiddorol edrych yn ol ar gynrychiolaeth y gwahanol grwpiau / bleidiau ar Gyngor Gwynedd tros y blynyddoedd diwethaf.   

Cyngor Gwynedd Tach 2015

·         Plaid Cymru 39

·         Annibynnol 18

·         Llais Gwynedd 8

·         Llafur 5

·         Democratiaid Rhyddfrydol 2

·         Aelod Unigol 2 

 

Cyngor Gwynedd Mai 2012

  • Plaid Cymru 37
  • Annibynnol 18
  • Llais Gwynedd 13
  • Llafur 4
  • Democratiaid Rhyddfrydol 2

 

Cyngor Gwynedd Mai 2008

  • Plaid Cymru 35
  • Annibynnol 16
  • Llais Gwynedd 12
  • Llafur 4
  • Democratiaid Rhyddfrydol 5


 Ceir sawl patrwm gweddol glir - gwendid parhaus Llafur ar lefel llywodraeth leol yn y sir, dirywiad y Lib Dems, sefydlogrwydd y grwp Annibynnol, dirywiad cyflym diweddar Llais Gwynedd a chryfder cynyddol Plaid Cymru.  Dwi'n credu fy mod yn gywir i ddweud bod un o'r ddwy sy 'n Aelod Unigol hefyd yn aelod o 'r Blaid gyda llaw.

Rwan mae'r ffaith bod y Blaid yn parhau i ddenu cynghorwyr o'r grwpiau eraill - yn arbennig Llais Gwynedd, yn parhau i gael niferoedd sylweddol iawn o bleidleisiau mewn is etholiadau cyngor, yn parhau i ddenu ymgeiswyr o safon uchel i sefyll ym mhob is etholiad, a hynny er gwaethaf gorfod gweinyddu'r toriadau mewn gwariant cyhoeddus yn adrodd cyfrolau am wytnwch y Blaid ar lawr gwlad Gwynedd.  Dwi'n meddwl fy mod yn gywir i ddweud bod y Blaid yn gryfach heddiw nag yw erioed wedi bod yn hanes Cyngor Gwynedd.

Llongyfarchiadau i Aled a Gareth a llongyfarchiadau i grwp y Blaid ar Gyngor Gwynedd.  Mae'r hyn sydd wedi digwydd tros y blynyddoedd diwethaf yn gryn gamp.

Thursday, November 19, 2015

Cidweli yn llawn


Gogwydd o tua 15% oddiwrth Llafur i'r Blaid.

Is etholiadau heno

Llanaelhaearn (Gwynedd)

Plaid Cymru - 200
Llais Gwynedd - 112
Annibynnol - 99
Plaid Cymru cipio sedd Llais Gwynedd

Gogwydd anferth yma o Lais Gwynedd i Blaid Cymru o tua 30%.

Dewi, Bangor (Gwynedd)

Plaid Cymru - 189
Llafur - 110
Dib Lem 19
Plaid Cymru cadw

Cydweli ( Caerfyrddin)

Llafur 288
Plaid Cymru 248
Ddim yn siwr o'r gweddill eto

Llaf cadw

Diweddariad - Cyngor Dinas Bangor - Dewi:

168 Plaid Cymru 
126 Llafur / Labour
  25 Dem Rhydd / Lib Dem
Plaid Cymru cadw.


Wednesday, November 18, 2015

Ceidwadwyr Ifanc Colchester

Ddim yn aml y bydd Blogmenai yn rhoi cyhoeddusrwydd i adrannau pleidiau gwleidyddol ag eithrio rhai Plaid Cymru - ond byddai'n cymryd calon hynod o galed i beidio a theimlo fel rhoi ychydig o help llaw i Geidwadwyr Ifanc Colchester.  

Mae gan Blogmenai galon feddal yn y bon, felly dyma ni.

Gwahaniaethau ar draws y DU mewn agweddau tuag at yr Undeb Ewropeaidd

Mae'r cwbl o'r isod wedi eu dwyn oddi ar gyfri trydar @UKGE2020 - un o'r cyfrifon mwyaf diddorol i'r sawl sy'n hoffi gwleidyddiaeth ac ystadegau.  

Dydw i ddim yn meddwl fy mod angen rhoi gormod o sylwebaeth yma - mae'r trydariadau yn siarad trostynt eu hunain.  Ond maent yn taflu goleuni digon diddorol ar batrwm cefnogaeth i'r Undeb Ewropeaidd - o ran gwledydd y DU, rhanbarthau oddi mewn i'r gwledydd hynny, rhyw, oedran a dosbarth cymdeithasol.






















Unoliaethwyr Ulster yn dangos mwy o sensitifrwydd na Jason 'McCarthy' Mohammad

Onid yw'n ddiddorol i arweinydd Unoliaethwyr Ulster (yr UUP), Mike Nesbitt  deimlo'r angen i ymddiheuro i genedlaetholwyr Gwyddelig oherwydd i unoliaethwyr mwy eithafol ganu God Save the Queen yn eu presenoldeb yn ystod digwyddian yn Stormont i gofio Cadoediad 1918, tra bod Jason Mohammad yn harthio Leanne Wood oherwydd nad yw'n un am ganu'r un gan?



