Mi fydd darllenwyr Blogmenai yn cofio Tony Blair am ei anturiaethau yn dweud celwydd er mwyn dechrau rhyfel sydd wedi arwain yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol at farwolaethau cannoedd o filoedd o bobl ac oherwydd iddo droi 'r Blaid Lafur yn blaid neo ryddfrydol oedd yn hapus i fyw o dan fawd y banciau. Arweiniodd diffyg rheoleiddio'r banciau yn ei dro at chwalfa ariannol nad ydym wedi gweld ei chefn eto. Arweiniodd hefyd at bobl gyffredin a gweithwyr sector cyhoeddus yn cael eu gorfodi gan lywodraethau i dalu'n ddrud i achub banciau rhag mynd yn fethdalwyr oherwydd eu trachwant a'u ffolineb nhw eu hunain.
Ag ystyried cyfoeth Mr Blair dydi £1,000 o gyfraniad i 106 o ymgeiswyr seneddol mewn seddi ymylol ddim yn ymddangos yn swm mawr o bres. Ond mae'n rhyfeddol nodi nad oes yr un o'r sawl sydd wedi cael cynnig y pres yng Nghymru wedi teimlo'r angen i'w wrthod.
Y pwyllgorau etholaethol Llafur sydd wedi pardduo eu hunain trwy dderbyn y pres a chysylltu eu hunain efo Tony Blair ydi:
Arfon, Aberconwy, Canol Caerdydd, Gogledd Caerdydd, Dwyrain Caerfyrddin / Dinefwr, gorllewin Caerfyrddin / De Penfro a Bro Morgannwg.
No comments:
Post a Comment