Mae £1.7m yn bres mawr i S4C, ond dydi o ddim mewn gwrionedd. Cymharwch y ffigyrau hyn efo'r gwariant canlynol dwi wedi eu dewis ar fympwy.
Bomio Libya a'i throi'n wladwriaeth sydd wedi methu - £320m
Bwydo'r cannoedd o Arglwyddi yn Nhy'r Arglwyddi - £1.3m.
Treuliau'r 650 Aelod Seneddol - £103m (2013)
Y gost o addasu RAF Voyager A330 at ddefnydd David Cameron - £10m.
Cost tebygol uwchraddio adeilad San Steffan £5.7bn.
Gwir gost y teulu brenhinol £334m y flwyddyn (pan ystyrier diogelwch, incwm a gollir i'r trysorlys ac ati).
'Amddiffyn' Ynysoedd y Malvinas - £75m (2010 - mwy erbyn heddiw).
Rwan dydi'r £1.7m o doriad mae S4C yn gorfod ei gymryd yn ddim byd yng nghyd destun gwariant cyhoeddus y DU. Bydd hwnnw tua £760bn y flwyddyn nesaf. Wrth ymyl gwariant felly dydi £1.7m ddim hyd yn oed cyn gryfed a phiso dryw yn Llyn Padarn. Ond mae mae'r toriad yn mynd rhagddo beth bynnag - yn ol pob tebyg ar argymhelliad gwas sifil sydd yn ystyried gwariant ar ddarlledu cyfrwng Cymraeg yn flaenoriaeth isel iawn.
Ac o'i safbwynt o mae'n flaenoriaeth isel iawn wrth gwrs - does yna ddim gwahaniaeth iddo rhwng darlledu Farsi a darlledu Cymraeg. Ond o'n safbwynt ni yng Nghymru - os ydan ni'n siaradwyr Cymraeg neu beidio - mae'r iaith yn rhan creiddiol o'n hunaniaeth. Ac o ganlyniad mae'r strwythurau sy'n ei chynnal yn bwysig. Mae felly'n amhriodol bod penderfyniadau pwysig ynglyn ag ariannu'r strwythurau hynny'n cael eu cymryd gan bobl sy'n gwbl ddi hid am y Gymraeg. Dylai dyfodol darlledu cyfrwng Cymraeg gael ei gymryd gan bobl sy'n deall ei bwysigrwydd i Gymru. Nid dyna'r sefyllfa ar hyn o bryd.
Mae'n weddol amlwg y dylai darlledu yn ei gyfanrwydd gael ei ddatganoli i Gymru - ond wnaiff hynny ddim digwydd am reswm sy'n ddim oll i'w wneud a Chymru. Byddai datganoli'r gyfrifoldeb honno i Gymru yn ei gwneud yn anodd cyfiawnhau peidio a'i datganoli i'r Alban - a dydi hynny ddim am ddigwydd am resymau amlwg.
No comments:
Post a Comment