Mae'n dod i rhywbeth pan mae Unoliaethwyr Ulster yn fwy sensitif i hunaniaeth Wyddelig nag ydi BBC Cymru i hunaniaeth Gymreig.

Saturday, November 14, 2015

Cylch dieflig

Yn ardal Abids yn Hyderabad, De India oeddwn i ar ddiwrnod olaf Ebrill 2011 pan drywanwyd Akbar Owiasi.  Doeddwn i erioed wedi clywed amdano chwaith - ond mae'n ddyn pwysig yn y ddinas anferth yma o bron i 8m o bobl.  Mae'n un o arweinwyr plaid wleidyddol Fwslemaidd yn Ne India, ac mae'n wleidydd dadleuol.  Gallwch weld y manylion yma os oes gennych ddiddordeb.

Siarad efo cyfreithiwr oeddwn i, a fo gafodd y newyddion ar ei ffon symudol.  Parhaodd yr alwad ychydig o eiliadau, ac wedi iddi ddod ar ei ben cododd ar ei draed a dweud ei fod yn mynd adref, a fy nghyngori innau i fynd yn ol i fy ngwesty cyn gynted a phosibl.  Eglurodd ar y ffordd allan bod Owiasi wedi ei saethu, a'i bod yn bosibl y byddai llawer o bobl yn marw tros yr oriau nesaf.  Hindu oedd y cyfreithiwr.  Roedd gen i gar a gyrrwr yn aros amdanaf, ac roedd yn amlwg bod y gyrrwr wedi clywed y newyddion hefyd.  Roedd am fy ngyrru yn ol i'r gwesty cyn gynted a phosibl.  Roedd Hen Dref Hyderabad rhyngom ni a'r gwesty.  Yr Hen Dref ydi'r prif ardal Fwslemaidd mewn dinas sydd wedi ei rhannu'n weddol gyfartal rhwng Hindwiaid a Mwslemiaid - sefyllfa anarferol yn Ne India Hindwaidd.



Roedd yr Hen Dref yn rhywbeth rhyfeddol i'w gweld ar y diwrnod hwnnw.  Fel gweddill y ddinas roedd yn cau i lawr, gyda degau o filoedd o bobl yn llifo adref - llawer ohonynt yn ferched yn eu gwisgoedd du unffurf.  Roeddynt yn fy atgoffa o forgryg.  Roedd ceir arfog ar gornel pob stryd ac roedd cannoedd o heddlu parafilwrol yn sefyll ar hyd ddwy ochr y stryd yn hel pobl tuag adref - ac yn gwneud hynny mewn modd nad oedd gyda'r mwyaf addfwyn.  Roedd yr ymdeimlad o ofn yn dew yn yr awyr crasboeth - roedd bron yn bosibl ei deimlo, a'i flasu a'i arogli.  Roedd i'w glywed hefyd yn nistawrydd llethol y tyrfaoedd fel roeddynt yn brysio tuag adref.

O gyrraedd y gwesty roedd y mesurau diogelwch llym oedd yn nodweddu'r lle wedi eu huwchraddio yn sylweddol - roedd yna dau ddwsin o swyddogion diogelwch wrth y drws ac roedd rhwystrau wedi eu gosod o gwmpas yr adeilad.  Pan gyrhaeddais y drws gafaelwyd ynddof a'm lled luchio i mewn i'r cyntedd a'm rhybuddio i beidio a meddwl am adael yr adeilad heb ganiatad.  Wnes i ddim.  Treuliais weddill y diwrnod yn y gwesty a mynd i fy ngwely.  

Codais yn y bore i fyd hollol wahanol.  Roedd yr argyfwng wedi cilio, ac roedd yr ymdeimlad o ofn wedi cilio yn ei sgil.  Roedd pobl yn mynd a dod i 'r gwesty mel y mynnant.  Holais un o'r merched wrth y ddesg pam bod y panig drosodd, ac roedd yr eglurhad yn un syml.  Wedi ei drywannu gan Fwslim arall oedd Owaisi o ganlyniad i ffrae ynglyn a thir,  ac nid oedd ei anafiadau yn bygwth ei fywyd beth bynnag.  Fyddai yna ddim dial llwythol / crefyddol.

Roedd pobl Hyderabad yn gywir i ddychryn ar y diwrnod arbennig yna - mae yna hanes hir o wrthdaro cymunedol sylweddol ar sail crefydd yn India.  Er enghraifft lladdwyd hyd at 17,000 o Siciaid yn yr oriau yn dilyn llofruddiaeth Indira Gandhi yn 1984 gan dyrfaoedd Hindwaidd.  Petai'r hyn ddigwyddodd ar strydoedd Paris neithiwr wedi digwydd mewn aml i ran arall o'r Byd byddai yna dywallt gwaed pellach a sylweddol wedi digwydd yn gyflym iawn.  Mae'n adlewyrchu ar sefydlogrwydd creiddiol cymunedau trefol, seciwlar Gorllewinol na chafwyd ymateb treisgar i ddigwyddiadau neithiwr.  

