Tuesday, March 31, 2015

Llafur Watch - rhif 1,001

Rydym wedi nodi eisoes bod y Blaid Lafur yn fwy parod na'r un blaid arall i geisio cam arwain yr etholwyr trwy ddweud, neu awgrymu pethau sydd - wel jyst ddim yn wir.  Esiampl da ydi'r un isod gan arweinydd y Blaid Lafur Albanaidd lle mae'r ffaith bod yr SNP eisiau hunan lywodraeth i'r Alban yn cael ei droi i awgrymu bod y cenedlaetholwyr eisiau cael gwared o bensiynau.


Wele esiampl arall yn agosach at adref o lawer - honiad gan Alun Pugh bod buddugoliaeth Plaid Cymru yn Arfon wedi helpu rhoi Cameron yn 10 Stryd Downing.


Beth am edrych ar ychydig o ffeithiau yn hytrach na rwdlan celwyddog?

Cafodd y Toriaid 306 o seddi, Llafur 258, y Dib Lems 57, yr SNP 6, Plaid Cymru 3, y Gwyrddion 1, y DUP 9, Annibynnol 1, Sinn Fein 5, yr SDLP 3.  Mae plaid angen o leiaf 326 sedd i gael mwyafrif llwyr.  Roedd y Toriaid 20 sedd yn brin, felly roedd rhaid iddynt ddod o hyd i bartner.  Oherwydd y fathemateg dim ond partneriaeth efo Llafur neu'r Lib Dems oedd yn bosibl mewn gwirionedd, ac mi ddewisodd Cameron y Dib Lems - er bod ei blaid efo mwy yn gyffredin efo Llafur mewn gwirionedd.  Roedd Llafur 68 yn brin.  Iddyn nhw gael mwyafrif byddai'n rhaid sicrhau cytundeb efo o leiaf tair plaid arall - gan gynnwys y Dib Lems.  

Petai Alun Pugh wedi ennill yn Arfon i'r Blaid Lafur mi fyddai'r fathemateg yr un peth.  Byddai'r Toriaid angen ugain sedd ychwanegol - yn union fel a ddigwyddodd yn 2010, a byddent wedi mynd i glymblaid efo'r Lib Dems.  Byddai'n rhaid i Lafur ddod o hyd i dri phartner gan gynnwys y Lib Dems - yn union fel ddigwyddodd go iawn.

Gyda llaw - fel mae'r blog yma wedi nodi sawl gwaith - petai pawb yng Nghymru wedi fotio Llafur mi fyddai gan y Lib Dems a'r Toriaid efo mwyafrif llwyr o 26.  Mewn geiriau eraill byddai'r llywodraeth yn San Steffan yn un Toriaidd / Lib Dem - yn union fel y mae rwan.

Yr unig wahaniaeth petai Alun Pugh wedi ei ethol fyddai bod Arfon yn cael ei chynrychioli gan gi bach i'r chwipiaid Llafur yn Llundain yn hytrach nag aelod sy'n rhoi buddiannau Cymru ac Arfon yn gyntaf.

Llafurwr y diwrnod

Gwerinwr arall - Arglwydd Kinnock o Fedwellte.

Monday, March 30, 2015

Yr hyn ydi Llafur bellach

Mi fydd y rhan fwyaf o ddarllenwyr Blogmenai yn cofio i Lafur fynd i etholiad 1997 efo neges o obaith am newid a gwell bywyd i bobl gyffredin.  Yn amlwg ni wireddwyd hynny pan benderfynodd Blair a Brown mai eu prif flaenoriaeth oedd rhyfeloedd tramor di ddiwedd.  Ond ni all neb ddadlau bod y symbol am y gobaith o newid yn un hynod effeithiol.


A dyma ni yn 2015 efo symbol newydd - un sy'n awgrymu mai'r mwyaf bregus, y mwyaf di amddiffyn ac yn aml iawn y mwyaf parod i dorchi llewys a gweithio sy'n gyfrifol am ein problemau - tra'n cuddio'r ffaith mai eu eulyn addoliaeth nhw eu hunain o sector bancio barus a di egwyddor a arweiniodd at doriadau a thlodi anferth.


Does yna ddim gwell tystiolaeth o'r ffaith i Lafur esblygu i rhywbeth gwirioneddol anymunol sy'n hapus yn dawnsio i ddrwm Nigel Farage.

Llafurwr y diwrnod

Rhyw feddwl oeddwn i y byddai'n syniad cyhoeddi llun o Lafurwr pob dydd yn y diwrnodiau sy'n arwain at etholiad cyffredinol - mewn ysbryd cyfeillgarwch ac ati.  Mi ddechreuwn ni efo'r Arglwydd Robertson - y boi NATO oedd o'r farn y byddai pleidlais Ia yn yr Alban yn fuddigoliaeth i rymoedd y tywyllwch ar hyd a lled y Byd.   


Pol diweddaraf Cymru

Cyhoeddwyd pol Cymreig gan YouGov / ITV / Prifysgol Caerdydd heddiw.  Mae'n awgrymu ychydig iawn o newid o gymharu a'r pol diwethaf a gyhoeddwyd ganddynt.  O'i wireddu ni fyddai Llafur yn colli eu hegonomi yng Nghymru - byddent yn ennill dwy sedd newydd yng Nghaerdydd - un ar gost y Lib Dems a'r llall ar draul y Toriaid.  Byddai'r Toriaid yn ennill sedd yn ol ym Mrycheiniog a Maesyfed oddi wrth y Lib Dems, ac efallai y byddai Plaid Cymru yn cymryd sedd olaf y Lib Dems yng Ngheredigion - mae hynny'n dibynnu ar sut rydym yn gwneud y syms.

Yn yr amgylchiadau sydd ohonynt byddai cyn lleied o newid a hyn yn drychineb i Gymru.  Mae'n edrych yn anhepgor bellach y bydd newid sylweddol yn yr Alban - a bydd y newid hwnnw wedi ei glymu i neges - bod yr Alban eisiau cael ei chymryd o ddifri, bod yr Alban eisiau atal toriadau mewn gwariant cyhoeddus, bod yr Alban eisiau'r pwerau i fynd i'r afael a'i phroblemau economaidd.

Os bydd Llafur yn mynd yn ol i San Steffan efo mwy o aelodau seneddol y perygl yw mai Owen Smith fydd llais Cymru.  Dydi Owen ddim yn derbyn bod Barnett yn anheg, heb son am dderbyn y dylai Cymru gael ei chyllido yn gyfartal a'r Alban.  Dydi Owen ddim yn meddwl y dylai'r Cynulliad gael llawer o bwerau ychwanegol i fynd i'r afael a phroblemau strwythurol Cymru chwaith.  Y neges fyddai nad ydym eisiau cael ein cymryd o ddifri.

