Peidiwch a phoeni - dydw i ddim yn barod i 'sgwennu marwnad Llais Gwynedd eto - beth bynnag ddigwyddith rhwng rwan a 2017 mi fydd rhai o aelodau'r grwp gwrth sefydliadol yn cael eu hethol bryd hynny - ac mae'n debyg y bydd Llais Gwynedd yn chwarae rhyw ran neu 'i gilydd yng ngwleidyddiaeth Gwynedd am sbel wedi hynny.
Ond fel rydym wedi ei drafod yma, ac yma mae'n ymddangos bod llanw'r Llais yn cilio gyda rhai aelodau yn gadael y grwp, rhai eraill yn ymddeol am resymau iechyd (neu'n marw yn achos Bob Wright druan) ynghyd a methiant parhaus i gael llawer mwy na chwarter y bleidlais mewn is etholiadau. Dim ond wyth mlynedd yn ol roeddynt wedi ennill seddi mewn cyfres o wardiau yn bennaf yn Ne a Gorllewin y sir, ac roeddynt yn beryg bywyd mewn is etholiadau ym mhob rhan o'r sir ag eithrio Bangor a Dyffryn Ogwen. Mae'n amlwg bod pethau wedi newid - ond y cwestiwn diddorol ydi pam?
Mae yna fwy nag un ateb - fel sydd yn aml yn wir yn y sefyllfaoedd hyn. Mae'r cyfryngau ac yn arbennig y Bib wedi colli diddordeb ynddynt - roedd yna amser pan roedd y Bib yn adrodd ar pob buddugoliaeth is etholiad oeddynt yn ei chael tra'n anwybyddu pob is etholiad arall yng Nghymru. Mae'r system newydd i Wynedd lle mae'r penderfyniadau yn cael eu cymryd gan y cabinet yn rhoi llai o gyfle iddynt ennill cyhoeddusrwydd. Mae diffyg llwyddiant etholiadol yn cael sgil effaith o'i gwneud yn anodd iddynt gael pobl i sefyll trostynt - i Lais Gwynedd y safodd un o 'r ymgeiswyr annibynnol yn is etholiad De Pwllheli yr wythnos nesaf y tro diwethaf. Dydi'r ymadawiadau heb helpu chwaith - maent wedi colli pum cynghorydd i Blaid Cymru tra bod un arall bellach yn gynghorydd di grwp.
Ond er nad ydi 'r uchod wedi helpu llawer, mae yna reswm arall pwysicach o lawer. Yn wir y rheswm hwnnw sy 'n gyrru y rhan fwyaf o'r lleill. Ceir awgrym o'r rheswm yn sylwadau y Cyng Anwen Davies ar ol i ganlyniad nos Iau yn Llanaelhaearn gael ei gyhoeddi:
Mi rydan ni dal yn erbyn polisi addysg y cyngor ac mae rhai yn gryf iawn yn erbyn cau ysgolion bach hefyd,
Beth sy’n gwneud ni’n wahanol [i Blaid Cymru] yw ein bod ni yn cwffio dros y werin ar lawr gwlad. Mi rydan ni yna i bobol pan fyddan nhw angen help.
Mewn geiriau eraill mae naratif Llais Gwynedd yn union yr un peth heddiw ag oedd yn ol yn 2007 - eu bod yn erbyn ad drefnu 'r gyfundrefn ysgolion, eu bod nhw o blaid pobl tra bod pleidiau eraill - mewn rhyw ffordd neu'i gilydd - yn eu herbyn ac nad ydyn nhw yn hoff o Blaid Cymru.
Arhosodd y naratif yr un peth, er i'r tirwedd gwleidyddol newid yn llwyr. Pan ddaeth Llais Gwynedd i fodolaeth roedd y Blaid mewn grym ym Mae Caerdydd, doedd yr economi heb syrthio oddi ar ochr dibyn, roedd gwariant cyhoeddus yn dal i gynyddu, ac roedd bron i bawb yn ystyried y cynllun ail strwythuro ysgolion yn rhy bell gyrhaeddol o lawer.
Erbyn hyn mae'r Blaid yn genedlaethol wedi dod allan o lywodraeth, newid arweinyddiaeth, symud i 'r chwith, ac wedi arwain y gad yn erbyn llymdra. Mae'r cynllun ail strwythuro presenol yn un llawer mwy graddol na'r un gwreiddiol.
Yn lleol mae'r cyngor wedi gorfod gweinyddu toriadau sylweddol - ond nid yw hynny wedi effeithio ar gefnogaeth y Blaid, fel y dangosodd canlyniadau Etholiad Cyffredinol 2015. Y rhesymau am hynny ydi bod naratif cenedlaethol y Blaid wedi gwahanu'r weinyddiaeth yng Nghaernarfon oddi wrth y toriadau ym meddyliau 'r rhan fwyaf o etholwyr, ac mae yna ymwybyddiaeth bod y Blaid yn lleol yn gweinyddu'r toriadau mewn ffordd cyfrifol, cynhwysol a thryloyw.
Mewn geiriau eraill 'dydi naratif Llais Gwynedd ddim yn berthnasol i'r hinsawdd gwleidyddol sydd ohoni yng Ngwynedd heddiw - ac oni bai eu bod yn dod o hyd i naratif mwy cyfoes byddant yn parhau i golli tir yn weddol gyflym. Dydi hi ddim yn bosibl ennill etholiadau heddiw trwy ymladd brwydrau ddoe efo naratif sydd bron yn ddeg oed.
No comments:
Post a Comment