Mae natur trais neithiwr wedi esgor ar gryn dipyn o drafod - a chryn dipyn o ddamcaniaethu bod Islam fel crefydd gyda rhywbeth yn unigryw dreisgar amdani.  Cafwyd ffrae fach reit anifyr ar y cyfryngau cymdeithasol Cymreig ar y pwnc.  

Mae hynny yn wir i raddau ar yr eiliad yma yng nghwrs hanes, ond mae ffraeo diwynyddol ymysg Cristnogion wedi arwain at fwy o lawer o dywallt gwaed yn y gorffennol.  Yr hyn ddigwyddodd i newid hynny oedd y Chwyldro Ffrengig a'r seciwlareiddio mewn cymdeithasau Gorllewinol a ddilynodd hynny.  Nid bod seciwlariaeth wedi arwain at lai o dywallt gwaed wrth gwrs - roedd yna ddigon o hwnnw yn y Gorllewin yn y ganrif ddiwethaf o ganlyniad i wrthdaro rhwng ideolegau seciwlar - ond newidiodd natur a lleoliad y trais.  Dydi'r newidiadau cymdeithasol hyn heb gyffwrdd a'r Byd Mwslemaidd, ac o ganlyniad mae trais ar sail crefyddol yn parhau i ddigwydd. Mae cymdeithasau Mwslemaidd hefyd yn sylfaenol wahanol i rai Gorllewinol.



Mae llawer o'r trais sy'n dod o du Mwslemiaid wedi ei wreiddio mewn camddealltwriaeth o'r hyn mae'r Gorllewin yn ei wneud yn y Dwyrain Canol a thu hwnt.  I'r ffwndementalwr Islamaidd mae ymyraeth y Gorllewin yn y Dwyrain Canol yn ymysodiad crefyddol.  Dyna'r unig ffordd y gall rhywun sy'n edrych ar y Byd mewn termau cwbl grefyddol ei ddehongli.  Dydi hynny ddim yn wir wrth gwrs, edrych ar ol ei buddiannau ei hun mae'r Gorllewin.  Pan mae cefnogi, ac yn wir arfogi eithafwyr ffwndementalaidd yn unol a'i buddiannau mae'n gwneud hynny - mae cefnogaeth gyfoes i deulu brenhinol Saudi Arabia a jihadis Afghanistan yn yr 80au yn esiamplau amlwg o hynny.

Yn yr un ffordd mae llawer o'r trais sy 'n dod o du'r Gorllewin hefyd yn deillio o gamddealltwriaeth.  Mae llawer o wledydd y Dwyrain Canol yn greadigaethau cyn bwerau ymerodrol Gorllewinol.  Rhoddwyd llinellau ar fap oedd yn aml yn lleoli gelynion hanesyddol oddi mewn i'r un gwladwriaethau.  Roedd y llinellau yn cael eu rhoi ar y map gan bobl oedd yn credu nad oedd gwahaniaeth sylfaenol yn natur cymdeithasau'r Dwyrain Canol a rhai Gorllewinol - neu bobl nad oeddynt erioed wedi meddwl llawer am y peth. 'Doedd hynny ddim yn wir, ac o'r herwydd cafwyd nifer o unbeniaethau di drugaredd yn yr ardal. Roedd llywodraethau felly yn dod i fodolaeth oherwydd nad oedd trefniadau llywodraethol mwy rhesymol yn gallu dal gwladwriaethau sylfaenol ansefydlog at ei gilydd. 

 Wedi cwymp yr Undeb Sofietaidd, ac yn arbennig wedi 9/11 cafodd arweinwyr Gorllewinol y syniad o ddymchwel rhai o'r unbeniaethau roeddynt wedi ffraeo efo nhw, gan gredu y byddai yna wladwriaethau democrataidd rhyddfrydig (tebyg i'r Swistir o bosibl) yn cymryd eu lle.  Doedd hynny ddim yn bosibl, ac o ganlyniad mae llawer o'r Dwyrain Canol erbyn hyn y tu hwnt i unrhyw lywodraethiant call o gwbl.

Mewn geiriau eraill mae ymyraeth y Gorllewin yn y Dwyrain Canol wedi rhyddhau neu gyflymu prosesau sydd wedi gwneud llawer o'r ardal y tu hwnt i lywodraethiant, ac mae'n ymateb i hynny gyda mwy o drais.  Mae ffwndementalwyr Islamaidd yn dehongli hynny fel ymysodiad crefyddol ac maent hwythau yn eu tro yn ymateb gyda mwy o drais.  Ac mae'r Gorllewin wedyn yn ymateb trwy gynyddu'r traid - ac ati, ac ati, ac ati.