Mewn geiriau eraill mi fyddwn ni'n dweud 'Rydan ni 'n fodlon efo deilliannau y can mlynedd diwethaf o hegemoni Llafur yng Nghymru, 'dydan ni ddim eisiau unrhyw newid arwyddocaol, rydan ni 'n fodlon ar ein stad'.  

Ac wedyn mi fyddwn yn crafu ein pennau wrth weld yr Alban yn symud ymlaen yn economaidd a gwleidyddol ac yn rhyfeddu ein bod yn cael ein gadael ar ol eto fyth.

Argraffiadau o gynhadledd yr SNP

Gan i'r Mrs a finnau ymuno efo'r SNP yn sgil refferendwm annibyniaeth yr Alban y llynedd (mae gan aelodau o'r Blaid hawl i ymuno efo'r SNP) a chyn bod gen i ychydig o wyliau, dyma ni'n meddwl bod waeth i ni gymryd mantais o'n haelodaeth a mynychu'r Gynhadledd Wanwyn.

Dau argraff wnaeth diwrnod cyntaf cynhadledd yr SNP arnaf mewn gwirionedd - y mor o bobl a'r swn.  Roedd y neuadd yn yr Hydro gyda lle i eistedd ar gyfer 3,000 o bobl, ac eto roedd yna bobl yn sefyll ar hyd yr ochrau ac yn y cefn.   Roedd y swn hefyd yn drawiadol - swn pobl yn siarad oedd yn llifo i mewn i'r neuadd o'r cyntedd a'r swn ar lawr y gynhadledd yn ystod araith Nicola Sturgeon.  Roedd y deg munud pan oedd yr holl gynadleddwyr ar eu traed yn gweiddi pan aeth Nicola Sturgeon i lawr y gynhadledd ar derfyn ei haraith hefyd yn fyth gofiadwy.

Ychydig o ffigyrau - mae yna dros i  3,000 o gynadleddwyr - cynnydd o 150% ar y 1,200 aeth i gynhadledd Perth y llynedd.  Mae yna 42 o arddangosfeydd a  200 o gynrychiolwyr y wasg.  Bydd y gynhadledd yn ychwanegu  £1.8 miliwn i economi Glasgow, a dim ond yn Glasgow roedd posibl ei chynnal - mae'n debyg mai 'r Hydro ydi'r unig le yn yr Alban sydd ddigon mawr.  

Roedd rhai o'r bobl oedd wedi mynychu'r gynhadledd ers degawdau yn son yn un o dafarnau Argyle Street wedyn am y diwrnodiau pan roeddynt yn adnabod bron i bawb oedd yn mynychu'r gynhadledd a'r sioc y bore yma o gael eu hunain yn edrych o gwmpas y bore 'ma a chael nad oeddynt yn adnabod y nesaf peth i neb.



Chris Bryant yn y newyddion eto fyth

Mae'n hyfryd gweld bod rhai o'r gwerinwyr dewr o'r Blaid Lafur rydym yn eu hanfon i Lundain i edrych ar ol buddiannau Cymru mor aml yn y newyddion ac yn gwneud mor dda trostynt eu hunain.  Gwaetha'r modd dydi'r hogiau (a hogiau ydyn nhw yn bennaf) erioed wedi cael fawr o hwyl ar edrych ar ol buddiannau Cymru,  Yn wir methodd dwsinau - cannoedd o bosibl - o aelodau seneddol Llafur sylwi bod Cymru yn cael ei thangyllido i raddau grotesg o gymharu a'r Alban - heb son am fynd ati i wneud unrhyw beth am y sefyllfa.

Ta waeth lle maent yn methu ag edrych ar ol Cymru yn effeithiol, maent yn mwy na gwneud iawn am hynny trwy edrych ar ol eu hunain yn effeithiol.  Cymerer Chris Bryant er enghraifft - ymddengys ei fod wedi ymateb yn hynod gelfydd i'r  newidiadau yn y rheolau talu am ail gartrefi aelodau seneddol yn Llundain.  Pan gollwyd yr hawl i hawlio ad daliadau morgais ar draul y treth dalwr yn sgil sgandalau diwedd y ddegawd diwethaf aeth ati i symud allan, rhentu fflat arall ar gost y trethdalwr a chodi rhent ar bobl am gael aros yn ei fflat ei hun - fflat oedd wedi ei dalu amdano gyda chryn gymorth gan y trethdalwr.  Mae fflatiau tebyg yn yr un adeilad yn cael eu rhentu am tua £3,000 y mis.  

Rwan mae £3,000 y mis - ail incwm Mr Bryant - yn uwch nag incwm y rhan fwyaf o gartrefi yn y Rhondda.  Mae ei brif incwm fel aelod seneddol a gweinidog cysgodol tua tair gwaith cyflogau cyfartalog ei etholaeth.  

Does yna ddim awgrym bod yr hyn wnaeth Mr Bryant yn groes i reolau seneddol wrth gwrs - ond mae'r stori yn ddadlennol i'r graddau ei bod yn amlygu hen, hen batrwm.  Cymru'n anfon cenhedlaeth ar ol cenhedlaeth o aelodau seneddol Llafur i San Steffan ar y ddealltwriaeth bod yr aelodau hynny yn amddiffyn buddiannau Cymru.  Maent yn methu a gwneud hynny oherwydd bod eu teyrngarwch sylfaenol i'r Blaid Lafur Brydeinig - ond maent yn cael gwell lwc ar edrych ar ol eu buddiannau eu hunain.  Mae'n bryd i'r cylch yma o fethiant ddod i ben.

Gyda llaw dwi'n cynnwys llun o obaith mawr y ganrif, Llafur yn yr Alban oherwydd ei fod yntau yn chwarae union yr un gem a Mr Bryant.

Wednesday, March 25, 2015

Y Bib wrthi eto

Cyfeirio ydw i at y pennawd ar waelod ochr dde'r sgrin.  Mae'r ymchwydd ym mhleidlais yr SNP yn cael ei ddidgrifio fel SNP threat.  Mae'n anodd meddwl am gynnydd ym mhleidlais unrhyw blaid arall yn y DU (gydag eithriad posibl Sinn Fein) yn cael ei ddiffinio trwy ddefnyddio'r dermenoleg yna gan y gorfforaeth.   Fedar y Bib ddim atal ei hun rhag dangos ei diffyg gwrthrychedd mewn rhai sefyllfaoedd - ac mae'r hyn sy'n digwydd yn yr Alban yn sefyllfa felly.

Tuesday, March 24, 2015

Ydi Llafur yn gwybod rhywbeth am Arfon?

Rydan ni wedi son yn y gorffennol am unigrwydd ymgyrch Alun Pugh yn Arfon.  Yn ol y trydariad isod bu Mr Pugh yn dweud wrth ei ddarllenwyr ei fod wedi bod wrthi'n taflennu Llanberis heddiw.  Roedd wrthi yn taflennu pentref cyfagos Penisarwaun ddydd Sul hefyd.


