Wednesday, April 09, 2014

Faint o wahaniaeth sydd yna rhwng ymddygiad Maria Miller ac un Chris Bryant mewn difri?

Wele ymateb y Blaid Lafur i ymddiswyddiad Maria Miller heddiw  -

It is welcome that Maria Miller has finally done the right thing. By resigning she has recognised that the public expect and deserve the highest standards from politicians.

Dwi ddim eisiau edrych fel pe byddwn yn ceisio amddiffyn Maria Miller - ond dwi yn cael ychydig o drafferth gweld yn union sut mae yr ymddygiad sydd wedi arwain at ei hymddiswyddiad yn wahanol mewn gwirionedd  i ymddygiad nifer o Aelodau Seneddol Llafur sydd yn ddarpar weinidogion ar hyn o bryd. Mae'r stori wreiddiol bellach wedi ei cholli'n llwyr ynghanol y miri am yr ymddiheuriad di ddim, y galwadau am ei hymddiswyddiad, yr honiadau ei bod yn ceisio bwlio'r wasg a'r hunan gyfiawnder cyffredinol sy'n syrthio tros Dy'r Cyffredin ar adegau fel hyn.  Serch hynny mae'n stori eithaf syml yn y bon.


Rhwng 2005 a 2009 aeth Maria Miller ati i hawlio mwy na £ 90,000 mewn treuliau seneddol ar gyfer ei thŷ yn ne-orllewin Llundain ty mae'n ei rannu gyda'i gŵr, ei phlant a'i rhieni.  Aeth y Comisiynydd Seneddol, Kathryn Hudson, ati i ymchwilio i'r mater yn 2012 yn dilyn honiadau bod Mrs Miller  wedi torri y rheolau hawlio lwfansau ar gyfer ail gartrefi.



Cafodd Maria Miller ei chlirio o hawlio treuliau yn anghyfreithlon ar y sail  nad oedd ei rhieni wedi
elwa'n ariannol o'r trefniadau. Fodd bynnag daeth Ms Hudson hefyd i'r casgliad bod y gweinidog wedi gor hawlio tua £45,000 oherwydd iddi beidio a dweud wrth yr awdurdodau bod ei chostau morgais wedi syrthio yn sgil cwymp mewn cyfraddau llog.  Cafodd orchymyn i  dalu'r arian yn ôl. Dyfarnwyd hefyd bod Maria Miller wedi ymddwyn yn amhriodol yn ei dynodiad o ail gartref.  Penderfynodd Pwyllgor Safonau o gyd ASau Maria Miller yn ddiweddarach mai £5,800 y dylid ei dalu, a dyna a dalwyd.

Rwan byddai'r math yma o ymddygiad yn gwbl amhriodol i'r rhan helyw o bobl, ond roedd diwylliant wedi datblygu yn San Steffan oedd yn caniatau i lawr o Aelodau Seneddol gredu bod y math yma o beth yn iawn.  Roedd Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda yn un o'r Aelodau Seneddol hynny.  Mae Mr Bryant yn weinidog cysgodol ar faterion cartref ar hyn o bryd.



Yn 2004 ceisiodd  hawlio £58,000 i bwrpas addasu ei ail gartref yn y Porth. Ymddengys ei fod am wario'r arian ar ystafell ymolchi a chegin newydd ac i wneud ychydig o waith strwythurol.  Roedd hyn bron i dair gwaith yn fwy na'r uchafswm blynyddol y gellid ei hawlio ar gyfer y pwrpas hwn.  Ei gyfiawnhad - yn ol swyddogion yn Nhy'r Cyffredin -  oedd ei fod yn cael problemau dod o hyd i eiddo addas oherwydd ei fod o dan yr argraff mai tai teras glowyr neu dai perchnogion glofeydd yn unig oedd ar gael yn y Rhondda' . Ni lwyddodd i hawlio ei £58k yn 2004, ond daeth ei dreuliau am adnewyddu a thrwsio yn 2004 a £ 20,902 i'r coffrau.


Ym mis Ebrill 2005, 'fflipiodd' ei ail gartref i bwrpas hawlio ar ei fflat yng ngorllewin Llundain , a brynwyd ganddo am £400,000 ym mis Ebrill 2002. Hawliodd £630 y mis am log ar ei forgais ynghyd a chostau eraill . Wedi hawlio mwy na £ 3600 dros dri mis, gwerthodd y fflat ym mis Gorffennaf 2005 gan wneud elw o £77,000. Defnyddiodd yr elw i brynu fflat  drutach hyd yn oed yng ngorllewin Llundain - £670,000.  Dynododd y fflat newydd fel ei ail gartref yn syth.  Hawliodd bron i £ 6,400 ar dreth stamp, ffioedd cyfreithiol a ffioedd morgais.  Aeth ati'n ddi ymdroi i hawlio £1,000 y mis at log y morgais. Hawliodd £ 6,000 arall y flwyddyn ar gyfer costau gwasanaethu'r  fflat a rhent ar y tir.

I gyd efo'i gilydd cafodd y trethdalwr y fraint o dalu  £ 92,415 tuag at wahanol 'ail gartrefi' Chris Bryant rhwng 2004 a 2009.

Yn wahanol i Maria Miller nid yw Mr Bryant wedi gorfod talu dim o'r arian yma yn ei ol.  Y rheswm am hynny ydi bod Maria Miller wedi torri rheolau trwy beidio datgan y gostyngiad yn ei chyfraddau llog tra bod holl drachwant Mr Bryant oddi mewn i'r rheolau. Mater pwysig o safbwynt gyrfaoedd y ddau wrth gwrs, ond  i'r rhan fwyaf o bobl gyffredin 'does yna ddim gwahaniaeth moesol rhwng ymddygiad y naill na'r llall.  Roedd y ddau yn hapus i odro'r trethdalwr oherwydd trachwant.

Ag ystyried bod yna gnwd da o Lafurwyr sydd wedi ymddwyn yn union fel Chris Bryant mae yna rhywbeth digon chwithig am wrando ar y Blaid Lafur yn clochdar.

2 comments:

  1. Mae pawb sydd â mynediad i gyrfif treuliau yn tueddu ei ddefnyddio i'r eithaf, hyny os ydynt yn wleidyddion neu unrhywbeth arall. Mi fetia i y byddai gan rhai sy'n hawlio treuliau ym myd busnes straeon i'w rannu fyddai'n gwneud i fusnes Ms Miller edrych fel chwarae bach.

    Nid yw hyn yn gwneud ei hymddygiad hi na Chris Bryant yn iawn, wrth gwrs, ond dydw i ddim yn siwr i ba raddau y ddylien ni bod yn synnu pan ddaw straeon fel hyn i'r amlwg.

    ReplyDelete
  2. Anghytunaf a'r sylw uchod, efallai ei fod yn wir am y sector gyhoeddus, ond go brin ym 'myd busnes' fel y cyfeirir ato. Rhaid i gwmniau mawr a bach wneud elw i oroesi, ac o mhrofiad i yn Gweithio i gwmni mawr, rhaid i pob ceiniog gael ei gyfiawnhau. Tydi mynd a cleient neu staff am fwyd neu noson allan ddim run fath a threuliau chwaith, gwariant ar ddatblygu busnes ydi peth felly. Does dim byd egseiting am dreuliiau yn y sector breifat, dim ond costau teithio, yn sicir glywis i eriod am neb on ASau yn cael hawlio costau llog ar forgeisi eu ail gartrefi - hollol boncyrs!!

    ReplyDelete