Sunday, May 20, 2012

Leanne, Question Time a datblygu naratif effeithiol

Fydda i ddim yn gwylio Question Time yn aml iawn, ond mi wnes i wylio'r un diweddaraf oherwydd bod Leanne Wood yn ymddangos arno. Gallwch weld y rhaglen yma os ydych am wneudu hynny.

Y peth cyntaf i'w ddweud ydi i Leanne berfformio yn effeithiol iawn. Yr hyn sydd o fwy o ddiddordeb i mi fodd bynnag ydi'r math o naratif roedd yn ei ddefnyddio. Yr hyn roedd yn ei wneud oedd beirniadu'r pleidiau eraill o'r chwith - a thrwy hynny osod y Blaid i'r chwith o Lafur. Yn wyneb yr amgylchiadau yr ydym yn eu wynebu ar hyn o bryd roedd y safle hwnnw yn un digon poblogaidd. Gallai Leanne feirniadu'r camau mae'r llywodraeth yn eu cymryd i dorri'r dyledion sydd wedi adeiladu yn sgil yr hyn ddigwyddodd i'r banciau a thynnu sylw at ran Llafur mewn creu'r amgylchiadau a arweiniodd at hynny.

Rwan, does gen i ddim problem efo'r lleoliad yma. Mae ymateb hysteraidd rhai o'n cyfeillion Llafur i awgrymiadau gan Leanne Wood y dylid cael gwrthwynebiad unedig i bolisisau economaidd y llywodraeth glymblaid yn Llundain yn dystiolaeth o botensial hynny. Ond mae naratif y Blaid angen dimensiwn arall hefyd - a dimensiwn sy'n ymwneud a'n statws cyfansoddiadol ydi hwnnw. Naratif felly sy'n mynd i roi delwedd unigryw i'r Blaid.

Ystyrier am eiliad y cwestiwn ynglyn a rhoi lleiafswm pris i alcohol. Roedd yn amlwg bod Leanne yn anghyfforddus efo'r syniad, ac mae yna resymau da i fod yn anghyfforddus. Mae cyffuriau ar gael yn rhad yn y rhan fwyaf o gymdogaethau tlawd yng Nghymru, ac mae codi pris un cyffur (alcohol) yn debygol o hyrwyddo defnydd o gyffuriau sydd ar gael ar y farchnad ddu.

Rwan, un ffordd o briodi'r syniad o wneud alcohol yn ddrytach tra'n annog pobl i beidio defnyddio cyffuriau eraill ydi trwy ddefnyddio'r pres a godir trwy gynyddu pris alcohol i dalu am raglen i addysgu pobl sydd mewn sefyllfaoedd bregus ynglyn a pheryglon cyffuriau. Ond dydi hynny ddim yn bosibl oherwydd mai trwy drethu alcohol y gellid gwneud hynny, a 'does gan y Cynulliad ddim hawl i drethu. Y cwbl y gellid ei wneud yng Nghymru ar hyn o bryd fyddai creu cyfraith fyddai'n gorfodi perchnogion siopa i werthu am ddim llai na rhyw bris neu'i gilydd. Y gwerthwr fyddai'n cadw'r pres fyddai'n deillio.

Felly roedd y cwestiwn yn gyfle i dynnu sylw at fantais ymarferol sicrhau mwy o bwerau trethu i'r Cynulliad. Mae'n hawdd i mi siarad wrth gwrs, 'dwi wedi cael amser i feddwl am y peth. Ond dyma'r math o naratif sydd rhaid i'r Blaid ei datblygu yn ystod y blynyddoedd nesaf - naratif sy'n pwysleisio y gallwn wneud pethau yn well - dim ond i ni ennill y grym i roi cyfle i ni wneud hynny.

10 comments:

  1. dim yn meddwl llawer o'r gwen hogan fach pan oedd cwestinau anodd yn cael ei gofyn iddi ynglyn a treth o 75%. Agor ei cheg cyn meddwl eto mae gennyf ofn

    ReplyDelete
  2. Beth ydi'r broblem efo treth 75%?

    ReplyDelete
  3. Anonymous3:52 am

    Treth o 75% yn swnio yn boncyrs sori. A beth bynnag, faint o bobl yng Nghymru sy'n ennill digon o arian i dalu 75% o dreth. Gwneud i Leanne edrych yn wirion.

    Fel arall, cytuno efo o blog. Ond dal ddim am wylio Leanne ar QT nes mod i yn teimlo yn fwy hyderus.

    M.

    ReplyDelete
  4. Mae'r 75% yn Ffrainc wedi ei gyfeirio at bobl sy'n ennill mwy na €1,500,000 y flwyddyn - a wnaeth LW ddim rhoi ffigwr - mond dweud y dylai pobl gyfoethog dalu eu siar.

    ReplyDelete
  5. Dim problem gennyf gyda'r dreth o 75%. Fy mhroblem oedd gyda'r ffordd o sut wnaeth Leanne ymdrin a'r cwestiwn gan Dimbleby. Fe wnaeth John O'Farrell ymateb yn llawer gwell

    ReplyDelete
  6. Llinos12:27 pm

    Tri a hanner allan o ddeg i Leanne ar QT er mae'n siwr byddai'r heipwyr sydd o'i chwmpas yn rhoi naw iddi. Tro sal a Leanne fyddai hynny.
    Yr hyn sy'n dod yn fwy fwy amlwg yw nad yw hi'n gwbl gysurus nac yn effeithiol ar y teledu neu ar lwyfan - ond mi all hi ddysgu. Mae gwleidyddion yn derbyn hyfforddiant yn y sgiliau hyn. Cwrs carlam i Leanne dros fisoedd yr Haf fel y gallwn ni a hi wynebu'r Hydref gyda hyder.

    O ie, un peth bach, neuth rhywun roi kirby grip iddi i gadw'i gwallt mas o'i llygad.

    ReplyDelete
  7. Llinos3:07 pm

    Wedi meddwl . . . . oni fyddai beth da petai Leanne yn mynd a rhai o'i chyd-weithwyr yn gwmni ar y cwrs carlam. Ma gwir ise gwella'u sgiliau.

    ReplyDelete
  8. Dyfed7:46 am

    Sylwadau treiddgar unwaith eto, Blog Menai. Rwyn cytuno'n hollol bod angen creu naratif o gwmpas y cwestiwn cyfansoddiadol ac na chafwyd hynny ar QT.

    Y rheswm pam na chafwyd hynny oedd nad ydi Leanne am wneud hynny. Fe wnaeth hi hynny'n gwbl glir yn ei chyfarfod yn etholaeth Môn, ac mewn ymateb i gwestiwn gen i fe ddwedodd yn blwmp ac yn blaen nad oedd hi isio trafodaeth agored/gyhoeddus ar fater hunan lywodraeth. Gallwn ni gael y drafodaeth honno oddi fewn i'r Blaid, medda hi, ond ddim y tu allan. Canolbwyntio ar yr economi y dylid ei wneud wrth drafod efo'r cyhoedd. Dyna'n union ei barn ar y mater. Dim rhyfedd, felly, nad oedd hi am agor y cwestiwn cyfansoddiadol ar QT.

    Yr hyn wnaeth hi ar QT oedd cadw at ei hegwyddorion sosialaidd a bod yn driw i'r addewidion yn ystod yr etholiad arweinyddol - rhwybeth sydd wrth fodd pawb, mae'n debyg.

    ReplyDelete
  9. I am not sure that I agree.

    ReplyDelete
  10. So where to go from here - just give it up?

    ReplyDelete