Yn ol ei dystiolaeth ei hun mae ganddo lawer o daflenni i'w postio.



Rwan dydi gwthio pamffledi trwy ddrysau ddim yn ddefnydd da o amser ymgeisydd.  Dwi'n siwr bod ymgeiswyr ar hyd a lled Cymru yn taflennu - fel Mr Pugh - oherwydd nad oes ganddynt lawer o bobl eraill i wneud hynny, ond mi fyddai'n well o lawer petaent yn treulio eu hamser yn siarad efo darpar etholwyr. 

Mae Llanberis wedi ei daflennu gan y Blaid hefyd - a Phenisarwaun - sawl gwaith.  Ond pobl sy'n byw yn y pentrefi hynny oedd yn gwneud y taflennu, nid yr ymgeisydd seneddol.  Pobl leol fydd yn taflennu Dyffryn Ogwen hefyd, a Chaernarfon a'r rhan fwyaf o lefydd eraill yn Arfon ar ran y Blaid.

Dwi ddim yn codi hyn eto i rwbio trwyn unrhyw un yn y baw - ond mae'n codi cwestiwn diddorol.  Cafodd Arfon ei pholio ychydig wythnosau yn ol, ac nid Plaid Cymru oedd yn gyfrifol am y polio hwnnw (does gan y Blaid ddim y pres mawr mae ei angen i dalu am bethau felly).  Yr unig blaid wleidyddol arall fyddai efo diddordeb yn Arfon fyddai Llafur - mae'n sedd darged i'r blaid honno.  

Rydym wedi son eisoes nad ydi Mr Pugh yn cael llawer iawn o gymorth yn lleol - ond byddai dyn yn disgwyl y byddai Llafur yn ganolog yn gwneud iawn am hynny petaent yn meddwl bod ganddynt obaith realistig o ennill y sedd.  Tybed os ydi polio Llafur wedi eu hargyhoeddi bod yna seddi maent yn llawer mwy tebygol i 'w hennill nag Arfon, ac mai dyna pam bod Mr Pugh wedi ei adael efo'r broblem o sut i gael gwared o 20,000 o daflenni?

Sunday, March 22, 2015

Pam mai Llafur Cymru a'r Alban fydd yn colli fwyaf o'r dadleuon teledu

Mae'r trefniadau wedi eu cyhoeddi a'u cytuno o'r diwedd.  Byddant fel a ganlyn:

  • Mawrth 26: Rhaglen holi ac ateb efo David Cameron and Ed Miliband ar C4.
  • Ebrill 2: Dadl ar ITV efo'r canlynol:  David Cameron, Nick Clegg, Ed Miliband, Nigel Farage, Natalie Bennett, Nicola Sturgeon a Leanne Wood on ITV.  
  • Ebrill 16: Dadl ar y Bib efo'r canlynol:   Ed Miliband, Nigel Farage, Natalie Bennett, Nicola Sturgeon a Leanne Wood.
  • Ebrill 30:  Question Time ar y Bib efo  David Cameron, Ed Miliband a Nick Clegg.  
Mae ymgyrch Llafur yng Nghymru a'r Alban wedi ei seilio ar nifer o gelwyddau - sydd yn nodweddiadol o Lafur.  

Celwydd 1:  Llywodraeth Doriaidd neu Lafur fydd yna ar ol Mai 7.  Mae hynny'n bosibl, ond yn anhebygol.  Gweler isod y ffordd mae'r marchnadoedd betio yn ei gweld hi.  Ar 14/1 mae'n anhebygol iawn y bydd yna lywodraeth fwyafrifol Llafur.  Mae llywodraeth Doriaidd yn fwy tebygol ar 9/2 tra bod llywodraethau lleiafrifol Llafur neu Doriaidd yn cael eu hystyried yn llawer mwy tebygol.  


Mae yna fyd o wahaniaeth rhwng llywodraeth leiafrifol Llafur neu Doriaidd ac un fwyafrifol.  Os oes yna lywodraeth leiafrifol bydd rhaid iddi ddod i gytundeb gyda phleidiau lleiafrifol eraill.  Beth bynnag mae pobl fel Jim Murphy yn ei ddweud, dyna ydi 'r realiti.  Dydi hi ddim yn bosibl i lywodraeth leiafrifol reoli  heb fargeinio.  Gallai hynny'n hawdd arwain at ddylanwad sylweddol gan Blaid Cymru a'r SNP.  Mi fydd yna bris am hynny - ac mi fydd y pris hwnnw o fudd materol i bobl Cymru a'r Alban.  Dydi Llafur Cymru na'r  Alban ddim am fod mewn sefyllfa i wneud hynny - ufuddhau i chwipiaid Llafur yn Llundain ydi eu prif flaenoriaeth nhw, ac felly mae wedi bod erioed.  Caiff hyn ei amlygu mewn dadleuon cyhoeddus sy'n cynnwys Nicola Sturgeon a Leanne.

Celwydd 2:  Mae Llafur yn sylfaenol wahanol i'r Toriaid.  Mi  fydd agosatrwydd  Llafur a'r Toriaid o ran polisiau economaidd yn cael ei amlygu.  Dwy blaid sydd yn cynllunio i dorri mwy ar wariant cyhoeddus, dwy blaid sydd ym mhocedi bancwyr.  Mae gwleidyddiaeth y DU yn un rhyfedd ar hyn o bryd - mae'r prif bleidiau unoliaethol yn agos iawn at ei gilydd yn wleidyddol, tra'n gwneud llwyth o swn yn tantro a myllio ar ei gilydd ynglyn a'r man wahaniaethau sydd rhyngddynt.  Mi fydd presenoldeb yr arweinwyr o'r gwledydd Celtaidd yn dangos yn glir nad oes yna fawr o wahaniaeth rhwng Miliband a Cameron - ac yn wir mae yna bosibilrwydd y byddant ymddangos i fod yn canu o'r un llyfr emynau yn ystod y dadleuon.  O safbwynt etholiadol bydd hyn yn wenwynig yn etholiadol i Lafur yng Nghymru a'r Alban. 





