Ar rhyw olwg mae honiad George Robertson y byddai ymadawiad yr Alban a'r DUyn ddigwyddiad catyclismic i'r Gorllewin a bod America yn poeni yn ofnadwy am y peth yn ymylu at fod yn ddoniol.
Wedi'r cwbl byddai Alban annibynnol yn rhan o NATO, ac mae gan yr UDA wariant milwrol blynyddol o $682bn. £35bn ydi cyfanswm gwariant llywodraeth yr Alban eleni. Cost adeiladu un llong yn llynges yr UDA - yr USS Gerald Ford - oedd $18m - heb gyfri'r 75 awyren F35 sydd ar ei bwrdd ar gost o £200m yr un. Mae gan yr un llong yma yn unig griw o 4,600 - ceir llai na 12,000 o aelodau o'r lluoedd diogelwch yn yr Alban i gyd efo'i gilydd.
Ymddengys bod yr Alban yn rhy fach i gael bod yn aelod o barth sterling, ond mor fawr fel y byddai ei hymadawiad a'r DU yn drychineb strategol i'r Gorllewin ac yn fuddugoliaeth ysgubol i'w gelynion.
Ar un olwg yr un bin sbwriel a gweddill y darogan gwae gwyllt ydi lle rwdlan Robertson - y byddai'n rhaid i Loegr fomio meysydd awyr yr Alban, y byddai'n rhaid i'r Alban ail drafod 14,000 o gytundebau rhyngwladol, y byddai'r gwasanaeth post yn dod i ben, y byddai'n rhaid i'r pandas adael sw Caeredin, y byddai'n rhaid i'r wlad ddod o hyd i biliynau lawer i adleoli Trident ac ati, ac ati.
Ond mae hon ychydig yn wahanol o safbwynt goblygiadau ei gwiriondeb. Collwyd y rhan fwyaf o'r Ymerodraeth Brydeinig yn ystod y Rhyfel Oer. Fedra i ddim dychmygu bod Robertson yn credu na ddylai India fod wedi mynd ati i dorri ei chwys ei hun oherwydd ystyriaethau strategol y Gorllewin - er i'r ymadawiad hwnnw wneud gwahaniaeth strategol sylweddol trwy amddifadu 'r DU o ffynhonell milwyr anferth tra'n darparu Rwsia efo cyfaill diplomyddol.
Mae natur gwledydd a gwladwriaethau wedi newid ac amrywio trwy gydol hanes. Mae pob gwladwriaeth yn dod i ben yn y diwedd, mae pob ffin gwleidyddol yn newid. Mae mapiau gwleidyddol o'r Byd yn newid dro ar ol tro ar ol tro. Roedd map gwleidyddol y Byd gan mlynedd yn ol yn gwbl wahanol i'r map gwleidyddol gan mlynedd ynghynt ac i'r map can mlynedd wedyn. Mae hyn yn digwydd weithiau oherwydd rhyfeloedd, ond yn amlach oherwydd bod y rationale tros ffiniau penodol yn newid. Ymddengys bod Robertson yn dadlau y dylai'r broses honno ddod i ben ar unwaith rhag bygwth buddianau strategol un bloc penodol - hyd yn oed yn yr achos yma lle byddai'r newid yn cael effaith hynod o fach o safbwynt strategol - neu yn wir unrhyw safbwynt o gwbl. Byddai dilyn y rhesymeg yma yn arwain at gyfundrefn wladwriaethol sydd wedi ei rhewi a'i ffosileiddio am byth bythoedd.

Hawdd chwerthin ar sylwadau George Robinson; ond mae 'na elfen hynod ddychrynllyd yn ei sylwadau. Er iddo godi i amlygrwydd fel aelod blaenllaw o CND ac fel heddychwr mae Robinson bellach yn aelod o fyrddau nifer o gwmnïau arfau rhyngwladol. Mae'r ffaith ei fod o am godi bwgan o ansefydlogrwydd rhyngwladol yn erbyn ei genedl ei hun, ansefydlogrwydd bydd yn broffidiol tu hwnt iddo ef a'i gwmnïau pe bai yn cael ei gredu, yn dangos mae baw isa’r domen a dyn hynod beryglus yw Robinson, nid jôc.
ReplyDelete