Gan i'r Mrs a finnau ymuno efo'r SNP yn sgil refferendwm annibyniaeth yr Alban y llynedd (mae gan aelodau o'r Blaid hawl i ymuno efo'r SNP) a chyn bod gen i ychydig o wyliau, dyma ni'n meddwl bod waeth i ni gymryd mantais o'n haelodaeth a mynychu'r Gynhadledd Wanwyn.
Ychydig o ffigyrau - mae yna dros i 3,000 o gynadleddwyr - cynnydd o 150% ar y 1,200 aeth i gynhadledd Perth y llynedd. Mae yna 42 o arddangosfeydd a 200 o gynrychiolwyr y wasg. Bydd y gynhadledd yn ychwanegu £1.8 miliwn i economi Glasgow, a dim ond yn Glasgow roedd posibl ei chynnal - mae'n debyg mai 'r Hydro ydi'r unig le yn yr Alban sydd ddigon mawr.
Roedd rhai o'r bobl oedd wedi mynychu'r gynhadledd ers degawdau yn son yn un o dafarnau Argyle Street wedyn am y diwrnodiau pan roeddynt yn adnabod bron i bawb oedd yn mynychu'r gynhadledd a'r sioc y bore yma o gael eu hunain yn edrych o gwmpas y bore 'ma a chael nad oeddynt yn adnabod y nesaf peth i neb.
No comments:
Post a Comment