Saturday, March 21, 2015

Friday, March 20, 2015

Saith rheswm i beidio a phleidleisio tros Lafur

1).  Mae llawer o'i lladmeryddion cyhoeddus yn ddigon hapus i ddweud celwydd - neu o leiaf i wyrdroi'r gwir.   Mae pob plaid yn troelli - ond mae Llafur yn ddigon hapus i ddweud celwydd noeth.   Dydi dod o hyd i gelwydd Llafur ddim yn anodd.  Pan mae Alun Pugh yn honni y byddai ei ethol o yn arwain at ddiddymu cytundebau sero awr, ac y arwain at isafswm cyflog o £8 dydi hynny jyst ddim yn wir.  Does yna ddim perthynas achosol rhwng y naill beth a'r llall. Mae'n bosibl, ond posibilrwydd yn unig yw. Roedd Miliband yn honni ddoe mai dim ond llywodraeth Llafur neu Doriaidd sy'n bosibl er bod y polau yn awgrymu bod llywodraeth un plaid yn hynod anhebygol.  Mae Llafur yr Alban yn honni mai'r blaid fwyaf sy'n ffurfio llywodraeth er bod llawlyfr y cabinet yn ei gwneud yn hollol glir mai nid felly mae pethau'n gweithio.  Mae Phil Bale yn disgrifio'r toriadau fel rhai Toriaidd er i Lafur bleidleisio trostynt.  Toriadau Toriaidd / Llafur ydynt.  Mae dweud celwydd wrth etholwyr yn rhan o ddiwylliant mewnol y Blaid Lafur - dydyn nhw ddim hyd yn oed yn gorfod meddwl am y peth.  

2). Does ganddi hi ddim parch at yr etholwyr.  Os ydi rhywun yn dweud celwydd wrthych dydi o ddim yn eich parchu.  Dydi Llafur Cymru ddim yn parchu etholwyr Cymru.

3). Mae'n teimlo bod ganddi hawl i 'ch pleidlais - heb orfod gwneud dim i 'w hennill.  Maen ei gwleidyddion yn rhoi'r argraff bod methiant i bleidleisio trostynt yn wendid moesol.

4). Mae Llafur yn methu, ac yn methu, ac yn methu.  Mae Cymru wedi pleidleisio i Lafur ers 1918, a rydan ni'n dal yn dlawd ac ar waelod pob cynghrair economaidd.  Dydi hyn ddim yn fater bach - mae methiant Llafur i fynd i'r afael efo tlodi wedi gwenwyno bywydau cenedlaethau o bobl. 

5). Mae'n ddigywilydd.  Dydi'r record ryfeddol  o fethiant ddim yn ei hatal rhag taeru'n groch mai dim ond trwy bleidleisio iddi hi y gall Cymru lwyddo'n economaidd.  Mae'r digywileidd-dra mor gwbl agored a di lestair fel ei bod bron yn anodd peidio a'i edmygu.

6). Does ganddi hi ddim uchelgais o gwbl tros Gymru - mae eisiau llai o rymoedd na mae'r Toriaid a'r Lib Dems ei eisiau - ac mae hyd yn oed yn rhanedig ar y cwestiwn os ydi Cymru yn cael ei than gyllido.  Er yr holl fethiant, does yna ddim ymdeimlad bod angen arfau mwy effeithiol i fynd i'r afael efo pethau.

7). Waeth i chi fotio i 'r Toriaid ddim.  Mae'r ffordd mae'r ddwy blaid yn edrych ar y Byd yn weddol debyg ac mae eu hagwedd at doriadau mewn gwariant cyhoeddus yn debyg.  

Beth sydd gan Lib Dems Cymru a'r Alban yn gyffredin?

Bod does yna neb bron yn mynychu eu cynhadledd flynyddol - hyd yn oed i wrando ar Danny Alexander, un o weinidogion mwyaf blaenllaw llywodraeth y DU.

Saith o resymau i beidio a phleidleisio tros Lafur

1).  Mae llawer o'i lladmeryddion cyhoeddus yn ddigon hapus i ddweud celwydd - neu o leiaf i wyrdroi'r gwir.   Mae pob plaid yn troelli - ond mae Llafur yn ddigon hapus i ddweud celwydd noeth.   Dydi dod o hyd i gelwydd Llafur ddim yn anodd.  Pan mae Alun Pugh yn honni y byddai ei ethol o yn arwain at ddiddymu cytundebau sero awr, ac y arwain at isafswm cyflog o £8 dydi hynny jyst ddim yn wir.  Does yna ddim perthynas achosol rhwng y naill beth a'r llall. Mae'n bosibl, ond posibilrwydd yn unig yw. Roedd Miliband yn honni ddoe mai dim ond llywodraeth Llafur neu Doriaidd sy'n bosibl er bod y polau yn awgrymu bod llywodraeth un plaid yn hynod anhebygol.  Mae Llafur yr Alban yn honni mai'r blaid fwyaf sy'n ffurfio llywodraeth er bod llawlyfr y cabinet yn ei gwneud yn hollol glir mai nid felly mae pethau'n gweithio.  Mae Phil Bale yn disgrifio'r toriadau fel rhai Toriaidd er i Lafur bleidleisio trostynt.  Toriadau Toriaidd / Llafur ydynt.  Mae dweud celwydd wrth etholwyr yn rhan o ddiwylliant mewnol y Blaid Lafur - dydyn nhw ddim hyd yn oed yn gorfod meddwl am y peth.  

2). Does ganddi hi ddim parch at yr etholwyr.  Os ydi rhywun yn dweud celwydd wrthych dydi o ddim yn eich parchu.  Dydi Llafur Cymru ddim yn parchu etholwyr Cymru.

3). Mae'n teimlo bod ganddi hawl i 'ch pleidlais - heb orfod gwneud dim i 'w hennill.  Maen ei gwleidyddion yn rhoi'r argraff bod methiant i bleidleisio trostynt yn wendid moesol.

4). Mae Llafur yn methu, ac yn methu, ac yn methu.  Mae Cymru wedi pleidleisio i Lafur ers 1918, a rydan ni'n dal yn dlawd ac ar waelod pob cynghrair economaidd.  Dydi hyn ddim yn fater bach - mae methiant Llafur i fynd i'r afael efo tlodi wedi gwenwyno bywydau cenedlaethau o bobl. 

5). Mae'n ddigywilydd.  Dydi'r record ryfeddol  o fethiant ddim yn ei hatal rhag taeru'n groch mai dim ond trwy bleidleisio iddi hi y gall Cymru lwyddo'n economaidd.  Mae'r digywileidd-dra mor gwbl agored a di lestair fel ei bod bron yn anodd peidio a'i edmygu.

6). Does ganddi hi ddim uchelgais o gwbl tros Gymru - mae eisiau llai o rymoedd na mae'r Toriaid a'r Lib Dems ei eisiau - ac mae hyd yn oed yn rhanedig ar y cwestiwn os ydi Cymru yn cael ei than gyllido.  Er yr holl fethiant, does yna ddim ymdeimlad bod angen arfau mwy effeithiol i fynd i'r afael efo pethau.

7). Waeth i chi fotio i 'r Toriaid ddim.  Mae'r ffordd mae'r ddwy blaid yn edrych ar y Byd yn weddol debyg ac mae eu hagwedd at doriadau mewn gwariant cyhoeddus yn debyg.  

Tuesday, March 17, 2015

Y blaid annifyr - fersiwn 2

Dyna hynna'n glir 'ta.  Os nad ydych chi mewn gwaith, dydi Llafur ddim eisiau dim i wneud efo chi.  

