Mae'n braf nodi i Flogmenai gael ei hun ar y rhestr fer yng nghategori blog gwleidyddol y flwyddyn y Wales Blog Awards. Y ddau flog arall ar y rhestr fer ydi Carmarthenshire Planning Problems, Jacqui Thompson ac Oggy Bloggy Ogwr Owen Donovan - dau flog arbennig o dda - felly mae'n fraint cael ymddangos. Bydd y noson wobreuo yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Chapter yn Nhreganna ar Fai 15.
Diolch i bwy bynnag oedd ddigon caredig i fy enwebu.
Gobeithio na fydd yna lythyr gan Archesgob Cymru ac aelodau o Dy'r Arglwyddi yn cyrraedd y beirniaid yn mynnu bod y wobr yn mynd i Gaerfyrddin!
Gobeithio na fydd yna lythyr gan Archesgob Cymru ac aelodau o Dy'r Arglwyddi yn cyrraedd y beirniaid yn mynnu bod y wobr yn mynd i Gaerfyrddin!
Ydi hi actiwali yn wir bod rhywun sydd i fod yn Archesgob Cymru wedi dangos ffafriaeth i un tref tros ddwy arall. Wedi'r cwbl onid ydi'r dyn i fod yn Archesgob Cymru gyfan?
ReplyDeleteDwi ddim yn gwybod a bod yn onest - mynd ar yr hyn mae GO wedi ei ddweud yn Golwg ydw i.
ReplyDeleteBarry Bangor ydi blasenw'r Archesgob wrth gwrs.
Llongyfarchiadau Cai.
ReplyDeleteDwi'n mwynhau darllen dy flog.
Dal ati.
Phil Davies
Diolch am cyswllt, a llongyfarchiadau oddi wrth o gyd-enwebai. Mae'n gwenieithus i gael eu crybwyll gyda mor enwog flogwyr.
ReplyDeleteGan y ffordd, mae'n sillafu'n "Donovan". ;)
Ti'n rhy garedig o lawer Owen.
ReplyDeleteYmddiheuriadau am y camgymeriad - mi af ati i'w gywiro.
Llongyfarchiadau.
ReplyDeleteMi enillais i y Wales Blog Award 2011 am y flog Cymraeg gorau a chael tystysgrif uniaith Saesneg fel wobr - haerllug braidd!