Diolch am y gonestrwydd Rachel.  Anodweddiadol iawn o Lafur.

Ynglyn a gwneud addewidion na ellir eu gwireddu

Rydan ni wedi son o'r blaen am addewidion ymgeisydd Llafur yn Arfon, Alun Pugh ynhlyn a'r hyn fydd yn digwydd os caiff ei ethol.  Mae gaddo y bydd cytundebau sero awr yn cael eu diddymu ac isafswm cyflog o £8 yn cael ei gyflwyno os caiff ei ethol yn amlwg yn - wel - anwiredd.

Fel llawer o gamarwain Llafur mae yna rhywfaint o wirionedd iddo.  Mae Llafur bellach yn gwneud synnau yn erbyn cytundebau sero awr, ac mae hefyd yn bolisi gan Lafur i gyflwyno lleiafswm cyflog o £8 yr awr - erbyn 2020 pan fydd Alun yn 74 oed.  Yn wir, byddai £8 erbyn 2020 yn golygu bod Llafur wedi llwyddo i arafu'r cynnydd yn yr isafswm cyflog.


Ond mae yna nifer o resymau pam bod yr honiad yn anonest.  Dydi hi ddim yn dilyn y byddai Llafur yn cael eu hethol i lywodraeth petai Mr Pugh yn cael ei ethol yn Aelod Seneddol.  Yn wir petaem yn clonio Mr Pugh 39 o weithiau ac yn prynu peiriant amser a dweud wrtho y caiff o neu ei glons sefyll ym mhob etholaeth yng Nghymru yn ystod unrhyw etholiad cyffredinol tros y ganrif diwethaf, a phetai pob copa walltog yng Nghymru yn pleidleisio i Mr Pugh neu un o'i glons mae'n hynod o amheus y byddai llwyddiant y Pughs wedi atal llywodraeth Doriaidd cymaint ag unwaith mewn canrif.

Ond mae yna fwy na hynny wrth gwrs.  Er bod gwleidyddion Llafur yn honni eu bod yn erbyn cytundebau sero awr, roeddynt yn dweud hynny yn 1997 hefyd - ond ni chawsant eu diddymu yn y tair blynedd ar ddeg o reolaeth Llafur.  Cynghorau Llafur ydi'r rhai gwaethaf am ddefnyddio'r math yma o gytundebau, ac mae yna lawer o aelodau seneddol Llafur yn defnyddio'r cytundebau hyn i gyflogi eu staff eu hunain.  Mae'r mudiad Co op sy'n noddi llawer o Aelodau Seneddol Llafur yn hoffi cyflogi pobl yn y ffordd yma hefyd.  Petai Mr Pugh yn aelod seneddol Llafur, a phetai yna lywodraeth Lafur, mae'n debygol na fyddai llawer o gyd aelodau Mr Pugh yn awyddus o gwbl i gael gwared o gontractau sero awr - naill ai oherwydd eu bod yn eu defnyddio eu hunain, oherwydd bod eu ffrindiau adref ar y cynghorau yn eu defnyddio neu oherwydd bod eu noddwyr yn eu defnyddio.  Y tebygrwydd ydi na fyddai dim yn newid - yn union fel ddigwyddodd o 1997 i 2010,

A wedyn wrth gwrs mae Llafur yn ddigon hapus efo cyflogau isel - fel mae'r hysbyseb hwn gan gwmni sydd ym mherchnogaeth Cyngor Caerfyrddin yn ei ddangos - cyngor sy'n cael ei arwain gan blaid Mr Pugh.  


Monday, March 16, 2015

Llun trist Llafuraidd arall

Mwy o dristwch o gyfeiriad ein cyfeillion Llafur - o Gaerfyrddin y tro hwn.  Mi fyddwch chi'n gyfarwydd a'r bws yn y cefndir - bws enwoca'r DU ar hyn o bryd - yr un pinc sydd i'w weld ar hyd a lled y DU i geisio ennill y bleidlais fenywaidd trwy fod yn nawddoglyd tuag at ferched.

Ta waeth, nid y bws ydi'r peth trist wrth gwrs, ond y sawl sydd wedi cymryd mantais o'r cyfle unwaith mewn bywyd i gael mynd o gwmpas Caerfyrddin yn yr enwog fws.  Mae pawb ond dau o'r sawl sy'n sefyll o flaen y bws yn wleidyddion Llafur.

Dwi ddim yn siwr pwy ydi'r ddau arall ond ni fyddai'n syndod i mi petaent yn weithwyr cyflogedig i'r Blaid Lafur - er fy mod yn fodlon cael fy nghywiro ar honna.

O'r chwith i'r dde - # Rebecca Evans AC (dirpwy Weinidog); #3 Delyth Evans #4 ?; #5 Nia Griffith AS (ymgeisydd); #6 Joyce Watson AC.

Mae'r rheswm nad oes yna unrhyw actifydd Llafur cyffredin ar gyfyl y bws pinc yn union yr un rheswm bod Alun Pugh yn cael ei lun wedi ei dynnu ar ei ben ei hun wrth ymyl arwyddion stryd.  Dydi'r Blaid Lafur ddim yn cynnig dim byd amgen i'r hyn a gynigir gan y Toriaid, felly does yna ddim cymhelliad o gwbl i bobl gymryd rhan yn eu hymgyrchu.

Sunday, March 15, 2015

Anhepgor

Ac wrth gwrs, mae diwedd yr Undeb yn anhepgor.  Collwyd y refferendwm yn yr Alban ym mis Medi, ond cafodd yr is seiledd emosiynol oedd yn dal y Deyrnas Unedig at ei gilydd ei danseilio'n llwyr hefyd.  Mater o amser ydi pethau bellach.  

Lluniau ymgyrchu tristaf Cymru

Mi fydd darllenwyr rheolaidd Blogmenai yn gyfarwydd efo'r syniad bod yna ddau ryfel cyfochrog yn digwydd yn ystod ymgyrch etholiadol.  Y termau Seisnig (neu Wyddelig o bosibl) am y ddau ryfel yma ydi ground war ac air war.  Y rhyfel llawr gwlad ydi'r un lle mae gwirfoddolwyr yn cerdded y strydoedd yn canfasio, dosbarthu taflenni, cynnal stondinau stryd ac ati.  Mae'r rhyfel arall yn ymwneud a'r cyfryngau torfol - y papurau newydd, y teledu, y radio ac erbyn hyn y We Fyd Eang.  Dydi'r ffaith bod plaid yn ennill y naill ryfel neu'r llall ddim yn golygu bod yr etholiad yn ei chyfanrwydd yn cael ei hennill wrth gwrs.

Yn ddiweddar mae wedi dod yn dipyn o ffasiwn i ddosbarthu lluniau o'r criwiau sy'n cymryd rhan yn y rhyfel llawr gwlad trwy gyfrwng y We - pawb yn dod at ei gilydd cyn mynd allan, ac yna ychydig o luniau yn ymddangos ar Twitter neu Facebook.  Y syniad mae'n debyg ydi codi moral cefnogwyr, annog pobl eraill i wneud yr ymdrech a chreu argraff o weithgarwch.  Mae'r arfer wedi cydio ymysg cefnogwyr pob plaid o Gernyw i Inverness, o Ipswich i Aberdaron.

Go brin bod yna luniau ymgyrch tristach na'r rhai a gyhoeddir gan Plaid Lafur Arfon - wele ddetholiad isod.  Mor aml a pheidio llun a geir o'r ymgeisydd yn sefyll ar ei ben ei hun wrth ymyl arwydd.  Dydi'r lluniau ddim yn edrych fel hunluniau, felly am wn i bod yna rhywun efo'r ymgeisydd i fynnu ri lun. Neu efallai ei fod yn gofyn i bobl sy'n digwydd pasio dynnu'r llun.  Pwy a wyr?  

Weithiau mae yna ddau unigolyn yn ymddangos yn y llun - Y Cynghorydd Sion Jones fydd y llall bron yn ddi eithriad.  Sion ydi ymgeisydd Llafur yn Arfon y flwyddyn nesaf.  Ambell waith ceir ymddangosiad gan wleidydd proffesiynol Llafur yn gwneud ymddangosiad byrhoedlog - Vaughan Gething yn yr achos hwn.  Mae'r llun ar y gwaelod yn un hapusach a mwy byrlymus - ond yn anffodus dydi aelodau'r criw ddim yn dod o Arfon - ymweliad diwrnod gan griw oedd yn cymryd rhan mewn ymgyrch ymweld a thair etholaeth seneddol ydyn nhw.

Rwan peidiwch a cham ddeall - dydw i ddim yn awgrymu bod y ffaith bod ymgyrch llawr gwlad Llafur mor dreuenus o anigonnol ddim yn golygu bod y sedd yn ddiogel i'r Blaid.  Mi fydd y cyfryngau torfol yn sicrhau y bydd Llafur yn cael llawer mwy o sylw mewn print ac ar y tonfeddi na'r Blaid, ac mae pres gwaed Tony Blair yn dechrau llifo i mewn.  

Dydw i ddim chwaith yn awgrymu bod yr astudiaethau ffotograffig mewn unigrwydd hyn yn adlewyrchu'n wael ar Alun Pugh chwaith.  I'r gwrthwyneb, ymddengys ei fod yn dal ati mewn amgylchiadau anodd.  Ond mae'n adlewyrchu'n wael ar y Blaid Lafur yn Arfon.  A barnu o'r lluniau syniad y Blaid Lafur yn lleol o redeg ymgyrch etholiadol ydi dewis ymgeisydd, rhoi pymtheg bocs o bamffledi iddo a dweud 'I ffwrdd a chdi'.  

Ond yn fwy arwyddocaol o bosibl mae'r ymgyrch llawr gwlad dila yn adlewyrchu'n wael ar y Blaid Llafur Brydeinig.  Mi fyddai dyn yn meddwl y byddai yna dan ym moliau cefnogwyr Llafur mewn ardal dlawd fel Arfon ar derfyn pum mlynedd o doriadau Toriaidd, ond does 'na ddim.  Yn wir does yna fawr o dystiolaeth bod hyd yn oed aelodau ac actifyddion  y blaid yn lleol yn gwneud fawr ddim.  Ac mae yna reswm am hynny - mae'r hyn mae Llafur yn ei gynnig yn ddigon tebyg i 'r hyn mae'r Toriaid yn ei gynnig - toriadau mewn gwariant ar wasanaethau cyhoeddus, gwariant anferthol ar WMDs a sesiwn flagardio hysteraidd wythnosol ar y teledu o San Steffan.  Pa ryfedd bod well ganddynt dwtio'r ardd, gwau a mynd i siopa nag ymgyrchu tros fwy o'r un peth?





Saturday, March 14, 2015

Ynglyn a chael fy mlocio rhag gweld cyfri trydar Alun Pugh

Ymddengys fy mod wedi cael fy mlocio rhag darllen cyfri trydar ymgeisydd Llafur Arfon, Alun Pugh - er ei fod wedi bod wrthi'n brolio gwta chwech wythnos yn ol na fyddai'n blocio etholwyr rhag darllen ei gyfri petai'n cael ei ethol yn aelod seneddol.

Mae yna rhywbeth braidd yn fyfiol am gwyno am y fashiwn bethau, a dydw i ddim yn cwyno mewn gwirionedd.  Mae gan pawb sy'n trydar pob hawl i ddethol pwy sy'n cael darllen eu cynnyrch a 'dydi cael fy mlocio gan Mr Pugh ddim yn fy mhoeni llawer.  Yn wir mae gen i fy hun un cyfaill sy'n ymddangos i fod yn dioddef o syndrom Tourette wedi ei flocio.  Ond yr hyn sy'n fwy diddorol o bosibl ydi pa sylw yn union sydd wedi ypsetio Mr Pugh?  Yr isod ydi'r unig gysylltiadau trydar dwi wedi eu cael ar trydar efo Mr Pugh yn ddiweddar.



Mae'r sylw uchaf yn ateb i sylw gan y Cynghorydd Sion Jones bod Arfon angen gwaed ifanc.  Mae Mr Pugh yn ddyn canol oed sydd wedi dod yn syth allan o fold gwleidyddion Llafur yng nghymoedd y De.  Efallai fy mod wedi tramgwyddo ar ei falchder personol.

Mae'r sylwadau yn y canol yn ymwneud a thrydariad bisar braidd gan Mr Pugh oedd yn awgrymu na fyddai Leanne Wood yn gwneud yn dda yn y dadleuon teledu trwy bostio dolen at stori ynglyn a chyfweliad trychinebus ar y radio gan arweinydd y Blaid Werdd, Natalie Bennett.  Roeddwn i'n tueddu i fod yn garedig braidd a phriodoli'r trydariad i ddiffyg gwybodaeth gan Mr Pugh ynglyn a bywyd cyhoeddus yng Nghymru, tra bod cyfeillion eraill yn priodoli'r trydariad i hen agweddau patriarchaidd y Blaid Lafur Gymreig - yr hen gred bod merched i gyd yr un peth ac yn ddigon di glem ynglyn a phob dim ag eithrio gwau, coginio a newid clytiau.

Mae'r sylw ar y gwaelod yn cyfeirio at arfer Mr Pugh o anwybyddu cwestiynau gan ddarpar etholwyr. 

Felly ymddengys bod y blocio naill ai oherwydd i mi awgrymu nad ydi Mr Pugh ddim bellach ym mlodau ei ieuenctid hardd, neu oherwydd i mi gymryd rhan mewn dadl ynglyn a'r cwestiwn os mai sexist ta anwybodus ydi Mr Pugh neu am dynnu sylw at y ffaith nad ydyw'n ateb cwestiynau.  


Llongyfarchiadau i griw Llanelli


Byddwch yn cofio i mi roi hysbys bach yn gynharach i ymgyrch Plaid Cymru Llanelli i godi £2,000 tuag at ymgyrch Vaughan.  Mae'n dda gen i ddweud i'r targed hwnnw bellach gael ei gyfarfod.

Yn wahanol i'r Blaid Lafur a'r pleidiau unoliaethol eraill 'dydi'r Blaid ddim ym mhocedi corfforaethau mawr, felly mae'n rhaid iddi godi pres trwy fynd ar ofyn ar gyfraniadau llai gan unigolion.

O gael ei ethol mi fyddai Vaughan yn aelod gweithgar - fel mae'r ymgyrch yn ei ddangos, ac mi fyddai'n aelod o ansawdd sydd o blaid pobl Llanelli - fel mae ei araith i'r gynhadledd yn ei awgrymu.

Felly beth am wneud y £2,000 yn £3,000?  Mae hon yn ymgyrch sydd werth ei chefnogi.

Gallwch gyfrannu yma.

Thursday, March 12, 2015

Cyngor Caerfyrddin yn dangos diddordeb mewn dwyieithrwydd o'r diwedd

Mae'n gam i'r cyfeiriad cywir am wn i bod Cyngor Caerfyrddin - sy'n cael ei arwain gan Kevin Madge o'r Blaid Lafur - yn dechrau dangos diddordeb mewn cyflogi gweithwyr dwyieithog.  Efallai y daw'r Gymraeg i gael cymaint o barch na'r Bwyleg maes o law. 


Wednesday, March 11, 2015

Y pleidiau Llafur lleol sy'n pardduo nhw eu hunain.

Mi fydd darllenwyr Blogmenai yn cofio Tony Blair am ei anturiaethau yn dweud celwydd er mwyn dechrau rhyfel sydd wedi arwain yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol at farwolaethau cannoedd o filoedd o bobl ac oherwydd iddo droi 'r Blaid Lafur yn blaid neo ryddfrydol oedd yn hapus i fyw o dan fawd y banciau.  Arweiniodd diffyg rheoleiddio'r banciau yn ei dro at chwalfa ariannol nad ydym wedi gweld ei chefn eto.  Arweiniodd hefyd at bobl gyffredin a gweithwyr sector cyhoeddus yn cael eu gorfodi gan lywodraethau i dalu'n ddrud i achub banciau rhag mynd yn fethdalwyr oherwydd eu trachwant a'u ffolineb nhw eu hunain.  

Beth bynnag mae'r banciau yn dal yn ddiolchgar i Mr Blair ac mae wedi cael o leiaf £3 miliwn y flwyddyn i 'gynghori'  JP Morgan a Zurich International.  Mae hefyd yn gwneud swmiau mawr o bres yn rhoi cyngor i weinyddiaethau anemocrataidd sydd efo tueddiad anffodus i ladd trigolion eu gwledydd eu hunain - gwledydd megis 
Saudi Arabia, Azerbaijan ac Kazakhstan.  Cafodd wobr heddwchgwerth  $1,000,000 gan wladwriaeth derfysgol Israel ar ffurf 'gwobr heddwch'.  Dwi ddim yn tynnu coes.

Ag ystyried cyfoeth Mr Blair dydi £1,000  o gyfraniad i 106 o ymgeiswyr seneddol mewn seddi ymylol ddim yn ymddangos yn swm mawr o bres.  Ond mae'n rhyfeddol nodi nad oes yr un o'r sawl sydd wedi cael cynnig y pres yng Nghymru wedi teimlo'r angen i'w wrthod.  

Y pwyllgorau etholaethol Llafur sydd wedi pardduo eu hunain trwy dderbyn y pres a chysylltu eu hunain efo Tony Blair ydi:
Arfon, Aberconwy, Canol Caerdydd, Gogledd Caerdydd, Dwyrain Caerfyrddin / Dinefwr, gorllewin Caerfyrddin / De Penfro a Bro Morgannwg.

Tuesday, March 10, 2015

Unoliaethwyr yn tanseilio'r Undeb

Mae'n debyg ei bod yn adrodd cyfrolau am y cyfryngau Seisnig eu bod yn ddigon gwirion i ymgyrchu trwy fod mor wrth Albanaidd a phosibl yn fersiynau Seisnig eu cyhoeddiadau.  Mae'r Toriaid yn rhedeg ymgyrch debyg, ond un sydd heb fod mor eithafol o ddi chwaeth wrth gwrs.  

Ond mi fyddai dyn yn meddwl y byddai unoliaethwyr yn blaenori dyfodol yr Undeb - mae'r math yma o stwff yn rhwym o wenwyno'r berthynas rhwng pobl sy'n byw mewn gwahanol rannau o'r DU, a felly tanseilio'r hyn sy'n dal yr Undeb at ei gilydd.  Ond wedyn dyna natur gwleidyddiaeth etholiadol - yr etholiad nesaf ydi'r unig beth sy'n bwysig - caiff pob dim arall fynd i'r diawl.  




Llais Cymru ar ol yr etholiad

Os oes yna senedd grog mae'n bosibl y bydd y gwleidyddion Celtaidd isod yn rhan bwysig o'r trafodaethau fydd yn dilyn.

Mae'n debyg na fyddwch yn gwybod pwy ydi'r cyntaf, ond ei enw ydi Owen Smith.  Mae o newydd fod yn brysur yn ymladd i gyfyngu ar faint o bwerau sydd i'w datganoli i Gymru - a'r peth diwethaf yn y Byd mae am ei weld ydi pwerau cyfartal i Gymru o gymharu a'r Alban a Gogledd Iwerddon.  Mae digwyddiadau diweddar wedi ei gwneud yn glir mai fo, ac nid Carwyn Jones ydi gwir arweinydd y Blaid Lafur Gymreig.  Mae ganddo hanes o ddadlau nad ydi Cymru yn cael ei than gyllido, a'i uchelgais gwleidyddol ydi gwireddu dymuniadau arweinyddiaeth y Blaid Lafur Brydeinig.  Os ydi'r polau i'w credu, fo fydd prif lais Cymru ar ol yr etholiad cyffredinol.

Mae'r ail yn y newyddion dragwyddol ar hyn o bryd - ers i Nicola Sturgeon ddod yn un o arweinwyr yr SNP mae'r blaid wedi datblygu i fod yn blaid fwyaf poblogaidd yr Alban ac yn un o fudiadau llawr gwlad mwyaf poblogaidd yr ynysoedd hyn. Daeth y blaid yn agos at arwain yr Alban allan o'r DU y llynedd - a hynny yn groes i ewyllys y cyfryngau torfol a'r sefydliadau ariannol a gwleidyddol.

Mae'r trydydd yr un mor adnabyddus, arweinydd un o brif bleidiau Gogledd Iwerddon - Peter Robinson. Fo ydi pensaer tra arglwyddiaeth y DUP a distryw yr UUP fel prif lais y traddodiad unoliaethol yng Nhogledd Iwerddon.  Mae wedi gwthio ei ffordd i ben un o bleidiau mwyaf gwenwinig Gorllewin Ewrop , ac wedi aros yno - er gwaethaf pob math o anawsterau, cynllwynio a chythrwfwl.

Gallai'r pedwerydd fod yn bwysig os ydi pethau'n agos iawn.  Fel pennaeth mudiad parafilwrol llwyddodd i gadw 55,000 o aelodau o'r lluoedd diogelwch yn brysur, wedi hynny mae ei blaid wedi tyfu i fod yn y blaid fwyaf yn yr Iwerddon (o bwynt isel iawn), a llwyddodd i gyflawni'r gamp sylweddol o gadw ei hun yn fyw am chwarter canrif er bod pob parafilwr teyrngarol yn fodlon rhoi ei fraich dde i gael dweud eu bod yn gyfrifol am ei ladd.

Bydd holl ddarllenwyr Blogmenai yn gyfarwydd efo 'r pumed.

Prif nodwedd gwleidyddol y cyntaf (a diystyru'r ffaith ei fod yn uffar bach ffraegar) ydi ei ddiffyg uchelgais tros ei wlad.  Mae'r gweddill - beth bynnag ffaeleddau rhai ohonynt - yn bobl benderfynol ac uchelgeisiol tros eu gwledydd.   Dwi'n gwybod pa un o'r pump fyddwn i ddim am ei weld yn dadlau fy achos - ac yn anffodus mae perygl mai hwnnw fydd yn dadlau ein hachos ni i gyd - ac mi fydd yn dod allan o'r broses efo'r hyn mae ei eisiau - dim byd o gwbl. 

Y cryfaf  llais y pumed  yn y gyfres, a'r gwanaf llais y cyntaf y gorau y fargen gaiff Cymru.  Os mai llais y cyntaf fydd gryfaf, fyddan ni ddim yn cael unrhyw beth o gwbl.  Bydd y gwledydd Celtaidd sy'n cael eu harwain gan bobl mwy gwrthnysig yn cael y cyfan.  Os bydd llais y pumed yn gryf yna mi fyddwn  yn y gem.  








Monday, March 09, 2015

Cofiwch am apel Llanelli

A chofiwch - os ydych chi yn meddwl y byddai Llanelli'n cael ei chynrychioli'n well gan rhywun sydd yn erbyn torri gwariant cyhoeddus i'r bon, sydd yn erbyn adnewyddu Trident, sydd ddim am ddawnsio i ddrwm UKIP a sydd am roi Llanelli a Chymru yn gyntaf yn hytrach na rhywun sy'n ystyried mai'r prif rinwedd gwleidyddol ydi ufudd-dod i Ed Miliband, gallwch gynorthwyo i hynny ddigwydd yma.


Ymdrech ddiweddaraf Steve Bell

Mi wnes i stopio prynu'r Guardian yn ystod ymgyrch refferendwm yr Alban ar ol dod i gasgliad nad oes llawer o wahaniaeth rhyngddo a'r Daily Mail mewn gwirionedd. Dwi'n meddwl bod y canfyddiad hwnnw'n un digon cywir - a dydi cartwn gwrth Albanaidd Steve Bell heddiw ddim wedi gwneud dim i newid fy meddwl.  

Tybed am faint y byddwn yn disgwyl am gartwn gwrth Fwslemaidd o'r math hwn?  





Sut i helpu'r Blaid yn Llanelli

Mae Blogmenai wedi son am ymgyrch egniol Vaughan Williams yn Llanelli, gan nodi'n arbennig y symudiadau sylweddol yn y marchnadoedd betio yn sgil yr ymgyrch honno.

Un o sgil effeithiadau mwy anffodus yr ymgyrch ydi bod y Blaid Lafur yn lleol wedi ypsetio'n lan gan fynd hyd yn oed yn fwy cegog ac anymunol nag arfer.  Mae hyn yn un o nodweddion y blaid honno yng Nghymru wrth gwrs - mae'n teimlo bod ganddi hawl dwyfol gefnogaeth pob person dosbarth gweithiol yn y wlad - a hynny er eu bod wedi methu'r union bobl hynny am ganrif gyfan, gron fwy neu lai. Entitlement ydi'r term Saesneg am y gred bod ganddoch hawl i rywbeth heb orfod gwneud unrhyw beth i 'w gael.

Ta waeth, dwi'n siwr na fydd neb o ddarllenwyr Blogmenai yn awyddus i greu mwy o wylofain, udo a rhincian dannedd ymysg selogion Llafur yn nhre'r sosban a'r cyffuniau.  Ond jyst rhag ofn bod 'na rhywun yn rhywle sy'n cael rhyw fath o bleser gwyrdroedig o anfon Llafurwyr Llanelli i gyflwr o sterics torfol sur, gallwch gyfrannu yn ariannol i ymgyrch Vaughan yma.  

'Dwi'n mynd i gyfrannu fy hun wrth reswm. 


Anwybodaeth ymgeisydd Llafur Arfon

Ymddengys bod ymgeisydd Llafur Arfon, Alun Pugh yn meddwl bod Plaid Cymru yn cael ei harwain gan arweinydd y Blaid Werdd.  Rhywsut, rhywfodd mae wedi llwyddo i ddrysu Natalie Bennett am Leanne Wood.  Dyna'r unig eglurhad alla i feddwl amdano i egluro'r sgwrs fach yma ar trydar lle mae Alun yn darparu dolen i stori am gyfweliad radio trychinebus Natalie Bennett fel tystiolaeth nad ydi Leanne Wood yn debygol o wneud yn dda yn y dadleuon teledu.

Rwan dwi'n gwybod mai ymgeisydd Llafur ydi Alun, a does dim disgwyl iddo wybod llawer.  Ond mi fyddai dyn yn disgwyl rhyw fath o waelodlin o ran gwybodaeth am fywyd cyhoeddus yng Nghymru - hyd yn oed gan y Blaid Lafur.  Efallai y dylai Llafur ystyried darparu rhyw fath o hyfforddiant i egluro i'w hymgeiswyr am rai o hanfodoon sylfaenol gwleidyddiaeth Cymru.


Friday, March 06, 2015

Lluniau'r wythnos

Y dorf oedd yn gwrando ar araith Leanne heddiw ar y pen, a'r dyrfa oedd yn gwrando ar araith Kirsty Williams wythnos diwethaf ar y gwaelod.